Gwaith Hugh Jones, Maesglasau (testun cyfansawdd)
← | Gwaith Hugh Jones, Maesglasau (testun cyfansawdd) gan Hugh Jones, Maesglasau golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
→ |
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Gwaith Hugh Jones, Maesglasau |

GWAITH
HUGH JONES,
MAESGLASAU.
I. "CYDYMMAITH I'R HWSMON." 1774.
II."HYMNAU NEWYDDION." 1797.
★
O tyn
Y gorchudd yn y mynydd hyn,
Llewyrched Haul Cyfiawnder gwyn."
—HUGH JONES.
1907.
SWYDDFA "CYMRU," CAERNARFON.
HUGH JONES, MAESGLASAU.
GANWYD HUGH JONES уn 1749, ym Maesglasau, ffermdy yn un o gilfachau'r mynyddoedd sydd rhwng Dinas Mawddwy a Dolgellau. Yr oedd ei dad a'i fam yn dda allan, a chafodd y bachgen llygatddu llon addysg,—medrai Gymraeg ei fro a Saesneg gramadeg, dysgodd hefyd ychydig Roeg a Lladin. Bachgen llawen oedd, yn ganwr da.
Dwyshaodd ei feddwl. Daeth yn athraw ac yn gyfieithydd a chyhoeddwr llyfrau. Daeth yn awdwr yr emyn goreu yn yr iaith Gymraeg.
Yn 1772 yr oedd yn Llundain, ac yno y cyfansoddodd ac y cyfieithodd ei lyfr cyntaf,—"Cydymaith i'r Hwsmon." Yn 1776 daeth "Gardd y Caniadau." Yna ymroddodd am rai blynyddoedd i gyfieithu a chyhoeddi llyfrau duwiol. Yn 1797 cyhoeddodd ei waith gwreiddiol goreu, sef yr Hymnau Newyddion." Yn union wedyn torrodd tymhestloedd arno, ac aeth yn dlawd.
Ond daliodd i ysgrifennu. Yn 1819 cyhoeddodd R. Jones o Ddolgellau "Holl Waith Josephus," dros 1200 tudalen, o gyfieithiad Hugh Jones, gan dalu pedwar neu bum swllt yr wythnos i'r llenor am ei waith, Yn nechreu 1825 yr oedd yn Henllan, yn dlawd ac afiach iawn, yn cyfieithu y "Byd a Ddaw." Pan ar ganol y gwaith hwn bu farw, Ebrill 16, 1825; ac yn Henllan y claddwyd ef. Yr oedd ei lawysgrif gain yn ddarlun o goethder manwl ei arddull."
Dyma ddau o'i lyfrau, sy'n brinion iawn erbyn hyn. Y maent, hyd y gellais, air am air, yn cynnwys gwallau'r argraffydd a phopeth. Yn unig gadawyd y cyfeiriadau ysgrythyrol allan o'r "Cydymaith," a lleolwyd un neu ddau o'r materion yn wahanol.
Gan Tegwyn, Dinas Mawddwy, y cefais fenthyg y "Cydymaith"; o'i ysgrif ef, hefyd, yn Cymru 1904, y cefais lawer o'r ffeithiau hyn. Gan Penar y cefais fenthyg yr "Hymnau," ac ni welais gopi arall yn unlle.
OWEN EDWARDS.

CYDYMMAITH
I'R
HWSMON:
NEU LYFR YN CYNNWYS YNDDO
FYFYRDODAU,
AR BEDWAR TYMMOR Y FLWYDDYN;
SEF,
GWANWYN, | CYNHAUAF, | |
HAF | GAUAF: |
Ac ar amryw achosion neulltuol eraill;
SEF.
TROI neu ARDDU, | GWLITH, | |
HAU, | CARIAD CI iw Feistr, | |
LLYFNU, | DAU HWRDD yn ymladd, | |
DYRNU, | CANIAD Y CEILIOG, | |
NITHIO, | TALU RHENT | |
NIFEILIAID, | CYFFELYBRWYDD, | |
GOFAL am danynt, | helynt | |
AR GOLL | YR HWSMON, i fywyd | |
PESGI: | Y GWIR GRISTION. |
Ynghyd ag amryw GANIADAU ac ENGLYNION.
cymmwys i bob MYFYRDOD; i adfywio'r
gwaith, a difyrru 'r darllennydd.
Gan HUGH JONES, gynt o Faesglaseu.
Ac Isaac a aeth allan i fyfyrio yn y maes. Gen. 24. 63.
Gofyn yn awr i'r anifeiliaid, hwy a'th ddysgant; ac
i chediad yr awyr a hwy a fynegant i ti. Neu ddywed
wrth y ddaear, a hi a'th ddysg: a physgod y mor a
hyspysant i ti. Job 12. 7. 8
LLUNDAIN:
Printiedig gan T. DAVIES, Heol St. Joan. Maes y Gof.
Yn y Flwyddyn
MDCCLXXIV.
RHAGYMADRODD.
RHYW un deallgar a ofynnwyd iddo, pa fodd y daethe i gymmaint o wybodaeth heb ddeall ieithoedd dysgedig, na darllen nemmawr o lyfrau: I'r hyn yr attebodd, fod llyfr ym mha un y byddei ef arferol a darllen yn wastadol yn cynwys ynddo dair dalen: Nefoedd, Daear, a Dwfr: a'r creaduriaid ynddynt megis llythyrennau, yn nodi pethau anweledig. Gwir yw, mai gywbod am Iesu Grist, a hwnnw wedi ei groes-hoelio, yw'r unig wybodaeth a geidw enaid dyn; etto, diau fod yr holl greadigaeth ynghyd yn pregethu i ni, ei dragwyddol allu a'i Dduwdod, hyd onid ydym yn ddiesgus. Isaac a fyddei arfer a mynd allan i'r maes i fyfyrio. Llefarodd hefyd am brennau, o'r cedrwydd sydd yn Libanus hyd yr isop a dyf allan o'r pared. Ac efe a lefarodd am anifeiliad, ac am ehediad, ac am ymlusgiad, ac am bysgod. Hyn a fynegir am Solomon: ac wele un mwy nag ef, a'i Efengyl yn llawn o ymadroddion, wedi eu benthycca oddi wrth bethau'r ddaear, i wneuthur pethau'r nefoedd yn fwy eglur a hyspys i ddealltwraeth dynion. Pe i medrem ninnau ymroddi ir cyfryw ymarfer a hon, buan y gwelem pa fydd a diaoni a fyddei inni oddiwrtho. Synniad cnawd (medd yr Apostol) marwolaeth yw; a synniad yr Yspryd, bywyd a thangnhefedd yw. I'r cyfryw ddibenion y lluniwyd y myfyrdodau canlynol; y rhai er gwaeled ynddynt eu hunain, ydynt o ystyr difrifol, a chyfryw ac sydd fuddiol i bob Cristion eu harferyd. O'm rhan i, nis gellir disgwyl ymma am gywreindod a sylwedd rhagorawl, os ystyrrir fy ieuengetyd am hanallu i fyned trwy'r fath orchwyl." Hefyd rwy'n addef fod y fangre lle rwy'n awr yn preswylio yn lle mwy anghyfleus i ymarfer fel hon, na phe buaswn yn cartrefu mewn gwlad ddistaw, allan o swn a chythryfwl y byd. Eithr wrth geisio dwyn ymbell ennyd, pan fyddwn frith-segur, i fyned ar ben fy hun; trwy help a chynnorthwy lly frau hen Athrawon duwiol o Eglwys Loegr; ac ychydig o sulwiadau pellach oedd yn rhedeg yn fy mhen fy hun; amcenais osod hyn o ymadroddion gwael ynghyd, megis y maent yn awr yn dyfod i'r goleuni; gan obeithio na bydd iddynt brifio yn llwyr anheilwng o dderbynniad ym mhlith fy Nghydwladwyr. Rwyn 'n cyffesu mai peth yn erbyn fy natur wyledd i yn fawr oedd mentro gosod fy hun ar led y wlad yn y fath fodd a hyn: Eithr wrth ystyr nad yw'r Arglwydd yn bodloni i neb guddio y dalent a dderbynner ganddo ef oddi tan y ddaear, minnau a dybiais yn ddledus arnaf weithio tra mae hi yn ddydd; y mae'r nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio. Lle y gwelir byrdra a diffyg yn y myfyrdodau hyn, geill y darllennydd ystyriaethol helaethu arnynt yn ol ei feddwl ei hun.
Ac am y beiau a ddiangasant ynddo, law'r ysgrifennydd neu'r Argraffwr. deusyfir ar bob Cymro tyner gyd ymddwyn a'r cyfan, yn oreu ag y medro. Gan nad oedd y Printiwr yn deall Cymraeg mewn rhai manneu y gwelir y naill lythyren wedi ei gosod yn lle'r llall; weithiau un yn niffyg, tro arall yn ormod: Eithr synniad y gair neu ymmadrodd a ddengys ir darllennydd hawddgar, beth a ddylai neu ni ddylai fod yn y cyfryw leoedd. Ni bydd neb llyfn heb ei anaf.
Garedigion, da y boch!
Yr eiddoch, H. J.
NAMES
OF THE
SUBSCRIBERS.
A
MR. John Anwyl, Hengae.
B
Mr. William Burridge, Llwydiart.
John Bebb, Gwern-y-bwlch.
David Bedo, Parish-clerk, Lanmihangel.
Richard Bedo, Brauch-llwyd.
Evan Bedo.
C
William Cadwaladr, Groes-lwyd
Robert Cadwaladr, Barty.
David Cadwaladr, Llan-y-mowddwy.
Ann Cadwaladr.
Catherine Cadwaladr.
D
Mr. Robert David, Mathafarn.
John Davies, Lletty-wynn
John David, Melin geryst.
Robert David, Pentre-'r-wern.
Evan David, Ty'n-y-pwll.
Thomas David, Weaver, Abercywarch.
John David.
Ellis David, Carrier, Mynogau
Hugh David, Pen-y-rhiw,
Philip David, Shoe-maker.
Morgan David, Pant-glas.
John David, Glann-eryn.
Rowland David.
Mrs. Mary Davis, Shop-keeper, Dinas-mowthy.
Griffith David, Aberserw.
Evan David, Plas-yngraen.
Edward David, Creigiau.
Thomas David, Dol-ronwy.
Humphrey David, Tyn-y-ceunant.
John David, Dol-wenn.
David Davies, Cefnau.
Henry David.
Evan David, Erw-bengrach.
William David, Ynys-y-maengwyn.
David Davies, Pitfel.
Thomas Davies, Llanmihangel.
William David, Brynn-y-gwin.
Edward David, Smith.
Rowland David, Ty-ucha.
Rowland David, Clygyrnant.
Rowland David, Tyddyn-du.
Robert David, Perth-y-cyttiau.
Edward David, Esgair-wydden.
Owen David.
E
Mr. Richard Edwards, Maltster
William Edwards, Sexton.
Roger Edwards, Towyn.
David Edward, Afon-wnnion.
William Edward, Smith, Dolgelley.
Mr. Joseph Edwards, Lanervil.
Hugh Edward, Maes-y-llann.
Lewis Edward, Fron-dirion.
John Edwards, Llechwedd.
Evan Edward.
William Edward, Cefn-grauan.
John Edward, Morfa.
David Edward, Meinilin.
Thomas Edward, Parish-clerk, Cemmes.
Mr. William Ellis, Gallt-forgan.
John Ellis, Aberangall.
Robert Ellis, Pandy-Aberneint.
John Ellis, Bedw gwynion.
Robert Ellis, Glann-y-corsau.
William Ellis, Tyddyn-dynydded.
William Ellis.
Robert Ellis, Llwyn-gynddel.
Mr. Humphrey Evan, Dolfannog.
Mr. Morris Evan, Hafod-gartheiniog.
Mr. Griffith Evan, Gufyleheu.
Richard Evan, Rhyd-y-biswel.
Mr.Robert Evan, Ty'n-braich.
Mrs. Jane Evans, Perth-y-felin, Cywarch.
Hugh Evans, Carpenter, Dinas.
David Evan, Pennant-mowddwy
David Evan, Dolgelley.
Morris Evans, Brynn-llwyd,
Richard Evan, Ffridd fawr.
Hugh Evan, Craig-y-gronfa.
David Evan, Cae'r-gueision.
Griffith Evan, Ty-mawr.
David Evan.
G
Rev. Mr. Griffiths, Vicar of Darowen,
Mr. Humphrey Griffiths, Officer of Excise.
Evan Griffith, Dolgelley. Card-maker,
Richard Griffith, Cynowrach, near Dinas.
Griffith Griffiths, Carpenter, Llanwddyn.
Morgan Griffith, Miller, Llynn-y-pair.
Ellis Griffith, Ty'n-y-ddol.
Thomas Griffith, Llwyn-grug.
Mr. Lewis Gwynne, Gwastadgoed.
Thomas Griffith, Garneddwen.
H
Rev. Humphrey Humphreys, M. A., Rector of Cerrig-y-drudion.
Mrs. Mary Humphreys, of ditto
Rev. Hugh Hughes, Curate of Llanwddyn.
Mr. Evan Hughes, Vachell.
David Hughes, Joiner, Dolgelley
David Hugh, Mallwyd.
David Hugh, Fron-fraith,
John Hugh, Tal-y-glanneu.
Evan Hugh, Cwm-llwydo,
William Hugh, Ffridd-gilcwm.
Evan Hugh, of ditto.
Rowland Hugh, Mynogau.
Richard Hugh, Esgair-ifan.
David Henry, Taylor, Aberangall.
Humphrey Hugh, Maes-y-gamfa
Rowland Hugh, Gwernablhesi.
Rowland Hugh, Maes-y-clogwyn
William Hugh, Groth-tithel.
Edward Hughes, Ty'n-y-braich.
John Hughes, Maesglassey.
Robert Hughes, Dól-y-maen.
Thomas Hugh, Smith, Llannbryn-mair.
Eliaz Hugh, Taylor, Cemmes.
Rowland Hugh, Rhos-tyrnog.
Robert Hugh, Wern fach.
John Hugh, Du-goed.
John Hugh, Brynn-melun.
Benjamin Humphreys, Dolgelley.
Hugh Humphrey, Esgairneuraidd.
Morris Humphrey, Cynon-isa.
John Humphrey, Erwr-porthor
Lewis Humphrey, Erw'r-pistyll
Mr. John Howel, Pen-y-bont.
Evan Howel, Bwlch-y-rhoswen.
John Howel, Hafod-owen.
I
Rev. Mr. Iones, Curate of Tal-y-llynn.
Rev. Mr. Iones, Curate of Mallwyd.
Rev. Evan Iones, Curate of Llanyceil.
Mr. Hugh Iones, Hengwrt-ucha.
Mr. Oliver Iones, Neuadd-wenn.
Mr. Richard Iones, Berllan-deg.
Mr. John Iones, Cim-eidrol.
Mr. John Iones, Maltster.
Mr. Thomas Iones, Shopkeeper, Cerrig-y-drudion.
Mr. Lewis Iones, Llanwddyn.
John Iones, Parish-clerk of ditto.
Edward Iones, Cynon-ucha.
Edward Iones, Ty'n-y-nant.
Evan Iones, Card-maker, Dolgelley.
Abraham Iones, Cwm-Llywydd.
William Iones, Gurgi.
Robert Iones, Feidiog.
John Iones, Blaen-y-cwm.
Hugh Iones, Bryn-melun.
Heath Iones, Ganllwyd.
Robert Iones, Park.
Simon Iones, Cwm-eunant.
Morris Iones, Smith.
Mr. Morris Iones, Pen-y-gelli.
Mr. Morris Iones, Rhiw-saeson.
Hugh Iones, Pennant-tiggi.
William Iones, Maesglassey.
John Iones, of ditto.
Evan Iones, of ditto.
William Iones, jun., of ditto.
Edward Iones, of ditto.
David Iones, of ditto.
Elizabeth Iones, of ditto.
Jane Iones, of ditto.
Griffith Iones, Dinas.
David Iones, Bwlch-coediog.
Mr. Thomas Iones, Castell.
Edward Iones, Gyllellog.
Evan Iones, Dinas.
Robert Iones, Dugoed.
Mr. Humphrey Iones, Pant-glas.
William Iones, Parish.
Edward Iones.
William Iones, Traws-y-nant.
John Iones, Ganllwyd.
——Iones, Aberhiraeth.
——Iones, Aberangall.
Evan Iones, Bwlchgymyrch.
Rowland Iones, Cwmtarlyddiau
Morris Iones, Rhyd-y-gwiail isa
Evan Iones, of ditto.
Mrs. Catherine Iones, Shopkeeper, Mallwyd.
Rowland Iones, Cae-rhydynen.
Mary Iones, Dinas.
Owen Iones, Cwm-yr-haidd.
Griffith Iones, Fronn.
Owen Iones, Stay-maker, Dolgelley.
John Iones, Esgair-wenn.
Howel Iones, Tan-y-foel.
Vaughan Iones, Ty'n-y-ceunant.
Lewis Iones, Smith, Llanerfyl.
David Iones.
John Iones, Smith, Tywyn.
John Iones, Pentre-dol-ammarch
William Iones, Cefn-gwynn
Lewis Iones, Shoe-maker, Dolgelly.
Ellis Iones, Parish-clerk.
Edward Iones, Cwm-eiddew.
David Iones, Bwlch-y-mawn.
Robert Iones, Esgair-glynen.
Owen Iones, Maescamlan.
Robert Iones, Blaen-cywarch.
Mr.Robert Iones, Aberllywelyn
Thomas Iones, Blaen-tafolog.
Evan Iones, Nant-hir.
Lewis Iones, Cyfannedd.
Daniel Iones, Hendre.
Edward Iones, Ty'n-y-fedw.
David Iones, Llannerch-fydau.
Thomas Iones, Fron-goch.
Evan Iones, Bryn-y-grág.
William Iones, Fays-y-mill.
Robert Iones, Mallwyd.
Lewis Iones, Berth-lwyd.
Richard Iones, Cirnau.
John Iones, Dól-dwymyn.
John Jemont, Cefn-y-clawdd.
Thomas James, Fron goch.
Hugh James, Hendre.
Thomas Jarvis, Ty pella.
Thomas Jarvis, Penybont,
Margaret Jenkin, Fron fraith.
Ann Iones, of ditto.
K
Mr.John Knight, Dol-gammedd
L
Mr. Rice Lewis, Mercht., Dolgelley.
John Lewis, Smith, Dinas.
