Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Byrr feddwl, hir ofal
Gwedd
| ← Hyder yn Nuw | Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy |
Amser tymhestloedd → |
BYR FEDDWL, HIR OFAL.
CYMER bwyll cyn dy dwyllo— yn rhy-bell,
Mae rhywbeth i'th hudo;
Erfyn ar Dduw byw na bo
I daer adwyth dy rwydo.
Byrr feddwl, swmbwl nid sal—ei berigl,
A barodd hir ofal
I lawer dyn, dichlyn dal,
Dro i'w ddofi 'n dra ddyfal.