Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy (testun cyfansawdd)
| ← | Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy (testun cyfansawdd) gan Owen Gruffydd, Llanystumdwy |
→ |
| I'w darllen pennod wrth bennod gweler Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy |


OWEN GRUFFYDD A'R PLANT.
"Ymdyrrai'r plant o'i amgylch cyn i'r gwasanaeth ddechreu ar y Sul." Tud. 4.
Gwaith
Owen
Gruffydd
O LANYSTUMDWY.

Llanuwchllyn:
Ab Owen.
ARGRAFFWYD I AB OWEN GAN R. E. JONES A'I FRODYR,
CONWY.
Rhagymadrodd.
WELE lafar eto, wedi angof llawer cenhedlaeth, i gân dduwiol a melodaidd Owen Gruffydd o Lanystumdwy. Try y byd ei glust yn hawdd i wrando ar fardd ieuenctid a chariad a thlysni 'r byd hwn; rhodder ambell awr dawel, hefyd, i wrando ar fardd henaint a'r bedd a'r farn a fydd. Y mae i'r delyn a'r crwth eu swyn cynhyrfiol byw; y mae i'r gloch hithau, o'r pellder draw, ei melusder tawel suol. Trown, am unwaith, oddiwrth fardd y dychymyg a'r bore; eisteddwn orig gyda bardd henaint a'r hwyr.
Ganwyd Owen Gruffydd yn 1643, bu farw yn 1730. Blynyddoedd cynhyrfus oedd y blynyddoedd hynny, blynyddoedd y Rhyfel Mawr[1] a blynyddoedd y Weriniaeth, blynyddoedd adferiad brenhiniaeth a blynyddoedd Chwyldroad 1688, blynyddoedd y rhyfeloedd meithion a blynyddoedd y wleidyddiaeth chwerw. Ond yn dawel iawn y bu Owen Gruffydd byw. Yn Llanystumdwy y bu ar hyd ei oes,—mewn ty ar dir y Ty Cerrig, yna yn y Siamber Fechan; a chafodd fedd ym mynwent ei blwy. Ychydig a wyddis o'i hanes boreol. Dywed traddodiad mai mab i offeiriad oedd, mab heb ei arddel. Ei waith oedd gwaith gwehydd a gwaith bardd. Gweai ddillad i'w gymdogion, gweai ei ddychymyg ddillad ysbrydol am gof hen wladwyr urddasol,—dillad oedd yn ddanghoseg i'w rhinweddau ac yn llen dyner dros eu bai.
Er ei dlodi a'i ddiffyg bonedd, yr oedd fel tywysog ymysg ei bobl. Amrhydeddid ef oherwydd yr awen oedd iddo; tybiai rhai ei bod yn ddawn proffwydoliaeth, ac eraill fod ysbryd dewiniaeth ynddi. Ymdyrrai plant o'i amglych, cyn i'r gwasanaeth ddechreu ar y Sul; perchid ef fel ymgorfforiad o'r henaint tawel na flinir gan nwydau ac uchelgais bywyd. Gofynnodd yr Esgob Humphreys ddysgedig foneddig, meddir, i'r hen wr godi yn yr eglwys a mynd allan o flaen. neb, oherwydd mai efe oedd y mwyaf anrhydeddus. Ar hyd ei fywyd hir bu ei ganeuon yn addysg grefyddol i'w oes, a honno yn oes dlawd mewn dylanwadau ysbrydol. Yn nydd y canu maswedd arwynebol, bu ymadroddion genau Owen Gruffydd, a myfyrdod ei galon, yn gymeradwy ger bron ei Brynnwr.
Nis gellir dweyd fod fflachiadau athrylith yn ei waith, fel yng ngwaith ei gyfaill Sion Dafydd Las; anaml y ceir tarawiadau naturiol Edward Morris na grym desgrifiadol Goronwy Owen yn ei waith ef. Ond ceir yn ei awen rym moesoldeb, hiraeth am burdeb, chwaeth ddyrchafol, a boneddigeiddrwydd dwys y gwir Gristion.
Canodd lawer marwnad a chân briodas i deuluoedd ysweiniaid Eifion, Meirion, Lleyn, ac Arfon. Yr oedd eu hachau ar flaen ei dafod, a medrus y medrai osod o'u blaen y rhinweddau yr ymfalchient ynddynt fel meddiant teulu. Yn ei gywyddau ef y cedwir eu hanes,—Boduan, Madryn, Cors y Gedol, Meillionydd, Clenenau, Dinas, y Glyn, Nannau, Bryncir, Cefn Treflaeth (a oedd ef ei hun yn hannu oddiyma?), y Gesail Gyfarch, Maes y Neuadd, Ynys y Maengwyn, Bodwrda, a llawer eraill.
Canodd ei gyfaill William Elias[2] wrth roddi corff Owen Gruffydd yn ei arch i fynd i ddaear Llanystumdwy, Rhagfyr 6. 1730, fel hyn,—
"Rhoi'r bardd mwyn, cufardd, mewn cist—o oer dderw.
I'r ddaiaren athrist;
Oi edrych wyf yn odrist,
Mae'n bruddedd, druanedd drist."
William Elias, hefyd, yw awdwr yr englynion sydd ar ei garreg fedd yn Llanystumdwy,—
"Dyma fan syfrdan y sydd—oer gload
Ar glau—wych lawenydd,
Cerdd a phwyll cywir dda ffydd
Awen graff Owen Gruffydd.
Dwys—fyfyr, difyr, dioferedd—gamp
A gwympwyd i'r dyfn-fedd;
Pen clo cân, pinacl ceinwedd,
Gloew wych fawl, gwelwch ei fedd."
Nid yw y gyfrol hon ond detholiad o'i waith. Gadawyd y cywyddau achau ar ol; y maent yn fwy o werth, feallai, fel hanes hen deuluoedd pendefigaidd, nag fel barddoniaeth i ennill ffansi yr oes werinol hon. Ond dengys y cywydd cof am Sion Dafydd Las gymaint o farddoniaeth ac o deimlad fedrai Owen Gruffydd roddi mewn cywydd marwnad.
Am y cwbl sydd yn y gyfrol, a llawer ychwaneg, yr wyf yn ddyledus i lafur cariad diymhongar a gwerthfawr Myrddin Fardd. Efe yw bywgraffydd Owen Gruffydd,[3] a chasglydd ei waith, ac iddo ef y mae Cymru i ddiolch am sicrhau sylw i fardd na ddylid ei lwyr anghofio. Y mae peth o'r gwaith yn llaw Owen Gruffydd ei hun.[4]
Ni newidiais ond ychydig ar y llythyraeth, megis rhoddi ambell i'w yn lle yw, a lle yr oedd y bardd yn anghyson ag ef ei hun. Gofelais beidio newid dim sy'n taflu goleu ar hanes yr iaith, neu sydd yn dangos ol tafodiaith ardal Owen Gruffydd.
Owen M. EDWARDS.
Coleg Lincoln, Rhydychen,
Cynhwysiad.
