Neidio i'r cynnwys

Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Cân ffarwel i Esgob Bangor

Oddi ar Wicidestun
Galarnad John Owens Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy

gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy

Dyriau ffarwel Merch yr Esgob

CAN FFARWEL I ESGOB BANGOR.

[Ganwyd Humphrey Humphreys yn yr Hendre. Penrhyn Deudraeth, Tachwedd 24ain, 1648. Ei fam oedd Margaret, merch Robert Wynn o'r Gesail Gyfarch. O Goleg yr Iesu daeth yn gaplani Humphrey Lloyd, esgob Bangor, ac yn berson Llanfrothen. Cymerodd ddyddordeb nawr mewn hynafiaethau a llenyddiaeth Gymreig. ac yr oedd yn selog ynglŷn a hanes ei wlad. Yn 1689 gwnaeth y brenin newydd, William III ef yn esgob Bangor, gan fawr foddhau'r Cymry. Yn Nhachwedd 1701, gwnawd Humphreys yn esgob Henffordd; ac yno y bu farw Tachwedd 20fed, 1712. Canodd Owen Gruffydd farwnad iddo.]

Tôn,—"CONSYMSIWN."

Ow Bangor fawr y'Ngwynedd,
Gadeiriol gôr anrhydedd,
Pa fodd yr aeth dy rinwedd
Mor oeredd yn ein mysg,
Oedd echdoe 'n llawn dda wychder,
A bywiol yn dy bower,
A heddyw dan orthrymder,
Am biler dyfnder dysg;
A'th blant o'th ol anhunol haint,
A'u moes yn brudd yn is eu braint,
Dan gwmwl du, Och feddwl faint,
O geraint sydd un gwyn,
Am dad ysprydol grasol gred,
Hoff rywiog oedd a phur ei ged,
Ond trwm y troes, oer loes, ar led,
Gan ddwned gwae ni ei ddwyn!


Dwyn rhwydda dawn a rhoddiad,
Da arglwydd oedd ar dairgwlad,
Dwyn maethydd cynnydd cariad,
Yw'r anfad drawiad trwm,
Dwyn gwisg y noeth anwydog,
Dwyn lluniaeth dyn newynog,
Dwyn traed y cloff efryddiog,
Dwyn braich un llawiog llwm;
Dwyn lles a llewyrch llawer dall,
A dawn y weddw, dyna wall,
Dwyn cefn a chysur pur heb pall,
Ymddifad angall daith,
Dwyn trugarog enwog wr,
I'w wlad oedd sad wyliedydd siwr,
Dwyn ein tarian pur a'n twr,
Ymylwr aml ei iaith.

Dwyn bronnau maeth bur rinwedd
Bob enaid gwan babanedd;
A bwyd i'r cryf gwroledd,
Gwir eilwaith oedd yn hwn;
Oes gwybod drwy 'r esgobaeth,
Y bydd o herwydd hiraeth,
Am gadarn bur ddysgeidiaeth,
Dda doraeth wir ddi dwn;
Pob swydd a gradd, pawb sydd un gri,
Yn wylo 'n ol na welwn ni,
Mo'i fath hyd fedd, hoff unwedd ffri,
Yn harddu eglwysi gwlad,
Ei ddwyn sydd gas o'i blas a'i blwy,
Pa beth a wna Penmorfa mwy,
Ných oes i hon na chawsai 'n hwy
Ei llywydd drwy wellhad.


Llanfrothen llwyr anrheithiwyd
I'w dyddiau lle i bedyddiwyd,
Oen gwiwlan yno ei galwyd,
Ni sorrwyd ar ei swydd,
I fod yn berson gynta
Was ufudd i Jehofah,
A gwynfyd ei ddisgynfa,
Yn 'r Hendre llawna llwydd,
Ei dadol aeriaeth ddiaeth yw,
O hil drugarog rywiog ryw,
Am ddawn a chlod pa ddyn na chlyw,
Tra buon byw'n y byd,
Mewn dirmyg trist mae drwm y tro,
Ddigellwair fyth ei golli fo,
A byd rhy brudd y bod tair bro
Am dano'n cwyno cyd.

