Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Carol y Byd Dyrus
| ← Ennyn Llid | Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy |
Ateb Owen Gruffydd → |
CAROL Y BYD DYRYS.
[[Y mae'n amlwg fod Owen Gruffydd yma yn cyfeirio at helyntion dyddiau Cromwell neu at helyntion diweddarach dyddiau Gwilym y Trydydd. Dyma adegau y trethi uchel, er mwyn rhyfela ar y Cyfandir. Dyma hefyd ddyddiau "clipio" arian, sef torri yr ymylon o amgylch y stamp A gwellaif, a chadw'r parion. Yr oedd ym mryd Cromwell wella'r arian bath; ond Gwilym y Trydydd gafodd y fraint o wneyd.]
OND dyma fyd gofidus,
Anghynnil, llawn anghenus,
A chwedi mynd i wan a chry
O'i ddirwyn yn rhy ddyrys?
Mae'r ffilsiwr brwnt cyn ffalsed,
I ddim nad oes ymddiried,
'Rwy wedi mynd a ffrind mewn ffrae,
I'm hwcio mae fy mhoced.
Ni lenwir hon y leni;
Am swllt a roddwy ynddi.
Yn chwecheiniogyn llyfn i'm llaw
Di-hoenus daw o honi.
Fe fydde gist neu goffor
Rhag trais i gadw trysor,
Mewn lle dymunol, congol cell,
Diame'n well na nemor.
Y leni, a'i sgil ysgeler,
Mae rheini 'n dwyn yr hanner;
Ag nid gwiw, er maint fy ngham,
Ymhewial am fy mhywer.
Mae bariaeth fel y bwriwy
I'm coffor bunt pan gaffwy;
Ni chaf ond chweigien ar fy rhan,
I fydio 'n anffynadwy.
Ochneidio mewn marchnadon,
A dig ynghil fy nghalon,
Na bae 'n fy chweigien rym a nerth
I gyrraedd gwerth y goron.
Pan elwy i dalu am deled,
Di-sylwedd fach o silied,
Fe fydd yn wir heb foddion is
Yn rheibio pris yr hobed.
Mae'r gwyr a'r ffeilsion bwysa,
A'u twyll wenheithus, nhwytha,
Yn dwyn fel Deifas fantais ferr,
Yn damnio lawer dima.
Pe bydde swllt ond peni
Yn pasio 'n ol eu pwysi,
Nhw ân' a hwnnw oddi ar y gwan,
Am ddwyrod dan ymdderu.
A mynd a'r sylltyn cwta,
Dan gyfri man badera,
Am bump a ffyrling hasting hynt,
Ond trwm yw'r helynt yma?
Ni a gawn bob ofer sarsiant
A'i pwysa 'n ddigon pasiant,
A'u bribis blat o bres i blwm
Yn bwrw swm o somiant.
Rhoi pwysa mawr i brynnu,
A phwysa bach i werthu,
Taledigaeth hyn o dwrn
Yw poena ffwrn uffernddu.
Ymhle mae'r gyfraith gyfion
A fydde'n cosbi lladron?
Ni bu rioed reitiach ymhob plwy
Ei cheisio drwy achosion.
Yn awr mae ffasiwn newydd
I bawb ysbeilio eu gilydd;
Y mwya ei bwysa eiff a'r best,
Er grafin gonest grefydd.
Lledrata 'n rhith cyfiawnder
Yn lewion gwelwn lawer,
Os dyma 'r helynt a bareiff
Yn fwrdwr hi eiff ar fyrder.
A minne sy'n dymuno
Ar fod yn hir ofidio
Heb weled dydd yngwaelod tŵr
Bob clipiwr wedi eu clapio.
Mewn adfyd bo 'u penydfa,
Yn llefain a'u gwelleifia,
A'i parion mynau pur, amen,
Yn belen yn eu bolia.