Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Arhoswch Dipyn Bach

Oddi ar Wicidestun
Eisteddfod Ffestiniog, Sulgwyn, 1875 Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Y Ffasiwn

ARHOSWCH DIPYN BACH.

OS oes rhyw rai yn ameu
Ymysg y dyrfa lân,
Fod diffyg mewn testynau
I wneuthur pwt o gân;
Os credir gan rywun yn awr
Mai marw'r awen iach,
Gwrandewch i gyd a 'steddwch lawr,
Arhoswch dipyn bach,
Arhoswch dipyn bach.

Pan fyddo eisieu pwyllo,
Yn araf pia hi,
Cadd llawer un ei dwyllo
Wrth ruthro, ffwrdd a hi;
Os nad yw'r ffordd yn eithaf clir,
A chwithau'n eithaf iach,
Fe wella pethau cyn bo hir,
Arhoswch dipyn bach,
Arhoswch dipyn bach.

Pan ddelo rhyw chwedleuon
I ddisgyn ar eich clyw,
'Dyw coelio rheiny'n union
Ddim lles i undyn byw;
Anwiredd sydd yn tyfu'n hir,
Ar dafod llawer gwrach,
Cyn coelio'r un o'r rheiny'n glir,
Arhoswch dipyn bach,
Arhoswch dipyn bach.


Pan elo camgymeriad
Ryw dro rhwng dyn a dyn,
Nes byddo gwreichion cariad
Yn diffodd bob ag un;
Os penderfynwch yn y fan
I fynd at dwrne iach,
Cymerwch gyngor prydydd gwan,—
Arhoswch dipyn bach,
Arhoswch dipyn bach.

Pan ddelo rhyw ddieithrddyn,
O fab neu ynte ferch,
I geisio denu rhywun
Er dwyn y llaw a'r serch,
Dywedwch wrth y rhai'n i gyd,
Ieuenctid heinyf, iach,
" 'Dwy ddim am ddod ar hyn o bryd,
Arhoswch dipyn bach,
Arhoswch dipyn bach."

Mae'n bosibl mynd i nadu
Wrth ganu ar bob pryd,
Mae'n bosibl blino canu
Wrth ganu a chanu o hyd,
Y sawl sy'n disgwyl mwy yn awr
Ymysg y dyrfa iach,
Gwrandewch i gyd, eisteddwch lawr,
{Arhoswch dipyn bach,
Arhoswch dipyn bach.
Tach. 5, '71.