Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Dyma ffarwel
| ← Dioddefaint Iesu | Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy |
Iddo ei hun → |
DYMA FFARWEL.
Tri phennill o Ffarwel i Edward Williams o'r Gaerwen, a'i gywely, Cathrin Gruffydd.
Tôn,—" Mordog Scotland."
DYMA ffarwel di-gynfforddus,
Lwyr alarus, gofus gwyn,
Am rwydd gymydog, rodd gymodol;
Ai wraig weddol foddol fwyn;
Edward William rodiad hwylus,
A Chatrin Gruffydd, ddeunydd ddownus,
Dau bur heddychol ddichwen
A gerid yn y Gaerwen,
Llei ceid elusen lawen lês,
I'r rhain mae rhoddi ffarwel
Ein harfod megis oerfel
Ar ol isel dawel des.
Eu cymydogaeth odiaeth ydoedd
I bawb ar gyhoedd bybur gêd,
Ar ol eu diddan reol diddig
Cwyn oer lewyg cawn ar led;
Am garedigrwydd hyrwydd araeth,
Wych iawn hwylus, a chynhaliaeth
Dau hollawl bur i hwyllus,
Dda osgedd, rwydd ddi-esgus;
A'th les, anghenus fregus fron,
I'r Gaerwen fydda gyrchu
Pan welid nos yn nesu
I gael meddiannu llety llon.
Cwyno gwelwn, cawn a galar
Am wr di-somgar fwyngar fu,
Ai wraig hyfwyn rowiog hefyd
Araeth hyfryd yn ei thŷ;
A'u plant hoff anwyl, berwyl burion,
Arwydd grasol, oedd ddi—groesion
Rhoed Crist yn rhan y rheini
Dda rinwedd eu rhieni,
Miawn llawn ddaioni i'w hoffi'n hir,
Bo hylwydd eu bywoliaeth
Heb gurio a phob magwriaeth
Yn fawr eu toraeth ar eu tir.
Ffarwel, nid isel nod ysig,—yw'r cri,
Oera croes i'r unig
Am rodd dda ddwys rwydd ddi ddig,
Wych radol, a charedig
Bellach, rhan burach, rhown bwys—ein gofal
Yn gyfan i orffwys
Ar Dduw hyd ddydd deunydd dwys
Pur i rodio Paradwys.