Y Prydydd a'r Gog
Merch Fedydd
Wrth Bysgota
Goganu ein gilydd
Diolchgarwch i Dduw
Clyw hyn
Amser helbulus
Ennyn Llid
Bonedd
Carol y Byd Dyrus
Ateb Owen Gruffydd
Hyder yn Nuw
Byrr feddwl, hir ofal
Amser tymhestloedd
Gweddi'r ffydd
Ocheneidiau byrion
Yr Haul
Canu Mawl
Marwnad Sion Dafydd Las
Gochelwn gau athrawiaeth
Dioddefaint Iesu
Dyma ffarwel
Iddo ei hun
Oni bae'r dafarn
Yn Nhy Dduw
Wedi derbyn y cymun
Bywyd dyn
Gwaith yr wyl
Cân y Pren Almon
Bodlonrwydd
Braint henaint
Rhegu a thyngu
Cywydd y March
Galarnad John Owens
Cân ffarwel i Esgob Bangor
Dyriau ffarwel Merch yr Esgob
Ymryson am swyddau
Marwnad Mari'r Ail
Marwnad Mari Wenn
Carol Nadolig Crist
Y Seren Wyl
Glynu wrth bechu
Henaint ac Ieuenctid
Breuolder Einioes
Mynd yr hen
Creadigaeth dyn
Yr hen wladwyr gynt
Dydd y Farn
Erfyn am ymwared
Myrfyrdod un yn ol bod yn glaf
Mewn poen
Y bedd
Carol un oedrannus

Darluniau.
Owen Gruffydd a'r Plant . . . ARTHUR E. ELIAS.
Ar y garreg farch wrth borth eglwys
Llanystumdwy, cyn y gwasaneth
Pont Llanystumdwy", . . . S. MAURICE JONES.
Y Fellten . . . ARTHUR E. ELIAS.
"Bygythion bregetha y cyfion Jehofa
Yw mellt a tharanau, dychrynia dra chwyrn."
Derbyn y Cymun . . . ARTHUR E. ELIAS.
"O daen dy fwrdd a'th wledd,
Mewn agwedd gwaeledd, gweli,"
Canu Carol Nadolig . . . ARTHUR E. ELIAS.
"Rhowch i'r Gorucha lwys unol Hosanna,
Yn gyfa, bawb yna, bob enaid."
Henaint ac Ieuenctid . . . ARTHUR E. ELIAS.
"Fe'm henwir i Henant, dwys salfryd iselfraint,
Ti adwaenost fy ngheraint yn gywraint i gyd."
Dydd y Farn . . . ARTHUR E. ELIAS.
"Lle i gwelir Iesu yn gwasgaru
Yn ddiatal bawb o'i ddeutu."

Y FELLTEN.
"Bygythion bregetha y cyfion Jehofah
Yw mellt a tharana, dychrynfa dra chwyrn." Tud. 25.

Y PRYDYDD A'R GOG.
Tôn—"BLODAU'R DYFFRYN."
DYDD da fo i'r Gwew loew, lân,
A'th firi gân ar forau;
Mae son dy barch am swn dy big,
Wers diddig, er ys dyddiau;
I diwnio'r twyn, am danat ti,
'Roedd mwy na mi'n ymofyn;
Paham y rhoddaist gymaint oed,
Cyn deffro ynghoed y Dyffryn,
Gan fod mor ffrwythol lwyddol les,
Fawl addas, wres y flwyddyn?
"Y Prydydd mwyn, pa raid i mi
Mo'r gwyro i ti nag arall;
Ond i'r sawl i'm henwi sydd
Yn ol ei rybudd diball?
Yr ydwyf fi'n cyflawni, clyw,
Orchmynion Duw hyd angau;
I foddio Ner na fydd yn ol
O'th daith amserol dithau;
Ar drechu trachwant, blysiant bla
Daearol, gwna dy orau."
Ai rhybudd wyd, a'th las-lwyd liw,
Yr edn wiw 'i anrhydedd,
Ar fy nifethu'n clymu clod,
Fwyn awen, fod fy niwedd?
A geiriau braw i'm gyrru'n brudd,
Gosodaist newydd sydyn,—
I farw o'i fodd ni fyddai neb
Boddlonus wyneb blwyddyn :
A'r byd amserol deithiol dô,
Gad eto im' dopio dipyn.
"Er gwyched meillion hinon ha,
Na chynnyg, gwylia, chwennych.
Ond a roddo Duw i'th ran,
Ar wedd dy oedran edrych;
Yr wyt yn sefyll ar naw saith,
O flwyddi'th ymdaith yma,
Ar hyn o oedran, gyfan gŵyn,
Bu farw'r forwyn bura,
Oedd fam dy Brynwr, Barnwr byd,
Mesurwr hyd dy yrfa."
Mae son yn wir am seithiau naw,
I'm gostwng daw dy gwestiwn,
Y bydd yr ola o'r rhai sy'n byw,
Yn trwsio at ryw altrasiwn;
Moes dy gyngor beth a wnaf,
Pa fodd yr af i rifo
Fy nyled drom; mae'n llom fy llaw,
I'm Prynnwr draw ympirio;
Yn brysur iawn pan basio'r oes,
I'm gwedd nid oes ymguddio.
"Am bob drygioni, ffansi ffol,
Difrifol edifara;
A thafl y byd o'th ol ymhell,—
Am drysor gwell ymdrwsia;
Edifeirwch gwir, a ffydd
Yn Nghrist, a fydd yn foddion,
I'th ddwyn, er gwaethaf dy holl gas,
Yn siwr i ddinas Seion,
Lle cei'n dragwyddol fywiol fyw,
Yngolwg Duw a'i angylion."
Dduw, maddeu i mi fy meiau mawr,
Pob dydd ac awr, a gerais;
A'th holl orchmynion cyfion cu,
Ni wiw mo'r taeru, torrais;
Nac edrych, Dad, nid ydwy ond gwan,
Ar lawnder anheilyngdod;
Ond ar haeddiant Oen Duw'r hedd,
A'i sanctaidd fuchedd uchod;
Er mwyn ei gariad ar y groes,
Nag omedd, moes dy gymod.
MERCH FEDYDD.
DUW'R hedd, dda rinwedd, o rwyd—tri gelyn
Tra galed i harswyd,
A'th wylio; Lowri i'th alwyd,
Merch fedydd awenydd wyd.
WRTH BYSGOTA.
WY'N rhoddi melldithion, o wirfodd fy nghalon
I gerrig yr afon ar finion y môr;
Wrth rodio'n rhy 'sgeulus mi syrthiais ar f'ystlys,
Ces godwm anafus yn Nwyfor.
GOGANU EIN GILYDD.
NA rown mo'n genau i rwydd ganu
Y sawl a suddwyd i droseddu;
Ond sy a'i ddwyfron yn ddi efra,
Tafled ato'r garreg gynta.
Y neb sy'n tybio i fod yn sefyll,
Ystyried fod i sail yn serfyll;
Ag ysbied yn lle beio,
Am ffon hwylys a'i cynhalio.
Os na feiddiodd yr archangel
Roi cabl farn yn erbyn cythrel,
A feiddia dynion o'r un deunydd
Drwy fwrn o gilwg farnu i gilydd?
Nid difrycheulyd dim dan nefoedd
O flaen Brenin y brenhinoedd,
Bydd diffig weithiau drwy ddigwyddiad
Yn pallu llewyrch haul a lleuad.
Cyd ymblygwn bawb, o blegid
Nid oes undyn heb ryw wendid;
A phawb a ddygiff dan i ogan
O'r fuchedd hon i faich i hunan.
Am hyn gwybyddwn mai gwaith angall
I neb farnu gwas un arall;
I'w feistr sydd yn arglwydd arno
Y mae yn sefyll neu yn syrthio.
DIOLCHGARWCH I DDUW.
Am ein helaethrwydd yn ol prinder.