Edward Lewis, Bryn-cerust.
John Lewis, Ffridd-gartheiniog
John Lewis, Is-glann.
John Lewis, Bryn-glas.
Thomas Lewis, Bryn-meurig.
Hugh Lewis.
Robert Lewis, Llechwedd-du.
Rees Lewis, Parish.
Hugh Lewis.
Griffith Lewis.
Sarah Little, Dolgelley.
Mrs. Lloyd, Cerrig-y-drudion.
William Lloyd, Dyer, Cwmceuwydd.
Griffith Lloyd, Nant-carsan.
William Lloyd, Dusefin.
Lewis Lloyd, Tan-y-foel.
Lewis Lloyd, Shoe-maker, Cerrig-y-drudion.
Edward Lloyd, Bryn-uchel.
M
Mr. Edward Morris, Perthi-llwydion.
Ephraim Morgan, Pen-y-neuadd
Hugh Morgan, Bron-beban.
Edward Morgan, Dol-y-brodmerth.
John Morgan.
Mathew Miles, Carpenter, Llanbrynmair.
Richard Morris, Gweinion.
Robert Morris, Pen-y-ganllwyd
Owen Meredith, Glyn-malden.
David Morris, Nanney.
David Morgan, Crygnant.
Richard Morris, Hirnant.
William Morris, Cum-llygodig.
N
Mr. David Nightingale, Llanerfyl.
O
Mr. Humphrey Owen, Pen-y-garreg.
Mr. John Owens, Ffridd-gowni.
Mr. Griffith Owen, Tanner, Dolgelley
Mr. John Owen, Dolgoed.
David Owen, Llwyngwril.
Mrs. Prudence Owens, Cemmes-bychan.
Thomas Owen, Cae Iago-bach.
Thomas Owen, Hendre-ddu.
John Owen, Bwlch.
Griffith Owen, Ty'n-y-wera.
John Owen, Llanbrynmair.
Richard Owen, Ty-newydd.
Griffith Oliver, Smith, Llanwddyn.
P
Mr. John Parry, Bala,
Mr. David Pierce, Mallwyd.
Modlem Pierce.
Ellis Pierce, Smith, Dolgelley.
Will. Pritchard, Taylor, Llan
Griffith Prys, Dol-mygliw.
Shadrach Hugh Prys.
Mr. Richard Pugh, Dole-cau.
Miss Catherine Pugh, of ditto.
Mr. John Pugh, Dolgelley.
Mr. Richard Pugh, Pull-jwrch.
John Pugh, Ty'n-y-fach.
Evan Pugh, [late Miller], of Doleu-gwynn.
Evan Pugh, Taylor, Dinas.
David Pugh, Cedris.
Hugh Pugh.
Edward Pugh, Hendre.
Rowland Pugh, Cae-poeth.
Robert Pugh, Berth-lwyd.
Jane Pugh, Tafolwern.
William Pugh.
Lewis Pugh, Glover, Dolgelley.
Mr. Lewis Pugh, Aberffrydlan.
Will. Pugh, Smith, Abergynolwyn.
Mr. Hugh Pugh, Rhiw-ogof.
Lewis Pugh, Myriafel.
R
Cadwaladr Roberts, Esq, Cyffdy.
Mr. Robert Roberts, Tanner, Dolgelley.
Robert Rees, Tal-y-llyn.
Evan Rees, Tyddyn-y-garreg.
Robert Rees, Ty'n-y-twll.
Thomas Rees, Fuller.
Evan Rees, Nant-sill.
Thomas Rees.
John Reinallt, Harper, Llanfachreth.
Rowland Richard, Esgair angall.
John Richard, Joiner.
Hugh Richard, Doleu-gwynn.
Edward Richard, Cynfel.
Rowland Richard, Shoe-maker, Mallwyd.
Edward Richard, Ceunant.
Thomas Richard, Cae-crych.
Edward Richard, Rhyd-y-gwiail
David Richard, Blaen-tafolog.
Hugh Richard, Cemmes.
Lewis Richard, Shoe-maker, Dolgelley.
Evan Richard, Cwm-talian,
Rowland Richard, Cae-parti.
Roger Richard.
Mary Richard, Bwlch-llian.
Jane Richard, Pant-lludw.
Jane Richard, Periarth.
Thomas Robert, Tywyn.
John Robert, Braich-coch.
John Roberts, Dyer, Esgairgeiliog.
Owen Roberts, Llanfachreth.
Ellis Roberts, Blaen-y-cwm.
Evan Robert, Gwern-y-berrau.
John Roberts, Weaver, Dolgelley.
William Robert.
Ellis Robert, Dol-obren.
David Roberts, Bwlch-y-beudy.
David. Robert, Cae'r-lloc.
Hugh Robert.
Rowland Robert, Glyn-twymyn.
John Robert, Dinas.
Rowland Robert, of ditto.
Owen Robert, Nant-y-rhanges.
Mr. Lewis Rowland, Cwm-glann-mynach.
William Rowland, Dugoed.
William Rowland, Weacer-goch.
David Rowland, Ty mawr.
David Rowland, Blaen-dyfn-nant.
John Rowland, Bryn-y-grûg.
Robert Rowland, Glyn-twymyn
John Rowland, Cemmes.
John Rowland, Dugoed.
Evan Rowland, Cae-siarlas.
Lewis Rowland, Glover, Pentre.
Hugh Rowland, Dinas.
Catherine Rowland, Ty-mawr.
T
Mr. John Thomas, Musician, Cemmes.
John Thomas, Shop-keeper, Pentre'r foelas.
Rees Thomas, Ty pridd.
Hugh Thomas, Ty'n-y-wins.
Robert Thomas, Tai'n-y-rhôs.
John Thomas, Aelwyd-brys.
John Thomas, Shop-keeper, Cerrig-y-drudion.
David Thomas, Tan y bwlch.
Edward Thomas, Clock-maker.
Owen Thomas, Pentre.
Llewelyn Thomas, Coedgae.
Humphrey Thomas, Hengwrt.
Rowland Thomas, Faner.
William Thomas, Camlan-isaf.
Robert Thomas, Nant-y-cyff.
Elizabeth Thomas, Glann-yr-afon.
Richard Thomas, Collfryn.
Edward Thomas, Wern.
Lewis Thomas, Blaen-y-cwm.
Griffith Thomas.
Eliaz Thomas, Glover,
Daniel Thomas, Tywyn.
Rowland Thomas, Aberewarch
Griffith Thomas, Cwm-derwen.
David Thomas, Braich-coch.
Robert Thomas, Bryn-bedien.
Edward Thomas, Ty'n-y-nant.
Owen Tudor.
V
Mr. Edward Vaughan, Glyncaerig.
Mr. John Vaughan, Dol-y-fonddu.
John Vaughan, Ty'n-y-Llechwedd.
W
William Wynne, Esq., Peniarth.
Mr. Richard Wynne, Plas-uchaf, Mallwyd.
Mr. John Williams, Hatter, Dolgelley.
Mr. John Williams, Officer of Excise.
Mr. Rowland Williams, Dinas.
Mr. Gwilim Williams, Pentref.
John Williams, Tan-y-graig.
Richard William, Cerrig-y-drudion.
William Williams, Shoe-maker, Rhyd-y-maen.
John William, Cae'r-felin.
Evan William, Shop-keeper.
David William, Glover.
Edward William, Bala.
Cadwaladr William, Goed-tref.
Griffith Williams, Gardener, Rhiw-goch.
John Williams, Pentref-cwmddelan.
Rowland Whittington, Smith, Cemmes.
Evan William, Felin-eithin,
Richard William, Cwm-cadian.
Evan William, Pennau'r brynniau.
Lewis William, Rhiw-lufen.
David William, Ty'n-y-pwll.
William William, Moel-y-dinas.
John William, Dinas.
Mary William. of ditto.
Valandine William, Pandy.
Rhifais, a nodais eneidie'—I lawr,
O l'weroedd o fanne';
Yn ddigoll, O! na ddyge,
Fy Nuw oll 'i fynu iw ne'.
Y LLYFR DROSTO EI HUN.
WEL dymma fi'n dywad yn newydd fy ngwisgiad,
Nis gwn I drwy'r hollwlad pwy gariad a gaf;
Rhai ddywed yn ddiau, na feddaf wan foddau,
Ond Hugan go denau am danaf.
Nid oes genni ond gadel, i bawb ddweud ei chwedel,
Ni fynnwn i ffarwel roi 'mrafel i mrô;
Gobeithio y ca i orwedd, ym mynwes rhai mwynedd,
Yng Ngwynedd ond peredd ympirio.
Mi fum yn anniben yn dyfod O Lunden,
Y saeson ni fynnen fy nghorphen ô Ngwasg;
Ond rhydd-did pan gefais, yn gynta ag y gellais,
I Gymru y pwyntiais o'r Printwasg
MYFYRDODAU YN Y GWANWYN.
WELE'R gauaf a aeth heibio, y gwlaw a basiod, ac a aeth ymmaith; gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i'r adar i ganu: y dydd sydd beunydd yn ymestyn, a'r haul yn mynych ymddangos allan o babell y ffurfafen, ac nid ymgudd dim oddiwrth ei wrês ef.
Y ddaear, oedd galed, oerllyd ac afrywiog amser gauaf, yn awr a dry yn feddal a thirion, trwy dynerwch yr hin, a chynnhesrwydd yr haul: Wele'r goedfron yn glasu a'r gerddi'n blodeuo, a'r holl greadigaeth yn adnewyddu, er dechreuad y tymmor hyfryd hwn.
Gwel yma, o fy enaid! wrthddrychau ac arwyddion eglur yn Llyfr nattur, o gyflwr a moddau dyn cadwedig, yn amser ei ail greadigaeth o newydd yng Nghrist Iesu yr hwn cyn hynny o bryd dedwyddol, sydd wrth ei nattur, yn "farw mewn camweddau a phechodau" ai galon yn galed a diedifeiriol, megis y ddaear ganol rhewynt, heb naws meddalwch ynddi: eithr pan gofio efe ei ffyrdd gynt, a'r holl weithredoedd y rhai yr ymhalogasei ynddynt yna y galara ac y tawdd yn ei anwireddau ac yn ol hyn y cyfyd Haul Cyfiawnder gan dywynnu ar ei enaid a chynnhesu ei galon, iw pharottoi i dderbyn had gair duw, megis y mae cynnhesrwydd neu wrês yr haul yn sychu'r ddaear fis Mawrth, iw gwneuthur yn gymmwys i dderbyn yr hâd a hauir ynddi.
Ffarwel, Ned Pugh,
Can croeso i'r ddaear liwgar le,
Yn nyddie' ei hadnewyddiad;
Can diolch Arglwydd am nessau,
O gynnes olau'r gennad:
Yr adar bach oedd gynt un brudd,
Drwy'r dyffryn sydd yn deffro;
A'r byd a'i sylwedd bur-deg sail,
Sydd wedi ail newidio:
Duw Tad o'r uchelne', o newydd gwna ninne',
I gael inni galonne', i redeg y siwrne',
A osodwyd o'n baene' cyn blino:
Down gyd a phob talar, i dderbyn dy ffafar,
Cyn mynd ein cyrph breugar, a'n hesgyrn ar wasgar,
I waelod y ddaear i dduo.
<br. Amser gwanwyn, yn ol i'r hîn dymmheru a'r ddaear ddechreu cynnhesu; er disgyn ymbell gaenen o eira arni, ni erys ond ychydig amser: ac er iddi weithiau galedu dros nôs gan rew, mae'n rhywiog i feddalhâu y dydd gan dês y'r haul. Fellu ni sai pechod yn hir yn y galon wir ddychweledig; er digwydd iddi ar ryw ddanwain dywyllu ac oeri yn ei serchiadeu tuag at Grist, heb allu ymhyfrydu yn ei air, nag mor awyddus i ordinhadeu sanctaidd ac or blaen; er hynny nid hir yr erys yn y cyflwr marwol hwnnw, canys pa wedd y bydd i'r hwn a fu farw i bechod, etto fyw ynddo ef? Cyfyd goleuni i'r rhai uniawn yn y tywyllwch. Troir eu galar yn llawenydd; tros bryd nawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd.
Er aros dyn y nos dan iau—galar,
Gelwir ef y borau,
Afon o hedd i fwynhau,
A Pharadwys ei ffrydiau.
Wrth weled y ddaear yn glasu, y coedydd yn impio, a'r holl fyd megis wedi ei greu o newydd; wele mo'r brysur yr adar bychain yn dangos eu gorfoledd, yn yr hawddgar gyfnewidiad hwn; hwyr a boreu y clywir hwynt, yn pyngcio mawl i'r Creawdwr. Fellu yr angylion santedd a'r droadigaeth un pechadur nid cynt y creir ef o newydd yng Nghrist Iesu, nag y dechrau'r nefoedd seinio o lawenydd uwch ei ben, o weled un etifedd ychwaneg, wedi ei eni i wisgo coron y gogoniant. Y cyfryw un a ddichon adrodd ei ddedwyddwch mewn geiriau fel hyn,
Gwyd fyd y funud f'enaid—y gwelaist
Y goleu bendigaid;
Newidiest lluest y llaid,
A'm fawredd y nef euraid.
Hefyd, mae gorfoledd ymhlith pobl Dduw yn y byd yma, pan welont bechadur yn newid ei ffyrdd ag yn rhodio mewn newydd deb buchedd. Fe adroddir am un a elwid, Cajus Nearius Victorius, yr hwn oedd yn byw cylch tri chant o flynyddoedd a'r ôl Crist; yr hwn a fuaseu yn bagan digrêd holl ddyddie'i fywyd: eithr yn ei henaint efe a ymwrandawodd ag ymofynnodd ynghylch Crist, ag a ddywedodd y mynneu ef fod yn Gristion; eithr y Cristnogion ni chredent mohono ef dros drô; ond pan welsant mewn difrif, fod grâs yn gweithio ar ei galon, hwy a ddechreusant lawenychu a chanu psalmeu yn yr holl Eglwysydd oi blegyd; a llefain allan gan ddywedyd, Cajus Nearius Victorius a ddaeth yn gristion!
Y tymmor gwanwyn sydd gyffelyb i amser pob Cristion yn y byd yma, i ymbarottoi erbyn tragwyddoldeb; oblegid fel i mae hon yn adeg brysur gyd a'r hwsmon, pan fyddo'n flin arno wrth droi, hau, a llyfnu; cau a chloddio, a phob gorchwyl arall ar ei dir, angenrheidiol ei wneuthur erbyn yr haf. Fellu hefyd gyda'r Cristion yn oed ei bererindod ar y ddaear: dymma'r unig amser iddo lafurio am y bwyd ni dderfydd, eithr a bery i fywyd tragwyddol. ac i weithio allan ei iechydwriaeth ei hun trwy ofn a dychryn.
Os yr hwsmon a fydd ymarhôes i grynhoi ar ei dir erbyn Clammai, gan ei adael yn llanestr agored i'nifeiliaid ei sathru a'i bori; mae'n enbyd y bydd yn ei golled yn fawr o'r achos. Fellu hefyd y pechadur a ymdry yn ei bechod a'i anwiredd, a'i galon yn agored i bob trachwant ac ynfydrwydd bydol, nis torri llinyn ei einioes; O mewn pa berigl ofnadwy y mae hwnnw ynddo, o golli ei hun a chymmaint ag a fedd, yn dragywydd. Dedwydd y llafurwr sy'n fawr ei boen a'i ffwdan yn trin y ddaear, a fyddei mor ddiwyd a dygn, yn ymeulyd am iechydwriaeth iw enaid; yna 'mhen ennyd bach, dim mwy ymhela a phridd a cherrig y ddaear y dwylo geirwon fu'n trin tywerchi, a gant garrio ynddynt Balmwydden o fuddugoliaeth. A'r cyrph lluddedig a wneir yn fwy gwisgi nag un aderyn. Ni fydd arnynt na newyn na syched mwy- ach; ac ni ddisgyn arnynt n'a haul na dim gwrês.
YMADRODD LLAFURWR DUWIOL.
Ar y Cowper mwyn.
Ymboeni'n y byd, nis gwn i pa hyd,
A raid immi etto, cyn 'mado a'r corph mud:
Duw roddo i mi hedd, er gorfod i'm gwedd,
Mewn llafur a lludded mawr fyned i fedd:
Os caf fi le i orphwyso,
'Nghaersalem gyd a'm Seilo,
Mi ollynga yn ango oll sy'n awr:
Ni bydd immi yno ymboeni,
Yn troi, na hau na medi,
Ond byw yn moli'r Brenin mawr.
Llawer diwrnod llymm a dygyn,
A oddefu'r hwsmon amser gwanwyn;
I gael gwneud ei dir yn gryno,
Erbyn amser iddo gnydio.
Ni wasnaetha'r tro mae'n gwybod,
Ossio allan i sefyllod:
Oni bydd ef wrthi'n filen,
Fe ddaw clammai ar ei gefen.
O na bae pob hwsmon trefnus
Mawr ei foliant mor ofalus,
Am fod yn barod erbyn dywad
Diwrnod mawr ei ymddattodiad.
Ofer disgwyl wrth ei elw
Iw gysuro y pryd hwnnw,
Nid oes a wared ein heneidieu
Ond Cyfiawnder yn awr Angeu.
Pan fo'r coed yn torri allan i ddeilio. ac i flodeuo, mae'n arwydd fod yr hâf yn agos, yn wir nid yw'r blodau na'r dail, yn arwyddion siccir o ffrwythydd llawn: Ilawer o brenniau sydd yn awr wedi ei gwisgo a'i haddurno ag ynnw, a ddichon er hynny brifio yn anffrwythlon, ag attal yr hyn a ddisgwilir oddiwrthynt: fellu hefyd ymhlith proffes wyr Crefydd; llawer a ddichon ddangos yn deg yn ei hymarweddiad oddiallan, ac ynill canmoliaeth gan eraill o'u cwmpas a bod etto yn ôl o ffrwythau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist er gogoniant a moliant i Dduw.
Arglwydd leied ydyw'r nifer
Sy'n dwyn ffrwythau yn ei hamser;
Pob ceubren crin yn d'eglwys santedd
A ddadwreiddir yn y diwedd.
Megis y disgyn claiarwlaw Ebrill ar y ddaear, gan beri iw blode a'i ffrwythau dyfu; fellu y difera yr Arglwydd ei air, ac y tywallt ei ysbryd ar ei etholedigion i beri iddynt fod megis pren wedi ei blannu wrth y dyfroedd, ai ddeilen yn ir, ac ar flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid a ffrwytho neu ardd wedi ei dyfrhâu, ac megis ffynnon ddwfr, yr hon ni phalla ei dyfroedd.
