Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Marwnad Mari Wenn
| ← Marwnad Mari'r Ail | Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy |
Carol Nadolig Crist → |
MARWNAD MARI WENN.
Tôn,—"Cymsymsiwn."
OCH weled mynych wylo, awch adwyth, ag ochneidio
Am hoffaidd wraig ddi-gyffro, trwm gofio briddo ei bron;
Cwyn hynod, cawn i'n hynys laweroedd yn alarus
Wrth gofio gwedd gariadus haelionus hoenus hon;
Am Fari Wenn ni fwriwn ni
Er wylo hir mo'i halar hi,
Trwm echryslawn greulawn gri
Oedd roddi gro ar ei grudd;
Mae duloes gaeth mewn dilys gŵyn
Am bur gymdoges fonwes fwyn,
Bob munud awr o ran ei dwyn
Mawr achwyn sydyn sudd.
Gwraig union bur ddi gynnen a gerid yn y Gaerwen,
Hael lesol, ei helusen yn llawen ceid o'i llaw,
A'i hymddygiad ni bu ddigus nag anfwyn genfigenus,
Na chreulawn na chwerylus, anhwylus frochus fraw;
Ond mwyn a llariaidd ymhob lle
Erioed lle'i rhodiodd lan a thre,
A di-niwed dan y ne
A fydde ei geirie heb gas,
Yn ol ei huno cofio cawn
Ei di somgarwch degwch dawn,
A'i siriol wedd gysurol iawn,
Arwyddion llawn o râs.
Di suraidd oedd ei siarad, iaith union a'i chwerthiniad,
Yn hawddgar ei hymddygiad mewn cariad rhoddiad rhwydd;
Dur galed ydyw 'r galar, rhoi clo ar ei hwyneb claiar,
Rhinweddau hon i'r ddaiar yn gynnar aeth o'n gwydd;
Am ferch ag aeres William Wynn
Ag ŵyr i Sion mae gwewyr synn;
Ag oeredd gwyn o herwydd hyn,
Bob awr i'n dilyn daw.
Aeres meddiant Sychnant sydd,
A'i diwair gorff mewn daiar gudd,
Och rhoi graian uwch ei grudd,
A wnaeth mor brudd y braw.
Hil Saethon winwydd enwog oedd Mari Wynn ddi-oriog,
A llawen waed galluog Rys Dwysog rywiog ryw,
Er bod ei chlod a'i rhinwedd mewn cariad draw yn cyrredd,
Di fylchwaed, nid oedd falchedd o'i bonedd tra fu byw;
Ond cyd ystyriol, fuddiol fodd,
A'r isel radd, bun rasol rodd,
Yr hin yn drom i'r rhain a drodd
Y dydd yr hunodd hon;
Pob ffrind a châr uwch daiar den
A'i carai sydd yn brudd dan nen,
O fore i hwyr am Mari Wenn,
Winwydden lawen lon.
Mae'n brudd i'w hanwyl briod am uchder i lonychdod,
Trist oeredd oedd y diwrnod pan aeth i bennod bedd,
Och weithian fod cyn chwithed i Edward Williams weled
Y Gaerwen fyth cyn oered, a gwaeled, am ei gwedd;
A'i hunig eneth hon a gawn,
I'n rhoi mewn cysur ddifir ddawn,
Beti Williams, deuliw 'r gwawn,
Hoff uniawn i choffhau,
Bendithion grasol nefol nen
Ddi alar byth a ddêl ar ben
Merch ag aeres Mari Wenn,
Yn llawen i'n gwellhau.
Cwrs natur oedd fod eto ei mam a'i chwaer i'w chofio
A'i theulu yn cyd wylo o'i phriddo, teg ei phryd,
Cyfathrach sydd hiraethlon o'i dygiad, a'i chymdogion,
Dwl adwyth i dylodion dan bwys helbulon byd;
Y rheini sydd yn brudd heb wres
Am bur elusen lawen les,
A'i chwerthiniad twmniad tes
Mor gynnes yn eu gwydd,
Gwraig bur ei moddion ymhob man,
Gwir rowiog iaith i gry a gwann,
A doniau rhinwedd da 'n ei rhann,
Di sarrug dan ei swydd.
Ni chariodd ddig na cherydd un diwrnod yn ei deurudd,
Nag athrod a wnai gythrudd, ond pur lawenydd parch,
Yn llariaidd fwyn gellweirus, wych radol a chariadus,
Fel Sara fawl gysurus, da hwylus, hyd ei harch;
Ag aili Rahel dawel daith
Ei heinus wedd a'i hynaws iaith,
A'i gorchwyl trefnus weddus waith,
Da lanwaith a di-lusg,
Am hynaws gariad hon nis gwaeth
Heb hir ochneidio cwyno caeth,
Ei phryd naturiol fuddiol faeth
A'i mwynder aeth o'm mysg.
Mil chwechant pedwar igian ag un ar bymtheg weithian,
I'w edrych, dyna oedran hoff rwyddlan Brynnwr ffri,
Pan roddwyd corff bun raddol i'r gweryd dŷ daiarol,
A'i henaid, mae'n obeithiol, i'r nefol freiniol fri;
Yn Rhagfyr fis o'r dewis doed,
Y seithfed dydd ar higien rhoed
Yn Llanystumdwy yno i cloed,
Yn ifanc oed ei gwedd.
Ffarwel i'w hwyneb hynaws bryd,
Da ddiwael barch, hyd ddiwedd byd,
Yr unig Ior a ro i ni i gyd
Ail fywyd hyfryd hedd.