Neidio i'r cynnwys

Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Cân y Pren Almon

Oddi ar Wicidestun
Gwaith yr wyl Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy

gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy

Bodlonrwydd

CAN Y PREN ALMON.
PREG. XII. 1., &c.
Tôn,—"GWEL YR ADEILAD."

RWY'N gweled, er ei gwylio,
Fy adeilad yn adfeilio,
Nid diofal imi
Hyderu ar dŷ daearol,
Mewn agwedd mor ddiffygiol
I'm curiol oeri:
Gan fod llifeiriant, gwynt, ac ôd,
Fel cawri yn curo, i'w lwyr ddifurio,
A'i ddydd i basio a bwysodd at y nôd,
Mewn annedd gwell, o hono,
'Rwy'n dwys ddymuno 'mod;
Duw, dod, o'th lŷs ryglyddus glod,
Drwy faddeu 'nghamwedd, dy drugaredd,
Yn nydd fy niwedd, mwy rhinwedd dan y rhod,
Na miliwn o aur melynion,
Mewn eigion cyrion côd.

Fy mhabell hon o'i mebyd,
Oedd drefnus, hwylus olud,
Dda sylwedd wychder;
Cawg aur a llinyn arian,
A'i merched cerdd fel organ,
Fawl eurgoeth bleser;
Nid oes dim hoffder, mwynder moes,
Y mae'r ffenestri yn dallaidd d'w'llu,
A'u holl haelioni yn llwyr drueni a droes,
Fe bylodd swn y malu,
Fy meini i ymrannu a ymroes:
Trwm loes, du ffrewyll a'm deffroes,
Gan fod fy anedd-dŷ a'i ben yn crynnu,
Y'mron gwasgaru, a chwedi ymgrymu'n groes,

A'i furiau a'i gaerau yn gwyro,
I lwyr ddifuddio foes.

Rwy'n gweled y pren almon,
A'i gynnydd flodau gwynion
Yn gynnar addfed,
Mae'r fywall, ddiball ddychryn,
Yn barod ar ei wreiddyn,
Arwyddol dynged
Y daw trag'wyddol lwyddol law
Ar fyr i'w dorri, o'i lawn haelioni,
Ac yno ei gyrchu i garchar pridd a braw,
Lle'r erys yn llwyr oeraidd,
I anrhydedd dan y rhaw:
Ni ddaw, er bendith gwlith na glaw,
I ail flaguro, dan flodeno,
A'i frig i ddeilio, yn ddilys uwch ei law;
Yn swrth, yn fan lle y syrthio,
Rhaid iddo drigo draw."

Ac yno o'i wag annedd
Ni chyfyd yn wych hafedd,
Och ofid feddwl!
Hyd ddiwrnod fawrglod f'Arglwydd,
Pan ddel mewn gallu hylwydd
I holi'n fanwl,
Lle bydd pob gweithred yn ddigudd,
O flaen yr Ustus cyfiawn, cofus,
Ni thycia esgus drygionus ffawtus ffydd;
Gwae'r wyneb a geir yno
Yn duo graen y grudd:
Llwyr brudd, alarus, ddigus ddydd,
Pan fyddo'r hollfyd, a'i fawredd hyfryd,
Yn dán dychrynllyd, a'i lendid yn ddiludd,
Gan wres yn diddim doddi,
Er maint i'w serchu y sydd.


Wrth hyn o araith hynod,
Mae'n amser iawn ymosod
Am oesol ddinas;
I ffoi rhag llid a phywer
Y gelyn, frad ysgeler,
Dwys gilwg atgas;
Mae'n bryd, am ras i roi fy mryd,
I lawn adnabod fy anheilyngdod,
O gysgu gormod i bechod yn y byd,
Trwy goledd y tri gelyn
Y bum i'w canlyn cyd:
O'm cryd, 'rwy'n glynu byth mewn glud,
Am bur ymwared o'm caethiwed,
At graig fy nodded, fwyn addas, af o hyd,
Gwir Feddyg a går faddau
Fy holl gamweddau i gyd.

Trag'wyddol oesol Iesu,
Fab breiniol, a fu i'n prynnu,
Pur union gariad;
Cyfryngwr, rhannwr rhinwedd,
A ffynnon y drugaredd,
Dra gwrol Geidwad.
Clyw fi, mewn agwedd groewaidd gri,
Yn sad ddeisyfu am nawdd i aneddu
Y'mysg dy deulu da, dilys, freiniol fri,
Lle 'ngolwg llu angylaidd,
Mewn rhinwedd mwy na rhi;
Dwg di, wrth raid, fy enaid i.
O wlad y cystudd, i lawn lawenydd
Caersalem newydd, hoff winwydd, ffrwythydd ffri,
Da diddan yw dedwyddwch
Ei thegwch, harddwch hi.


Mae'r ddinas hon mor santaidd,
Na chaiff ond golwg puraidd
Ympirio iddi;
A minnau'n ddi wahaniaeth.
Mewn tomen llygredigaeth
Yn dygyn soddi.
Gwellhau, mewn buchedd glirwedd glau,
Nid ydwyf, eto, yn medru arno,
Ond llawn 'wyllysio, yn llesol, ufuddhau,
Fy 'nwydau sydd anhydyn,
Gnawd cyndyn yn nacau.
Cwblhau, ni ddichon priddyn brau,
Un ddyled ddiwyd, heb gyfarwyddyd
Dy rasol Ysbryd, Dduw hyfryd, i ddyfrhau
Y galon galed anial,
Anhawdd ei meddalhau.

O Dduw trag'wyddol allu,
Dal fi a'th ras i fynu,
Yn f'einioes egwan;
A dyro iechydwriaeth,
I'm rhan yn nydd marwolaeth,
Mawr elw gwiwlan:
Fy llen, i garchar daear den,
Ar fyrr a fwrir,—O Iesu Feistr!
Yn nydd y frwydr ddifrodus, cudd fy mhen;
Dydi yn ddrud, o'th wirfodd,
A'm prynnodd i ar y pren:
I Nen, Paradwys wiwlwys wen,
O derbyn fysbryd, i rwydd gyrhaeddyd
Ail fywiol fywyd, dwys wynfyd a di-sen;
Boed sail fy adeilad yno,
'Rwy'n dwys ddymuno, Amen.


Nodiadau

[golygu]