Dâd nefol, gogonedda dy enw, ac megis y gogoneddaist ef eusoes ymhob lle, trwy aneirif dystiolaethau dy ddoethineb, daioni a'th gallu; yr hwn a beraist ir ddaear darddu yn y tymmor hwn, bydded gwiw gennyt ei ogoneddu drachefn, trwy amlygu rhinwedd a gallu dy râs ynghalonnau dy bobl, gan ei gwneuthur yn ffrwythlawn yn y gweithredoedd hynny y rhai a fyddo er gogoniant a mawl iti yr awrhon ag yn dragywydd.
O na fedrwn heddyw godi;
Fy llef fel utgorn i gyhoeddi
Uwch ben yr holl fyd, a rhybyddio
Ei bobl y perigl i maent ynddo.
Natur sydd yn llawn ufudd-dod,
I ddangos gwrthieu'r Brenin uchod;
Dengys dydd a nos wybodaeth,
Tywyllni a g'leini ei ragluniaeth.
Troi'i feddalu a wna'r ddaear,
Ddechrau'r gwanwyn yn bur gynnar;
Ond dyn a erys dan ddigofaint
Duw o'i ieuengctyd teg iw henaint.
Tyfa'r ddaear deilia'r coedydd,
Dygant hefyd ei llawn ffrwythydd;
Ond pechaduriaid er ei canfod,
Etto a fraenant yn ei pechod.
Dowch fy mrodur bawb a'r unwaith
Codwn weithian ag awn ymaith;
Mae'r dydd gwedi 'mbell ei dreulio.
Ar nos yn barod i'n gorguddio.
Gyd a'r ddaear ymollyngwn,
Am ein pechod edifarwn;
Gyd a'r prenniau yn ei hamser,
Dygwn ffrwythau i gyfiawnder.
Gyd a'r defaid awn or corsydd,
Ceisiwn ddringo tua'r mynydd;
Yr wyn a frefant ar ei mammeu,
At yr Arglwydd brefwn ninneu.
Ni chawn ond hyn o ddyddie byrrion,
I'm barottoi i fynd i Seion;
Oni wnawn y gore o honynt,
Ofer disgwyl d'ioni oddiwrthynt.
AT YR IEUENGCTID.
Chwithau Ieuengctyd trowch weithian,—Adreu
Edrwch tua Chan'an:
Coeliwch'r ych ar fin ceulan,
Y twll du tywyll o dan.
Nofiwch o foroedd nwyfiant—didorriad
I dir y gogoniant;
Trechwch, teflwch bob trachwant,
Er allo'r byd oll i bant.
Blode eich dyddie iach diddan—yn ffromm
Na' ffrymwch i sattan;
Byddwch demleu goleulan,
Syberwyd glir i'r Ysbryd Glan.
AM ARDDU.
Edifeirwch a thristwch Duwiol am bechod, a osodir allan yn yr ysgrythur, tan rith arddu neu droi 'r ddaear; canys fel y mae'r aradr yn agoryd y tir, ac yn troi 'r tu pridd i fynu ir gwyneb, fel y gellir gweled pa fath dir a fydd ; ac hefyd yn dadwreiddio yr holl betheu diffeth a fo 'n tyfu ynddo: Fellu y mae gwir argyhoeddiad yn rhwygo ac yn egor calon pechadur, gan ddatguddio yr hyn a fo ynddi; ac hefyd yn dadwreiddio pob meluschwanteu a gwyniau llygredig, oedd yno yn tyfu wrth eu nattur gynt.
Ni a wyddom fod y ddaear yn gofyn ei brynaru cyn y bo cymmwys i dderbyn had Fellu yn wir y mae calon dyn, cyn y tyccio had gair Duw ynddi, a ffrwytho allan o honi mewn buchedd ac ymarweddiad. Braennerwch i chwi fraenar, ac na heuwch mewn drain. Nyni a gyfrifem hwnnw yn hwsmon pen-ffol, yr hwn a haue ei hâd ar wyneb tir, heb i aradr erioed fyned trwyddo: gan ddisgwyl arno ddwyn enwd yr un môdd a phe buaseu yn ei aredig fel yr oedd yn gofyn, cyn rhoi'r hâd i lawr: eithr llawer mwy ofer i ni feddwl y dichon yr had ysprydol soddi i mewn a ffrwytho allan o galon dyn; yr hon wrth nattur sydd megis rhos-dir gwyllt ac oeredd heb erioed ei arddu; oddieithr i aradr gair Duw yn gyntaf fyned trwyddi iw brynaru ai dryllio am bechod. Pwy a ddyry beth glân allan o beth aflan? neb.
Gwaith trwm a blinderog yw llafurio 'r ddaear, ac sydd hefyd yn gofyn peth gofal yn ei gylch; canys os yr arddwr a edrych o'i ôl nê oi flaen, geill yr aradr yn fuan fynd am ormod neu ry fâch, neu redeg allan or ddaear i beri malciau, y rhai a gyst iddo eu torri drachefn neu fod yn y golled; hefyd i wneuthur y gwys yn anwastad, fel ac i bo yn anhaws dal yr aradr arni, ac a fydd raid iddo boeni peth ychwaneg yn ei chylch cyn y dêl yn union megis o'r blaen, a hynny o eisieu edrych yn ddigon manwl at ei waith. Rhaid i'r Cristion fod mewn llafur a lludded yn gwrando, darllen, gweddio, a gwylio yn fynych, a bod yn ofalus iw gadw ei hun mewn tymmer dduwiol; eithr os efe a ymollwng i fyned ar ol petheu eraill yn fwy na phetheu Duw; a dechrau oeri ei serchiadeu a difrawi ei galon, buan yr ymedy gair Duw allan o honi, heb ofn na chariad yr Arglwydd yn gweithio ynddi megis gynt, i ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef. Ac o herwydd hyn geill fod yn gyfyng arno cyn y delo ir cyflwr dedwyddol yr oedd ef ynddo or blaen: megis y mae 'n siample o hyn, Dafydd, Solomon, Petr, ag eraill.
Y llafurwr eill wneuthur llawer o ddefnyddiau buddiol a llesol o waith ei ddwylaw ac amryw bethau o'i amgylch, os ymry efe i osod ei ben a'i galon at y fath beth; ac oni wneiff, pa ragor sydd rhyngddo a'r nifeiliaid a fo 'n cyd weithio ag ef. Diau oni ymarfera Cristnogion. ag ystyriaethau cyffelyb i hyn, mae 'n enbyd y cyfyd rhai o'r hen Genedloedd yn eu herbyn yn y farn: Canys fe ddywedir am danynt hwy, pan elent allan y bore i arddu 'r ddaear, cyn dechrau i gwaith; eu harfer ydoedd gosod un llaw ar gorn yr aradr, ac a godent y llaw arall i fynu at Ceres, sef duw yr yd, fel y galwent hwy ef; i ddangos mai e'u disgwyliad am ffynniant ar eu llafur, a llawnder o ffrwythau ir ddaear oedd oddiwrtho ef.
Cofia y llafurwr beunydd
Lafurio am y bwyd ni dderfydd;
Pan fo dy gorph drwy deg a hagar,
Yn poeni wrth lafurio'r ddaear.
Cofia fod dy galon oerddu
Yn gynta yn gofyn ei brynaru,
Cyn y tyfo o honi un weithraid,
Er daioni i dy enaid.
Y diog ddyn nid ardd y gaua,
Am hynny 'r eiff ef i gardotta;
Ond gefn cynhauaf ofer gwaeddi,
Arglwydd, Arglwydd, agor inni.
O danfon dy air dwfn Duw Ion—eglur,
Drwy oglawdd fy nghalon;
Brynara brenin A'ron,
Brynniau 'mrest briw yn y 'mron.
Braenu' wnes ein brenin ni—mewn pechod,
Pa och a fydd immi!
Fyth, oni ddychwelaf fi
Attad, er moliant itti.
YNGHYLCH HAU.
Hau yn yr ysgrythur a gymmerir lawer ffordd, ac sydd yn arwyddo amryw betheu neulltuol; megis yn gyntaf, am wneuthur elusen, neu rannu ym mysg tlodion. Yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn brin, a'r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fêd hefyd yn helaeth.
Yn ail, pregethu'r Efengyl; canys fel y mae'r hauwr yn tanu'r hâd ar lêd y maes, fellu y mae'r Gweinidog yn tanu gair Duw ym mhlith y gynnulleidfa. Yr hauwr a aeth allan i hau ei hâd. Fe adroddir am un Mr. Philip Henry, Gweinidog Gair Duw, yn lle a elwir Broad Oaks. yng Nghent. Yn ôl ei droi allan o'r Eglwys yn amser dychweliad y Brenin Charles yr eilfed; ei arfer oedd y rywan ac yn y man, pregethu ym mysg e'i gymdogion: ac un tro wrth ddychwelyd adreu o'i swydd, digwyddodd iddo gyfarfod a'r gweinidog oedd yn perthyn i'r Eglwys; ac ebe efe wrtho; "Syr, mi gymmerais rydddid i danu lloned llaw o hâd yn eich maes chwi." "A ddarfu ichwi felly attebodd y gwr-da arall, yr Arglwydd a roddo iddo ei fendith! y mae digon o waith inni bob un."
Yn drydydd, claddu'r meirw, canys cyrph dynion ydynt megis hadeu yn y ddaear, hwy a godant i fynu o'r llwch drachef. Yr egin ieuaingc, gwelwn hawddgared eu gwedd, pan font newydd ymddangos allan o'r ddaear; tebyg i hyn a fydd cyrph y Seintieu, pan ddeuant allan o'u beddau, ac y cynnullir hwynt eithaf y nef.
Yn bedwerydd, edifeiriol ddagrau, y rhai syd yn llifeirio oddiwrth galon ddychweled, pan ddel arni sorriant duwiol oblegid ei chamweddau yn erbyn santeiddrwydd Duw. Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd.
Yn bummed, efe a gyffelybir i bob math o weithredoedd yn gyffredin: gwybyddwn mai megis amser hau yw y bywyd hwn i ni oll, erbyn cynhauaf mawr tragwyddoldeb. Gan hynny yr hwn, sydd yn hau ir cnawd o'r cnawd a fêd lygredigaeth eithr yr hwn sydd yn hau ir Yspryd, o'r Yspryd a fêd fywyd tragwyddol.
Hau y tir yn enw 'r Tad
Oreu-rad, i rwy'r awron;
Duw a hauo gras o'r ne,
A'i eiriau'nghilie 'nghalon.
'Mhen ennyd bach a gwedd mwy hawddgar,
Yr had a 'mddengys etto o'r ddaear;
O na bawn inne a'r un ymddygiad
Yn nydd mawr yr adgyfodiad.
Fel y'r hauom ein bod ymma,
Fellu y medwn yn y nesa;
Dawn Duw yw Cariad perffeth,
Ond cyflog pechod yw marwoleth.
Nad i'r galyn neidr galon,—Gwir Oglud
Yr Eglwys berffeithlon;
Ei llenwi a'i gynllwynion,
Na hau ei efrau yn hon.
Y fall o honi allan—tro'n Iesu,
Teyrnasa dy hunan;
Torrer ei ben a'th Tarian,
Ninneu tyn o nen y tan.
LLYFNU.
Oni bae i'r hwsmon lyfnu ei dir ar ol ei hau, ei holl boen a yddei yn ofer; ai gost i gyd ar goll; canys os yr hâd a adewir ar wyneb y tir, heb i'r og iw soddi ir pridd; ond odid fe ddaw adar ar ei draws iw gippio ymaith a'i ddifetha, cyn iddo erioed wreiddio a settlo yn y ddaear. Fellu ninneu hefyd yn ôl hau gair Duw yn ein plith, oni bydd i'r Yspryd Glan, ynghyd a'n dwys ystyriaeth ninneu am dano e soddi i mewn i'n calonneu, buan y daw 'r gelyn diafol ac a'i dûg ymaith o honom. rhag inni gredu a bod yn gadwedig. Ac mae 'n enbyd mai dymma 'r achos sy 'n peri ei fod yn tyccio cyn lleied ir rhan fwyaf o ddynion: Llawer a gymmerant eu Bibl yn eu llaw, neu riw lyfr da arall, ac a ddarllennant ynddynt dros ychydig : hwy a gyrchant i'r llanneu i wrando pregethau, ac yn ol i hynny, fynd trosawdd, meddyliant fod eu holl dasg ar ben, a'u dyledswydd wedi darfod, pan na'd yw, yn wir, nês i hynny, nac yw gwaith y llafurwr, yn ol tanu'r hâd ar wyneb tir: y peth angenrheittiaf fydd eto yn ol; sef, ôg i fynd unwaith drosto, iw soddi i mewn ir ddaear, os disgwylir am iddo wreiddio a ffrwytho i fynu drachefn, a derbyn cnwd oddiwrtho. Fellu angenrhaid i ninneu, nid yn unig wrando, darllen, chwiliaw, a dysgu gair Duw, ond hefyd o mewn ei fwynhau, fel y cofleidiom ac yr ymgynhaliom yn wastadol wrth fendigaid obaith y fuchedd dragwyddol.
Y sawl a hauo ei faes, cyn ffynnu,
Yn ol ei droi rhaid iddo ei lyfnu;
Oni te mae lle iddo ddisgwyl,
Fynd yn ofer ei holl orchwyl.
Yr og ffraeth a'i hamal ffrewyll,
Sydd yn gwneud y cwysi'n gandryll;
Hefyd yn malurio 'r cloggiau,
Sy'n rhwystro'r egin yn ei blaenau
Y galon newydd ei brynaru
Gan edifeirwch, sydd er hynny,
Yn gofyn ei llyfnhau ymhellach,
Fel y dygo ffrwythau amlach.
'Does geffyl cul yn c'alyn—ymeulyd,
Na mul yn y dyffryn;
'Does un ych dwys iawn achwyn,
I'r og, mwy diog na dyn.
MYFYRDODAU
YN
YR HAF.
DEUWCH a gwelwch weithredoedd Duw, yr hwn sydd yn Coroni'r flwyddyn a'i ddaioni, a'i lwybrau a ddiferant frasder; diferant ar borfeydd yr anialwch a'r brynniau a ymwregysant â hyfrydwch, a'r dyffrynnoedd a orchguddir ag yd; yr holl ddaear a'i haddola ef, yr hwn a luniodd hâf a gauaf gan beri iw haul godi, i roddi goleuni ir byd, a chynnesrwydd ir ddaear, fel y dygo ei chnwd ai ffrwythau i borthi dyn ac anifail. Geilw ar y gôg oi thrymgwsg, i ganu henffych-well ir tymmor disglair:
Pan fo daear hithe' ar dw
Mae'n gyrru'r gwccw lwydlas,
I byngcio 'mhlith canghennau 'r coed
Dan gwympo i throed o gwmpas.
Efe sy'n gwisgo'r porfeydd rhywiog a.
meillion, i ddigoni 'r buchod blithion, fel
y dylifo 'i pyrsau laeth i'n maethu, ac
enllyn i'n cefnogi. Y defaid gwynion
hefyd yn awr a gant seibiant a llonyddwch
gan oerfel a dryccin, i gymeryd eu pleser
hyd ochr y llechweddi a phennau 'r moelydd.
Rhy wellt ir buchod blithion glan
Pur fuan mewn porfeydd,
Ac ir defaid lawer cant
Eu mwyniant yn y mynydd.
Draw y gwelir y dolydd gwyrddlas yn gorwedd gan guwd, a'r meusydd yn cau i fynu o yd, i lenwi ein hysguboriau ag ystôr, erbyn tymmhestloedd gauaf a llymder gwanwyn. O! na bae i ddynion fellu drysori iddynt eu hunain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod.
A'r Fflene.
Duw nefol freiniol fri,
Mor fawr yw d'wrthiau di,
Trwy degwch sydd, yn danfon dydd,
Y newydd haf i ni:
Dy haul a d'wna ar hyd,
Y ddaear glauar glyd;"
Tywellti wlith i beri blith,
A bendith mawr ir byd :
Anfoni fwyn, gantorion fwyn,
Sy'n dwyn newyddion da,
I'r ddaear brudd, yn esgor sydd
Ar ffrwythdd hirddydd ha'.
Rhoi mawl ar goedd, ag uchel floedd,
I ti wna 'r glynnoedd glan;
Pob brynn pob pant, pob maes a nant,
D 'ogoniant di a gan.
Mor hyfryd i mae 'r goedfron luosog yn edrych, y gelltydd yn disgleirio, a'r gweunydd yn hawddgar eu gwedd:
Gweunydd a gelltydd gwylltion,
A dan fawl d' enw fy Ion.
Y tymmor haf a ellir ei gyffelybu i wynfyd y nefoedd; ond bôd un o nattur ddarfodedig, a'r llall o dragwwyddol barhâd. Yr hâf sydd dymmor têg a thawel, a'r holl fyd ac sy ynddo yn hyfryd ei wêdd ai olwg, rhagor amser gauaf. Etto nid yw mewn gwirionedd ond megis anialwch iw gyffelybu i deyrnas nefoedd, yr hon a feddianna 'r holl rai gwynfydedig ynghyd, ar ôl dydd y farn ddiweddaf. Yno y cant weled Pren y bywyd sy'n dwyn deuddeg rhyw ffrwyth bob mis, gan ymborth ar ei ddewisol ffrwythau ef, ac eistedd tan ei gysgod gyd ac hyfrydwch mawr. Yno y cant weled afonydd ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn.
Cyffelyb ydyw'r nef i Gana'n
Lle roedd llaeth a mel nid bychan;
Gyd a Christ mae digonolrhwydd,
O bob dedwyddwch yn dragywydd.
Edrychwn mor loyw yw dyfroedd yr
afonydd amser hâf; cyffelyb i hyn yw
afonydd pur o ddwfr y bywyd disglair fel
grissial, sy'n dyfod allan o orseddfaingc
Duw a'r Oen, i lawenhau dinas Dduw.
Gwelwch foreuddydd hâf, â pha wêdd ardderchog yr ymddengys yr haul allan ô 'stafelloedd y dwyrain, dan wenu ar y byd, a llenni aur o'i amgylch, a'r cymhylau 'n ffoi ymaith o'i wydd. Diau mai cyffelyb i hyn a fydd ymddanghosiad Mab y dyn allan o gymhylau 'r nêf, gyd â'i Angylion santedd, mewn nerth a gogoniant mawr, a phob llygad a'i gwêl: Yna 'r annuwiolion ni safant o'i flaen, ond hwy a alarant o'i blegid; eithr efe a wena ar ei etholedigion, ac a ddenfyn ei Angylion iw casglu hwynt ynghyd o'r pedwar gwynt, ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr asswy.