BOB Cristion cariadus mewn amser anghenus
A fuont ofidus helbulus yn byw,
Rhown gynnes ogoniant i Dduw am yn llwyddiant,
A'n ffyniant di heuddiant da heddyw.
Fal dyma ar fyrr droiad gu odiaeth gynhyddiad,
Wiw radol warediad o ymendiad i'n mysg,
Lle'i gwelwn Dduw cyfion i'n llwytho â bendithion
Ar ol ei geryddon goreuddysg.
Peth hyfryd yw ymwared yn amser caethiwed,
Mae bendith a nodded i'w gweled mor gu,
Fel glaw yn gwrteithio y ddaear i ffrwytho
Pan fotho heb egino 'n agennu.
Ond fel i mae'r ddaiar sy'n cael y glaw cynnar,
Da wedd a'r diweddar, yn ffrwythgar ei phryd,
Rhown ninne ogoniant, da lesol di lysiant,
I Dduw am ein ffyniant un ffunyd.
Llu nefol llawn ufudd sy'n canmol eu cynnydd,
Pob rhyw a phob ffrwythydd o'r meusydd a'r môr,
A pham na rydd dynion, sy ar ddelw Duw cyfion,
O'r galon anrhegion yn rhagor?
Ni a welsom flynyddoedd fyrr doraeth ar diroedd,
Llwyr adwyth, lle'r ydoedd ar filoedd oer fyd,
Dan groesus di gysur, wan oglud yn eglur,
Mewn gwewyr awchlafur a chlefyd.
Nid oedd yn lle gwleddau ond galar y gwiliau,
A throi ein caniadau cain odiaeth yn gri;
Dan flinder diflandod, dwys wendid, a syndod,
A malldod, dra hynod drueni.
Pob creulon ei natur oedd anian wynebsur,
Nhw a nerthen yn brysur eu brodyr am bryd;
Ni chare'r cybyddion mo'u ceraint tylodion,
Nhw a waden dras union dros ennyd.
Pob byrryd gwann fendith dan falltod y felltith,
Mor gynnil a'r gwenith, oedd gyrrith i'w gael,
A'i fesur yn rhidus, tôn fyrbwyll, tan fawrbris,
Heb hwylus iawn ddewis yn ddiwael.
A heddyw'n ddigonol mae'r ydau mor rhadol,
Drwy fendith Duw nefol, bur rasol, i'n bro,
O'r pigion ceir peged i'r teulu ymhris teled,
Heb glywed dim dwned am dano.
Mae'r awyr yn iachus, a'r tir yn dymherus,
A'n gwlad yn ddi-glwyfus, rinweddus i ni,
Mewn iechyd heddychol heb genedl estronol
Anrheithiol ormesol wŷr misi.
Mae'r gweiniaid yn gwenu tôn gynnes tan ganu,
A fydda'n gruddfanu ar lwgu'n y wlad;
Pob gradd sydd ddigonol heb ddim yn ddiffygiol,
Ond rhinwedd wych eiriol a chariad.
Cyfiawnder y gyfraith yw cariad pur berffaith,
A'n hwylus gynhaliaeth, ddull odiaeth wellhad;
Nid ydyw pob rhinwedd, medd gair y gwirionedd,
Ond buchedd wag oeredd heb gariad.
Fal dyna farc dynion i wybod yn union
Pwy sydd yn ddisgyblion di-groesion i Grist,
Cynfigen rhoch uchel, llid, celwydd, gwrthryfel,
Yw marc y du gythrel dig athrist.
Cyd-wisgwn gyfiawnder am danom yn dyner,
I fyned dan faner pen piler pob parch;
Gan rodio'n gariadus, dda ddefod addefus,
Heb rochus wallgofus hyll gyfarch.
Wrth ddilyn cwerylon mewn llid, ag ymryson,
Ar daniad rhwng dynion, 'd yw ffrae ond ei ffrwyth;
Drwy gnoi a thraflyncu ei gilydd heb gelu,
Mae hynny 'n dwyn wedi dan adwyth.
Ni a welwn yn helaeth fod taeradd naturiaeth
Yn gyrru poen alaeth pan elom yn fras;
Mor angall i wingo yn erbyn Duw Iago,
Heb gofio gam yno i gymwynas.
Mae Duw yn rhoi prinder i ostwng ein balchder,
A bod am gyfiawnder drwy bleser fwy blŷs;
Ag eilwaith i'n gyrru i'w ragor fawrygu,
Pan ddel i'n gwaredu'n gariadus.
Bendithion ben Bugail, dda eirwir Dduw arail,
I ddyn ag anifail o'i nefol lys sydd
Yn hilio cynhaliaeth at hwylys fywoliaeth
Mor helaeth, wiw odiaeth waredydd.
Am hynny molianned pob genau'r gogoned
A yrrodd ymwared a nodded i ni;
Mae'n gwbl ddyledus dra hollawl drwy wyllys,
Yn barchus ofalus ei foli.
Rhown ddiolch tra helaeth dros ben pob gwasanaeth
Am wir brynedigaeth bur odiaeth y byd,
Drwy Grist, ei fab grasol, a'n rhoes yn gymodol,
Yn ol ei wiw dduwiol addewid.
Deffrown yn ddi-ffrauol i ganu'n blygeiniol
Ar ddydd genedigol iawn haeddol oen hedd,
Cyd awn i'w gynteddau, mwyn amnaid, mewn hymnau,
Ag odlau mawl leisiau melyswedd.
Ar delyn a nablau, mewn symlrwydd a salmau,
Gu ddawn a gweddiau di-fwythau da foes,
Cynhaliwn y gwylia wiw bêr-wyl â bara
Pur croyw dwys eirda di-surdoes.
Oed gore Blaguryn mil saithgant a blwyddyn.
Pan ganwyd ar destyn, oer dostur a fu;
Cymhwysa di'n gyson, Duw Iesu, dy weision
I'th ffyddlon fawl union foliannu.
CLYW HYN.
Tôn,—"Y GALON DROM"
CLYW hyn yma, gwilia goelio,
Gelyn ddyn i'th sydyn rwydo,
Yr hwn sydd arfer o heu efrau
I dyfu ymhlith y gwenith gorau;
Agi hudo yr egwan hyder,
I ddrwg aflwydd a'i draws gelwydd dra ysgeler;
Ffydd yw'r darian hoffaidd doraeth,
Pan fo'n gosod at ryw amod, try ef ymaith.
A gweddi wresog agwedd rasol,
Hynt dda nofiad, at Dduw nefol,
Am gael nerth i gyflawn wrthod
Llid ag odfa llew di-gydfod;
Pur grediniaeth yng Nghrist Iesu
A wna i'r budredd radd afliniedd rwydd ddiflannu;
Ag yno i'w loddest ddrwg aflwyddiant,
Ai ddichellion ddu-oer foddion, a ddarfyddant
AMSER HELBULUS.
YMA fyd amhur, anwastad ei ystyr,
I'n gosod heb gysur mewn gwewyr yn gaeth;
Gan lid a thylodi ar draws, a phob drysni.
I'm gwasgu tan gyfri tyn gyfraeth."
Dieithrol gyfreithiau gwest, aml gostymau,
Newidio defodau trwy foddau tra faith;
Cydwybod a hunodd, a chariad a oerodd,
Pob rhinwedd a rynnodd ar unwaith.
Anedwydd newidio, ddi-fesur ddyfeisio
Ffordd newydd i'n blino, ysbeilio'n ddi baid,
Mae duloes a dialedd, drist aruthr drwst oeredd,
Yn cyrredd trwy annedd trueiniaid.
