Neidio i'r cynnwys

Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Mynd yr hen

Oddi ar Wicidestun
Breuolder Einioes Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy

gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy

Creadigaeth dyn

MYND YN HEN.

MYND yn hen geubren gobrudd—yr ydwyf
O'r adfyd bwygilydd;
Heb wybod chwaith daith y dydd,
I huno, na pha ddihenydd."

Dirgel yw ffarwel y ffun—o'r genau
Ar gynnil funudyn;
O'i randir ni ŵyr undyn,
Dda hwyl, mo'i ddiwedd ei hun.

Bydd tranc i'r ifanc, a'i ryfyg—degwch
Yn digwydd heb ddiffyg
Fel i'r hen, oer grechwen grug,
Wan ddiblaid, yn ei ddeublyg.

Mehefin 30, 1728.


Nodiadau

[golygu]