Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Dydd y Farn
| ← Yr hen wladwyr gynt | Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy |
Erfyn am ymwared → |
DYDD Y FARN
Ar ddull ymadrodd Crist yn Matthew xxv.
Tôn,—Y Fedle Fawr."
CYD ystyriwn bawb, considriwn
Am obaith fuddiol, beth a fyddwn
Pan ddêl y dwthwn du,—
Ein galw oddiyma i'r cymyla
Ar fyrr derfyn yn fawr dyrfa
Rhyfedd llawna llu;
I roddi cyfri difri dôn ar osteg cyfion ustus
Am bob gweithred galed gudd, fodd asgen, ni fydd esgus,
Na diengid fel alltud, wr diwyd ar ei daith,
Ond gildio raid yno, ni cheir mo'r breibio chwaith.
Lle'i gwelir Iesu yn gwasgaru
Yn ddi atal bawb o'i ddeutu,
Ag felly i'w barnu bydd;
Ond ar ei ddehau law yn ddiau
Rhydd o'i gariad y rhai gorau,
Dda eu doniau oedd i'w dydd,
I dreuthu wrthynt araeth bur a difyr gysur
dwysedd;
"Dowch fendigedig blant fy Nhad, i gaerau
gwlad trugaredd;
Meddiannwch ddiddanwch, wir heddwch ar i hyd,
A ddarfu bwrpasu cyn bod sylfaenu byd."
"Bum newynol noeth anianol,
Sychedig athrist, a dieithriol,
Gystuddiol, guriol gaeth;
Mendio mhrinder, buoch syber,
Heb rochus liwied rhoesoch lawer,
O'ch pywer fwynder faeth;
Rhoi bwyd a diod, dillad da, yn glydwch cyfa i'm cefen,
A'm dwyn i dŷ am gofwy 'n glâ pan fydde fwya f'angen;
Mewn carchar a galar chwi 'm gwelech i'm gwellhau,
Yr awrhon mae'ch rhoddion cu ffyddlon i'w coffau."
Ar hyn nhw ateban, a gofynnan,-
"Pa bryd i'th welsom felly allan
Mor druan gyfan gur,
Ag y darfu i neb gyfrannu
Un rhodd a henwaist o'r rhai hynny
I'th faethu a'th borthi 'n bur?"
"Pob elusen lawen lwydd i'r rhain yn rhydd a roesoch,
Fy mrodyr lleia gyda chwi, oedd noeth, i mi ygwnaethoch;
Rhodd imi rwy'n cyfri pob eluseni sydd
Yn noddfa i'r rhai gwaela, i'w talu dýma 'r dydd."
Ond barn ry chwerw seliad, salw,
A fydd ar lyswyr i law asw'
Yn gerydd garw i'w gwydd,—
"Ewch rai ffyrnig melldigedig
I'r tân tragwyddol, oesol ysig,
Gythreulig sarrug swydd;
Bum newynog garpiog gynt, nych adwyth hyntsychedig,
A dieithrol heb gael tŷ o nodded, lu aniddig,
Lle darfu ngharcharu heb neb i'm cyrchu o'm cur,
Na helaeth gynhaliaeth at faeth bywoliaeth bur."
Y rhain un ffunud ofyn hefyd,—
"Pa bryd y buost ddyddiau ein bywyd
Mewn adfyd penyd pwys
Yn gofyn am elusen inni,
A ninnau 'n rhwyddion heb i rhoddi,
Er gweddi ddifri ddwys?"
"Am na roesoch gymorth pur yn llaw fy mrodyr lleia
Oedd oera tywydd ar eu taith, ni roesoch chwaith i minna ;
Ewch, efrau drwg ffrwythau, i'r llyn a'r tonnau tân,
Dowch chwithau, grawn pura, i noddfa nefol gân."
Am fod yn giedd faint yw 'r dialedd,
Gwelwn yma, gwiliwn omedd
Trugaredd glirwedd glod;
Gwelwn eilwaith ddiball obaith
Am daledigaeth faint rhagoriaeth
Trugaredd fyth i fod;
Elusen ddwys uwch diffwys du a'n deil i fyny 'n fanwl,
A chariad perffaith gyda ffydd trwy obaith ni bydd trwbl;
Gonestrwydd ddi gelwydd sydd arwydd hyrwydd hawl
Ein cyrchu at Iesu, Amen, i ganu mawl.