Neidio i'r cynnwys

Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Bodlonrwydd

Oddi ar Wicidestun
Cân y Pren Almon Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy

gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy

Braint henaint

Bodlonrwydd

Boddlonrwydd ddedwydd a ddwg—i'w pherchen
Hoff archwaeth ddi—gilwg;
Ni ymlyn hon, mae'n amlwg,
Wrth anghydfod drallod drwg.

Grasol gu radol garedig—yw hon
Yn ei hynt barchedig;
Duwies arail di—sarrig,
Fuddiol daith heb feddwl dig.

Puraidd a mwynaidd ei moes—i gynnal,
Ag enaint rhag duloes,
Mewn hedd deg rinwedd di groes,
Wych ei dawn, iechyd einioes.


Nodiadau

[golygu]