Wrth gwyno am araith gynnes,
Barchedig Esgob Wmphres,
Pur fanwl pa ryw fynwes,
Na thywallt gyffes gaeth?
Am gariad a hawddgarwch,
Da ddoniol a diddanwch,
A fu am Baul, dybygwch,
Trwy'r tristwch ar y traeth?
Un ail Sant Awstin ddibrin ddysg,
Oedd yn ei swydd dda lwydd ddi-lysg,
Dan enw mawr yn dwyn i'n mysg,
Iach addysg hyddysg hedd,
Am dangnefeddwr cordiwr cu,
I lawer dyn mae 'n alar du,
At les oedd bur i'w lysoedd bu,
Cai yno lu 'n ei wledd.


Canwyllbren canwyll Iesu,
Oedd ddwysgall i'n haddysgu,
Hyfforddiwr, carwr Cymry,
I'w denu 'n deulu Duw,
Gwae Wynedd sadwedd syniad,
Funudyn ei fynediad,
A'i synwyr at Sacsoniad,
Estroniad raniad ryw,
I ni mae alaeth helaeth hir,
A chynffwrdd sydd uwch Henffordd sir,
I'w maethu er clod am athro clir,
Ddysg eirwir ddifyr ddawn,
Och ddwyn o'n plith ei fendith fo,
Dda 'wyllys drwy ddiwallus dro,
Mor rhwydd pwy a'i rhydd, mae 'n brudd ein bro,
Am honno cwyno cawn.

Oer ganiad er a gwynom,
Am buraidd siwraidd Sierom,
Call oeswr ni a'i collasom,
Mae arnom ormod briw,
Croesafwn yn ddioddefus,
Ragluniaeth Duw haelionus,
Gwrthnebu ei allu a'i ewyllys,
Nid gweddus ag nid gwiw;
I fyrr ddi-bennu hyn o bwys,
Mi ro fy ngweddi 'n ddifri ddwys,
Fod fwy fwy ei glôd a'i gariad glwys,
Yn 'r eglwys wiwlwys wedd,
Dan lawn fendithion dwysion Duw,
Obeithiol barch y bytho byw,
A gras i'w ferch naturiol ryw,
At hyrwydd lwyddiant hedd.


I'r parthau hyn mae 'n perthyn,
Gan ludded gofio 'r flwyddyn,
O ran y digwydd dygyn,
A droes i'n herbyn draw,
Mil saith gant oedran Iesu,
Dwy flynedd yn diflannu,
Trigolion cyrion Cymru,
Yn brudd o ran eu braw,
Pan ddygwyd bri goleuni gwlad,
A'i iachus dôn i uwch ystad,
Oedd ddifyr hynt ai dda fawrhad,
Yn rhoi gwellhad a lles,
Gwae lawen feirdd am gael iawn faeth,
Mae'r llys yn oer a'r lles yn waeth,
Gadawn y gerdd a'i dawn yn gaeth,
Yr Awen aeth heb wres.

Ffarwel drwy uchel achwyn,
Dan benyd ergyd oergwyn,
Ffarwel mewn gwinllys gwynllwyn,
Gwr addfwyn hyfwyn hael,
Ffarwel i bur syberwyd,
Y'Nghastell Cyfarch cafwyd,
Ffarwel yn oleu un aelwyd
Lle gwelwyd gwych a gwael,
Ffarwel fendithion rwyddion rhad,
Gan barchus anrhydeddus dad,
Ffarwel o draw i'n llaw wellhad,
Drwy gariad gwreiddiad gras,
Ffarwel hyfforddiad wastad waith,
O ran ein dwyn i'r union daith,
Ffarwel arafaidd weddaidd waith,
Deg araith a di gâs.


Nodiadau

[golygu]