Neidio i'r cynnwys

Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Marwnad Sion Dafydd Las

Oddi ar Wicidestun
Canu Mawl Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy

gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy

Gochelwn gau athrawiaeth

MARWNAD JOHN DAFYDD Y PRYDYDD.
[Brodor o Lanuwchllyn oedd Sion Dafydd Las, a bardd teulu Nannau. Bu farw yn 1694—]

PERERIN wyf dan glwyf gloes,
Pell anial o'm pwyll einioes;
Pwyll ni bydd mewn cystudd caeth,
Pais oeredd yw pwys hiraeth;
Pall oerais mewn pwyll eurwawd,
Plwm yw mron, p'le mae mrawd?
Pen cerddwawd, paen cowirddoeth,
Pwy ail ar d'ol, piler doeth?
Pinagl clôd cerdd dafod wir.
Pleth wiwlan, p'le i'th welir?
Ai yn Nanne iawn ini,
Amle tro, dy geisio di?
Tyrd, a'th ganiad clymiad clau,
Ddiwael gall, i Ddolgellau;
Lle i byddit mewn llu buddiol,
Allan o rwysg a llawen rôl,
Yn clymu clod, ddefod dda,
Y llynedd o'r llawena;
Ag y leni tewi tost,
Un fu doeth yn fud aethost;
Heb undyn byw a glyw'n glir
Sion Dafydd a'i sain difir.
Ow, clyw dy alw, clod wiwlan,
Ai sarrig wyt, saer y gân?
Gwelais dro heb gilio'n gwit
Yn iaith awen na thewit;
Gwrando bur gywreindeb iaith
Tŷb onest, ateb unwaith.


Ateb y Marw.

"Taw Owen, wyt o awydd
I anfad ffôl ynfyd ffydd;
Na thrin awch cethin uwch côr
Swyndod Dewines Endor;
Gwers pabaidd heb gwrs pybyr
Yw dy sad ofyniad sur;
Ffol iti, a mi 'n y medd,
Sur wawd goeg siarad gwagedd."
Ai yna'r wyt, oen aur iaith,
Paen mwynelw pen manylwaith?
Ow, tyred, od wyt wrol
Eto un awr atai'n ôl;
Gad unwaith drwy fwyniaith dro,
Atolwg, ysgwyd dwylo;
Galw bot, gwilia betio
A'th frawd ffydd, a'th fryd i ffo;
Yno'n deg awn ni'n dau
I siarad am fesurau,
A thrin dawn athrawon dysg,
Cerdd eiliad cywir ddilysg.
"O taw ddyn, wyt ti ddwl
Wan di-fudd yn dy feddwl?
Daiarol wyt, dyro le
O'm gwir rann i'm gair inne;
Ni weua bardd yn y bedd
Air di-fis er dy faswedd;
Gwely oer, gwael i aros,
Diddawn yw, bob dydd a nos;
Heb liw tes, heb oleu tân,
Heb goel aur, heb gael arian,
Na champ iawn, na chwmpeini,
Na merch wen i'm hannerch i,

Na miwsig tant, na'i chwant chwaith,
Na chariad na chywiriaith,
Na bardd gwledd, na biroedd glân,
Na gweled un ffrind gwiwlan;
Na gallu, enwog wyllys,
O wisgiad bedd ysgwyd bys;
Dyna garchar daiar den,
Ffei oer le, ffarwel Owen;
Cân di i Dduw cyn dy ddwyn
I'r llaid, arch, oerllyd erchwyn;
Dilyn iaith i'w dal yn ôl
Cynnes bryd cân ysbrydol;
Annerch fawredd glirwedd glau,
Bob yn un bawb yn Nannau;
Ag annerch wladwyr Gwynedd,
Oll i gyd alluog wedd;
Bellach, ddyn, na ymofyn mwy
Gwel, llwyr raid, gwael lle 'r ydwy."
Och gwelaf yn iach galon
Waith aml serch i'th ymyl, Sion;
Ond rhyfedd mewn llychfedd llwyd
O'th nwydau i'th newidiwyd;
Prudda dim, priddwyd ais
Clir odlau claiar adlais;
Yn iach, ganwr uwch Gwynedd,
O'th fath os aethost i'th fedd
Aeth y gerdd iaith gywirddwys,
A'i dawn i gyd dan y gwys;
Swrth air bwnc syrthio i'r bedd
Syth gu hâd saith gyhydedd;
Aeth heddyw yn waeth addysg,
Saith colofn cerdd ddyfn gerdd ddysg ;
Yn ol Sion, frau union fryd,
Gwael a fydd y gelfyddyd;

Cynnydd oedd awenydd wych,
A'i fawl asiad felyswych;
Aer i Homer aur heniad
Ydoedd Sion winiedydd sad;
Ag aer Awen goreuwych,
Tlws iawn waith Taliesin wych;
A'i lwys eglur lais wiwgloch
Yn ail i gân Iolo Goch;
Purwr gwawd hap eurog wedd,
A mawl fodiad melfededd;
Milwr clod ymylwr clau
A'i rychor cywir achau;
A'i hwyl dwys wrth reol deg,
Grym odiaeth y Gramadeg;
Aeth cynghanedd rinwedd rôl
Draw i gudd yn dragwyddol;
Gwedi trin gwenithin gwawd,
Dywyll oerach daw llerwawd,
A grawn surion, grin sorod,
Yn lle meithrin clirwin clod;
Am afal per mwyfwy pwyll,
Mae crabas yma i'w crybwyll;
Hunodd y gán wiwlan gu,
Hynod iâs, yn oed Iesu
Mil saith gant chwibiant ond chwech,
Cwyn bwriad cawn heb eiriech;
Collodd ei braint, callwedd brŷd,
Cwyned beirdd, wanfeirdd ynfyd;
Cur oedd farw cerdd Feirion,
Gwn farw ei saer gan fwrw Sion;
Ffarwel faith dasgwaith dwysgerdd,
Ffarwel cael hoff reol cerdd ;
Marw a wnaeth Meirion awen,
A doniau byth, dyna ben.


Nodiadau

[golygu]