Gwaith Mynyddog Cyfrol 1/Ni Wn I Ddim Yn Wir

Oddi ar Wicidestun
Adferiad Iechyd Gwaith Mynyddog Cyfrol 1
Caniadau
gan Richard Davies (Mynyddog)

Caniadau
Pymtheg Mlynedd Yn Ol

NI WN I DDIM YN WIR.

(Efelychiad).

OEDD Gweno Jones yn eneth dlôs,
A geneth gall dros ben,
A bachgen hardd oedd Huw o'r Rhos,
Ond ddim mor gwic a Gwen;
"Pa sut mae'r galon, Huw, yn awr,
Gofynnai Gweno'n glir,
Ond dwedai Huw a'i ben i lawr,—
"Ni wn i ddim yn wir."

"Mae gennych gariad," meddai hi,
"Ond pwy yw honno, Huw?
Cael cwmni llanc mor bert a chwi,
Rhyw fraint ryfeddol yw;
Chwi ellwch gael, 'rwy'n siwr, yn awr
Eich dewis trwy y sir,
A chwithau'n fab i ŵr mor fawr,"—
"Ni wn i ddim yn wir."

"Mi ddwedsoch wrthyf fi ryw dro
Mai fi a fyddai'r un,
Ond 'rych chwi'n awr yn swil o'ch co'
Wrth siarad hefo mûn;
Dowch, Huw, a pheidiwch plygu'ch pen,
A thynnu gwyneb hir,
Gwnewch lygad siriol ar eich Gwen,"—
"Ni wn i ddim yn wir."


"Mae ffair ryw ddydd yn Llanbrynmair,
A ddowch chwi yno, Huw ?
Mae'n lle da iawn i siarad gair
Heb wybod i undyn byw;
A ddowch chwi i'm danfon gyda'r nos ?
Bydd goleu lleuad clir,
'Does fawr oddiacw i'r Rhos,—
"Ni wn i ddim yn wir."

"Mae chwedl ein bod ni ein dau
Yn mynd gyda'r trên yn llon,
I dref Machynlleth ryw ddydd Iau
I brynnu modrwy gron;
Ond nid yw hynny wedi'i wneud,
Chwi wyddoch hynny'n glir,
Dowch, Huw! Dowch, Huw! Wel, be'ch
chwi'n ddweyd?"
"Ni wn i ddim yn wir."

"O'r anwyl fawr! Rhag c'wilydd, Huw,
Fu 'rioed 'run fel y chwi,
Hen wlanen salaf sydd yn fyw
Yn torri 'nghalon i;
Nid oes un llanc, rwy'n dweyd yn syth,
Mor saled yn y sir,
Ddoi ddim yn agos i chwi byth,"—
"NI WN I DDIM YN WIR."