Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Marwnad Mari'r Ail
| ← Ymryson am swyddau | Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy |
Marwnad Mari Wenn → |
MARWNAD MARI'R AIL.
[Merch Iago II., brenin Pabyddol Lloegr o 1685 i 1688, a gwraig i Dywysog Orange, arweinydd y Protestaniaid, oedd Mari. Yn nhy ei thad, oedd wedi bradychu Eglwys Loegr, "ty Rimmon torr amod," yr oedd yn Brotestant selog yn blentyn. Aeth i Holand wedi priodi, ac enillodd serch yr Isellmyn trwy ddysgu eu hiaith, ac ymddangos iddynt fel yr oedd yn syml, garuaidd, galon lân. Pan ddiorseddwyd ei thad yn 1688, etholwyd ei gŵr yn frenin Lloegr a Chymru yn ei le, dan yr enw William III. Daeth hithau'n frenhines ei gwlad, a glwys lygad Eglwys Loegr." Ymbriododd ei hunig chwaer Ann a George, tywysog Denmark, a'u mab bychan hwy oedd Duc Caerloew. Er dioddef llawer,—llid rhwng ei thad a'i gŵr, anffyddlondeb ei gŵr, oeraidd gariad ei chwaer, cadwodd serch y bobl oherwydd ei chymeriad gloew a hoffus. Ond ei marw apeliodd fwyaf at galon gwlad. Ar ddydd Nadolig 1694. gwelid fod y frech wen wedi cydio ynddi, ac nad oedd obaith am ei bywyd. Wedi dyddiau o weddi daer a chlefyd trwm, ehedodd ei hysbryd addfwyn ffyddlawn ymaith Rhagfyr 28ain, 1694-]
PEDAIR Mair mewn purder mawl,
Priod addas, pryd weddawl,
A fu i'w hoes ddigroes ddawn,
Hoffaidd, enweg, ffydd uniawn;
At iraidd ddawn tair oedd dda,
I'w dewis yn Judea;
Tair chwioredd, burwedd bwyll,
Oedd odiaeth fuchedd ddidwyll;
Mam ein Prynnwr, rhoddwr hedd,
Oedd yr hynaf, dda ei rhinwedd;
A'r ail oedd wraig reiol wych
Alffeus, rhad rhoddiad rhwyddwych;
A'r drydedd oedd wraig dradoeth
Zebedeus, i'w hoes bu doeth;
A'r bedwaredd glirwedd glau,
Eneiniog i'n hoes ninnau,
Oedd frenhines gynnes gain,
Downus bryd, Ynys Brydain.
Gwae Frydain, o gu frodyr,
Am aur ben balmwydden bur;
I'w ei therfyn daeth oerfel
Ag oer gwyn, Lloegr a'i gwel;
A Chymru o nŷch amryw
Mae'n oer hon am un o'i rhyw;
Huno a wnaeth llin aeriaeth llon,
Cur oerddwys, Ffrainc a'r Werddon;
A gwynwydd dawn gynnydd da
Glod bonedd gwlad Albania;
Gwae Holand, gwaew helaeth,
A Fflanders sydd mewn cystudd caeth;
Trist oeredd trwy ystyried
Beunydd yw cri bonedd cred;
Oer yw gloes yr eglwysydd,
Ddwyn canwyll a phwyll y ffydd;
Dwyn Mari, doniau mawredd,
Galon bur, i geulan bedd.
Llenad oedd dan nefoedd Ner,
A'i llewyrch wrth fodd llawer;
Boddiodd hon bob dynion da,
Dawn bonedd, a Duw'n benna;
Seren gras y teyrnasoedd,
Dirion iawn, o'r dwyrain oedd,
Fal seren wâr liwgar lon
Gywir daith y gwyr doethion;
Y seren hon, cofion cu,
A'u twysodd nhw at Iesu;
Yr un wedd, hoff rinwedd ffri,
Da fwriad, y doe Fari
I'n troi ni at yr iawn nod
O dŷ Rimmon dorr amod;
Hon tan Dduw, a'i hynt yn dda
Gu fawredd, a gyfeiria
I safio rhag plagio plaid
Oes downus Protestaniaid.
Trwm i'r rhain trwy amur hin
Du rew llawn hyd orllewin;
Gwall i'n plith golli o'n plaid
Aeres y goron euraid;
Am lin aeriaeth lân euroes
Siarl iawn hil, siwrlyw ein hoes;
Aeres oedd o Harri Saith,
Bur waed downus Brytaniaeth;
Aur ddawn parch o wreiddyn pur,
Hynt dedwydd, Owen Tudur;
A siwr had seren hedd
Wen gannaid Owen Gwynedd;
Gwae hiloedd pob gwehelyth,
A gwae ni bawb gwyno byth
Roi llin Cadwalad i'r llwch,
Fendigaid, a'i fwyn degwch;
Brenhines hil brenhinoedd,
Bryd da sail, o Brutus oedd;
Gwae ni os aeth, gynnes wedd,
Lloer Europ i'r llawr oeredd;
A'i haul i'w hôl, gwrol gyrch,
O'i dda liw yn ddu ei lewyrch.
