Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Dwy'i Ddim yn Ianci Eto

Oddi ar Wicidestun
Myfanwy Y Glyn Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Berwi i Lawr

'DWY'I DDIM YN IANCI ETO

RWY' i wedi dysgu goddef row
Pan draw yng ngwlad yr Ianci,
A dysgu dwedyd anyhow
I guess trwy'n nhrwyn eleni
Rwy' i wedi mynd yn dene a main,
Fel pe bawn wedi'm rheibio,
Ond er yr holl arwyddion rhain,
'Dwy' i ddim yn Ianci eto.

Er dysgu gwneud pob peth o chwith,
'Run fath ag mae yr Ianci,
'Dwy'i ddim yn meddwl dysga i byth
Anghofio gwlad y cerddi;
Mae " Yankee-doodle " yn eithaf tôn,
Ond "Hob y deri dando"
Sy'n ddeng melusach i fy mron, —
'Dwy'i ddim yn Ianci eto.

Mi allais ddysgu'n ddigon rhwydd
I fyw ar oysters oerion,
A byw ar dwrci yn lle gwydd,
A lunch yn lle uwd rhynion;
Peth hawdd oedd dysgu taflu traed
I'r bwrdd 'rol darfod cinio,
Ond nid yw hynny'n newid gwaed, —
'Dwy' i ddim yn Ianci eto.

Mi ddysgais yfed dwfr a rhew
Wrth deithio mewn cerbydau,
Ond ddysgais i ddim mynd yn
dew
Wrth fwyta corn a falau;
'Rwy'i wedi dysgu sythu 'nghefn,
A chydig bach o frolio,
Er hynny, diolch am y drefn,
'Dwy' i ddim yn Ianci eto.