Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Cadw Dy Groen Yn Iach

Oddi ar Wicidestun
Nos a Dydd Yn Dangos Duw Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Perthynasau

CADW DY GROEN YN IACH.

A GYMI di gyngor gan lencyn o fardd,
Hen gyngor a gadd gan ei nain?
Mae'r cyngor diniwaid a rof yn gwahardd
I neb roi ei droed yn y drain;
Pan fyddo rhyw helynt yn codi'n y fro,
Prun bynnag ai mawr fo, ai bach,
Neu gweryl andwyol yn dyfod ryw dro,—
Wel, cadw dy groen yn iach.
Cadw dy groen yn iach
Dros ddigio dy ffrynd,
Wel, gad iddo fynd,
A chadw dy groen yn iach.

Mae bron bob cariadon, os carant yn iawn,
Yn ffraeo'n erwinol ar dro,
Danghosant eu natur—gwastraffant eu dawn,
I ladd ar eu gilydd o'u co';
Os daw un ohonynt, neu'r ddau, at dy ddor
I gwyno yn ddistaw bach, bach,
Wel, edrych mor wirion a draenog mewn dror,
A chadw dy groen yn iach.
Cadw dy groen yn iach
Dros ddigio dy ffrynd,
Wel, gad iddo fynd,
A chadw dy groen yn iach.

Mae ambell i wraig ac ambell i ŵr
Fel llafnau y siswrn o hyd,
A min croes i'w gilydd yn cadw'r fath stwr
Tra'r ant gyda'u gilydd trwy'r byd;

Mae'r siswrn yn torri pwy bynnag a ddaw
Cydrhwng y ddau lafn ennyd fach,
Gan hynny, ymgroesa, a saf ymhell draw,
A chadw dy groen yn iach.
Cadw dy groen yn iach
Dros ddigio dy ffrynd,
Wel, gad iddo fynd,
A chadw dy groen yn iach.

Pan wêl di gymdogion, 'run teulu, 'run wlad,
I gyd gyda'u graen yn lled groes,
Neu fab lled ystyfnig yn ffraeo â'i dad,
Neu fam gyda'r ferch yn ddi-foes,
Gad iddynt i'w hymladd hi allan i'r pen,
A chana yn ddistaw bach;
Atal dy dafod—arbed dy ben,
A chadw dy groen yn iach.
Cadw dy groen yn iach,
Dros ddigio dy ffrynd,
Wel, gad iddo fynd,
A chadw dy groen yn iach.
Medi 17, '73.