Pan welom haul ar godiad,
Meddyliwn bawb yn wastad,
Am ddyfodiad Crist i'r farn,
Yr hwn sydd gadarn geidwad.
Deliwch sulw ar godiad yr haul, fel yr adfywia ffrwythau 'r ddaear, a'r blodau a godant eu pennau, ac a agorant eu llygaid wrth ddisglairdeb ei wedd; a chantorion y twyni hefyd a ddihunant i blethu mawl; ac i groesawi hyfryd oleu'r dydd. Fellu hefyd ar ymddanghosiad gogoniant y Duw mawr, a'n Hiachawdwr Iesu Ghrist, y meirw a ddadebrant ac a ddeuant allan o'u beddau; a'r Seintiau a brysurant gyd â llawenynd mawr, i gyfarfod ar priod-fab, ac a ant i mewn gyd ag ef i'r briodas o ddedwyddwch tragwyddol yn ei deyrnas.
Pan ddechreu 'r haul lewyrchu,
Y bore 'i wedd a bery,
I bob peth dan y nefoedd wen,
Yn uchel lawenychu.
Y Seintie' ar d'rawiad llygad,
Yn nydd yr adgyfodiad,
A ddaw o'r bedd dan foli 'r Ion
A chyson ymdderchafiad.
Megis y tywynna'r haul y boreu ar bennau'r mynyddau lle mae trigfa a phorfa defaid, ac y disgleiria ar wastadedd y dyffrynnoedd ganol dydd; fellu y tywynna Haul cyfiawnder ar fynydd Sion, lle y mae trigfa a phorfa defaid Duw, sef yn Nheyrnas nêf; Canys nid rhaid i'r ddinas honno wrth yr haul, na'r lleuad, i oleuo ynddi; canys gogoniant Duw a'i goleuodd hi, ai goleuni hi ydyw yr Oen.
Yr haul a d'wynna'r bore,
Yn glir a'r bennan'r bangcie',
Haul cyfiawnder fellu a chwardd,
A'r Salem hardd ei seilie'.
Llawer gwas cyflog amser hâf, pan fo'r
dydd yn hir, a'r hin yn wresog, a fynch
hiraetha yn ei galon am weled cysgodeu 'r
hwyr a machludiad haul, fel y caffo orphwys oddiwrth ei lafur. Eithr nid fellu
gyd a gweision Duw, yn yr hâf tragwyddol; ni bydd y pryd hwnnw na phoen na
lludded ar neb, er bod y diwyrnod o dragwyddol barhâd; oblegid hefyd mo'r
ddifir yw'r gwaith sydd yno yw ymarfer ag
ê, na 'sgwyddant beth a fydd blino arno.
Mo'r anfeidrol yw gogoniant y nef, ac mo'r
anrhaethol a fydd dedwyddwch y rhai
gwynfydedig ynddi, na bydd un dydd gyd
a'r Arglwydd ond megis mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd megis un dydd.
St. Augustine; yr hwn oedd yn byw cylch pedwar cant o flwyddau ar ôl Crist; sy'n addrod yn un oi Epistolau, fel ac yr oedd efe riw dro yn ei Stydi, a chanddo bin ac Inge a phapur o'i flaen, yn barod i yscrifennu llyfr ynghylch gogoniant y nêf at St. Jerom yr un dydd ac y bu efe farw: Ac yn fuan fe ganfu oleuni yn yn torri i mewn iw ystafell, ac aroglau peraidd oddiwrtho yn llenwi'r ty; ac a feddyliodd glywed y llêf hon yn dywedyd wrtho; O Augustine, pa beth yr wyt yn myn'd iw wneuthur? ai meddwl yr ydwyt gasglu'r mor i lestr bychan? Pan beidio haul, lleuad a sêr a'u goleuni, a'r cymmhylau a'u symmudiad, yna ti a gei wybod pa beth yw gogoniant y nef, ac nid cyn hynny, oddieithr i ti ddyfod iw deimlo, megis ag yr wyf fi yr awron!
Ar Kings Ffarwel.
Oh! ddedwyddwch y rhai duwiol,
Gwedi sorriant byd amserol;
Pan fo eraill mewn poen farwol,
Draw yn gwaeddi yn dragwyddol!
Hwy gant wisgo aur goronau,
Ac eistau ar ei gorsedd feinciau,
Ger bron yr Oen, a fu dan boen,
I'w dwyn o ffroen y ffwrnas;
I roi iddynt freintiau addas,
Drwy gadernid yn ei deyrnas.
Ni ddaw yno yn agos attynt,
Ddim i anhwylio eu nefol helynt;
Trallode a llid a gilia i gyd,
Ni ddaw y pryd hynny,
Mo'r hen flynydde i'w haflonyddu
Neu ofer drachwant fwy i'mdrechu.
Dyna'r fan lle cant orphwyso,
A byth santedd ymgofleidio:
Yno yr edwyn yn ddiwradwydd,
Bobl un galon bawb eu gilydd:
Yno y byddant yn cyd rodio,
Mewn gwisg glaerwen yn disgleirio;
A chan bob un wrth ei glun,
Aur delyn i dalu,
Mawl i'r brenin, am ei brynu,
A'i ddwyn i'w fwyniant yno i fynu,
Ni chlywodd clust ni welodd llygad,
Ac ni ddichon undyn ddirnad,
Faint fawrhad' bartodd y Tad,
O'i gariad a'i drugaredd,
I'r sawl a bery i'w w'snaethu'n buredd, Heb ym'dawiad hyd y diwedd. Hwsmyn da sydd ofalus amser hâf, i barottoi erbyn y gauaf: yna y casglant i mewn fwyd a thannwydd iw teulu, ac ymborth iw 'nifeiliaid; fe wyddant na phery tegwch haf trwy 'r flwyddyn, ac ni ymddiriedant wrth auaf tyner, ond parottoi mewn pryd erbyn y gwaethaf.
Pa odiaethol gristnogion a fyddem ni, ped faem mor ofalus am brofeidio ein hunain erbyn gauaf marwolaeth, tra bo dydd grâs yn parhâu, a haul yr Efengyl yn tywynu yn ein plith.
Yr Arglwydd a ordeiniod glaiarwch a thegwch hâf, i addfedu ffrwythau 'r ddaear, ac i roddi ir llafurwr odfa gymmwys iw oyrchu i fewn diddos erbyn dryc- cin y gauaf. A'r diben i ba un y mae Duw yn cennadhau amser i ddynion ar y ddaear yw, fel y bo iddynt addfedu i'r nefoedd, a diangc rhag y llid a fydd.
DYN.
Yr hafddydd disglaerwyn, mi'th wela di'n cychwyn
Cilio o bob dyffryn, mae'n erwin i ni;
I b'le rwyd ti 'n myned; a geir mo dy weled,
Yn dywad a lloned i'n llwyni.
HAF.
Fy Awdwr Jehofa, a dd'wedodd yn gynta,
Pryd haf a gaua a'i orphwysfa ni phaid;
Parod wyf finne', i ufyddhau 'i eirie',
Bydd dithe' y'r un donnie' o ran d'enaid.
DYN.
Diferaist dy fraster, yng Nghymru ac yn Llo'eger,
A rhoist inni amser pur dyner bob dydd;
I wneud ein gorchwyl-waith; pan elych di ymaith,
Bydd eilwaith waeth hiraeth o'th herwydd.
HAF.
Fe dderfydd y flwyddyn, fel llwydo dilledyn;
Holl harddwch haf twymyn sydd, blisgyn o'th blaen;
Nid ydwyf fi ond cysgod, o'r hafddydd sydd uchod.
Mae yno breswylfod dda 'i sylfaen.
CYFLWR NIFEILIAID.
Y'r enwog dâd parchedig, D. Martin Luther sy 'n adrodd am ddau Gardinal, (sef prif lywodraethwyr Eglwys Rhufain, tan y Pab,) oeddynt ar u siwrnai i gymmanfa Constance; digwyddodd ar y ffordd iddynt glywed llais dyn yn wylo mewn. maes o'r neulltu: a phan nesasant atto, hwy a'i gwelent ef yn sefyll uwchben llyffant, a'i olwg yn graff arno: Gofynnent beth oedd yn peri iddo fod mor drist a chythryblus: dywedodd ynteu mai 'i galon oedd wedi toddi wrth ystyried mawr drugaredd Duw tuag atto, na ddarfu iddo ei greu ef, yn fath greadur gwael a hwnnw gweddus a fyddeu i bob dyn, fod ynddo'r fath deimlad.
Gwelwn fel y creodd Duw y nifeiliaid, a'u pennau tua'r ddaear, i ddangos mai oddi yno yr oedd iddynt hwy dderbyn eu holl gynffwrdd; Eithr efe a greawdd Ddyn a'i ben i fynu tua'r nef iw addoli; gan arwyddo mai oddi yno y'r oedd iddo ef, ddisgwyl am ei ddedwyddwch pennaf: oblegid ei fod o sylwedd anfarwol, fel na' does dim ond Duw ei hun, eill lenwi a digoni e'i enaid.
Ystyriwn fawr ddaioni 'r Arglwydd yn trefnu nifeiliaid i'n helpu i lafurio'r ddaear, i ddwyn ein beichiau, ac arbed ein cyrph, er na phechasant hwy erioed yn erbyn eu Creawdr, etto maent yn gorfod cydoddef cynneddf y felldith a syrthiodd ar ddyn yn y cwymp, trwy gyd boeni ag ef ar y ddaear: ein pechoau ni a dynnodd i lawr arnynt hwy, yr holl adfyd a'r cyfyngder y maent ynddo. Yr apostol sy 'n dywedyd, fod pob creadur yn cyd-ochneidio, ac yn cyd-ofidio hyd y pryd hwn; dan obaith y rhyddheir ef o gaethiewed llygredigaeth i rydd-id gogoniant plant Duw.
Duw a drefnodd i'r nifeilied,
Oes ferr a helynt galed;
A'r caledi hwn a syrthiodd
Arnynt, pechod dyn a'i tynnodd.
Gorfydd iddynt hwy mewn cornel,
Fod a'u penneu wrth y fuddel;
Pan fo dynion yn eu llawnder,
A'u traed yn rhodio mewn ehangder.
Wel dymma ffrwyth ein hannuwiolder,
Oni edifarhawn, daw'r amser,
Pan font hwy yn rhydd oddiwrtho,
A ninneu 'n rhwym ein traed a'n dwylo.
Pan ddaethost pechod syndod sail—i'r byd,
Ni 'rbedodd dy wiail,
Anafu dyn a nifail,
Na Mab Duw, ni bu dy ail.
GOFAL AM NIFEILIAID.
Nifeiliaid oedd cyfoeth a chynhaliaeth pennaf y Patriarchaid a'r hynafgwyr yn yr oesoedd cyntaf: A'i olud oedd saith mil o gamelod, a phum cant o asynnod. Y stamp neu 'r argraff ar eu harian yn yr amser hynny, oedd llun ych, neu ddafad. Fellu y creaduriaid hyn sydd werthfawr gan bob hwsmon hyd heddyw, o herwydd paham eu gofal yw, am eu trin a'u porthi fel y bont yn gofun, iw gwneuthur yn gymmwys i'r farchnad. Eraill a font yn bwriadu eu cadw, byddant ofalus hefyd am eu torri i lawr, a'u dysgu i weithio a myned i siwrnai mewn pryd; a manwl borthi y rhai blithion, fel y rhoddont laeth, ac y magont eu rhai bychain.
Pan glybu rhiw Bendefig, am y fradwriaeth greulon a wnaethai Herod, ar fechgyn bychain Bethlehem, pan anwyd ein Harglwydd, yr hwn ni spariodd ei fab ei hun ychwaith; efe a ddywedodd mai gwell oedd bod yn fochyn i Herod, nag yn blentyn iddo. Gocheled eraill rhag bod hynny yn rhy wir am danynt hwytheu. Pa sawl pen-teulu sydd yn mwrddro eneidieu 'i plant a'u gweinidogion; ie eu hunain hefyd. Pwy sydd mor ofalus am eu maethu a'u porthi a llaeth gair Duw, yr hwn hefyd yw bara'r bywyd, ac i weddio yn ddibaid, am râd a bendithion yr yspryd Glan, ac a ydynt am borthi eu nifeiliaid; nag mor ofalus am ffrwyno eu trachwantau, a'u dysgu i fod yn offerynnau i glodfori eu Creawdr, ac a ydynt am borthi a thorri lawr eu bustych a'u helbulon ieuaingc. Fe ddywedir am y Persiaid, mai 'u harfer oedd danfon eu plant i riw ysgol bellennig, cyn gynted nag y medrent siarad; ac na fynnau i' rhieni olwg arnynt dros saith mlynedd, rhag iw mabiaeth hwy Fellu wneuthur gormod niweid iddynt. iawn a fyddeu i rieni Cristionogol wneuthur eu gorau i gadw eu plant rhag myned a'u pennau 'mlaen mewn gormod rhwysg a rhydd-did daiarol; oblegid oni arweinia hynny hwynt i bechodau gwaradwyddus yn y byd hwn; etto, mae yn eu caledu oddiwrth wir grefydd, ac yn enbyd rhag iddo brifio yn ddinistr tragwyddol iw heneidieu.
O na ofaleu pechaduriaid
Beth llai 'm y corph a mwy 'myr enaid;
Llai am betheu 'r byd a dderfydd,
Mwy am betheu sy'n dragywydd.
Gofalu am ei war mae'r siopwr,
Gofalu am yd a'i dda mae'r ffarmwr;
Ond ni chredau neb cyn lleiaid,
Sy'n gofalu am yr enaid.
Ceisiwch deyrnas nef yn gynta,
Ni thal moi cheisio, medd rhan fwya:
Wele fe ddaw amser etto,
I wybod beth a fydd e'i heisio.
Fy'ngofal fo'n amal fy Nuw—d'ionus,
Am danad, beth ydyw?
Gofalon trist, ond distryw,
A blinder tra bydder byw.
NIFEILIAID AR GOLL.
Nifeiliad a dorrant allan dros glawdd, o dir eu perchennog, ac ymaith a nhw ar eu hynt, yn wysg eu penneu, heb wybod i ba le. Yna 'r perchennog ynteu a ddechry godi allan, i edrych ar eu hôl, gan yspio yn fanwl am ôl eu traed, a'u crio mewn llannau a threfydd, nis dyfod o hyd iddynt: Yna pan gaffo efe y'r hwn a gollaseu, fe i dug adrau yn llawen, heb feddwl am y gost a'r drafel a gafodd efe yn ei gylch.
Dymma siampl i ni fel y torrodd dyn dros glawdd gorchymmum ei Greawdr, allan o'r borfa felus o happusrwydd, yn yr hon y gosodaseu efe ef ar y cyntaf. Gan grwydro yr anialwch mewn ffordd ddisathr, heb obaith byth am ddyfod yn ol; oni buaseu i'r Arglwydd ei hun eu tywys hwynt ar hyd y fford uniawn, i fynd i ddinas gyfanneddol. Ac fellu y daeth efe ynghyflawnder yr amser; gan eu cymmeryd un o ddinas a dau o deulu, a'u dwyn i Seion; O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni a'i ryfeddodau i feibion dynion.
Arglwydd trwy 'r ynfydrwydd's ynddom,
Delled y cyfeiliornasom;
Heb weld ein bod oddiwrth dy lwybrau,
Yn mynd i'n poeni ar ein pennau.
Diolch a chan moliant itti,
Am ymweled a'n trueni;
A dywad i'n hymofun adreu
I deyrnas nefoedd yn dy freichieu.
Gwnaeth bugel yr Isr'el ei ran,—dofodd
Y defaid aeth allan:
Dug drwy bob lewyg i'r lann,
O bechod, ei braidd bychan.
NIFEILIAID YN PESGI.
Pan droer nifeiliad i fewn porfa dda, hwy a ddechreuant fynd yn rhodresgar, fel na cheir ond prin dywad yn agos attynt, na ddechreuant godi eu sodlau, a dibrisio pob peth o'u cwmpas. Fellu rhai dynion pan ddelont i ychydig o bower neu allu; dechreuant ymgodi a balchio, gan chwennych sathru eraill tan eu traed. Nid yw'r 'nifail a fo yn ei besgi yn dallt un gronyn o feddwl ei berchennog, fod yn alowio iddo 'r fath changder, rhagor ei gyd greaduriaid eraill. Fellu ychydig o ddynion sydd yn ystyriaid; fod cyfoeth a brasder y byd hwn, yn prifio yn wenwyn chwerw i laweroedd, ac yn eu cadw yn ol o'r dedwyddwch, yn y byd a ddaw. Gwelwn siampleu o hyn yn Deifes, a'r goludog arall yn yr Efengyl.
O na 'styriau 'r cyfoethogion,
Pwy a drefnodd iddynt foddion
Iw mwynhau, ac i ba ddiben,
Y rhofles Duw hwynt ar y dd'iaren.
Dedwydd ynt os gwnant y gorau,
Yn eu dydd, o'r holl dalentau,
'Mddiriedwyd yn eu dwylo am danynt,
Ac onite, gwell fyddeu hebddynt.
Ofer fydd ar fyrr feddu—y byd,
A bod yn llawn gallu:
Gwael yw llysoedd, gwell Iesu,
I ddyn, na thyddyn na thy.
GWLITH.
Y Gwlith yw'r tarth sy'n codi o'r ddaear y dydd gan wres y'r haul, ac yn nhawelwch y nos, yn disgyn i lawr drachefn. Nid eill neb ei ganfod, na gwybod pan fo yn disgyn ar y gwelltglas: yr Arglwydd sydd yn ei ordeinio pan welo efe yn oreu; trwy ei wybodaeth ef y defnynna yr wybrennau wlith.
Y gwlith a gyffelybir yn gyntaf, i Grist, megis ac y mae yn ei arwyddocau ef, yn y chwechfed o Lyfr Barnwyr, a'r rhan olaf. Wrth y cnu gwlan y mae i ni ddeall, am Fair forwyn; a'r gwlith am Ghrist: canys fel y daeth y gwlith allan o'r cnu, ag y bu wedi hynny ar yr holl ddaear; Fellu yn ol ei eni ef o Fair, a danodd wlith ei ras, a'i Efengyl trwy'r holl fyd.