Ni a welwn yn waelach bob traffic a drutach,
A'n harian fel sothach neu briddach heb rôl;
O'u herwydd mae soriant, nych oerddig, na cherddant
Fal care bawb mwyniant bob maenol.
Rhoi gormod serch arnyn a ddygodd yn ddygyn
Gasineb ddau cimyn í ganlyn y god;
Pob tyrfa 'n cyd tarfu o ynfydrwydd heb fedru
Na phrynnu na gwerthu heb eu gwrthod.
Mynd fwyfwy drwy aflwydd dan ddyled yn ddilwydd,
Ymgegu mewn gogwydd traws awydd trwy son
Am dduwiau, mor ddifri, y buom i'w hoffi,
Mae rheini i ni y leni'n elynion.
Pob dyn a wrandawen swn aleth y wialen,
Ond aruthr ni ystyrien mo'r diben y daith;
Na phwy a'i hordeiniodd, na'r achos a'i parodd,
Mai pechod a luniodd elyniaeth.
Bu bechod achosion ing alaeth angylion,
Ag Adda deg foddion, oedd dirion hen dad,
A drowd i drueni o'i lawnedd haelioni
Am iddo draw soddi i droseddiad.
Ag byth ymhob oesoedd ar lawer o luoedd.
Tyn ofid tan nefoedd i filoedd a fu;
I'w dwyn o'u dedwyddfyd i fydio mewn adfyd,
A phenyd heb iechyd, am bechu.
Ped faem yn ystyried histori'r Israelied,
Yn wir ni a gaem weled un dynged nad oes
I'n cymell ond camwedd tan dduloes tyn ddialedd,
A phoenedd anhunedd i'n heinioes.
Yr wythfed ar higen o bumed llyfr Moesen
Y gallwn ni ddarllen mor llawen yw'r lles
O garu Duw'n gywir, a'r dialedd a dolur
I'r anwir ymwelir â'u males.
Ymdrechu drwy falchder yn erbyn cyfiawnder
A ddygodd orthrymder a mallder i'n mysg,
Drwy fod yn rhy fydol, a llysu pob llesol
Ysbrydol ddeunyddiol ddawn addysg.
Dibrisio'r efengyl mor embyd er ymbil,
Troi heibio drwy gweryl drigaredd a barn;
Gwirionedd a giliodd, cyfeillach a gollodd,
Digasedd a gododd yn gadarn.
Pob gradd yn gorthrymu ei wannach dan wenu,
Bryd uchel fradychu, traflyneu trwy lid,
Rhyfela'n esgeler nes mynd o'n hesmwythder
Drwy drawster i flinder aflendid.
Gostyngwn dan gystudd gofidus gafodydd,
Na fyddwn anufudd i'n Llywydd, gwellhawn
Drwy lawen fodlonrwydd i wyllys yr Arglwydd,
Fe a'n ceidw rhag aflwydd yn gyflawn.
Os ym yn deisyfu da ddyddiau i'n diddanu,
Gochelwn fucheddu ond hynny mewn twyll,
Ffieiddiwn anwiredd, dilynwn dangnefedd,
A'i rhinwedd ddi'rabedd oreubwyll.
Pe ceisiem drwy urddas ras Duw a'i gymdeithas,
A'r dirion wir deyrnas yn addas i ni,
Pob peth yn ychwaneg o'i radau goreudeg
A gaem ar bob adeg, heb oedi.
Duw, frenin tragwyddol, a'i ysbryd santeiddiol,
A'n gwnel yn gymhwysol i ymorol, Amen,
Am gywaeth tragowydd gwlad nefol yn ufudd
I foli ein Pen Llywydd yn llawen.
1696.
BONEDD.
RHINWEDD yw'r bonedd arbennig—mewn dyn,
Gyda dawn dysgedig;
Y pren ffrwythol, freiniol frig,
A gedwir yn y goedwig.
ENNYN LLID.
WRTHUNOL a gwarth wyneb—yw bwriad
I beri casineb;
Cufiowndaith mewn cyfundeb,
Llid ni wna wellhad i neb.
CAROL Y BYD DYRYS.
[[Y mae'n amlwg fod Owen Gruffydd yma yn cyfeirio at helyntion dyddiau Cromwell neu at helyntion diweddarach dyddiau Gwilym y Trydydd. Dyma adegau y trethi uchel, er mwyn rhyfela ar y Cyfandir. Dyma hefyd ddyddiau "clipio" arian, sef torri yr ymylon o amgylch y stamp A gwellaif, a chadw'r parion. Yr oedd ym mryd Cromwell wella'r arian bath; ond Gwilym y Trydydd gafodd y fraint o wneyd.]
OND dyma fyd gofidus,
Anghynnil, llawn anghenus,
A chwedi mynd i wan a chry
O'i ddirwyn yn rhy ddyrys?
Mae'r ffilsiwr brwnt cyn ffalsed,
I ddim nad oes ymddiried,
'Rwy wedi mynd a ffrind mewn ffrae,
I'm hwcio mae fy mhoced.
Ni lenwir hon y leni;
Am swllt a roddwy ynddi.
Yn chwecheiniogyn llyfn i'm llaw
Di-hoenus daw o honi.
Fe fydde gist neu goffor
Rhag trais i gadw trysor,
Mewn lle dymunol, congol cell,
Diame'n well na nemor.
Y leni, a'i sgil ysgeler,
Mae rheini 'n dwyn yr hanner;
Ag nid gwiw, er maint fy ngham,
Ymhewial am fy mhywer.
Mae bariaeth fel y bwriwy
I'm coffor bunt pan gaffwy;
Ni chaf ond chweigien ar fy rhan,
I fydio 'n anffynadwy.
Ochneidio mewn marchnadon,
A dig ynghil fy nghalon,
Na bae 'n fy chweigien rym a nerth
I gyrraedd gwerth y goron.
Pan elwy i dalu am deled,
Di-sylwedd fach o silied,
Fe fydd yn wir heb foddion is
Yn rheibio pris yr hobed.
Mae'r gwyr a'r ffeilsion bwysa,
A'u twyll wenheithus, nhwytha,
Yn dwyn fel Deifas fantais ferr,
Yn damnio lawer dima.
Pe bydde swllt ond peni
Yn pasio 'n ol eu pwysi,
Nhw ân' a hwnnw oddi ar y gwan,
Am ddwyrod dan ymdderu.
A mynd a'r sylltyn cwta,
Dan gyfri man badera,
Am bump a ffyrling hasting hynt,
Ond trwm yw'r helynt yma?
Ni a gawn bob ofer sarsiant
A'i pwysa 'n ddigon pasiant,
A'u bribis blat o bres i blwm
Yn bwrw swm o somiant.
Rhoi pwysa mawr i brynnu,
A phwysa bach i werthu,
Taledigaeth hyn o dwrn
Yw poena ffwrn uffernddu.
Ymhle mae'r gyfraith gyfion
A fydde'n cosbi lladron?
Ni bu rioed reitiach ymhob plwy
Ei cheisio drwy achosion.
Yn awr mae ffasiwn newydd
I bawb ysbeilio eu gilydd;
Y mwya ei bwysa eiff a'r best,
Er grafin gonest grefydd.
Lledrata 'n rhith cyfiawnder
Yn lewion gwelwn lawer,
Os dyma 'r helynt a bareiff
Yn fwrdwr hi eiff ar fyrder.
