Neidio i'r cynnwys

Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Dioddefaint Iesu

Oddi ar Wicidestun
Gochelwn gau athrawiaeth Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy

gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy

Dyma ffarwel

DIODDEFAINT IESU.

Y fron a'th galon o'th gur—yn gwaedu,
Iawn Geidwad pechadur;
Dolefaist, diwael lafur,
Gan y pwys, â genau pur.

Cymod i faddeu camwedd—a wnaethost,
Yn eitha trugaredd;
Di a'n dygaist, dawn degwedd,
Oen Duw pur, i undeb hedd.

Drwy dy loes ar groes, i Gred—di ddygaist,
Do, ddigoll ymwared;
Dwyn ein gwradwydd, gwiwrwydd ged
Rinweddus, i roi nodded.

Dod ras iawn addas i ni,—a gallu,
Ag wllys di wegi,
I goffhau dy angau di,
Yn ddilys, a'th addoli.

Iesu i'n prynnu heb pall—fu syber,
Iesu aberth diwall;
Iesu bur, sy, heb arall,
Iesu'n rhad yw'n Ceidwad call.


Nodiadau

[golygu]