Yn ail, â air Duw, a rhâd y'r Yspryd Glan: Fy athrawiaeth a ddefynna fel gwlaw: fel gwlith-wlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar las-wellt. Megis y disgynnau'r manna a'r gwlith i lawr ynghyd, i borthi'r Israeliaid; fellu y mae gair Duw, a rhâd yr Yspryd arno, yn disgyn ar galonneu y'r etholedigion. Yn drydydd, cymmundeb a chariad duwiol, ymhlith brodur, neu aelodau'r Eglwys Gristnogawl. Wele mor ddaionus ac mor hyfryd yw trigo o frodur ynghyd. Fel gwlith Hermon, ac fel gwlith yn disgyn ar fynyddoedd Sion.
Fel y gwlith i wellt y ddaear,
Arglwydd yw dy eiriau hawddgar,
I'r eneidieu fo'n sychedu,
Gwrando eu ddarllen a'i bregethu.
Er na erys gwlith ond noswaith;
Nef a daear er mynd ymaith:
Gair yr Iesu nid eiff heibio,
Un llythyren fyth o hono.
Duw Tri, dyro inni dy rad—buddiol,
A bydded yn wastad,
Dy fendith arnom fwyndad;
Fel bendith y gwlith i'n gwlad.
MYFYRDODAU
AMSER CYNHAEAF.
Y TYMMOR cynhauaf, yn ôl tyb a thystiolaeth llawer o'r doethion, yw'r hynod amser hwnnw ar y flwyddyn, ym mha un y creawdd Duw'r byd; sef ar ddechrau 'r mis a elwid gan yr Iuddewon, Tisri, neu Ethanim; dechreuad pa un oedd ynghylch canol y mis a elwir gyd â ni, Medi. Ac mae'n debygol na wel neb unrhyw achos, i lwyr ymwrthod yn brysur, a'r ddychymmyg hon; oblegid ni allwn ddeall, fod holl ffrwythau'r prenniau yngardd Eden yn eu llawn addfedwch, pan y dywedir fod i Adda gael ei ddewis iw ymborth arnynt, oddieithr un. Fellu diammau ir Arglwydd greu'r holl fyd ar y cyntaf, mewn llawnder a pherffeithrwydd o bob peth, megis ac y gwelir ef yn awr amser cynhauaf: Yn yr hwn amser, y dangosir ei anfeidrol allu, doethineb, a daioni ei fawredd, yn dra eglur i bob dyn. Dyma 'r pryd y mae efe yn gwneuthur gwledd i'r holl fyd, gan hilio ei fwrdd a danteithion rhagorol o bob math, i ddiwallu, sirio, a llonni ei greaduriaid, y rhai sy 'n disgwyl wrtho am ei bwyd yn ei bryd. Dymma'r pryd y dygir i berffeithrwydd a'i llawn-dw, yr hyn a fu 'r ddaear yn esgor arnynt ddyddiau hâf. Gwelir y gweirgloddiau, meusydd, gerddi, a'r perllannoedd, megis yn ymryson a'u gilydd, pa un a gaffo ddwyn yr anrheg gyntaf o'i blaenffrwyth iw perchennogion. Ona bae eu perchennogion mor ufudd a gofalus, am ddwyn ffrwythau buchedd dda, i berchennog neu feddiannydd mawr nefoedd a daiar! Yn awr y gwobrwya ac y tal ei feusydd i'r hwsmon dyfal, am ei boen yn eu gwrteithio au llafurio gefn y gwanwyn; a'r dolydd am ei ofal yn eu trin au cadw ddyddiau Clammai; a phob llysiau a ffrwythau per, yn barod i atteb y diben i ba un y crewyd hwynt.
Ar Charity Mistres.
Diolchwn iti Arglwydd
Am ffrwythydd ffri, o bob rhiw ri,
A ddug y ddaear beunydd
Yn ufudd iawn i ni:
Bu ddyfal ein disgwyliad
Ym misoedd ha' am lawnder da,
O bur-yd i'n 'scuboriau,
O llysiau a'n gwella.
Nid ofnwn wyneb gaua,
Ai rew ac eira gyda'g e,
Cynhauaf daeth, addfedu a wnaeth
Ein lluniaeth ymhob lle.
O! par i bawb o deulu
Yr eglwys fellu add fedu i fod
Yng nghwmni llu, y nefoedd gu
I glymmu dy fawr glod.
Hawdd gan yr hwsmon beunydd godi ei olwg ar ei feusydd yr hauodd efe had-yd ynddynt, ac edrych yn graff hwyr a boreu, pa fodd y bo yr egin yn dyfod yn eu blaen; a chwedi iddo ehedeg, pa fath dywysen a fydd ganddo; weithiau fe seu un ochr i'r cae, yna fe gerdd ir ochr arall, gan graffu arno drachefn a thrachefn. Fellu hefyd y mae 'r Arglwydd yn edrych i lawr o'r nefoedd, ar holl drigolion y ddaear, yn enwedig ar ei faes neu ei winllan ei hun, sef yr eglwys; Tyred fy annwylyd, awn i'r maes, edrychwn a egorodd yr egin grawnwin. Edrychwn ar y meusydd fel y maent yn gwynnu, yr hyn sydd arwydd eu bod yn barod i gynhauaf: Fellu hefyd ddynion pan font yn dechrau penllwydo, ydynt yn ymmul cael eu cynhafa a'u torri i lawr ir bedd. Meddyliwch gan hynny am danoch eich hunain o eneidiau oedrannus, pan weloch Wair yn cochi, neu Yd yn gwynnu, a dail y Coed yn melynu; gwybyddwch nad oes i chwi aros yn eich unfan yn hir mwy na nhwythau, pan ddeloch ir nod hwnnw.
Y gwair a'r yd, oedd wedi pen ychydig yn irlas ac yn llawn nodd, yn awr a welir yn dechrau diflannu, a'i ben yn gogwyddo ir ddaear, ac a dorrir ymaith ar fyrder. Hyn a eill ddwyn i'n cof, mor fethianllyd a darfodedig yw cyrph dynion; pob cnawd sydd wellt, a'r rhai ydynt yn awr yn gryfion ac iachus, a'i bronnau yn llawn llaeth, ai hesgyrn yn iraidd gan fer, buan y diflannant ymmaith; eu gwrid a dry yn llwydni, a'u nerth yn wendid, a henaint a grymma eu pennau i lawr megis yd, pan fo'n llawn addfed; a hwy a orweddant ynghyd yn y pridd, a'r pryfed a'u gorchguddia hwynt.
Ar fesur Consumption.
O Arglwydd beth yw dyn
Pan 'drychyt ar ei lun,
Yr hwn nid yw ei hun
Ond megis gwelltyn gwann:
Mae heddyw'n deg ei wawr
Mewn rhwysg a rhyfyg mawr;
Y foru yn drwm ei sawr
Fe'i ceir yn llawr y llann!
Nid yw ei ddyddie ar ddaear hon,
Ond megis t'wnniad haul ar fron
Ar ddiwrnod teg, neu dreiglad tonn
Ym min yr eigion mawr.
O dyro orphwysfa nefol Dad!
Ir enaid o'th drugaredd rad,
Sydd anfarwol ei barhad,
A di-ddiweddiad wawr.
Yn awr pan ddelo 'r cynhauaf ymlaen, yr yd da a drwg, ffrwythlon ac anffrwythlon, addfed a di-addfed, a dorir i lawr ynghyd Fellu hefyd marwolaeth sydd yn ysgubo ymaith bob math, a gradd, ac oedran o ddynion, pan fo eu hamser wedi dirwyn i ben. Myfi a wn y dygi di fi i farwolaeth; ac i'r ty rhagderfynedig i bob dyn byw.
Yn gymmaint a bod y cynhauaf yn amser pwysfawr, pryd y mae i'r hwsmon yn unig ddisgwyl wrth dal, am ei holl drafel a'i gost trwy'r flwyddyn, yn parottoi tu ag atto: o herwydd paham, mae 'n ddyled ar yr hwsmon edrych atto ei hun yn ddyfal, a bod yn flaenllaw a diwyd yn anad un amser arall ac yn gyfattebol i hyn, y meistriaid a fyddant ofalus i graffu a chanlyn ar eu gweinidogion, rhag iddynt segura ymaith eu hamser, ac iddo ef fod yn ol, trwy eu hesceulustra hwynt, o'r hyn a allaseu 'i gael, eisiau digon o ddiwydrwydd yn ei gylch; ac weithiau y trawant at y gwaith eu hunain, cyn y caffo sefyll yn ol. Fellu amser pob dyn yn y bywyd hwn, sydd beth pwysfawr iawn yn wir, yr hyn mae tragwyddol drueni neu ddedwyddwch yr enaid yn ei ddisgwyl wrtho. Oherwydd paham, medd yr Arglwydd, Ymgesglwch, ie deuwch ynghyd, genedl anhawddgar; Cyn i'r ddeddf esgor, cyn i'r dydd fyned heibio fel peiswyn, cyn dyfod arnoch lid digofaint yr Arglwydd, cyn dyfod arnoch ddydd sorriant yr Arglwydd. Gan ddisgwyl na byddwn mor ddifudd, a threulio odfa mor werthfawr, mewn cyfeddach a meddwdod, cyd orwedd ac anlladrwydd, neu mewn cynnen a chynfigen, eithr rhodio yn weddus, megis wrth liw dydd, a chyrchu at y nôd, am gamp uchel alwedigaeth Duw yng Nghrist Iesu. A'r Arglwydd pan wel ei bobl yn llesghau, wrth ddioddeu pwys a gwres y dydd, efe a dery ei law yn ebrwydd at y gwaith; â'i fraich y casgl ei wyn, ac a'i dwg yn ei fynwes.
Gefn cynhauaf gwair ac ydau
Yr hwsmyn fydd mewn amryw fannau
Beunydd yn ofalus ddigon
I yrru ar eu gweinidogion.
Wrth weision fe ddisgwylia'r meistred
Am iddynt weithio yn ddi 'marbed
Yn oed adeg y cynhaua,
Na choller dim drwy esgeulustra
Dymma siampal mae i ni ddisgwyl
I weinidogion yr Efengyl
Na ddyleu rhai sy'n cael eu galw
Segura yn y gorchwyl hwnnw
Eu Meistr ai danfonodd yno
Nid i sefyll ond i weithio;
Gweithio tra mae'r dydd yn para,
Fe ddaw 'r noson yr awr nesa,
Mae cynhauaf ein heneidiau,
Yn fwy o bwys gan mil o weithiau
Na 'r holl fyd a'r llawnder 'sy ynddo
Yn mis medi or maes yn 'mado.
Er bod y cynhauaf yn amser o lawenydd i'r hwsmon, pryd y mae 'n gobeithio
llenwi ei dai ac ystor o wair ac yd, fel y
gallo efe a'i deulu fyw'n glyd, a bod yn
gefnog i fwrw'r gauaf. Etto llawer
gwaith y try yn adeg o alar a gofyd: canys
yr hwsmon mwya gofalus ar droue, a
ddichon gael colled fawr gan ystormydd o
wynt a gwlaw, i ddifetha yr hyn y rhoesau gymmaint ei fryd ar gael eu mwynhau;
yn awr ni fedr ond synnu arno, heb ganddo ffordd yn y byd iw achub oddiwrth y
fath golled. Pa resyndod iw gweled maes
o lafur ffrwythlawn, yn gorwedd yn
glwydi braenllyd ar y ddaear gan wlybanniaeth; neu ynteu y rhan mwyaf ffrwyth-
lawn o honaw yn dyrrau hyd wyneb y tir,
wedi ei golli a'i guro i lawr gan wynt ystormus.
Ar Gwel yr Adeiliad.
O ystyr ein Tad nefol,
O'th babell wrth dy bobol
Anfuddiol 'feddi;
Di weli fod ein lluniaeth,
Yn wael beunydd dan wlybaniaeth
Ar ol ymboeni:
Ar gefn, y maes drwy'r flwyddyn lefn,
Bu 'n dyfal dyfu, yn awr fe ddarfu,
I'r Gogleddwynt gladdu,
A'i chwythu i lawr drachefn,
Fe'i gwnaeth ystormydd amlwg
Ef'n ddigon drwg ei drefn.
Ein cri, sydd arnat Un a Thri;
Am faddeu'n beie', i gasglu'n ffrwythe'
I'n hysguborie', os gweli yn ore', ni
Ddeusyfwn drwy fawr heddwch,
Gael tegwch gennyt ti.
Gweled llafur ffrwythlawn ar lêd
maes, yn cael ei ddistrywio a'i wneuthur yn ddrwg ei drefn, gan ystormydd o wynt
a gwlaw tymmhestlog, a eill ddwyn i'n cof
y cyflwr truenus y bu Eglwys Dduw ynddo, mewn amryw oesoedd y byd; tan ystormydd o erlidigaethau a gorthrymderau gan ei gelynion. Megis yn amser y
Caethgludiad i Babilon, a'r deg erlidig
aethau cyntaf ar ol Crist, tan amryw Emprwyr creulonedd, megis Nero, Domitian,
Traianus, ac eraill. Ac hefyd yn Lloeger
lawer amseroedd, yn enwedig tan Deyrnasiad y Frenhines Mari, pan oedd y
deyrnas hon yn nofio o genllif yr afon a
fwriodd Satan allan o'i safn, i geisio difetha, a chario ymaith gyd a hi wenith
Duw, sef ei bobl ef, pan oedd cynhauaf
yr Efengyl megis newydd ddechrau tan
lywodraeth ddaionus y Brenin Edward, yr
hwn a gymmerwyd ymaith yn ei febyd.
Yna y rhuthrodd y bleiddiaid Pabaidd i
mewn, a buan y troesant ddoldir ffrwythlawn yn anialwch, gan fathru Seintiau
Duw o dan eu traed, megis tom yr
heolydd.
O na 'styriem yn ein hamser
Faint ein trugareddau tyner;
Rhagor y blynyddoedd blinion;
Gynt a gadd ein Tadeu ffyddlon.
Cael cynhauaf teg a phrydlon,
Sydd gynfforddus iawn ir hwsmon,
Rhagor tywydd trwm heb foddau,
I waredu ei wair a'i ydau.
Rhoddiad mawr i ninne os gwelwn,
Iw cael rhydd-did a Chommissiwn,
I foliannu Duw y nefoedd,
Yn y dirgel ac ar gyhoedd.
Fe orfyddau ir Protestaniaid;
Gyfwrdd gynt heb neb i'w gwelaid;
Ninnau allwn 'flaen yr holl-wlad,
Ei addoli ef yn wastad.
Gorfod gwylio, a chladdu eu gilydd,
Hyd y nos ar gefn y meusydd;
Aros yno tan y borau,
Uwch ben y bedd yn canu hymnau.
Gwragedd a morwynion oeddynt,
Yn dioddeu serrio eu bronne oddiwrthynt;
Dioddeu colli gwaed eu calon,
Am eu Crefydd a'u Proffession.
Oni chymrwn ninnau siampal
I wasnaethu Duw yn ddyfal;
Y Merthyron hyn er dychryn,
A godant Ddydd y farn i'n herbyn.
Y cynhauaf a gyffelybir i ddiwedd y byd; canys fel ac y mae ffrwythau 'r ddaear y pryd hynny yn eu haddfedwch, yn gymmwys iw torri i lawr, ai casglu or maes i mewn: Fellu yn niwedd y byd, holl drigolion y ddaear a fyddant yn addfed un ai o râs neu bechod, ac yn barod ir llefydd a barottowyd i bob un o honynt. Ac yn amser y cynhauaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau, iw llwyr-losgi; ond cesglwch y gwenith i'm hysgubor.
Am ddiwedd byd yr hwsmon cofia
Pan fy'ch ar ddiwedd dy gynhaua,
Gwedi casglu ffrwythau'r ddaear
I'th ysgubor glyd yn gynnar.
Fellu yr Arglwydd Dduw yn ddiau
Yn nydd y farn a gasgl ei Seintiau,
I drysordy mawr y nefoedd
Iw foliannu dros byth bythoedd.
Gwelwch pan fo'r dydd yn byrrhau, yr haul yn cilio, a'r brynniau yn cysgodi, neu pa bella bynnag yr elo yn y flwyddyn, gwaetha yn y byd i gynhauaf. Fellu dyn hefyd pa bella bynnag yr el mewn oedran, anhaws fyth ei dorri oddiwrth ei bechodau a chrymman edifeirwch, a'i gynhafa i mewn at Grist oddiwrth y byd a'r pethau sy ynddo. Cofia yn awr dy Greawdr yn nyddiau dy ieuengctyd, cyn dyfod y dyddiau blin, a nessau o'r blynyddoedd yn y rhai y dywedi, Nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt. Mab pedwar ugain mlynedd ydwyf fi heddyw: a wn i ragoriaeth rhwng da a drwg? a ddichon dy was di archwaethu yr hyn a fwyttaf, neu 'r hyn a yfaf? a glywaf fi bellach lais cerddorion a cherddoresau? pa ham gan hynny y bydd dy was mwyach yn faich ar fy Arglwydd frenin?
Cofia dy Greawdwr hyfryd
Yn awr yn nyddiau dy jeuengctyd;
Cyn del henaint oer i'th crymmu,
Ac i'th calon ymgaledu.
Tan y gyfraith y gorchmynnir
Offrwm wyn a mynnod geifir,
Bustych jeuainge a chlomennod,
I'r bobl yn aberth dros eu pechod.
Abiah yn unig oedd yn ddi-nam,
O holl deulu Jeroboam;
Ynteu'n jeuangc yn ei degwch
A gadd fynd iw fedd mewn heddwch.
Titheu'n jeuange nad i Satan
Sugno'r mer o'th esgyrn allan;
Dod dy hun i Grist dy geiwad,
Fe dalodd ddigon drud am danad.
