Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Henaint ac Ieuenctid
| ← Glynu wrth bechu | Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy |
Breuolder Einioes → |
HENAINT AC IEUENCTID.
Tôn,—"Gadael Tir" y ffordd hwyaf.
"Dydd da fo iti 'r glanddyn, was gwagaidd ysgogyn,
O'th ledol rwy 'n canlyn, tro i 'mofyn à mi,
Moes imi o'th gyweithas ddeheulaw cymdeithas,
I fod yn dda addas ddyweddi."
"Dydd da fo iti, hefyd, grap bochlas crebychlyd,
Nid adwaen pwy ydwyd pe llithid fi â llw,
Os oes iti neges, cyrwydryn y rhodres,
Mynega di hanes dy henw."
"Fe'm henwir i Henaint, dwys salfryd iselfraint,
Ti adwaenost fy ngheraint yn gywraint i gyd,
Am iti fy lowtio a'm prysur ddibrisio,
Mi a'i gyrra nhw i'th rwydo di o'th rydid."
"Ai dyna, wradwyddus, dy henw di-hoenus?
Nid ydyw gariadus na melus i mi
Dy fostio di 'n feistir, na'th geraint ni'th gerir,
Pa foddion yr henwir y rheini?"
"Llechweddlwyd a Moelni, Crebychrwydd a Chulni,
Gargryndod, Croen-grychni, Cringrachlyd, a Chrest,
Dall, Byddar, Cloff, Efrydd, Craith-grimog, Crwth-grymydd,
Yw mrodyr ar gynnydd, wyr gonest."
"Afrwydd-deb i'th frodyr anynad eu natur,
Cymdeithion di-gysur, di-bybyr, di barch,
A thithau'n eu cwmni, da dylid dy grogi,
O cynygi fyth imi'r fath amarch."
"Yn ara 'r cydymaith, croes eiriau crâs araith,
Tra ofer trwy afiaeth naturiaeth wyt ti,
A'th odlan ffraeth adlais, mi a fedra ar fyrr ymgais,
O'th falais du ddyfais dy ddofi."
Dy waethaf, di-wythen, dwl lewyrch di-lawen,
Wynebwr aniben, a'i ddichwen yn ddig,
Mi a 'mgadwa 'n ddiogel, baun awchus ben uchel,
O'th afel, warr isel wr ysig."
"Er uched dy wrychyn, mi a dipia dy dopyn,
O flewyn i flewyn yn sydyn dan ser,
Mi a wnaf dy laes locsiau, a'th dynion gudynau,
Yn gwtus gwyn tenau gwan tyner."
"Tra caffwyf dy weled, noeth gleiriach, na'th glywed,
Ni wnei di fawr niwed, a gwaeled dy gas,
Mi welaf fy nwylo, waith bywiog i'th bwyo,
Heb rusio dy ddulio di, ddelwas."
"Mi balla 'r clyw pwyllig, a'r golwg tra ffrolig,
O'th dymer ystyfnig, maith ryfyg, mi'th ro;
Heb egni yn dy gygnau, na's gelli di ar forau,
Gau un o'th fotymau heb eu twymo."
"Rwy'n wamal, rwy 'n chwimwth, mi 'sponcia'n ddisymwth,
O'th fagal a'th fygwth, was culgrwth, os caf
Fy 'wyllys yn rhygul, ni byddi di ar dreigyl,
Yn aros ar gyfyl y gauaf."
Mi ymwela a'th gymhala, cyn hanner Gorffenna,
Mewn gwewyr y gaua, mi a'th grymaf di i'th gryd,
Mis Mawrth os arhosi, gan drallod musgrellni,
Bydd anhawdd dy siomi di i symud."
"Ffwrdd ymaith, ffei ferthyr, beth elli di wneuthur?
Y bwbach di bybyr, trwm natur tro 'n ôl;
Pa hyd y cei di eto, drwy falais drafaelio,
I'm blino ac i'm llidio i o'm lledol?"
"Holl ddyddiau dy amod, o'th yrfa i'th orfod,
Cei blâu ymhob aelod, fil drwyddod fel drain,
O'th rym i'th orthrymu, a'th ogwydd ar fygu,
Yn porthi pesychu pwys ochain."
"Mi fynna ar fyrr amnaid dda dirion ddoctoriaid,
Os bydd yn angenrhaid i'm cyfraid eu cael;
A roddo gynghorion iachusol a chyson,
Yn erbyn dy swynion, was anhael."
"Nid oes na physygwr, na llonwych ddarllennwr,
Eill byth o'th drwm gyflwr dy gyflawn wellhau,
Nag undyn sy 'n cerdded daearen dy wared
O'm caled flin dynged, ond angau."
"Och finnau, mae hwnnw a'i chware 'n rhy chwerw,
Fo'm lladd innau 'n farw drwy salw dro sor,
A'th esgyrn mi 'mwasga, mwys amod moes yma,
Cyn dyrnod dig angau, dy gyngor."
"Cais ddilyn yn hylwydd ffordd union sancteiddrwydd,
O'th fydol ynfydrwydd gwall awydd gwellha,
Yn daeraidd hyderus, bydd hefyd fodlonus,
I 'wyllys gwir iachus Gorucha."
"Duw deilwng dadoliaeth a'm dygo i farwolaeth,
I nefol fywioliaeth da luniaeth di-lid,
Lle byth ni ddaw Henaint i'm curio a'i ddrwg ceraint,
Nag angau, digofaint, na gofid."