Neidio i'r cynnwys

Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Diolchgarwch i Dduw

Oddi ar Wicidestun
Goganu ein gilydd Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy

gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy

Clyw hyn

DIOLCHGARWCH I DDUW.
Am ein helaethrwydd yn ol prinder.

BOB Cristion cariadus mewn amser anghenus
A fuont ofidus helbulus yn byw,
Rhown gynnes ogoniant i Dduw am yn llwyddiant,
A'n ffyniant di heuddiant da heddyw.

Fal dyma ar fyrr droiad gu odiaeth gynhyddiad,
Wiw radol warediad o ymendiad i'n mysg,
Lle'i gwelwn Dduw cyfion i'n llwytho â bendithion
Ar ol ei geryddon goreuddysg.

Peth hyfryd yw ymwared yn amser caethiwed,
Mae bendith a nodded i'w gweled mor gu,
Fel glaw yn gwrteithio y ddaear i ffrwytho
Pan fotho heb egino 'n agennu.

Ond fel i mae'r ddaiar sy'n cael y glaw cynnar,
Da wedd a'r diweddar, yn ffrwythgar ei phryd,
Rhown ninne ogoniant, da lesol di lysiant,
I Dduw am ein ffyniant un ffunyd.

Llu nefol llawn ufudd sy'n canmol eu cynnydd,
Pob rhyw a phob ffrwythydd o'r meusydd a'r môr,
A pham na rydd dynion, sy ar ddelw Duw cyfion,
O'r galon anrhegion yn rhagor?

Ni a welsom flynyddoedd fyrr doraeth ar diroedd,
Llwyr adwyth, lle'r ydoedd ar filoedd oer fyd,
Dan groesus di gysur, wan oglud yn eglur,
Mewn gwewyr awchlafur a chlefyd.

Nid oedd yn lle gwleddau ond galar y gwiliau,
A throi ein caniadau cain odiaeth yn gri;
Dan flinder diflandod, dwys wendid, a syndod,
A malldod, dra hynod drueni.


Pob creulon ei natur oedd anian wynebsur,
Nhw a nerthen yn brysur eu brodyr am bryd;
Ni chare'r cybyddion mo'u ceraint tylodion,
Nhw a waden dras union dros ennyd.

Pob byrryd gwann fendith dan falltod y felltith,
Mor gynnil a'r gwenith, oedd gyrrith i'w gael,
A'i fesur yn rhidus, tôn fyrbwyll, tan fawrbris,
Heb hwylus iawn ddewis yn ddiwael.

A heddyw'n ddigonol mae'r ydau mor rhadol,
Drwy fendith Duw nefol, bur rasol, i'n bro,
O'r pigion ceir peged i'r teulu ymhris teled,
Heb glywed dim dwned am dano.

Mae'r awyr yn iachus, a'r tir yn dymherus,
A'n gwlad yn ddi-glwyfus, rinweddus i ni,
Mewn iechyd heddychol heb genedl estronol
Anrheithiol ormesol wŷr misi.

Mae'r gweiniaid yn gwenu tôn gynnes tan ganu,
A fydda'n gruddfanu ar lwgu'n y wlad;
Pob gradd sydd ddigonol heb ddim yn ddiffygiol,
Ond rhinwedd wych eiriol a chariad.

Cyfiawnder y gyfraith yw cariad pur berffaith,
A'n hwylus gynhaliaeth, ddull odiaeth wellhad;
Nid ydyw pob rhinwedd, medd gair y gwirionedd,
Ond buchedd wag oeredd heb gariad.

Fal dyna farc dynion i wybod yn union
Pwy sydd yn ddisgyblion di-groesion i Grist,
Cynfigen rhoch uchel, llid, celwydd, gwrthryfel,
Yw marc y du gythrel dig athrist.

Cyd-wisgwn gyfiawnder am danom yn dyner,
I fyned dan faner pen piler pob parch;
Gan rodio'n gariadus, dda ddefod addefus,
Heb rochus wallgofus hyll gyfarch.


Wrth ddilyn cwerylon mewn llid, ag ymryson,
Ar daniad rhwng dynion, 'd yw ffrae ond ei ffrwyth;
Drwy gnoi a thraflyncu ei gilydd heb gelu,
Mae hynny 'n dwyn wedi dan adwyth.

Ni a welwn yn helaeth fod taeradd naturiaeth
Yn gyrru poen alaeth pan elom yn fras;
Mor angall i wingo yn erbyn Duw Iago,
Heb gofio gam yno i gymwynas.

Mae Duw yn rhoi prinder i ostwng ein balchder,
A bod am gyfiawnder drwy bleser fwy blŷs;
Ag eilwaith i'n gyrru i'w ragor fawrygu,
Pan ddel i'n gwaredu'n gariadus.

Bendithion ben Bugail, dda eirwir Dduw arail,
I ddyn ag anifail o'i nefol lys sydd
Yn hilio cynhaliaeth at hwylys fywoliaeth
Mor helaeth, wiw odiaeth waredydd.

Am hynny molianned pob genau'r gogoned
A yrrodd ymwared a nodded i ni;
Mae'n gwbl ddyledus dra hollawl drwy wyllys,
Yn barchus ofalus ei foli.

Rhown ddiolch tra helaeth dros ben pob gwasanaeth
Am wir brynedigaeth bur odiaeth y byd,
Drwy Grist, ei fab grasol, a'n rhoes yn gymodol,
Yn ol ei wiw dduwiol addewid.

Deffrown yn ddi-ffrauol i ganu'n blygeiniol
Ar ddydd genedigol iawn haeddol oen hedd,
Cyd awn i'w gynteddau, mwyn amnaid, mewn hymnau,
Ag odlau mawl leisiau melyswedd.

Ar delyn a nablau, mewn symlrwydd a salmau,
Gu ddawn a gweddiau di-fwythau da foes,

Cynhaliwn y gwylia wiw bêr-wyl â bara
Pur croyw dwys eirda di-surdoes.

Oed gore Blaguryn mil saithgant a blwyddyn.
Pan ganwyd ar destyn, oer dostur a fu;
Cymhwysa di'n gyson, Duw Iesu, dy weision
I'th ffyddlon fawl union foliannu.


Nodiadau

[golygu]