A minne sy'n dymuno
Ar fod yn hir ofidio
Heb weled dydd yngwaelod tŵr
Bob clipiwr wedi eu clapio.
Mewn adfyd bo 'u penydfa,
Yn llefain a'u gwelleifia,
A'i parion mynau pur, amen,
Yn belen yn eu bolia.
ATEB OWEN GRUFFYDD.
[Prydydd o Feili, Sion Prisiard ab Oliver, yn gofyn llety i Owen Gruffydd:—
"I roi hois ymrois am 'y mrawd—hyna,
Wiw hanes cyson-wawd;
Owen Gruffydd, iawn graff-wawd,
Pur fedruddyn gewyn gwawd."]
Y BRYDYDD ddi-lydd dda lais—brawd fyddaf,
Bryd foddol i ymgais;
Ond ni bydda, traha trais,
Frawd i feili frwd falais.
HYDER YN NUW.
TON,— "Y GALON DROM."
DUW tragwyddol, Duw trugarog,"
Por a Llywydd pur alluog,
Byth ni phelli borthi angen,
A ddel drwy hyder dan dy aden;
Ymhob blindera dyro imi
Ras i geisio, da Dduw eto, dy ddaioni;
Ag i orffwys drwy gywirffydd
Dan gysgodion diwyd union dy adenydd.
Colofn bur ddi sigl swcwr,
Wyt, rhag aflwydd a drwg gyflwr;
Cymorth hawdd ei gael bob amser
Mewn ing, adfyd, a chyfyngder;
Ni bydd byth eisio ar neb a'th geisio
Drwy fucheddol obaith gwrol, ac a'th garo,
Corsen ysig ansafadwy
Yw braich cnawdol ac anerthol ei gynorthwy.
Dydi yw Rhoddwr pob angenrhaid,
Gwir hoff gynnydd, corff ag enaid;
Tad ymddifaid, Gŵr y weddw,
Wyt o'th annedd, clod i'th enw;
Codi'r isel ddyn a'i osod
Gida pheniaith, ged iawn obaith, ei gydnabod;
A rhoi'r unig a'r anghenus
Mewn pur fwyniant, gwir fawl lwyddiant, gorfoleddus
Dydi yw porthwr pob creadur,
Tir a môr a hediaid awyr;
Dydi hefyd, Arglwydd Frenin,
Yw pur gynnydd pob eginyn;
Ni ddichon dim o'r ddaiar dyfu
Yn doraethus ond o'th ewyllys di, a'th allu;
Ag yn dy bywer di mae bendith
Coed a meusydd, ag iawn gynnydd egin gwenith.
Nid eill y lluniaeth gore i'n llonni
Mewn da gynnyrch mo'n digoni;
Nag un dilledyn mo'n cynhesu,
Heb dy fendith i'w tymheru;
Ofer codi ag ofer cadw,
Ofer cyrchu drwy anelu i drin elw,
Ofer meddwl arfer moddion
Heb gyfrodiad, da fwyn deithiad, dy fendithion.
Duw, pur roddwr pob daioni,
Da wir amod, dyro imi
Yn fy mynwes, rwy 'n dymuno,
Hylaw fwriad i lafurio
Am y bywyd byth a bery
Yn dragwyddol iawn gu radol, ag i gredu
Y rhoi bob rheidiol nwyddol roddion,
Ceidwad grasol pawb, ynghanol pob anghenion.
BYR FEDDWL, HIR OFAL.
CYMER bwyll cyn dy dwyllo— yn rhy-bell,
Mae rhywbeth i'th hudo;
Erfyn ar Dduw byw na bo
I daer adwyth dy rwydo.
Byrr feddwl, swmbwl nid sal—ei berigl,
A barodd hir ofal
I lawer dyn, dichlyn dal,
Dro i'w ddofi 'n dra ddyfal.
AMSER TYMHESTLOEDD.
PEN Llywydd pob lluoedd yw Brenin y nefoedd,
A meistr temhestloedd ar diroedd a dŵr,
Mae rhai'n a'u gwasanaeth yn ledio wrth lywodraeth
Eu perffaeth grŷ odiaeth Greawdwr.
Bygythion bregetha y cyfion Jehofah
Yw mellt a tharana, dychrynfa dra chwyrn,
Gwneiff Duw a'i fawr allu i'r ddaear gron grynnu
Nes gyrru i gyrcydu'r gwyr cedyrn.
Ag er na wrandawan ar feibion y daran,
Er hynny nhw grynnan yn fuan pan fo
Y twrwf taranol, wers sydyn arswydol,
Mor nerthol eu rheol yn rhuo.
Ffri ddilys fforddolion, i'w nodi 'n genhadon
Wrth gywir ward union Ordeiniwr y glob,
Fe wneiff eu swn rhyfedd fwy ofn am ddrwg fuchedd
Na phregeth iawn osgedd un Esgob.
Plant Israel warr galed a grynnent wrth glywed,
Eu twrwf, a gweled grym toddiad y tân,
Ag felly 'r ym ninna, ond wedi cael odfa,
Ni a drown i ryw feia 'n rhy fuan.
Fel hyn yr oedd Pharo, ni a'i gwyddom, yn gaddo
Am undeb ymendio rhag suddo 'n ei swydd.
Ag eilwaith ei galon a gledid yn greulon
Dan hinon ddwys dirion ddistawrwydd.
Gaddawai 'r Iddewon ddi-wâd addewidion
Dan gaethedd fygythion y cyfion Dduw cu,
Ond wedi 'r enbydrwydd anghofiant yr Arglwydd
Drwy ogwydd halogrwydd i lygru.
Ond dyna 'r naturiaeth sydd ynnom bawb, 'sywaeth,
Nid oes barnedigaeth trwy alaeth a'n trydd
I wir edifeirwch, a rhoddi i Dduw 'r heddwch
Glod am ei ddiddanwch dda ddeunydd.
Trugaredd Dduw Iago yw bygwth heb daro,
Er budd i'n rhybuddio a'n deffro, nid oes
Mo'r gwybod, mae'n ddirgel, y munud i madel,
Gwan awel oer annel yw 'r einioes.
Nid hwyrach mai fory y byddwn i'n barnu,
Os cawn ni dan hynny wladychu le da;
Geill Duw ein cyrheiddyd o ganol ein bywyd,
Heb glefyd na phenyd na phoena.
Gan hynny gwnawn heno draw gyfri drwy gofio
Belsassar dan helffio, daeth arno 'r daith hir;
A Herod un agwedd a ddygwyd i'w ddiwedd,
O fawredd dewr llonwedd, darllennir.
A Nabal wan obaith, wr sarrug gas araith,
Yn fuan aeth ymaith, noeth amhur ei glod,
Nid allai ei gybydd-dra na'i olud anwyla
Mo'r ystyr awr yma ar ei amod.
Er galw rhai gwelwn yn fuan, na feiwn,
Ond rhybudd cymerwn, gwybyddwn ein bod
A'n gogwydd yn rhigl o ddyffryn yr helbul
I sengyd ar ymyl yr amod.
Pwy bynnag sy'n gosod ei serch a'i fyfyrfod
Ar drysor nef uchod hyd bennod y bedd,
Gwir hanes, ceir hwnnw ddoeth gariad wrth farw
Mewn gobaith ddi-salw dda sylwedd.
Er bod y rhan gnawdol dan arswyd naturiol,
Fe ddeil yr ysbrydol hoff wrol ei ffydd,
I dirion hyderu, fyw dwysol, fod Iesu
A'i Dad yn ei garu dan gerydd.
