Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)/Yr oedd dy gylch

Oddi ar Wicidestun
O leied a feddyli Gwaith Islwyn (Cyfres y Fil)
Dyffryn Galar
gan William Thomas (Islwyn)

Dyffryn Galar
Paham y cofiem

YR OEDD DY GYLCH.

YR oedd dy[1] gylch oddiarnom, draw yn nefoedd
Y byd meddyliol. Seren ym mhellafoedd
Y dwyfol a'r tragwyddol oet i mi,
Yn ymleihau i'r Duwdod byth-ddyddhaol fry.

Esgynnaist iddo 'n hollol yn y man
I'th rod dragwyddol yn ei lawnddydd can,
A digon oedd.
Tebygwn weithiau 'th fod
Yn gwawrio ar benrhyn pell o'm henaid, pell
Ym môr yr anherfynol, ac yn dod
I'm golwg eto â'r goleuni gwell.

Funudau dedwydd! Ac os breuddwyd yw,
O am freuddwydio mwy, nes gwawrio yn Nuw,
Y bore ddydd tragwyddol sydd a'i nawn
Yn Dduwdod llawn dywynnol, y ddwyfol bel yn llawn.

Chwef. 19. 1856.[2]

Nodiadau[golygu]

  1. Y Parch Morgan Howel,
  2. Gwel y Gwaith, tud. 616-617, le y darlunnir y pregethwr rhyfedd hwn yn llawn,—

    "Gwenai'r Awen yn ei arddull,
    Fflamiai'r seraff yn ei drem."

    "Ei effeith-lawn Anathema
    Greai arswyd drwy y fron;
    Ond ei adfloedd bêr,—Dihangfa!"
    A lonyddai arswyd hon."