Neidio i'r cynnwys

Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy/Yr Haul

Oddi ar Wicidestun
Ocheneidiau byrion Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy

gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy

Canu Mawl

YR HAUL.

DIDDAN a gwiwlan yw gweled—yr haul
Ar ei hwyl, dda weithred;
A'i gyrch, wir lewyrch, ar led,
Rym mawr, i roi ymwared.

Pur lamp oreugamp i ragor—nid oes,
Yn ei daith a'i ordor;
Ag sydd, o fynydd i fôr,
Bawb i'w garu, bob goror.

Carwn a molwn ymylwr—y gwaith,
Ag ethol Greawdwr,
Ir holl fyd sydd hefyd siwr
Am wir raid ymwaredwr.

Haul Cyfiawnder Ner, aneiri—rinwedd,
Yw'r enwog oleuni,
I bawb sydd ufudd fri,
Wedd ddilys, i'w addoli.

Haul disglair bryd, ni fachluda—hwn byth,
Hynod beth i'w goffa,
A'i brydferthwch, degwch da,
Dduw, beunydd, ni ddibenna.


Nodiadau

[golygu]