Neidio i'r cynnwys

Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Ocheneidiau byrion

Oddi ar Wicidestun
Gweddi'r ffydd Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy

gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy

Yr Haul

OCHENEIDIAU BYRION
I'w harfer wrth Fwrdd yr Arglwydd.

O ARGLWYDD nef a daiar, dod
Dy rasol gymod i mi;
Sydd yma o flaen dy fwrdd a'th wledd,
Mewn agwedd gwaeledd, gweli.

Anheilwng wyf, greadur gwan,
I ddyfod dan fy nghronglwyd;
Pechu a wneis, rwy 'n addef hyn,
Duw Israel, tyn fi o'm caethfyd.

O'th flaen, O Arglwydd, pwy a sai
Os creffi ar fai anwiredd?
Ond gyda thi mae ymwared da
Yn aml, a thrugaredd.

Edrych ar dy anwyl Fab,
Ai haeddol Dduwdod ddidwyll,
Yr Hwn a'th lawn foddlonodd di
I'n tynnu ni o'r tywyll.

Gwrando ar lef ei waed a'i loes
Er dawn i einioes dynion,
Yr Hwn sy'n traethu gwell heb gel
Nag eiddo Abel gyfion.

Drwy i ddirfawr ing a'i waedlyd chwys,
O Dduw daionus, arbed;
A thrwy i echryslon greulon groes
Yn marw moes ymwared.

At Grist.

Oen Duw 'r heddwch, trugarha,
A chaniadha dangnefedd;
Tydi ddileuwr beiau 'r byd,
Pardyna i gyd fy nghamwedd.


Ti a ddywedaist, Arglwydd da,
Y sawl sy'n bwyta 'n hyfryd
Fy nghnawd ac yfo yngwaed yn ol,
A geiff dragwyddol fywyd."

Wele fi, dy was an—wiw,
Dan lawer briw dolurus,
Bydded imi, un Mab Mair,
Yn ol dy air daionus.

Wrth dderbyn y bara dywed,—

Drwy dy gorff croeshoeliog di,
O gwared fi, fy Mhrynnwr,
Oddi wrth gorff y farwolaeth hon,
I'th foli 'n ffyddlon filwr.

Wrth dderbyn y cwpan dywed.—

O bid i'th waed, drwy union dro,
Lân buro fy nghydwybod
Oddi wrth weithredon meirwon mwy,
I'th ddilyn drwy gyfamod.

Ti a elli os mynni fy nglanhau,
Oddi wrth bechodau gwarthus,
O dywed "Mynnaf, bydd yn lân
O'th glefyd gwahanglwyfus."

Yn ol derbyn dywed,—

Am dy fawrion ddoniau heb feth
Yn deilwng beth a dalaf?
Drwy gael dy ffiol lwyddol les,
I'th enw cynnes canaf.

I'r Oen a laddwyd teilwng iawn
Anrhydedd llawn alluog,
A nerth a moliant, parch a chlod,
Efe sy' i fod yn Dwysog.


Am hynny moliant, gallu, a nerth,
A phob rhyw brydferth fawredd
A fotho i'r Drindod ddwysglod ddawn
Gogyfuwch miawn gogonedd.


Nodiadau

[golygu]