Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Carol Nadolig Crist
| ← Marwnad Mari Wenn | Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy |
Y Seren Wyl → |
CAROL NADOLIG CRIST.
Tôn,—"Gadael Tir" y ffordd hwyaf.
BOB doethaidd gymdeithion, naturiol gantorion,
Sy'n caru Duw cyfion o'r galon yn gu,
Cyfrennwch ar unwaith mewn eiliad manylwaith,
Yn gydwaith felyswaith fawl Iesu.
Yn nheml Duw Iago, dyrchefwch eich dwylo,
Tua'r nefoedd, tan seinio dwys union gerdd bêr,
A hynny o lawenydd, am eni gwaredydd,
Pur ufudd dda lywydd i lawer.
Wel dyma Nadolig Mab Duw bendigedig,
A fu 'n ostyngedig oen diddig i'n dwyn
O benyd tragwyddol i fywyd anfarwol,
Gwnawn iddo gyneddfol gân addfwyn.
Ordeiniwn ar dannau soniarus fesurau,
Per arogl pur eiriau, mwyn hymnau mewn hedd,
Ac odlau ysprydol i'n Prynnwr, Fab breiniol,
Wiw lesol, dra gwiriol drugaredd.
Danghosodd Duw cyfion, a'i anwyl Fab union,
Fawr gariad i ddynion oedd gaethion i gyd,
Yn siti'r hên satan, nes dyfod oen diddan,
I'n gwared ni'n gyfan o'n gofid.
Bu lawen gyfarfod rhwng merched y drindod,
I rwymo 'r ail amod, Hedd hynod oedd un,
Cyfiawnder, Gwirionedd, a hefyd Drugaredd,
Oedd fwynedd i'n coledd yn canlyn.
Ac yna doi 'r angel i gyfarch Mair dawel,
I wrando ar ei gwnsel, rwydd chwedl, 'roedd chwant,
A'r rhybudd a gredodd yn glaiar pan glywodd,
O'i gwirfodd hi a ganodd ogoniant."
A Mair o lwyth Juda ar fyrr a feichioga,
Drwy rad y Gorucha' gair iachus a fu,
Y genid ar gynnydd, wiw radol Waredydd,
O winwydd hâd Dafydd yn tyfu.
Mair gynnes mor gannaid, o degwch bendigaid,
Llin Aaron, wisg euraid, a esgorodd yn bur
Ar Grist y Winwydden, pen cynnydd pob cangen,
Y pumed ar hugien o'r Rhagfyr.
Nid oedd i'r Mab duwiol, a'i anwyl fam ddoniol,
Un neuadd aneddol, wych raddol, na chryd,
I osod yr lIesu ym Methlem i'w faethu,
Ond preseb yn wely, wan olud.
Oen Duw a'i Fab diddig, cu radol caredig,
A fu ostyngedig enwedig yn wir,
Ei ddilyn heb osgo mae 'r sawl a 'mostyngo,
Gwers ydyw (dda i'w chofio) a ddyrchefir.
Angylion sancteiddiol, lân nifer lu nefol,
A ganai 'n blygeiniol fawl duwiol y dydd;
Pan anwyd paun union, danfonai 'r gwŷr doethion,
LAnrhegion fawr roddion foreu-ddydd.
A Simeon ddi-siomiant, yn felus ei foliant,
A ganodd ogoniant, ac Anna 'n ddi-gel,
I Dwysog tangnefedd, air union wirionedd,
Ynghyntedd di-omedd y demel.
Yn unwedd rhown ninnau o eigion calonnau,
A lloi ein gwefusau 'n aberthau di ball,
I'n Prynnwr gwaredol, rhag penyd tragwyddol,
Nid oes ini ymorol am arall.
Cyd-unwn yn dyner, fawl ysbys felysber,
Ar gyfer i'r amser mewn llawnder gwellhad,
Y ganwyd blaguryn i wared holl werin
O uffern ddig erwin ddi gariad.
Pan oeddym fal dreigiau ynghysgod tir angau,
Heb neb a'n gwaredai, gwir ydoedd, ar gyrch,
Haul undeb cyfiawnder a dwynnodd yn dyner,
Bu syber i lawer o'i lewyrch.
Llewyrchiad cynhyrfiol pur broffwyd brenhinol,
Offeiriad tragwyddol gorseddol yw 'r Sant,
I dwyso 'r cenhedloedd, a'u ceisio 'n oes oesoedd,
I'r Nefoedd aur wleddoedd, wir lwyddiant.
Goddefodd farwolaeth i ladd y gelyniaeth,
A chael iachawdwriaeth tra helaeth trwy hedd,
Bendithiwn y diwrnod y ganwyd ei fawrglod,
I'n rhoddi mewn cymod o'n camwedd.
Nid gwledda gormodedd, neu farus oferedd,
Yw union anrhydedd dda rinwedd yr wyl,"
Ond dilys ofalu, bob dydd anrhydeddu,
A chanu heb groes-dynnu Grist anwyl.
Mil saith gant a deugien, tri daunaw drachefen,
I'w adrodd yr oedran Oen diddan Fab Duw,
Pan luniwyd y carol, rhy egwan ddiffygiol,
I wyliau gwir raddol goreu-Dduw.
Gogoniant byth bythol i'r Tad a'r Mab nefol,
A'r Ysbryd sancteiddol, tri 'n unol trwy nerth,
A'n dygo i lawenyd, tragwyddol ail fywyd,
O gaethglud drwg ynfyd draig anferth.