Duw Dad y dedwyddwch, Duw Fab yr hyfrydwch,
Duw Ysbryd diddanwch, mewn heddwch mwynhad,
A'n fforddio 'n gynffyrddus i fyw yn gariadus
A hapus dda weddus ddiweddiad.
GWEDDI'R FFYDD.
GWEDDI'R ffydd a fydd foddion—ora iachus
I drechu hudolion;
Na ddêl cwrsel dirgel don
Drwy gas brad drwg ysbrydion.
Efa ag Adda hefyd—a goeliodd
I gelwydd drwy ysbryd;
Hynny a roes bumoes byd
I dynn boeni dan benyd
Ysbryd celwyddog asbri,—â'i wyriad,
A yrrodd heb oedi
Ahab, greulon fron, o'i fri,
Dra enwog, i drueni.
Ysbryd Duw wir Dduw urddas,—fwy ethol,
A fytho'n gyfaddas
I ragflaenu'n gry mewn gras,
Da bur rad, dy briodas.
OCHENEIDIAU BYRION
I'w harfer wrth Fwrdd yr Arglwydd.
O ARGLWYDD nef a daiar, dod
Dy rasol gymod i mi;
Sydd yma o flaen dy fwrdd a'th wledd,
Mewn agwedd gwaeledd, gweli.
Anheilwng wyf, greadur gwan,
I ddyfod dan fy nghronglwyd;
Pechu a wneis, rwy 'n addef hyn,
Duw Israel, tyn fi o'm caethfyd.
O'th flaen, O Arglwydd, pwy a sai
Os creffi ar fai anwiredd?
Ond gyda thi mae ymwared da
Yn aml, a thrugaredd.
Edrych ar dy anwyl Fab,
Ai haeddol Dduwdod ddidwyll,
Yr Hwn a'th lawn foddlonodd di
I'n tynnu ni o'r tywyll.
Gwrando ar lef ei waed a'i loes
Er dawn i einioes dynion,
Yr Hwn sy'n traethu gwell heb gel
Nag eiddo Abel gyfion.
Drwy i ddirfawr ing a'i waedlyd chwys,
O Dduw daionus, arbed;
A thrwy i echryslon greulon groes
Yn marw moes ymwared.
At Grist.
Oen Duw 'r heddwch, trugarha,
A chaniadha dangnefedd;
Tydi ddileuwr beiau 'r byd,
Pardyna i gyd fy nghamwedd.
Ti a ddywedaist, Arglwydd da,
Y sawl sy'n bwyta 'n hyfryd
Fy nghnawd ac yfo yngwaed yn ol,
A geiff dragwyddol fywyd."
Wele fi, dy was an—wiw,
Dan lawer briw dolurus,
Bydded imi, un Mab Mair,
Yn ol dy air daionus.
Wrth dderbyn y bara dywed,—
Drwy dy gorff croeshoeliog di,
O gwared fi, fy Mhrynnwr,
Oddi wrth gorff y farwolaeth hon,
I'th foli 'n ffyddlon filwr.
Wrth dderbyn y cwpan dywed.—
O bid i'th waed, drwy union dro,
Lân buro fy nghydwybod
Oddi wrth weithredon meirwon mwy,
I'th ddilyn drwy gyfamod.
Ti a elli os mynni fy nglanhau,
Oddi wrth bechodau gwarthus,
O dywed "Mynnaf, bydd yn lân
O'th glefyd gwahanglwyfus."
Yn ol derbyn dywed,—
Am dy fawrion ddoniau heb feth
Yn deilwng beth a dalaf?
Drwy gael dy ffiol lwyddol les,
I'th enw cynnes canaf.
I'r Oen a laddwyd teilwng iawn
Anrhydedd llawn alluog,
A nerth a moliant, parch a chlod,
Efe sy' i fod yn Dwysog.
Am hynny moliant, gallu, a nerth,
A phob rhyw brydferth fawredd
A fotho i'r Drindod ddwysglod ddawn
Gogyfuwch miawn gogonedd.
YR HAUL.
DIDDAN a gwiwlan yw gweled—yr haul
Ar ei hwyl, dda weithred;
A'i gyrch, wir lewyrch, ar led,
Rym mawr, i roi ymwared.
Pur lamp oreugamp i ragor—nid oes,
Yn ei daith a'i ordor;
Ag sydd, o fynydd i fôr,
Bawb i'w garu, bob goror.
Carwn a molwn ymylwr—y gwaith,
Ag ethol Greawdwr,
Ir holl fyd sydd hefyd siwr
Am wir raid ymwaredwr.
Haul Cyfiawnder Ner, aneiri—rinwedd,
Yw'r enwog oleuni,
I bawb sydd ufudd fri,
Wedd ddilys, i'w addoli.
Haul disglair bryd, ni fachluda—hwn byth,
Hynod beth i'w goffa,
A'i brydferthwch, degwch da,
Dduw, beunydd, ni ddibenna.
CANU MAWL.
Tôn, MWYNEN MAL"
GWYR ifainc a gwyryfon,
Henafgwyr, llanciau graslon,
Moliennwch Dduw un galon,
Drwy union ffyddlon ffydd,
Mewn hymnau ag odlau ysbrydol
A salmau, mae'n rhesymol
Clodfori Brenin nefol,
Naws duwiol, nos a dydd.
Trwy 'wyllys traethwch allan
Yn gerddgar gydag organ
Fawl hwylus, gofus gyfan,
Dda wiwlan i Dduw Iôn;
Pob perchen enaid parchus
Rhown iddo fawl rhinweddus,
Sain arail, yn soniarus,
A gweddus dilys dôn.
Cyd ganed gwyr yn gyson,
Mewn symlrwydd megys Simon,
A Zacharias gyfion,
Wir dirion ar ei daith;
Y gwragedd cenwch chwitha
Mewn synwyr megys Anna,
Ag fel y canodd Deb'ra,
Nid dibris oedd y gwaith.
CYDGAN.—
Curwch bawb eu dwylo ynghyd,
A llafar genwch oll i gyd,
O eigion bron ag egni bryd,
I Frenin hyfryd hedd;
I'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân,
Y bo'r gogoniant byth ar gân,
Arferwn hyn o fawr i fân,
Yn gyfan wiwlan wedd.
Gwyr ifainc, byddwch gryfion
I seinio mawl yn Seion,
Heb fario pur arferion
Tra llawnion y tri llanc;
Pob morwyn, gyda Mari,
Mam Arglwydd yr arglwyddi
Arferwn i glodfori
Hyd ddydd trueni tranc.
Fe fyddai gynt gantorion,
Wych urddas, a cherddorion,
Yn gosod mawl yn gyson
Bur union yn eu bryd;
Ag yn eu mysg lancesi,
Mor rhadol eu mawrhydi,
Ced felus, yn cyd foli
Duw ben goleuni byd.
Y cyfion bur Jehofa,
Gwir ddoeth, a greodd Adda,
A hefyd a wnaeth Efa
Tan 'run amoda maith;
O herwydd hyn yn hwylus
Pob gwrryw a benyw 'n barchus,
Moliennwch Dduw haelionus
Tra gweddus yw y gwaith.
CYDGAN—
Curwch bawb eu dwylo ynghyd,
A llafar genwch oll i gyd,
O eigion bron ag egni bryd,
I Frenin hyfryd hedd;
I'r Tad a'r Mab ar Ysbryd Glân,
Y bo'r gogoniant byth ar gân,
Arferwn hyn o fawr i fân.
