Neidio i'r cynnwys

Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Glynu wrth bechu

Oddi ar Wicidestun
Y Seren Wyl Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy

gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy

Henaint ac Ieuenctid

GLYNU WRTH BECHU.

GLYNU wrth bechu, warth buchedd—radol,
Yr ydym heb omedd;
Nid oes yr un, dwys yw'r wedd,
Yn dda gymwys ddi—gamwedd.

Camwedd a thrawsedd, waith resyn—rodiad,
Yr ydym i'w ddilyn;
Croesi ced dda ged Dduw gwyn
Draw, a chamu d' orchymyn.

Gorchymyn ag arch imi—yn f' einioes
A fynnych, Dduw Celi;
A dod nerth drwy d' aberth di,
Gu flaenor, i gyflawni.

Cyflownder llownder wellhad—y gyfraith
Rhag afrwydd yw cariad;
Planna i'm bron, dirion Dad,
Y tlws hun, ddidwn ddodiad.


DYDD Y FARN.

Lle i gwelir Iesu yn gwasgaru
Yn ddiatal bawb o'i ddeutu." Tud. 102.


Nodiadau

[golygu]