Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Can y Gweithiwr

Oddi ar Wicidestun
Gwlad Fy Nhadau Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Y Gwaredwr

CAN Y GWEITHIWR

WRTH fyned allan gyda'r wawr,
I ddechrau diwrnod Gwaith
A cholli chwŷs o awr i awr
Yng nghanol llafur maith,
Mor felus meddwl am y nos,
A thaflu'r arf i lawr,
A chwrdd â gwenau priod dlos
Ar ol y llafur mawr.

Mae cysur rhai mewn heulwen iach,
A blodau Ebrill cu,
Mae 'nghysur innau, bobol bach,
Mewn hirnos gaeaf du;
Cael tynnu 'nghadair at y tân
A chanu hwyr y dydd,
A'r cenllysg ar y gwydr glân
Yn gwneud cyfeiliant prudd.

Os bydd y daith dros fynydd mawr
Ynghanol gwynt a gwlaw,
O dan ruadau'r daran fawr,
A'r mellt yn gwau gerllaw,
Mae'n werth cael teithio oriau hir
Yng nghanol llaid bob llun,
Er mwyn cael gweled golau clir
Fy aelwyd fach fy hun.