Yn gyfan wiwlan wedd.

"O Arglwydd nef a daiar, dod dy rasol gymod imi,
Sydd yma o flaen dy fwrdd a'th wledd, mewn agwedd gwaeledd,
MARWNAD JOHN DAFYDD Y PRYDYDD.
[Brodor o Lanuwchllyn oedd Sion Dafydd Las, a bardd teulu Nannau. Bu farw yn 1694—]
PERERIN wyf dan glwyf gloes,
Pell anial o'm pwyll einioes;
Pwyll ni bydd mewn cystudd caeth,
Pais oeredd yw pwys hiraeth;
Pall oerais mewn pwyll eurwawd,
Plwm yw mron, p'le mae mrawd?
Pen cerddwawd, paen cowirddoeth,
Pwy ail ar d'ol, piler doeth?
Pinagl clôd cerdd dafod wir.
Pleth wiwlan, p'le i'th welir?
Ai yn Nanne iawn ini,
Amle tro, dy geisio di?
Tyrd, a'th ganiad clymiad clau,
Ddiwael gall, i Ddolgellau;
Lle i byddit mewn llu buddiol,
Allan o rwysg a llawen rôl,
Yn clymu clod, ddefod dda,
Y llynedd o'r llawena;
Ag y leni tewi tost,
Un fu doeth yn fud aethost;
Heb undyn byw a glyw'n glir
Sion Dafydd a'i sain difir.
Ow, clyw dy alw, clod wiwlan,
Ai sarrig wyt, saer y gân?
Gwelais dro heb gilio'n gwit
Yn iaith awen na thewit;
Gwrando bur gywreindeb iaith
Tŷb onest, ateb unwaith.
Ateb y Marw.
"Taw Owen, wyt o awydd
I anfad ffôl ynfyd ffydd;
Na thrin awch cethin uwch côr
Swyndod Dewines Endor;
Gwers pabaidd heb gwrs pybyr
Yw dy sad ofyniad sur;
Ffol iti, a mi 'n y medd,
Sur wawd goeg siarad gwagedd."
Ai yna'r wyt, oen aur iaith,
Paen mwynelw pen manylwaith?
Ow, tyred, od wyt wrol
Eto un awr atai'n ôl;
Gad unwaith drwy fwyniaith dro,
Atolwg, ysgwyd dwylo;
Galw bot, gwilia betio
A'th frawd ffydd, a'th fryd i ffo;
Yno'n deg awn ni'n dau
I siarad am fesurau,
A thrin dawn athrawon dysg,
Cerdd eiliad cywir ddilysg.
"O taw ddyn, wyt ti ddwl
Wan di-fudd yn dy feddwl?
Daiarol wyt, dyro le
O'm gwir rann i'm gair inne;
Ni weua bardd yn y bedd
Air di-fis er dy faswedd;
Gwely oer, gwael i aros,
Diddawn yw, bob dydd a nos;
Heb liw tes, heb oleu tân,
Heb goel aur, heb gael arian,
Na champ iawn, na chwmpeini,
Na merch wen i'm hannerch i,
Na miwsig tant, na'i chwant chwaith,
Na chariad na chywiriaith,
Na bardd gwledd, na biroedd glân,
Na gweled un ffrind gwiwlan;
Na gallu, enwog wyllys,
O wisgiad bedd ysgwyd bys;
Dyna garchar daiar den,
Ffei oer le, ffarwel Owen;
Cân di i Dduw cyn dy ddwyn
I'r llaid, arch, oerllyd erchwyn;
Dilyn iaith i'w dal yn ôl
Cynnes bryd cân ysbrydol;
Annerch fawredd glirwedd glau,
Bob yn un bawb yn Nannau;
Ag annerch wladwyr Gwynedd,
Oll i gyd alluog wedd;
Bellach, ddyn, na ymofyn mwy
Gwel, llwyr raid, gwael lle 'r ydwy."
Och gwelaf yn iach galon
Waith aml serch i'th ymyl, Sion;
Ond rhyfedd mewn llychfedd llwyd
O'th nwydau i'th newidiwyd;
Prudda dim, priddwyd ais
Clir odlau claiar adlais;
Yn iach, ganwr uwch Gwynedd,
O'th fath os aethost i'th fedd
Aeth y gerdd iaith gywirddwys,
A'i dawn i gyd dan y gwys;
Swrth air bwnc syrthio i'r bedd
Syth gu hâd saith gyhydedd;
Aeth heddyw yn waeth addysg,
Saith colofn cerdd ddyfn gerdd ddysg ;
Yn ol Sion, frau union fryd,
Gwael a fydd y gelfyddyd;
Cynnydd oedd awenydd wych,
A'i fawl asiad felyswych;
Aer i Homer aur heniad
Ydoedd Sion winiedydd sad;
Ag aer Awen goreuwych,
Tlws iawn waith Taliesin wych;
A'i lwys eglur lais wiwgloch
Yn ail i gân Iolo Goch;
Purwr gwawd hap eurog wedd,
A mawl fodiad melfededd;
Milwr clod ymylwr clau
A'i rychor cywir achau;
A'i hwyl dwys wrth reol deg,
Grym odiaeth y Gramadeg;
Aeth cynghanedd rinwedd rôl
Draw i gudd yn dragwyddol;
Gwedi trin gwenithin gwawd,
Dywyll oerach daw llerwawd,
A grawn surion, grin sorod,
Yn lle meithrin clirwin clod;
Am afal per mwyfwy pwyll,
Mae crabas yma i'w crybwyll;
Hunodd y gán wiwlan gu,
Hynod iâs, yn oed Iesu
Mil saith gant chwibiant ond chwech,
Cwyn bwriad cawn heb eiriech;
Collodd ei braint, callwedd brŷd,
Cwyned beirdd, wanfeirdd ynfyd;
Cur oedd farw cerdd Feirion,
Gwn farw ei saer gan fwrw Sion;
Ffarwel faith dasgwaith dwysgerdd,
Ffarwel cael hoff reol cerdd ;
Marw a wnaeth Meirion awen,
A doniau byth, dyna ben.
GOCHELWN GAU ATHRAWIAETH.
GOCHELWN gau athrawiaeth, a drwg hudoliaeth draig,
Sydd fradus farus fwriad erioed i had y wraig,
Drwy geisio sigo ei sowdwl a'idwbwl swmbwl sen,
Drwy Grist edrychwn inne am ffydd i sigo ei phen;
A gwyliwn ei thaer golyn llawn gwenwyn, dichlyn dwyll,
I'w hudol frad na chredwn, yn bur cymerwn bwyll.
Mae'r gair y daw hudoliaeth, a hynny sywaeth sydd
Yn dangos rhyfeddodau coegion wrthiau cudd
Ei hud ped fae yn bosib i'r etholedig rai,
Ond ffyddlon weision Iesu yn sad i fyny a sai;
Ni ddichon unrhyw ddichell na chythig gymell chwaith
Mo'r gwyro i lwybrau croesion eu hunion dirion daith.
Bydd Satan yn ymrithio drwy hudol drithiol draws
Fel angel y goleuni, er mwyn ei hoffi'n haws,
A'i wallus weision felly yn croes bregethu Crist
A hynny yn rhith cyfiawnder, ond dyna fater trist?
Duw ysbryd pur wirionedd, a'i fawredd wiredd ras,
A fyddo ein amddiffyn rhag cyr. h pob gelyn câs.