Edrychwn ar y meusydd a'r dolydd, ddyddiau gwylmihangel, mor chwith yw gweled pa ragoriaeth sydd rhyngddynt yn awr, a chwedi pen ychydig o amser: Doe 'n edrych yn llawnion, heddyw 'n ddigon llymllyd eu gwedd. Doe a chnwd o d'wysennau ffrwythlawn yn pwyso i'r ddaear; heddyw heb hanes ond am fonion soflydd sychlyd, yn ddigon garw eu gwedd. Trachefn, edrychwn ar y dolydd a'r porfeydd rhywiog, pa rhagoriaeth sydd rhyngddynt yn y dyddiau hyn, a dyddiau Gwyl-Ifan. Codwn ein golygon ar y goedwig, ac wele 'r fath anluosogrwydd sydd yno; y coedydd wedi eu dinoethi, a'u dail wedi crino ymaith. Fellu am bob gwychder a moethau daiarol: y maent fel hun: y boreu y maent fel llyseuyn a newidir. Y boreu y blodeua ac y tyf; pryd-nawn y torrir ef ymmaith ac y gwywa. Awn ir gerddi, ac wele yno bob peth ar ddarfod yn ei ôl ir ddaear. Cymmerwn daith ir berllan, yno y ceir afalau bron-gochion, oedd gynt yn uchel eu lle ar frig y pren, yn awr yn pydru hyd wyneb y ddaear, a'r eirin yr un modd.
Wel cofiwch chwithe jeungtyd ffol,
Daw'r Angeu ich nol ar fyrder;
Ni phrissia am nerth na glendid glwys
Pan ddelo'i gymmwys amser.
Llawer heddyw ag uchel drych
Yn ddigon gwych a'mddygant;
Y foru 'r tecca a'r gwycha eu gwedd
Yn llawr y bedd y byddant.
Ar Amorelis.
Mor fuan Arglwydd 'troes dy law,
I beri ir fro ei bore fraw:
Ei ffrwyth a'i thegwch yma a thraw
Ar fyrr a ddaw i ddiwedd;
Lle 'rydoedd gynt yr yd a'r gwair
Drwy nerth dy air yn iredd;
Yn awr pob pantie brynnie a bronn
Sy a golwg digon gwaeledd.
Os yn yr Allt i fynny'r awn,
Dail y Coed dam draed y cawn;
A chwedi noethi'r llwyni llawn,
Oedd gwiwlan iawn iw gweled;
Nid oes iw gael un golwg hardd
Mewn maes na gardd ar gerdded;
Pob blode', llysie' a ffrwythe' ffri,
O'u manneu gwedi myned.
Ac fellu'r Ange a ninne is ne,
Mewn byrr yn llu a'n bwria o'n lle,
Duw gwna ni iw gyfarfod fe,
Bob hwyr a bore yn barod;
I fynd dros ennyd bach ir Llann,
I gysgu dan dy gysgod;
A phan el heibio dir a mor,
Dwg ni ir ochor uchod.
DYRNU.
Bwriad yr hwsmon yn gosod ei yd ar y llawr iw ddyrnu, yw ei neulltuo a'i ryddhau oddiwrth y gwellt a'r peuswyn: ac er iddo ei flustio a'i gnoccio yn ddwys dros ychydig, fel pettei 'n ddig wrtho; etto fe gymmer ofal rhag gwneuthur niweid iddo, na sigo 'r dalchen ond lleia ac a allo: a phan welo efe ef unwaith wedi ymadel yn lân a'r gwellt, yna fe i try heibio, ac ni chûr mono mwyach.
Fellu'r diben i ba un y dyrna Duw ei bobl ag amryw gystuddiau yn y byd hwn, yw eu tynny a'i didoli oddiwrth eu pechodau, iw puro a'u gwneuthur yn gymmwys i'r nefoedd; Eithr ffyddlon yw efe, yr hwn ni âd eu ceryddu uwchlaw yr hyn allont ei oddef; eith a wnâ ynghyd â'r temtasiwn, ddiangfa hefyd, fel y gallont ei ddwyn. Megis eu dyddiau y bydd eu nerth. Yna pan orphennir y gwaith da, yr hwn a ddechreuwyd ynddynt, yr Arglwydd a'u cymmer hwynt atto ei hun iw deyrnas uchod; Yno yr annuwiolion a beidiant a'u cyffro; ac yno y gorphwys y rhai lluddedig.
Arglwydd nefol gwna fi'n ddiddig
Yma i ddioddeu dros ychydig
Pa faint bynnag fo 'ngorthrymder,
Fe ddaw diwedd arno ar fyrder.
Nid yw dy wialen yn ceryddu
Neb ond fel y maent yn haeddu;
Diwedd cystydd yw ein gwella,
A'n cymmwyso ir bywyd nesa.
Gwnei ddyn yn werthfawroccach,
Nag aur coeth oedd gynt fel sothach;
Fel y byddo yn ddinasydd
Cymmwys yng Nghaersalem newydd.
Gwell d'wrnod o drallod i'n dryllio―'n awr
Am anwiraidd 'n dwylo;
Na bod fyth 'n y byd a fo,
Yn ein dyrnn a'n darnio.
NITHIO.
Pan ddaeth Ioan fedyddiwr i barottoi ffordd Crist, efe a ddywedodd am dano, ei fod ef a'i wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr-lanhâ ei lawrdyrnu. Gair Duw sydd megis gwyntyll yn llaw'r Yspryd Glan i chwythu ymaith drachwanteu pechadurus allan o galonneu dynion, fel us a pheuswyn oddiwrth yr yd ar y llawr: Hefyd yr Arglwydd a neulltua rhwng yr annuwiolion a'i bobl e'i hun, a hynny a wnaeth yn aml yn y byd hwn; pan ehedau 'r anffyddloniaid allan o'r Eglwys, fel peiswyn allan o'r llawr, heb neb ond pûr etheledigion Duw yng Nghrist yn cadw eu lle. Eithr efe a wna hyn yn fwy eglur ac effeithiol yn nydd y farn ddiweddaf; pan gasgl efe ei wenith iw ysgubor, ac y llysg yr ûs à thân anniffoddadwy.
Fe ddaw dydd, y Tad bendiged
A wyr ei hunan pa cyn gynted;
Pan osodir lawer milldir,
Y defaid draw odd' wrth y geifir.
Er i'r da a'r drygionus yma,
Gyd yied a chyd fwytta;
Cyd orwedd a chyd godi,
Daw amser etto i'w didoli.
Ac er iddynt rai' bob graddau,
Gyd fynd i'r llan y suliau,
Cyd fynd at fwrdd yr Arglwydd;
Fe 'u neulltuir yn dragywydd.
Chwyth yn lanwaith ymaith bob us—coliog
O'm calon ddrygionus:
A dod le Duw yn dy lys,
Er dy Enw daionus.
CARIAD Y CI IW FEISTR.
Pa mor ufydd a ffyddlon yw y ci iw feistr? pa le bynnag yr elo ef, rhaid iddo ynteu fyned ar ei ôl; ac os digwydd i neb gynnyg cam iddo; buan y tery yn ei blaid. Dymma siampl i bob Cristion i ddilyn ei feistr mawr IESU, yn ffyddlon; trwy barch ac ammarch, trwy anglod a chlod. Er curo llawer math o gi, i geisio ganddo beidio a dyfod i ganlyn; etto gwell ganddo ddioddeu taflu llawer carreg atto, na llechu yn y ty. Eithr O mor barod ym ni i bedio a myned ar ol Arglwydd y bywyd Gwell ganddom oll wrth nattur lechu ac ymguddio yng nghornelau tywyll ein hen gartref, pa ddistryw bynnag a ddelo yn y diwedd ar ein pen. Eithr O eneidiau! codwch ac ewch ymaith, canys nid dymma eich gorffwysfa.
Gadael Arglwydd c'wilydd immi,
I bob creadur fy rhagori;
A bod fel Peder dan ymgymmell,
Yn dy ganlyn di o hirbell.
Tynn fi attad a'th gadwyni,
Minneu redaf yn fwy gwisgi:
Dyro immi nerth i bara,
Nis y delwy i ben fy ngyrfa.
Gristion bydd ffyddlon a phaid—a gadael
Dy Geidwad bendigaid:
Can's nerth cry 'r Iesu a raid,
Or dinistr achub d' enaid.
DAU HWRDD YN YMLADD.
O ba le y tyfodd yr ymrafael rhwng y creaduriaid hyn? Tebygasem fyd y mynydd yn ddigon ehang iddynt, heb roi iw gilydd y fath gyfarfod siomgar a hwn. Dymma fel y mae gyda dynion y byd, sydd a'u calonnau yn berwi o gynfigen y naill ir llall. O ba le (medd yr Apostol) y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith? Onid oddi wrth hyn, sef eich melyschwantau, y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau. Wrth hyn ni a welwn fod dyn yn un reyfel drosto ei hun; nid rhyfedd gan hynny iddo fod mewn rhyfel ag eraill a'r rhyfel hwn ni ostegir fyth gan neb ond Duw hollalluog; and a gynnydda fwy fwy, i bob tragwyddoldeb. Eithr pan ddel yr Arglwydd a'i Ras nerthol, i wersyllu ar y galon, hi a gwymp i lawr wrth ei draed, fel Jericho o flaen Joshua; a phob gelyn ystyfnig oedd yn aros ynddi a dawdd: Yna y blaidd a dry yn oen, gan faddeu i eraill megis ag y maddeuwyd iddo ynteu gan yr Arglwydd.
Golwg erchyll Gristion gochel,
Gweled delw Duw 'n troi 'n gythrel;
Gweled dynion o'r un deunydd,
Yn ceisio gwneuthur brad eu gilydd.
Os metha'r gwyr ymladdgar llidiog
Gael digon ymma, byddont gefnog,
Y'mhen ychydig hwy gant firauo,
Oni bon nhw wedi blino.
Pan wneir ammarch fy Nuw immi—dysga
I'th ddisgybl ymgroesi,
Dyro fynwes i'm Iesu,
Bur bwyllig i ti.
CANIAD Y CEILIOG.
Pan glywer y ceiliog yn canu, ni
ddylau nid yn unig ein deffro o gwsg nattur, i godi at ein gorchwylion daiarol;
eithr ymhellach ddwyn ar gof inni am
ddeffro o gwsg a syrthni pechod. Ped
taseu caniad y ceiliog yn deffroi ac yn
cynnhyrfu Petr ddim pellach nac i feddwl
am bysgotta, a pharottoi angenrheidiau
iw deulu, beth a ddaethai o hono ef:—
Ond yn gymmaint ag iddo ei ddeffro i
edifeirwch, efe a achubodd ei enaid. Diammau nad oedd yr aderyn hwnnw ond
canu ond fel y byddau arferol; etto yr
holl drwst a'r cyffro yn nhy 'r ArchOffeiriad nid alleu gadw ei lais allan of
glustiau Petr; yr hwn fe ddywedir ar ôl
hynny, a fyddeu arferol bob bore, pan
glywai geiliog yn canu, a neidio allan o'i
welu, a syrthio ar ei luniau gan wylo, a
gweddio ar yr Arglwydd am faddeuant:
ac fe ddywedir ymhellach, na chanfyddid
mono un amser, heb fod a'i lygaid yn
llawn dagreu.
Cwyd i fynu hwsmon diog,
Ai ni chlywi lais y ceiliog,
Yn dy alw o dy welu;
Ai 'mroi a wnei di fyth i gysgu.
Cwyd i fynu hen bechadur,
A dadebra o gwsg dy nattur;
Clyw lais Crist yn galw 'n rhywiog,
Deuwch attaf bawb sy'n llwythog.
Ymbrysura cyn y gweli
I wawrddydd tragwyddoldeb dorri;
Os ceiff Angeu di'n dy welu,
Oddi yno yr ei di ith farnu.
Llais aderyn gwann yn canu-y bore
A beri'm ddadebru;
Ond llais fy Ior cantor cu,
Enaid diffrwyth ni'th deffry.
MYFYRDODAU YN
Y GAEAF.
ER nad yw'r gauaf mor gynforddus i ddynion, a thymhorau eraill y flwyddyn; etto nid llai y dengys fawrhdi a gwrthiau Duw ac er bod y ddaear yr amser hynny yn hesp ac anffrwythlon, heb ddwyn ffrwythau a blodau, megis yn amser haf: etto gellir sugno llawer o bereidd-dra a meluster myfyrdodawl o honi, a bâr ir galon ffrwytho o fawl ir Creawdr, wrth ryfeddu am ei holl weithredoedd yn oed y tymmor hwn.
Wele'r gauaf wedi dyfod, ac yn dechreu tywallt ei ystormydd am ein pennau. Y ddaear fel gweddw alaethus, sydd yn gorwedd yn ei galarwisg, wedi ei diosg oi holl wychder ai thegwch gynt. Nid oes yn awr yn lle claiarwch twymyn iw thymheru, ond rhew caled, afrywiog yn llochesu yn ei mynwes: a'r eira megis cynfas wen, yn ymdanu drosti; fel na adweinir ond prin y naill le oddiwrth y llall. Y cyfarwydda ar ei lwybr a ddichon yn awr gael ei dwyllo, a chyfeiliorni ymhell allan or ffordd. Darfu am ffrwythlondeb y berllan ac yn y gerddi nid oes bywyd mwyach. Brigau 'r coed a wisgir a lasieu gwynion, a'r bargodydd a chleddyfau Ilymmion. Cerddorion y twyni a aethant oll yn fud, heb hanes am eu miwsig a'u peroriaeth gynt.
Yn lle un gog llawen gan,
'Mhob lleoedd mae'r ddylluan.
Yn y twllwch, trwch y trig,
A nadeu dychrynedig!
Y defaid wrth eu curo gan dywydd
hyd ochr y llechweddi a ddechreuant laesu
ir caeau; a'r gwartheg hwytheu 'n drist
eu gwêdd, yn dechrau nesu at y tai, a
brefu am y preseb. Pob peth yn prysuro
i guddio ei ben, tan yr achles a gaffo, rhag
y tymhestloedd a'r oerfel sydd iw gorddiwes hwynt. Wele fel y mae'r dydd.
wedi byrrhau, a'r haul yn an-niben yn
codi Efe a rwyfa ir golwg trwy'r awyr
ddu-dew, ac a wna amnaid ar y ddaear, a
llewyrch gwan ar ei belydr; eithr ni erys
ond ychydig, nes cilio o hono or golwg drachefn, fel pettei heb allu ymhyfrydu, wrth wynebu ar y ddaear, neu 'n ofid ganddo
weled yr holl greadigaeth yn y fath anhunedd.
Ar Freuddwyd y Frenhines.
Wel dymma ddydd gaua
Wedi dyfod yn difa,
Pob petheu hawddgara yn y goror:
Yr heulwen ar wastad
Sydd wan ei thywynniad,
A'r eira oer ei wisgiad ar esgor.
Y cymmoedd cymmynt, eu tristweh trostynt,
Sydd yn rhuo a swn y rhewynt:
Ni seu defeidie, ar ben mynydde',
Gan y barig gwyn y bore;
Y gwartheg sydd yn gwrthod,
Mewn rhandir fod a rhyndod;
Mwy llesol ydyw'r llaesod,
Er gorfod byw yn gul.
Da fyddeu i ninne', yn awr Ange',
Fod ganddom noddfa dda ei chynneddfe;
Dyna aua, pan fo reittia,
Wrth Greawdwr a'n gwareda:
Ieuengetyd cofiwch chwithau,
Na's gwyddoch mwy na minnau,
Na chlywir swn y clychau
Cyn Clammau'n canu ein clul!
Gan fod y gauaf yn dymmor tymmhestlog, pan fo 'r hin yn galed, i beri
llymdra ar y ddaear, ac amryw golledion trymion, yn enwedig am ddefaid, pan na
allant ymborthi ar wellt y ddaear, gan yr
eira yn ei gorchguddio hi; a hwythen
hefyd eu hunain yn y man, yn cael eu
claddu tan y lluwch. Neu pa gyfyngder
bynnag trwy ystormydd a dryccin, a ddigwyddo i'n rhan yn y tymmor hwn: Etto
dymma ein cysur a'n cynhaliaeth ynghanol pob twrf a therfysg; sef, fod ganddom Geidwad hollalluog, fod ganddom
yr Arglwydd yn Dduw i ni, yr hwn sydd
yn rheoli ac yn llywodraethu pob peth yn
y nefoed a'r ddaear. Efe sydd yn
rhoddi gwlaw ar wyneb y ddaear, ac yn
danfon dyfroedd ar wyneb y meusydd,
Efe a ddywed wrth yr eira, bydd ar y
ddaear. A'i wynt y rhydd Duw rew, a
lled y dyfroedd a gyfyngir. Efe sy'n
gwneuthur y cymmylau yn gerbyd iddo,
ac yn rhodio ar adenydd y gwynt. Rhai
a ddywedant mae 'r haul yw 'r achos o
wynt, eraill mai 'r planedau: gan gyfrif y
dwyreinwynt ir haul, a'r gogleddwynt i
Jupiter. Ond fe ddywed yr ysgrythur
mai Duw iw gwneuthurwr y gwynt. Yna
y cododd efe ac y ceryddodd y gwyntoedd
a'r môr, a bu dawelwch mawr. Oerfel ac
eccrwch y gwynt hefyd sy'n peri rhew.
A'i wynt y rhydd Duw rew, a'r dyfroedd
a guddir megis a charreg. Y cymmylau ynddynt eu hunain, ydynt deneuach na'r
dwfr y maent yn ei gynnal; etto yn fwy o
drwch na'r awyr, ym mha un yr ym ni yn
anadlu. Gwelwn yma mor fawr yw
gwrthieu 'r Arglwydd, yr hwn sydd yn
rhwymo 'r dyfroedd yn ei gymmylau; ac
er bod y gwynt yn eu chwythu a'u gyrru
yn ol ac ymlaen, er hynny nid ydyw 'r
cwmmwl yn hollti danynt hwy. Eira
medd un ydyw 'r tarth lleithig, yr hwn
sydd yn codi i fynu o'r ddaear, i ganol yr
awyr; lle y tewychir ac y troir ef yn gwmmwl gan oerfel; ac oddiyno y disgyn i lawr
drachefn megis tuswau o wlân, nis iddo
hilio 'r ddaear: Yr hwn sydd yn rhoddi
eira fel gwlan. Er ei fod ynddo ei hun
yn anian cer, etto wrth ei ffurfio yn yr
awyr ag sydd (yn ol tyb rhai) yn agos ir
ddaear; mae 'n peri bod ynddo fwy o glaiarwch a'i fod yn disgyn mewn rhai
gwledydd poethion megis Tartaria, pan
fo 'r haf wresoccaf. Ac er bod yn hawdd
gan eira doddi wrth wrês, etto mynydd
Etna, yr hwn sydd a rhiw gwrr iddo yn
wastad yn fflammio o dân angherddol;
eithr ei goppa a guddir ag eira bob amser.
