Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Erfyn am ymwared
| ← Dydd y Farn | Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy |
Myrfyrdod un yn ol bod yn glaf → |
ERFYN AM YMWARED
Rhag gelynion yn amser gwrthryfel gwaedlyd Cromwel a'i ganlynwyr.
Tôn, "Anodd Ymadael" y ffordd ferraf.
O ARGLWYDD Nef a Phenllywiawdwr
Môr a thiroedd, a'u gwneuthurwr;
Er mwyn Crist a'i aberth sanctedd,
Meddyg cymwys, maddeu 'n camwedd.
Llwyr anianol gnawdol ydym,
Ac anystwyth ar bob ystum,
I wneuthur un ddyledswydd sanctedd,
A hyrwydd ogwydd i bob gwagedd.
Crinwellt ydym ac alltudion,
Llwch a lludw a bratiau budron,
A phwy a saif o flaen dy orsedd,
Os creffi 'n arw ar anwiredd?
O Arglwydd tirion cyfion, cofia,
Ynghanol barn dy drugareddfa,
Ac arbed bwys dy wialen arnom,
Yn hynaws heddyw er na's haeddom.
Er na throi o'n tir wrthryfel,
Er mwyn Job a Noa a Daniel,
Er mwyn d'anwyl Fab bodlonol,
Tro dy lid oddiwrth dy bobol.
Bydd a'th asgell i'n cysgodi,
Bydd yn dŵr a tharian inni,
Bydd i'n cadw, Arglwydd cyfion,
Rhag holl ruthrau ein gelynion.
Dydi erioed a fu waredwr,
Rhag pob aflwydd ac anghyflwr,
Dydi oddi uchod, Duw, a ddichon,
Lwyr ddiflannu'n holl elynion.
Os dydi ni chedwi 'r ddinas,
Ofer codi caer o'i chwmpas,
Ofel gwelydd, ofer gwylio,
Lle ni bythoch di 'n bendithio.
Dydi yw awdwr pob daioni,
Duw dwys dirion, da 'i dosturi,
Ac yn dduwiol fuddiol feddiant,
Y mae trugaredd a maddeuant.
Dydi yn amser digter tanbaid,
A roddaist nawdd i'r Ninifeaid,
Dod nawdd i ninnau er mwyn Iesu,
Ar y pren a fu 'n ein prynnu.
Rhag ein gorfod gwisg ni àg arfa,
Yn gadarn filwyr i ryfela,
Yn erbyn Satan a'i holl armi,
Pen gelynion y goleuni.
Tyn o'n plith bob drwg arferion
Amryfusedd ac ymryson,
A dod in' ras i fyw 'n grist'nogol,
Mewn gwir fuchedd yn heddychol.#
Gyr ar frys o'th wenllys winllan,
I drin y bwystfil deirw Basan,
A chadw i'n plith er gwaetha eu hymgyrch,
Dy ganhwyllbren lawen lewyrch.
Dod inni ras holl ddyddiau 'n hamser,
I ddilyn purdeb ffyrdd cyfiawnder,
A dwg ni 'n ail er mwyn d' anwylyd,
I dario byth i dir y bywyd.