Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Carol un oedrannus
| ← Y bedd | Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy |
→ |
CAROL UN OEDRANNUS
yn deisyf ei ddatodiad, a bod gyda'r Arglwydd, 1724.}}
DUW radol Greawdwr, a chadarn Waredwr
Drwy haeddiant f Iachawdwr, a'm Prynnwr, pa bryd
Y cyrchi i'th wlad nefol fy enaid anfarwol,
A'm corff i'r ddaiarol ddu weryd?
Mae'r babell bridd braenllyd yn wannach bob munud,
Rwy'n chwenych fy symud o'r bywyd i'r bedd,
Pob aelod sydd waelach, pob gwythen yn gaethach,
Pob synwyr yn salach ei sylwedd.
Mae 'r golwg a'r clywad, ynghyd a'r arogliad,
Yr archwaeth a'r teimlad, cyn lleiad eu lles,
Y cof yn ddiffygiol, a'r deall ystyriol
Yn farwol drem hunol, drwm hanes.
Mae breg yn y breichia, mae 'r dwylo mor dila,
Mae 'r cefn a'r cymala a'r clinia heb ddim clod,
Mae'r ddeulin, a'r ddwy-goes, a'r ddeudroed oer dduloes
Yn feirwon ddi-buroes yn barod.
Mae'r ffrins a'r carenydd a fydda dra ufudd
I'm cynnal mewn cynnydd draw beunydd drwy barch,
I gyd wedi mado, am hynny rwy'n cwyno;
Ni cheir, er eu cofio, mo'u cyfarch.
Mae henaint mwy hanes i'w ddilyn mor ddiles,
O'i goffa mae r gyffes am gaffael rhyddhâd,-
O'r babell ddaiarol mewn munud dymunol
Dod, nefol Dduw tadol, ddatodiad.
Ond yma rhaid imi o flaen dy fawrhydi
Gyfadde 'nrygioni drwy drosi 'n dra dwys,
F' adduned, wedd hynod, pan aethum drwy amod,
Yn aelod, waith wiwglod, o'th eglwys.
Yr union wir amod, undeb y Drindod,
Oedd nerthol ymwrthod hyd bennod y bedd
A'r byd a'r cnawd chwantus, a'r cythraul maleisus,
A'i wallus frad dyrus, fryd taeredd;
A chadw gorchmynion y cofus Dduw cyfion,
A'i garu â'm holl galon dra ffyddlon drwy ffydd,
A bod fy ngweithredol wasanaeth ddwys unol
Wrth reol amodol 'y medydd.
Ond dilyn hudoliaeth, tri gelyn drwg alaeth,
Yw swm y 'ngwasanaeth, naturiaeth nid da,
Ymdrochi mewn pechod, naws difyr, nes dyfod
At bennod dydd amod oddiyma.
Rhoi rhosyn fy amser mewn afiaeth yn ofer,
Ag iwsio fy mhleser ar fater di-fudd,
Ymborthi ar y ciba a gwrthod y manna
Heb goffa mewn mwytha fy Maethydd.
Y dalent a gefais i'm gofal a guddiais,
Mewn daiar mi a'i cleddais, ni phrynnais â'i ffrwyth
Nag olew na golud, hynt hylwydd, ond dilyd
Pob ynfyd wŷn, astud anystwyth.
Moliannu rhianod, hynt ofer, â'm tafod,
A rhoddi clod ormod ar draethod i draws,
Y rhwyddwych hael roddwr a farnwn yn fwynwr,
A'r tyrrwr yn annwr anhynaws.
Ag felly ymgyfeillach ag ofer gyfeddach,
A gadael gwaith purach anwylach yn ol,
Heb weini fawenydd ar ganiad wir gynnydd,
I'm Llywydd, ddawn ufudd, Dduw nefol.
Ond rhodio 'n afradlon trwy 'r tymor tra tirion,
Heb feithrin cnwd ffrwythlon wir hinon yr haf,
O eiste 'n ddiystyr ni cheir yn lle llafur
Ond prinder a gwewyr y gauaf.
Hir sefyll yn segur i borthi fy natur,
Troi heibio draws synwyr dros un awr ar ddeg;
Heb fod imi weithian i weithio 'n y winllan,
Ond awr am wir diddan o'r deuddeg.
Nid allai chwaith selio i'm heinioes mo honno,
Geill munud fy 'sgubo draw heno drwy haint;
Crist, derbyn fy nghyffes, dwg f' enaid i'th fynwes,
O loches anghynnes ing henaint.
Duw, gwna fy awr ola, i fod yn awr ora
O'm heinioes, a minna bob munud yn well
Mewn crefydd a rhinwedd, nes dyfod o'r diwedd
Dan gysgod da osgedd dy asgell.
Ac er nad oes yma mewn cyffes ond coffa
A'm henaint yn benna, cwyn tryma, cyn tranc,
Geill fod am wir pwyllig yn gyngor nodedig
I 'mwrthod a'i ryfig i'r ifanc;
Drwy gofio draw 'n gyfan am weithio 'n y winllan,
Cyn mynd dan bwys oedran, oer druan, awr drwch,
A dyfod y dyddiau heb ynddyn yn ddiau
Ddim ffrwythau da ddoniau diddanwch.
Duw Dad y drugaredd, Duw Fab y gwirionedd,
Duw Ysbryd Glân sanctedd, dda rinwedd a'i râs.
A'n gwnel yn gymhwysol i fod yn feddiannol
O'r nefol ddiddanol dda ddinas.