Neidio i'r cynnwys

Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Ymryson am swyddau

Oddi ar Wicidestun
Dyriau ffarwel Merch yr Esgob Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy

gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy

Marwnad Mari'r Ail

YMRYSON AM SWYDDAU UCHEL.

LECSIWNAU yn glau i'n gwlad—heb eiriach
A berist anghariad;
O boddio rhai ni bydd rhad
Llid eraill, a'u lled wyriad.

Ymryson creulon cri alaeth—a bair
I bywer lai toraeth;
A throi cariad, gwyriad gwaeth,
Anwyl iawn, yn elyniaeth.

Fe wnaeth gelyniaeth gelanedd, gwelwyd,
A galar o'r diwedd;
A heuo gas, euog wedd,
Fyd ddiles, a fed ddialedd.

Atcas i deyrnas neu dŷ—o gilwg
I'w gilydd ymrannu;
Ni sai rhain, mae 'n siwr hynny,
I ofwy lles efo llu.

Ond gwell dda gymell ddigas—i'm gyrraedd
Am gariad cyweithas;
A gwell harddwch, gall urddas,
Dynion ymryson am râs.

Dyna 'r swydd ucha sydd iachus—gyflwr
Rhag aflwydd peryglus,—
Swydd dan Ner o'i lawnder lŷs
Piau bonedd pob ynys.

I'n bro da rhodio Duw 'r hedd,——hir amod,
Ar rwymyn tangnefedd;
Drwy fod cariad, wastad wedd,
Llawn i'n rhan, llinyn rhinwedd.


HENAINT AC IEUENCTID.

"Fe'm henwir i Henaint, dwys salfryd iselfraint,
Ti adwaenost fy ngheraint yn gywraint i gyd." Tud. 89.


Nodiadau

[golygu]