Neidio i'r cynnwys

Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Gweddi'r ffydd

Oddi ar Wicidestun
Amser tymhestloedd Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy

gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy

Ocheneidiau byrion

GWEDDI'R FFYDD.

GWEDDI'R ffydd a fydd foddion—ora iachus
I drechu hudolion;
Na ddêl cwrsel dirgel don
Drwy gas brad drwg ysbrydion.

Efa ag Adda hefyd—a goeliodd
I gelwydd drwy ysbryd;
Hynny a roes bumoes byd
I dynn boeni dan benyd

Ysbryd celwyddog asbri,—â'i wyriad,
A yrrodd heb oedi
Ahab, greulon fron, o'i fri,
Dra enwog, i drueni.

Ysbryd Duw wir Dduw urddas,—fwy ethol,
A fytho'n gyfaddas
I ragflaenu'n gry mewn gras,
Da bur rad, dy briodas.


Nodiadau

[golygu]