Neidio i'r cynnwys

Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Rhagymadrodd

Oddi ar Wicidestun
Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy

gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy

Cynhwysiad

Rhagymadrodd.

WELE lafar eto, wedi angof llawer cenhedlaeth, i gân dduwiol a melodaidd Owen Gruffydd o Lanystumdwy. Try y byd ei glust yn hawdd i wrando ar fardd ieuenctid a chariad a thlysni 'r byd hwn; rhodder ambell awr dawel, hefyd, i wrando ar fardd henaint a'r bedd a'r farn a fydd. Y mae i'r delyn a'r crwth eu swyn cynhyrfiol byw; y mae i'r gloch hithau, o'r pellder draw, ei melusder tawel suol. Trown, am unwaith, oddiwrth fardd y dychymyg a'r bore; eisteddwn orig gyda bardd henaint a'r hwyr.

Ganwyd Owen Gruffydd yn 1643, bu farw yn 1730. Blynyddoedd cynhyrfus oedd y blynyddoedd hynny, blynyddoedd y Rhyfel Mawr[1] a blynyddoedd y Weriniaeth, blynyddoedd adferiad brenhiniaeth a blynyddoedd Chwyldroad 1688, blynyddoedd y rhyfeloedd meithion a blynyddoedd y wleidyddiaeth chwerw. Ond yn dawel iawn y bu Owen Gruffydd byw. Yn Llanystumdwy y bu ar hyd ei oes,—mewn ty ar dir y Ty Cerrig, yna yn y Siamber Fechan; a chafodd fedd ym mynwent ei blwy. Ychydig a wyddis o'i hanes boreol. Dywed traddodiad mai mab i offeiriad oedd, mab heb ei arddel. Ei waith oedd gwaith gwehydd a gwaith bardd. Gweai ddillad i'w gymdogion, gweai ei ddychymyg ddillad ysbrydol am gof hen wladwyr urddasol,—dillad oedd yn ddanghoseg i'w rhinweddau ac yn llen dyner dros eu bai.

Er ei dlodi a'i ddiffyg bonedd, yr oedd fel tywysog ymysg ei bobl. Amrhydeddid ef oherwydd yr awen oedd iddo; tybiai rhai ei bod yn ddawn proffwydoliaeth, ac eraill fod ysbryd dewiniaeth ynddi. Ymdyrrai plant o'i amglych, cyn i'r gwasanaeth ddechreu ar y Sul; perchid ef fel ymgorfforiad o'r henaint tawel na flinir gan nwydau ac uchelgais bywyd. Gofynnodd yr Esgob Humphreys ddysgedig foneddig, meddir, i'r hen wr godi yn yr eglwys a mynd allan o flaen. neb, oherwydd mai efe oedd y mwyaf anrhydeddus. Ar hyd ei fywyd hir bu ei ganeuon yn addysg grefyddol i'w oes, a honno yn oes dlawd mewn dylanwadau ysbrydol. Yn nydd y canu maswedd arwynebol, bu ymadroddion genau Owen Gruffydd, a myfyrdod ei galon, yn gymeradwy ger bron ei Brynnwr.

Nis gellir dweyd fod fflachiadau athrylith yn ei waith, fel yng ngwaith ei gyfaill Sion Dafydd Las; anaml y ceir tarawiadau naturiol Edward Morris na grym desgrifiadol Goronwy Owen yn ei waith ef. Ond ceir yn ei awen rym moesoldeb, hiraeth am burdeb, chwaeth ddyrchafol, a boneddigeiddrwydd dwys y gwir Gristion.

Canodd lawer marwnad a chân briodas i deuluoedd ysweiniaid Eifion, Meirion, Lleyn, ac Arfon. Yr oedd eu hachau ar flaen ei dafod, a medrus y medrai osod o'u blaen y rhinweddau yr ymfalchient ynddynt fel meddiant teulu. Yn ei gywyddau ef y cedwir eu hanes,—Boduan, Madryn, Cors y Gedol, Meillionydd, Clenenau, Dinas, y Glyn, Nannau, Bryncir, Cefn Treflaeth (a oedd ef ei hun yn hannu oddiyma?), y Gesail Gyfarch, Maes y Neuadd, Ynys y Maengwyn, Bodwrda, a llawer eraill.

Canodd ei gyfaill William Elias[2] wrth roddi corff Owen Gruffydd yn ei arch i fynd i ddaear Llanystumdwy, Rhagfyr 6. 1730, fel hyn,—

"Rhoi'r bardd mwyn, cufardd, mewn cist—o oer dderw.
I'r ddaiaren athrist;
Oi edrych wyf yn odrist,
Mae'n bruddedd, druanedd drist."

William Elias, hefyd, yw awdwr yr englynion sydd ar ei garreg fedd yn Llanystumdwy,—

"Dyma fan syfrdan y sydd—oer gload
Ar glau—wych lawenydd,
Cerdd a phwyll cywir dda ffydd
Awen graff Owen Gruffydd.

Dwys—fyfyr, difyr, dioferedd—gamp
A gwympwyd i'r dyfn-fedd;
Pen clo cân, pinacl ceinwedd,
Gloew wych fawl, gwelwch ei fedd."

Nid yw y gyfrol hon ond detholiad o'i waith. Gadawyd y cywyddau achau ar ol; y maent yn fwy o werth, feallai, fel hanes hen deuluoedd pendefigaidd, nag fel barddoniaeth i ennill ffansi yr oes werinol hon. Ond dengys y cywydd cof am Sion Dafydd Las gymaint o farddoniaeth ac o deimlad fedrai Owen Gruffydd roddi mewn cywydd marwnad.

Am y cwbl sydd yn y gyfrol, a llawer ychwaneg, yr wyf yn ddyledus i lafur cariad diymhongar a gwerthfawr Myrddin Fardd. Efe yw bywgraffydd Owen Gruffydd,[3] a chasglydd ei waith, ac iddo ef y mae Cymru i ddiolch am sicrhau sylw i fardd na ddylid ei lwyr anghofio. Y mae peth o'r gwaith yn llaw Owen Gruffydd ei hun.[4]

Ni newidiais ond ychydig ar y llythyraeth, megis rhoddi ambell i'w yn lle yw, a lle yr oedd y bardd yn anghyson ag ef ei hun. Gofelais beidio newid dim sy'n taflu goleu ar hanes yr iaith, neu sydd yn dangos ol tafodiaith ardal Owen Gruffydd.

Owen M. EDWARDS.

Coleg Lincoln, Rhydychen,

Ionawr 1, 1904.

Nodiadau

[golygu]
  1. Cyn 1914-18 Y Rhyfel Mawr oedd Rhyfel Gartref Lloegr (tua 1639-1652)
  2. Cyfaill Goronwy Owen. O'i ysgriflyfr ef y cafwyd y darlun o Owen Gruffydd roddodd i Mr. Arthur E. Elias,—un o'i ddisgynyddion,—amlinellau i wneyd wyneb—ddarlun y gyfrol hon.
  3. Gwel y Llenor, Llyfr II. (Ebrill, 1895). Casglwyd i'r erthygl hon bob ffaith sydd mewn ysgriflyfr neu ar dafod am Owen Gruffydd. Gweler y bedd-argraph yn "Gleanings from God's Acre tra dyddorol Myrddin Fardd, tud. 236
  4. Nid wyf yn sicr ym mha le y mae y llawysgrifau yn awr. Mae rhai yn eiddo i Myrddin Fardd, ac y mae wedi gwneyd casgliad cyflawn o waith Owen Gruffydd o lawysgrifau Peniarth, Madryn, a lleoedd ereill.