Dan glips gloes oer dduloes ddydd
Y mae'n llew a'n pen llywydd; "
Oer i William yw'r alar,
A briw dwys am briod wår;
Da dan Ner i'n hamser ni
A fo rhad ei fawrhydi;
Mewn dedwyddol heuddol hedd
Gywir fawl, a gorfoledd;
Yn 'r un ffydd, cu lywydd clod,
A'i frenhines fron hynod;
Glwys lygad Eglwys Loeger,
A'i gwinwydden burwen bêr,
Ydoedd Mari, dydd marwol
Fyd oer hin fod ar ei hôl;
Oerder maith ar dir a môr
A bery drwy bob oror;
Hyd ing mawr clywch Denmark lân,
Nych anfad, yn ei chwynfan;
Gwir Ann loer ddi-egwan les,
Dowys hygar Dywysoges,
Am un chwaer mae hon a'i chwyn,
Heb pall och yn pwyll achwyn;
Duw a sirio, dwys eirian,
Ei phryd glwys a'i phriod glân;
I dwf a hawdd da fo hynt
Y Duwc William deg helynt,
O Gaerloew, gywir lain,
Hoewder bryd hyder Brydain.
Och goffa, afiach gyffes,
Oerodd yn llwyr wreiddyn lles;
Oer yw llwyddiant ieirll heddyw,
Oer eu cri am Fari yn fyw;
Oer yw gwleddoedd arglwyddi,
Oerodd cred o'i herwydd hi;
Gwae esgobion sadfron sydd,
A diaconiaid da eu cynnydd;
Tro oedd ormod trwy ddirmyg,
Torri pen y llên a llŷg;
Trawiad trwm, godwm gwedi,
Torri nerth ein tarian ni;
Torri teyrn y tair ternas,
Tre Gaerludd, trwy gur a las.
Powls[1] wiw sêl, pa loes a sai,
A briw 'n undeb brenhindai,
Ni bu ar y ddaiaren
Newydd waeth i'r Neuadd Wenref[2];
Ail cystudd Job trwy bob tras
Yw'r dyrnod ar y deyrnas;
O awch hiraith, och oered
Calonnau ffydd crefydd Cred;
Mari oedd ei myrwydden,
A'u tarian ddur pur, a'u pen;
Ail heb gêl oedd ei helynt,
Oes byth gof, i Elsbeth gynt;
Ag ail Ester gu lwysdeg
Ydoedd hon, fron ddi freg.
Och hunodd Yn iach ini
Am gywir sail ei hail hi;
Iesu o'n plith is yw ein plaid,
Ac ai ran ddydd Gwirioniaid;
Oed Tywysog y tywysogion,
lawn goel, i hedd yn galw hon,—
Mil saith gant, di-heuddiant hedd,
Nod awch blin, ond chwech blynedd,
Ag oedran gwawr freulan frest
Y Frenhines fron onest
Tri deg a dwy, canmwy cŵyn,
Trwm yw'r och tra mawr achwyn;
Ifanc oedran, wiwlan wedd,
Hen er hynny mewn rhinwedd.
Gwae lawer bro gofio gwyl
Diwedd oer ei dydd arwyl;
Bu, amod dwys, bumed dydd[3]
O Fawrth du anferth dywydd;
Ochain clau a chanu clych
Trwy'r deyrnas, troiad oernych,
Pan aeth rhan peniaeth rhinwedd,
Rasol fwyn, i'r isel fedd;
Dydd gorthrymder llawer llys,
Dwyn enaid y Wen Ynys;
Dydd a roes diweddar wisg
Laweroedd dan alarwisg;
A than loes, trwm einioes trig,
Y Frudain yn friwedig
Am frenhines gynnes gu,
Hoff ddewisol ffydd Iesu.
A Duw Iesu, da oesawl,
I ddinas hedd, ddownus hawl,
Aeth a'n pen gwinwydden ni,
Wych rinwedd, i'w choroni
Yn frenhines, mantes mwy
Na llydain aur colladwy;
Lle i bydd bri Mari a'i mawl,
Heb dro gwedd, yn dragwyddawl;
Dan iawn nodded dawn addas
Duw a'r Oen, mewn diwair râs.
Nodiadau
[golygu]- ↑ St. Paul's.
- ↑ Whitehall.
- ↑ Yr oedd y Frenhines wedi marw er un o'r gloch y bore, Rhagfyr 28ain, 1694 Peraroglwyd y corff, cludwyd ef yn y nos o Kensington i Whitehall. Oedwyd y claddedigaeth hyd Mawrth 5ed, 1695. Gyda rhwysg mawr rhoddwyd corff Mari yng nghapel Harri'r Seithfed ym Mynachlog Westminster.