Y cenllysg sydd ynghylch o'r un sylwedd
a dechreuad a'r eira; ond ei fod yn tarddu
oddiwrth darth sydd dwymnach; ac yn ei
ddisgynniad i lawr gan oerfel, mae'n rhewi yn gerrig bychain o ia. Gwlaw sy'n tarddu oddiwrth leithder neu wlybaniaeth y tir â'r môr; ac a dderchefir i
fynu ir awyr, gan wrês yr haul, lle y mae'n ymgymmysgu ac yn troi'n gwmmwl; act
yn ol hynny wrth ewyllys y goruchaf, a
ymollwng i fwrw i lawr drachefn, yn
gawodydd diferllyd o wlaw ar y ddaear.
Wel dymma rannau ei ffyrdd ef, ond mor
fychan ydyw'r peth yr ydym ni yn ei
glywed am dano ef! O ein dedwyddwch
ni Gristnogion, fod ganddom y fath
Dduw iw addoli, ac i fyfyrio arno! rhagor
y Cenhedloedd oedd yn y tywyllwch gynt:
rhai yn addoli'r haul, eraill y lleuad, ac
amryw greaduriaid eraill megis duwiau.
Nid oedd ganddynt hwy ond y creadur,
ninneu sydd ganddom y Creawdwr, yr
hwn sydd fendigedig yn dragywyddol.
Pa gyfyngder bynnag gan hynny y bo'mi
ni ynddo, etto dedwydd ydym pedfaem
yn credu ac yn ystyried, mai Duw sydd
noddfa, a nerth i ni, cymmorth hawdd ei
gael mewn cyfyngder. Am hynny nid
ofnwn pe symmudai y ddaear, a phe
treiglid y mynyddoedd i ganol y môr: Er
rhuo a therfysgu o'i ddyfroedd, er crynu
o'r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef.
Ar Grimson Felfed.
Duw rhadol dy fawrhydi
Aneiri sydd yn Arwydd,
Mai ti ymhob cenhedlaeth
Yw'r unig bennaeth beunydd,
Nid oes na ha na gaua,
Na rhew nac eira garw,
Yn dyfod ond trwy wllys
Daionus iawn dy enw.
Dy ffordd sydd yn y corwynt.
Fe ddengys y deheuwynt
A'r gogleddwynt d'wrthiau glan:
Tydi a donniau d'enw
Sy'n tanu rhew fel lludw,
A'r eira gloyw fel y gwlan:
Tydi sy'n gwlawio or nefoedd,
I beri ir aberoedd,
Lifo 'n llynnoedd ymhob lle:
Tydi sydd or dechreuad,
Yn llywio haul a lleuad,
Er d'ioni yn wastad,
Dan y ne'.
Wrth bwy gan hynny un ennyd
Mewn cynfyd i mae cwynfan,
Am wared o bob trallod
Duw hynod ond dy hunan.
Nyninnau sy 'n rhyfygu
Deusyfu am iti ein safio,
Oddiwrth yr holl ystormydd.
I'n ceurydd sydd yn curo.
Ein deiaid wedi eu difa,
Yn yrroedd sydd dan eira;
Dwin yw eu claddfa dan y clawdd:
Ac oni thry 'n fwy tirion,
Bydd llydan iawn golledion,
I'r fro hon na fwria yn hawdd,
Os gweli yn dda rhag hynny,
Natturiol feiriol 'foru,
O Dad anwylgu dod i ni:
Ond gwneler yn ol d'wllys,
Gwna ninneu yn fodlonus,
I'th anrhydeddus wrthiau di.
Megis y mae rhew ac oerni yn llâdd. ac yn difetha chwynn y ddaear amser gauaf; fellu croesau a thrallodion y byd hwn, sy n' mawrhau llawer ar drachwantau ac ynfydrwydd ynghalon Dyn. Y tir caled afrywiog weithiau a feddalhâ riw ychydig yngwres y dydd; eithr pan elo 'r haul unwaith drosto a machlud, buan y try yn ei ol, iw hen galedrwydd cyntaf: Fellu calon dyn; er iddi unwaith gael ei meddalhau gan edifeirwch, etto buan y try yn garreg oddieithr i haul cyfiawnder dywynnu arni yn wastadol.
Pan fo'r Arglwydd yn câu'r ffurfafen a chymmylau, a'r wybr gymmysglyd uwch ben, yn fawr ei therfysg a'i chynnwrf, a'r cymmylau du-dew yn dechrau gollwng i lawr eu llifeiriant, yn gawodydd o wlaw, eira a chenllysg: y pethau hyn a eill ddwyn i'n côf, yr erchyll a'r ofnadwy dymmhest loedd ei lid a'i ddigofaint ef, yr hyn a dywelltir ar yr holl rai annuwiol, yn niwedd y byd. Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw aswy, Ewch oddiwrthyf, rai melltigedig, i'r tân tragwyddol, yr hwn a barottowyd i ddiafol a'i angylion.
Yn gymmaint a bod y nôs y gauaf yn hir, a'r hîn yn hyll ac anghynfforddus; ystyriwn fawr ddaioni 'r Arglwydd, yn ordeinio lleuad a ser yn y ffurfafen i lewyrchu ar y ddaear, ac i oleuo ei thrigololion. Pan edrychwyf ar dy nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a'r ser, y rhai a ordeiniaist. Y lleuad a'r ser i lywodraethu 'r nos; canys ei drugaredd sydd yn dragywydd.
Y lleuad hardda ei llewyrch—dirion,
Dyro i ni gynnyrch,
Goleuni, i geulennyrch,
Y byd hyll, tan dywyll dyrch.
Mor hyfryd dy belyd' y bydd,—tyner,
Yn tanu drwy'r gwledydd
Llinos aur y lliw-nos sydd.
Yw lleuad ein pen llywydd.
Y lleuad yw 'r lleiaf a'r nesaf ir
ddaear o'r holl oleuadau eraill; yr hon
hefyd sydd yn derbyn ei goleuni gan
mwyaf oddiwrth yr haul; ac wrth hynny
yn cysgodi 'r Eglwys, yr hon sydd yn derbyn ei holl brydferthwch a'i gogonian oddiwrth Iesu Grist, haul Cyfiawnder.
Ei maint sydd beth llai na'r ddaear, ai
phellder oddiwrthym ni, sydd dros bedwar-can-mil o filldiroedd. Pellder yr
haul oddiwrth y ddaear, sydd ynghylch
deg miliwn; a'i led o'r naill ochr i'r llall,
yn wythgan-mil o filldiroedd. Y ser
hefyd oblegid eu pelldra annychymmygol,
sydd yn dangos i ni megis gwreichion;
eithr i mae pob un o honynt yn fwy na'r
ddaear; rhai gant o weithieu: a'r agosaf
o honynt yn uwch filoedd o weithieu na'r
haul: yn gymmaint ac y byddeu Ergyd.
Cannon, er myned yn llym, ynghylch
Saith-gan-mil o flwyddau, cyn cyrrhaeddyd yr agosaf o honynt. Mor fawr gan
hynny yw yr hwn sydd, yn eu cynnal oll,
trwy air ei nerth. Derchefwch eich
llygaid i fynu, ac edrychwch pwy a greodd y rhai hyn, a ddwg eu llu hwynt allan
mewn rhifedi: efe a'i geilw hwynt oll wrth
eu henwau; gan amlder ei rym ef, ai gadarn allu, ni phalla un.
Rhyfedd rhyfedd Arglwydd Iesu,
Mor anfeidrol yw dy allau,
Sy'n cynnal pob-peth or dechreuad;
O leied wyddom ni am danad!
Gelwi'r ser er amled ydynt,
Wrth eu henwau bawb o honynt;
Gostegau'r mor, pan glywe, a'i gynnwr
Unwaith eiriau ei wneuthurwr.
Arglwydd beth yw dyn it gofio.
Chwaith na meddwl fyth am dano:
Ond dyn a fynnit wedi'r cyfan,
Er iddo gostio i ti dy hunan.
Daliwn sulw ar ddyddiau byrrion y gauaf; tebyg ydynt i amser pob Cristion yn y byd presennol: canys y dydd nid yw y pryd hynny ond prin gwawrio, nis iddo ddechrau tywyllu yn ei ol. Fellu nid yw dyn ond megis gwneuthur ymddangosiad yn y byd; ac yn ddisymmwth efe a ddi- flanna ymaith o'r golwg, fel na welir ei wedd mwyach. Dyn sydd debyg i wagedd; ei ddyddiau syd fel cysgod yn myned heibio. Ac fel y mae'r dydd yn arwyddo 'r bywyd trancedig hwn; fellu hefyd y mae 'r noson hir dymmhestlog sydd yn canlyn, yn arwyddo gwêdd a meithder tragwyddoldeb o drueni yn y byd a ddaw. Fe ddywedir fod rhai o'r Merthyron gynt, yn cael eu taflu allan o dai dros nos yn noeth lymmun i ganol yr oerfel; ac yn y bore cael eu llosgi â thân. Wele yr oedd y tormentau hyn yn dost, eithr nid cyffelyb ir hyn a deimla y rhai colledig, yn y Tophet diwaelod; Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na 'r tân yn diffodd.
Ar y Fedlau fawr.
Mae yn y gauaf ini gyweth,
Ddi ddistawrwydd o dda ystyrieth,
Sydd heleth iawn o hyd:
Ei ddyddiau byrrion a rydd arwyddion,
O helynt gwaeledd pob trigolion,
Tra bon yn mynd trwy'r byd.
Amser gauaf ymhob lle,
Yr haul sydd dene' ei d'wnniad:
Y seintiau yn amherffaith sydd,
Nis delo eu dydd diweddiadd,
N'ol hynny, cant d'wnnu,
Heb d'wllu fyth eu dydd:
Na machlud, haul hefyd,
Eu gwynfyd dan riw gudd.
Ond ti sy'n hoffi mewn drygioni,
Cofia 'r hir nos fawr ei hoerni,
Sy'n peri t'wllni ir tir.
Mae ganddi wyneb tragwyddoldeb,
O drueni iti yn atteb,
Mewn undeb mawr yn wir.
Er cael nos gauaf ser yn rhad,
Neu leuad i'th oleuo;
Nid oes yngwlad y Fagddu fru,
Ond caddug du i'th cuddio:
Gan hynny, gad bechu,
Heb oedi o'r neulltu'n awr;
Cei oleu cu heulwen,
Gwlad Gosen glud ei gwawr.
TALU RHENT.
Un o ofalon pennaf y Tenant drwy'r flwyddyn yw, edrych am foddion ac ymbarottoi erbyn diwrnod talu rhent: canys mae 'n gwybod y gelwir ef ymlaen y pryd hwnnw; ac oni bydd iddo ef ympirio, bydd mewn perigl o anfoddloni ei feistr ac wrth hynny, peri iddo ei daflu allan o'i dyddyn neu dy, a'i osod i erall ei well: ni thal iddo hel esgusodion, ac addaw talu yn ôl llaw pan allo, canys ei feistr ni erys wrtho.
Yn awr gwybydded pawb o honom mai tenantiaid ym i Dduw, yn preswylio ar y ddaear; a bod y dydd yn nesau pan elwir ni y mlaen i roddi cyfrif am y defnyddiau a wnaethom o'r holl dalentau a osodwyd yn ein llaw. Yna 'r hwn a fu ddiwyd a ffyddlon yn gwasanaethu Duw ar y ddaear; dywedir wrtho "Da wâs da a ffyddlon, dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." Eithr am y gwâs diog anufydd efe a ddywed, "Cymmerwch y talent oddiwrtho, a bwriwch allan y gwâs anfuddiol i'r tywyllwch eithaf."
Duw pa fodd y meiddia 'i 'mpirio,
Ger bron dy frawdle, heb fy ngwisgo,
A'th gyfiawnder, gwedi 'ngolchi,
Yn dy Waed oddiwrth fy mrynti.
Atteb droswyf f' Arglwydd Iesu,
Yn yr amser cyfyng hynny;
Onite mi wm y derfydd,
Am fy enaid yn dragywydd.
Mae 'n ol i'r duwiol ar dirdedwyddwch,
Da iddo pan elwir:
A'r bydol ni arbedir,
O'r farn eiff, dan fwrnio'n wir!
CYFFELYBRWYDD HELYNT YR HWSMON, I
FYWYD Y GWIR GRISTION.
Gwaith hwsmon, fe addefir gan bawb, sydd boenus a lluddedig; a'i drafferthion a fyddant yn amlhau beunydd: pan ddarfyddo un gwaith, dyna 'r llall yn dywad ar ei gefn. Pob tymmor yn y flwyddyn sy'n dwyn llafur a thrafferthwch iddo gyd ag ef. Weithiau y ceir ef yn ei faes, dro arall yn ei ysgubor; ac y mhob un ond odid yn ddigon dygyn arno: weithiau 'n brysur yn trin ei 'nifeiliaid, hyd nad oes ganddo fawr o amser i edrych o'i gwmpas a segura, os ceisia efe gadw pob peth yn y fath drefn ag y bo yn gofyn. Dyn a a allan i'w waith, ac i'w orchwyl hyd yr hwyr. Trwy chwys dy wyneb y bwyttei fara, hyd pan ddychwelech, i'r ddaear.
Tebyg i hyn yw gyd a'r gwir Gristion: Ei ddyddiau sydd lawn helbul, a nosweithiau blinion a osodwyd iddo. Rhaid iddo fod yn wresog yn yr Yspryd, yn gwasanaethu yr Arglwydd. Yn gweddio yn ddibaid, ac ym mhob dim rhoddi diolch. Bod yn ddiwyd i wneuthur ei alwedigaeth a'i etholedigaeth yn sicr.
Tan y Gyfraith, Duw sy'n gwahardd offrymmu y falwoden a'r asyn, a than yr Efengyl, ffiaidd ganddo broffeswyr diog a marwedd. Y cyfryw rai mae'n bygwth eu chwydu allan o'i enau. Gorchmynnir offrymmu'r arrennau a'r gwêr sydd arnynt, yn boeth offrwm ar yr allor, ger bron yr Arglwydd i ddangos ei fod ef yn caru gwirionedd oddimewn ac na lesa rhith dduwiol, a ffyrf allanol yn unig, mewn dyledswyddau Crefydd Gristnogawl.
Yr hwsmon, yn ol ei wisgo allan gan waith, oedran a gwendid corphorawl, a orfydd iddo lawer o ddyddiau roddi heibio'r gwaith, cyn rhoi i fynu yr yspryd: Eithr yr hên gristion a flodeua fel palmwydden, ac a gynnydda fel cedrwydden yn Libanus. Y rhai a blannwyd yn nhy'r Arglwydd, a flodeuant ynghynteddoedd ein Duw. Ffrwythant etto yn eu henaint; tirfion, ac iraidd fyddant.
YMDDIDDAN
Ar Falldod Dolgellau.
HWSMON.
Gwrando gristion, air gan hwsmon,
Sy'n llawn trallodion llwyr:
Milain 'meulyd am fy mywyd,
Riw hyd rwy fore a hwyr,
Nid oes terfyn un pen i'r flwyddyn,
Ar fy ngorchwylion digon dygyn.
Sy'n llinyn yn fy llaw:
Pan fwy mron gorphen, un gwaith yn llawen,
Y llall a gyfyd ar ei gefen,
Heb ddiben arno a ddaw.
CRISTION.
Tebyg ddigon wyd ti 'r hwsmon,
I gristion tan ei groes;
Amal loese' sydd iddo ynte,
Cyn Ange' yn ei oes.
Nid oes llonyddwch i'w gael yn n'ryswch,
Oer a niwliog y'r anialwch,
Na heddwch iddo o hyd:
Pan gaffo unw'eth, fuddugolie'th,
Ar ryw elyn, fe ddaw eilw'eth,
Riw bembleth yn y byd.
HWSMON.
Swydd anniofal, er bod yn ddyfal,
Yn amal, yw f'un i:
Methu cysgu, yn fy ngwelu,
A hynny ganddi hi.
Weithieu'n hindda, o'r hawddgara;
Daw gwlybaniaeth y noswaith nesa,
I beri dalfa dost:
Colli ar droue' wair ac yde';
A'm da un foddion, mineu fydde,
Uwch eu penne' fel post.
CRISTION.
Fy helynt innau, sy'n llawn newidiau.
Un modde ar brydie er braw:
Os haul a chwareu arnaf weithiau,
Cymmylau'n ddiau 'ddaw.
Pan fo 'nghalon fel gardd ffrwythlon,
Fe ddaw ystormydd merydd mawrion,
Llym hirion i'm llwmhau:
A dymma'r gofyd, sy'n cloi f' Anwylyd
Oddi wrth fy enaid, nad allai un funyd
Yn hyfryd ei fwynhau!
HWSMON.
Rhaid yw immi, rwydd ymroddi,
I boeni tippyn bach:
Daw henaint etto, pan orfyddo,
I weithio i'm ganu yn iach.
Pe gallwn gasglu peth cyn hynny,
Yn fy nghysgod wrth ymwasgu,
A gyrru tra fo gwiw:
Mi gawn gymmeryd, fy esmwythyd,
Yn fy niwedd, cynn fy newid,
Heb benyd tra fwy byw.
CRISTION.
Ar ddaear ymma, na freuddwydia,
Am orphwysfa ddyn mor ffol:
Y drigfa orau, uwch ein pennau,
I:'n heneidiau sydd yn ol.
Dyna'r bywyd, lle mae gwynfyd,
I bawb yn rhyddion, heb ein cyrhaeddyd,
A chlefyd fyth na chlwy':
Duw ro' yno, le i orphwyso,
I ti a minneu, rwy yn dymuno,
Heb orfod 'mado mwy.
DIWEDD.

HYMNAU
NEWYDDION:
YNGHYD AG
YCHYDIG BENHILLION
AR YR
AMSERAU;
A
RHAI GWERSI,
O Erfyniad am Ddiogelwch i FRYDAIN, &C.
ESAY xlii, II, 12.
Caned preswylwyr y graig; bloeddiant o ben v mynyddoedd:
Rhoddant ogoniant i'r ARGLWYDD, a
mynegant ei fawl yn yr Ynysoedd.
JEREMI XXIX, 7.
Ceisiwch hefyd heddwch y ddinas....a gweddiwch ar yr
ARGLWYDD drosti hi; canys yn ei heddwch
hi y bydd heddwch i chwithau.
CAERLLEON:
ARGRAPWYD GAN W. C. JONES A T. CRANE.
1797
HYMNAU NEWYDDION.
HYMN I.
Cwynfan y Credadyn o herwydd llygredigaethy Byd,
a'i gysur yn nhrugaredd a ffyddlondeb Duw.
O NA bai fy mhen yn ddyfroedd,
A'm llygaid yn ffynhonnau llawn;
Fel yr wylwn dros farwolion,
O'r boreuddydd hyd brydnawn!
O na byddai mewn anialwch,
I'm letty y fforddolion draw,
Modd na finid f'enaid gwirion,
Gan annuwiolion ar un llaw.
Gwae i mi fod yn preswylio,
Mewn rhyw ardal d'wylla o'r byd;
Ac yn cyfanneddu yno,
Lle mãe gofid imi o hyd!
Pechaduriaid â'u cableddau,
A'u hynfydrwydd nos a dydd,
Megis a chleddyfau llymmion,
Yn trywanu 'nghalon sydd.
O na bai 'mi esgyll c'lommen,
Yna yr ehedwn fry!
Yno hefyd y gorphwyswn,
Tan gysgod Craig yr oesoedd gu:
Nes el heibio bob rhyw aflwydd,
Sy 'm cyfarfod ar y llawr;
Gad i'm henaid lechu beunydd,
Yn dy glwyfau IESU mawr.
Dyna'r man nid ofnaf niweid,
Dyna'r lle a esmwytha nghur;
Dyna unig feddyginiaeth,
Calon galed fel y dur:
Cael datguddiad o dy glwyfau,
A'th ddioddefaint ar y groes,
Hyn a wna i'm henaid athrist,
Lawenhau dan bob rhyw loes.
O Ddiddanydd nefol tyred,
A datguddia imi ar frys;
Ai droswyf fi bu'r addfwyn IESU,
Yn colli i'r llawr ei waedlyd chwys?
Ai er fy mwyn yn Gethsemane,
Mewn rhyw gyfyngder mawr y bu;
Pan y gweddiodd, "O bai bosib",
Fyned heibio'r cwppan du"?
Pa'm nad trosof fi, bechadur,
Pan mae'n eglur i fy Nuw,
Roddi ei Fab ei hun i ddiodde,
Dros fyrddiyne o ddynol ryw:
Dyna ei neges ar y ddaear,
Ceisio y colledig rai;
Dwyn yr afradloniaid adref,
Er mor amal yw eu bai.
Nid i alw y rhai cyfiawn,
Y daeth IESU GRIST i'r byd;
Ond i alw pechaduriaid,
I edifarhau bob pryd:
Edifeirwch wedi ei brynu,
A'i gyfranu yn rhad i ni;
Edifeirwch a maddeuant,
Trwy ddioddefaint Calfari.
Bellach, f'enaid, aros yma,
Ymlonydda wrth ei draed:
Gwna dy drigfan hyfryd beunydd,
Tan daenelliad pur ei waed:
Ni all angau niweid iti.
Ni all uffern fawr na'r bedd,
Dorri'r cwlwm rhwng dy Briod,
A thydi aeth fyth mewn hedd.
Dyma'r UN rwy'n mentro arno,
Doed a ddelo i fy rhan;
Mae ei fraich yn gadarn ddigon,
I'm dwyn o bob dyfnderau i'r lann:
Ac er rhif y temtasiynau,
Sy'n ymglymmu am fy mhen;
Yn ei Enw mi a'i gorchfygaf,
Ac a'u maeddaf oll, Amen.
HYMN II.
Teimlad o wendid, a grym Gelynion yn dufewnol
ac yn allanol.
GWAN ac eiddil wyf i ymdrechu,
A galluoedd uffern fawr!
Myrdd o elynion sy'n hiraethu,
Beunydd am fy nghael i lawr:
Dal fi ARGLWYDD, &c.,
A dy allu bob rhyw awr.
Amlder gwallt fy mhen yw'r nifer,
Yn fy nghasâu yn llidiog sydd!
Aflwydd," meddant, "a lyn wrtho,
Fe ddaw iddo ef ryw ddydd":
ARGLWYDD cynnal, &c.,
Fi, fel na ddiffygio'm ffydd.
Os gogwyddaf ronyn lleiaf,
Ar un llaw o ffordd y nef;
Pan wêl fy ngelynion hynny,
"O ein gwynfyd," fydd eu llef:
Tywys beunydd, &c.,
Fi yn dy ddeheulaw gref.
Ac os rhaid im' etto fyned,
Trwy ryw orthrymderau mawr;
Croes o' mewn, a chroes oddi allan,
I'm cyfarfod ar y llawr:
Gwedd dy wyneb, &c.,
Gad i mi fwynhau bob awr.
Byw yw'r IESU i eiriol drosom,
A byw hefyd fydd ei saint;
Ni wêl byd, er amled ydyw,
Ei drigolion y fath fraint:
Pwy a welodd, &c.,
Neu wêl etto fyth ei maint!
Mi ro'm pwys a'm goglyd arno,
Nes y delo'r dydd i ben;
I fy enaid gael myn'd arno,
I breswylio uwch y nen:
Tra bwy yma, &c.,
Oddi ar fy yspryd difa'r llen!
HYMN III.
Deisyfiad am gyfarwyddyd a chymmorth
Dwyfol.
DYSG imi ARGLWYDD gerdded,
'R hyd uniawn lwybrau ffydd:
A gwna o bob cadwynau,
Fy nhraed yn hollol rydd:
Fel 'rhedwy'n ffyrdd dy ddeddfau,
Gan gyrchu at y nôd;
A gadael pob rhyw wagedd,
A wela i is y rhôd.
Mae Satan i'm gwrth'nebu,
A phechod ar bob llaw;
I rwystro im' etifeddu
Y tir dymunol draw:
O IESU tyr'd i'r frwydyr,
Ymddangos ar fy rhan;
'Does ond dy Hun all gynnal,
Fy enaid llesg i'r lann.
Wrth deimlo grym y rhyfel,
I'm herbyn yn cryfhâu;
A gweled fy ngelynion,
Bob dydd yn amalhâu:
Pa fodd y gallaf sefyll,
Oni ddeli fi yn dy law:
'Does arall ddim a'm nertha,
I fyn'd tu a'r Ganaan draw.
O bydd yn gwmwl imi,
Rhag gwres yr haul y dydd;
A cholofn dân i'm harwain,
Y nos mewn anial prudd:
Pereiddia ddyfroedd Mara,
Er chwerwed yw eu blas:
A phortha'm henaid beunydd,.
A Manna pur dy Ras.
Rho imi cyn ymadael
Wel'd, iti 'ngharu yn rhad;
Ac edrych o ben Nebo,
Ar gyrrau'r hyfryd wlad;
A theimlo grym dy gariad,
Yn nyfnder angau loes;
Tan ganu a rhyfeddu.
Gwna im' derfynu f'oes.
HYMN IV.
Gweddi am amlygiad o Ddioddefiadau CRIST,
a chymhwysiad o hono.
O TYN
Y gorchudd yn y mynydd hyn;
Llewyrched Haul Cyfiawnder gwyn,
O ben y bryn bu addfwyn OEN,
Yn dioddef dan yr hoelion dur,
O gariad pur i mi mewn poen.
P'le, p'le
Y gwna i fy noddfa dan y ne'?
Ond yn ei archoll dwyfol E;
Trwy bicciell gre' y waywffon
Agorwyd ffynnon i'm glanhâu;
Rwy'n llawenhâu fod lle yn hon.
Oes, oes
Rinwedde' a grym yng ngwaed y groes,
I lwyr lanhâu holl feiau f'oes:
Ei ddwyfol loes, a'i ddyfal lef,
Mewn gweddi drosof at y TAD,
Yw fy rhyddhad, a'm hawl i'r nef.
Golch fi
Oddiwrth fy meiau mawr eu rhi,
Yn afon waedlyd Calfari:
Sydd heddyw'n lli o haeddiant llawn:
Dim trai ni welir ynddi mwyį
Hi bery yn hwy na bore' a 'nhawn.
Pa bryd
Ca i ddifa'm hanwiredde i gyd,
A chongero Satan, cnawd, a byd?
Rho arfe o hyd yr yrfa hon,
Am f'enaid eiddil nos a dydd:
A dyro i'm ffydd dy air yn ffon.
Trwy ffydd,
Wel, treiddia ymlaen fy enaid prudd,
Er amled ydyw'r rhwystrau sydd,
O ddydd i ddydd i'th lwfrhâu:
Er bod y dyrus dir yn faith,
Mae pen y daith yn agoshâu.
Byw, byw
Yng nghymdeithas bur fy Nuw,
Fy nefoedd tra fwy yma yw:
A gadael pob rhyw chwant ar ol;
A cherdded llwybrau 'Mhriod cu,
Nes gorphwys fry byth yn ei gôl.
HYMN V.
Golwg ar gariad a gofal CRIST tros ei Eiddo.
ARNAT IESU rhof fy mhwys, a'm hymddiried;
Ti o gyfyngderau dwys, all fy ngwared:
Pan bo'm henaid yn llesgâu, ac yn c'rwydro,
Mae dy gariad yn parhau, yr un etto.
Dyma gariad gwych ei sail, heb ei gymmar;
Ac ni welir iddo ail, ar y ddaear:
Pan ddel yn ei nerth a'i rym, i'm sirioli,
Y mae llais f'euogrwydd llym, yn distewi.
Anorchfygol yw dy ras, yn ei weithred,
Sydd yn maeddu llygredd cas, er cadarned;
Ni cheiff pechod o un rhyw, arglwyddiaethu
Ar neb o waredigion Duw, brynodd IESU.
Dychwel weithian ARGLWYDD da, ein caethiwed;
Llygredd ynom marwhâ, ac na arbed:
Doed y Jubil fwyn i ben, i blant Seion,
I deithio ffordd y nefoedd wen, yn fwy cyson.
Y mae maglau lawer mil, ar ein llwybrau:
Pwy a'i gwel, drwy ffordd mor gul, ben y siwrnai?
Rhosydd Moab sy i fyn'd trwy, ar lorddonen;
Os cawn IESU yn flaenor mwy—byddwn lawen.
HYMN VI.
Pob gwrthddrych yn anheilwng o sulw a serch
yr Enaid, ond CRIST yn unig.
EDRYCH yma, edrych draw,
Ar y dde' a'r aswy law:
Etto ni wêl f'enaid trist,
Neb yn debyg i fy NGHRIST:
Nid oes gwrthddrych is y ne',
A'm gwir foddia ond Efe.
O na chawn i dreulio f'oes,
Yn myfyrio am ei groes!
Gwel'd yr IESU ar y pren,
Yn gogwyddo droswy'i ben;
Ac yn dweud "Gorphenwyd 'nawr,
Gwaith yr Iachawdwriaeth fawr."
Daccw'r IESU yn y bedd,
A marwolaeth ar ei wedd:
Daccw foreu'r trydydd dydd,
Pan ro'wd T'wysog nef yn rhydd:
Ni all ange' ei attal mwy;
Fe roes iddo farwol glwy.
Yn y nef y mae E'n awr,
Yn eiriol troswyf ar y llawr:
Pan bwy'n crwydro yma a thraw,
Dychwel fi yn ol â'i law:
Wedi i'm llygredd dynnu o'r gwraidd,
Dwg fi adref at ei braidd.
HYMN VII.
CRIST yn Feddyg, ac yn Waredwr hyd yr
eithaf, &c.
IACHAWDWR dynol ryw,
Fy meddyg unig yw;
Er maint fy mhla, fe lwyr iachâ fy mriw:
Er cael yn yr anialwch maith,
Fy mynych glwyfo ar fy nhaith;
Pan ddelwyf i'r Iorddonen, fe orphen arna'i waith.
Fy Mhriod yno a ddaw,
I'm dwyn i'r ochor draw;
Caf wneud fy nyth, byth, ar ei ddehau-law:
Anghofiaf fy ngofidiau mwy,
A'm cyfyngderau aethum trwy;
Fy ngwaith a fydd ei ganmol, byth, am ei farwol glwy.
Yn haeddiant dwyfol glwy,
Bydd fy ngorfoledd mwy;
Rhai gyfiawnhâ, pwy a'u condemnia hwy?
Bu farw IESU ar y groes,
Cadd dros ei etholedig loes,
Na anghofir yn dragywydd; a'r ufudd iawn a roes.
Dioddefaint f' ARGLWYDD CU,
A faedda elynion lu;
O flaen ei wedd, f'eilynod fliedd ffŷ:
Ei adgyfodiad yw fy ngrym,
Ac angeu fy holl bechod llym;
Pan ddel yn ei frenhiniaeth, ni sai'm didduwiaeth ddim!
Dy gwm'ni ARGLWYDD dod,
Tra byddwyf yma yn bod;
'Does ond dy hun a'm tyn i at y nod:
Os ti ni'm cynnorthwyi'n glau,
'Rwy'n fuan iawn yn llwfrhâu;
O tyr'd ar frys f'Anwylyd, wawr hyfryd, mae'n hwyrhâu.
O cyfod nefol wawr,
Cyn myn'd o'm haul i lawr;
I rydd-did clir, 'rwy'n wir am ddod yn awr:
Aed heibio fy nghaethiwed blin,
Ac arnaf doed rhyw nefol hin;
A'm hyspryd llonna'n wastad, a'th gariad sydd fel gwin.
Ffarwel 'rwy'n roddi yn awr,
I eilynod gwael y llawr;
Rhowch le'n ddi wâd, i gariad IESU mawr:
Fy Mhrenhin a'm Hoffeiriad gwiw,
A'm Prophwyd i'm haddysgu yw;
Un o dragywyddol Hanffod, odd'uchod, a'r gwir DDUW.
Molianned nef y nef,
Ei ENW SANCTEDD EF!
A doed yn awr, trigolion llawr a'u llef:
I'r TAD, a'r MAB, a'r YSPRYD GLAN;
Y TRI mewn HANFOD di wahân:
Cyd unwn yn wastadol, i roi'r DRAGWYDDOL GAN!
HYMN VIII.
PENHILLION ar yr Amserau presennol, 1797.
BRUTANIAID ymbar'towch,
O ffordd y dialedd dowch;
Mae'n bryd i chwi, i'r nef roi cri;
O bob trueni trowch.
Mae drygau oddi draw,
A'u lleisiau'n awr gerllaw;
A'r farn a fydd, yn nesu sydd,
Pwy wyr y ddydd y daw.
Arwyddion hon, ar ddaear gron,
Sy'n llawnion ym mhob lle:
Anwiredd hŷ, fel diluw du,
'N cynnyddu sy',—a'r wialen frŷ,
Ni thry o wlad na thre.
Tyr'd Frydain uchel fryd,
I'r llwch cyn delo'r llid;
A'th blant bob rhai, doent yn ddi-drai,
I ado eu bai'n y byd.
Mae Crist ar orsedd gras,
Am gymmod heddyw a'i gas;
Cant bardwn rhad, a Duw yn Dad;
O'i hedd rhydd brofiad bras.
Efengyl fawr, a ddaeth i'r llawr,
Yn swnio'n awr y sydd:
Pob graddau clowch, o gwsg deffrowch;
I'r noddfa trowch, drwy ffydd, a ffowch;
Dowch, dowch, can's dyma'r dydd.
Dydd o lawenydd mawr,
Er holl ofdiau'r llawr;
Diangfa glyd, o boenau'r byd;
Sŵn iechyd sy ini'n awr.
Maddeuant angau'r groes,
Felysa bob rhyw loes;
Mewn trallod hir, neu wasgfa'n wir,
Ei fath ar dir nid oes.
I deimlo grym, y cleddyf llym,
Os ydym yn nesâu:
Os gelynion gâd, a dyr i'n gwlad,
I wneuthur brâd, daw llawn wellhâd,
O gariad nef i'n gwae.
Awn bellach yn gyttûn,
At orsedd grâs heb grŷn;
Gan godi ein llef at Frenhin nef;
Fe'n gwrendy Ef ni'n un:
Na boed rhaniadau mwy,
Na phlaid mewn gwlad na phlwy;
Ond undeb bryd, er bod ryw hyd,
Heb weled hawddfyd hwy.
Ein pechod mawr, sy'n tynnu i lawr,
Ein barnau'n awr o'r nen:
Tir Brydain rydd, tan gwmwl sydd;
Tra paro'n dydd, caethiwed prudd,—
Duw arnom bydd yn BEN!
HYMN IX.
GWERSI o Erfyniad am Ddiogelwch i Frydain,&c.
ARGLWYDD edrych yma i lawr,
Amgylchyna Brydain Fawr;
Cofia d'etifeddiaeth ddrud,
A ddewisaist cyn bod byd:
Anfon ini ymwared rhad,
Ninneu'th folwn di ein TAD.
Plant afradlon ŷm ni i gyd,
Haeddu dioddef tan dy lid:
Llwythog iawn o bob rhyw fai,
A chamweddau heb ddim trai:
Wedi ein harbed lawer pryd,
Etto'n pechu ym mlaen o hyd.
Bellach, ARGLWYDD, at bwy 'r awn,
I gael rhad faddeuant llawn:
Gennyt ti mae geiriau'r Nef,
Gwna i ni wrando ar eu llef:
Dwg ein hyspryd at dy draed,
Golch ni yn dy werthfawr waed.
Agor ffordd i gyrrau Ffraingc,
I'r Efengyl beraidd gainge:
Aed y son am IESU GRIST,
Trwy ei holl ardaloedd trist:
Pa'm bydd yno neb yn byw,
Heb adnabod y gwir Dduw.
Syrthied eu creulondeb mawr,
A'u didduwiaeth oll i'r llawr:
A phrysured boreu ddydd,
I droi miloedd i'r wir ffydd:
Ffydd yn haeddiant MAB-Y-DYN,
'Lanwo Ewrop oll yn un!
Ti addewaist deuai i ben,
Amser hyfryd is y nen:
Pan na chlywer dim yn hwy,
Sôn am ryfel gwaedlyd mwy:
Ond pob cenedl yn gyttûn,
Yn derchafu TRI yn UN.
Och! pwy wêl y dyddiau hyn?
Sŵn y fro ar Seion fryn:
Yna y teifl i lawr yn lân,
Bob un ei eilun mawr a mân:
Yna y bydd llonyddwch hir,
I Frutaniaid yn eu Tir.
Er nad oes trwy'n oes i ni,
Ond blindere' i'n bronne' heb ri:
Rhyfel etto yn parhâu;
O na lonyddai i glêdd yn glau!
Nes del dyddiau hêdd i ben,
Dod amynedd, DAD—Amen.
DIWEDD.
CAERNARFON:
CWMNI Y CYHOEDDWYR CYMREIG, CYF.,
SWYDDFA "CYMRU."

Nodiadau
[golygu]
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.