Mae'r gelyn amhur, gwiliwn, considriwn, yn ei swydd
Fel llew rhuadwy yn rhodio dan geisio rhwydo yn rhwydd
Y sawl a allo ei lyncu, fe gynygiodd hynny yn gaeth
Dair gwaith ei frenin nefol, ei frad yn ofer aeth;
Yn enw yr Arglwydd Iesu drwy ffydd mae gyrru i ffo
Y rhwydwr amhur hudol, a'i fradol drithiol dro.
DIODDEFAINT IESU.
Y fron a'th galon o'th gur—yn gwaedu,
Iawn Geidwad pechadur;
Dolefaist, diwael lafur,
Gan y pwys, â genau pur.
Cymod i faddeu camwedd—a wnaethost,
Yn eitha trugaredd;
Di a'n dygaist, dawn degwedd,
Oen Duw pur, i undeb hedd.
Drwy dy loes ar groes, i Gred—di ddygaist,
Do, ddigoll ymwared;
Dwyn ein gwradwydd, gwiwrwydd ged
Rinweddus, i roi nodded.
Dod ras iawn addas i ni,—a gallu,
Ag wllys di wegi,
I goffhau dy angau di,
Yn ddilys, a'th addoli.
Iesu i'n prynnu heb pall—fu syber,
Iesu aberth diwall;
Iesu bur, sy, heb arall,
Iesu'n rhad yw'n Ceidwad call.
DYMA FFARWEL.
Tri phennill o Ffarwel i Edward Williams o'r Gaerwen, a'i gywely, Cathrin Gruffydd.
Tôn,—" Mordog Scotland."
DYMA ffarwel di-gynfforddus,
Lwyr alarus, gofus gwyn,
Am rwydd gymydog, rodd gymodol;
Ai wraig weddol foddol fwyn;
Edward William rodiad hwylus,
A Chatrin Gruffydd, ddeunydd ddownus,
Dau bur heddychol ddichwen
A gerid yn y Gaerwen,
Llei ceid elusen lawen lês,
I'r rhain mae rhoddi ffarwel
Ein harfod megis oerfel
Ar ol isel dawel des.
Eu cymydogaeth odiaeth ydoedd
I bawb ar gyhoedd bybur gêd,
Ar ol eu diddan reol diddig
Cwyn oer lewyg cawn ar led;
Am garedigrwydd hyrwydd araeth,
Wych iawn hwylus, a chynhaliaeth
Dau hollawl bur i hwyllus,
Dda osgedd, rwydd ddi-esgus;
A'th les, anghenus fregus fron,
I'r Gaerwen fydda gyrchu
Pan welid nos yn nesu
I gael meddiannu llety llon.
Cwyno gwelwn, cawn a galar
Am wr di-somgar fwyngar fu,
Ai wraig hyfwyn rowiog hefyd
Araeth hyfryd yn ei thŷ;
A'u plant hoff anwyl, berwyl burion,
Arwydd grasol, oedd ddi—groesion
Rhoed Crist yn rhan y rheini
Dda rinwedd eu rhieni,
Miawn llawn ddaioni i'w hoffi'n hir,
Bo hylwydd eu bywoliaeth
Heb gurio a phob magwriaeth
Yn fawr eu toraeth ar eu tir.
Ffarwel, nid isel nod ysig,—yw'r cri,
Oera croes i'r unig
Am rodd dda ddwys rwydd ddi ddig,
Wych radol, a charedig
Bellach, rhan burach, rhown bwys—ein gofal
Yn gyfan i orffwys
Ar Dduw hyd ddydd deunydd dwys
Pur i rodio Paradwys.
Y PRYDYDD IDDO EI HUN.
WELE ddyn wael i ddeunydd—i'w ganfod,
Ag ynfyd i grefydd;
Ag yn i ffordd gwan ei ffydd,
Tonnog aruth, tan gerydd.
ONI BAE'R DAFARN.
ONI bae'r dafarn sy'n Erw Dolbenmaen,
Buasai gennyf arian beth llydan yn llog;
A lliain a brethyn i roi am fy nghorffyn
Yn lle bod yn adyn anwydog.
YN NHY DDUW.
GWILIA ar dy droed pan elych
I dŷ gweddi Duw, ac edrych
Ar fod dy aberth hedd yn gymwys
I iawn arogli yn yr eglwys.
Dywed,—"Dyma babell hawddgar,
Deg olygus, diwyg liwgar,
Tŷ Dduw a phorth y nefoedd hefyd
Yw 'r lle yma, fangre hyfryd."
Lloches iachus hwylus helaeth,
Am ddigonol feddyginiaeth;
A da lewyrch i deuluoedd
Sy a chwant addas i'w chynteddoedd.
Llys wedd odiaeth, lle sydd ddedwydd,
I saint diddrwg mewn santeiddrwydd;
Ac amddiffynfa, noddfa nefol,
I bechadur edifeiriol.
Gwyn ei fyd o fewn ei fagwyr,
Da bris helaeth dy breswylwyr,
Gwell yw diwrnod yn dy gyntedd,
Na mil yn nhrigfa moesa maswedd.
Di-ryfeddod oedd i Ddafydd,
Ddi-os beniaeth, ddewis beunydd
Fod yn borthor drws dy burdeb
Na byw ym mhebyll anuwioldeb.
Pan ystyrioch mor ddwys dirion
Ydyw 'r deml deg ei moddion,
Dod heb balliant foliant pwyllog
A pharch union i'w pherchenog.
Yr Hwn o'i nefol drasol drysor
Sy'n sancteiddio y rhodd a'r allor,
Creawdwr nef a daiar hefyd,
A phob peth ynddyn sydd yn symud.
Yr Hwn a gymer y mawr gwmwl
Yn gerbyd iddo wrth ei feddwl,
I rodio 'n dyner ar adenydd
Y gwynt pan fotho fwya ei gythrudd.
Yr Hwn sydd lanach ei olygon
Nag yr edrych ar ddrwg ddynion;
Nid yw 'r haul a'i lewyrch hyfryd,
Yn ei olwg, di-frycheulyd.
Pa faint llai am ddifai ddefod
Yw dyn ebychiol dan ei bechod,
I sengyd unwaith ar gynteddoedd
Brenin hynod y brenhinoedd?
Er hyn os doi yn ostyngedig,
Hynt da foddion, at dy feddyg,
Mae iti groeso trwy Grist Iesu
O flaen ei fawredd i lefaru.
Mewn gwir amod, yno ymgryma,
O'i flaen, a gosod dy negesa
Drwy barch arswydus i'w fawrhydi,
Yn aberth iddo dod dy weddi.
Gochel droi y deml dirion
Yn dwyllodrus ogof lladron,
Na'i gwneuthur drwy dy segur siarad,
Dro amharchus, yn dŷ marchnad.
Fe yrrodd Crist y ffeirwyr arian,
A'u dynol wall, o'r deml allan;
Nid oes gan Iesu fyth gymhwysiad
Yno i fythol druthiol dreuthiad.
Yn dy addoliad bydd di ddilys
Rhag meddyliau gwib gyrwydrus;
Nag i ysbïo pwy dan fugad
Sydd ucha 'i ddull neu wycha 'i ddillad.
Wrth Dduw mynega di dy neges,
Gŵr a hoffa gywir gyffes;
Ag sydd i weled dy feddyliau
O flaen defosiwn dy wefusau.
Er dirgeled ydyw 'r galon,
Aflan donnog o flaen dynion,
Fe wel Lluniwr y calonnau
A'i chwyrn olwg ei chornelau.
Am hyn os doi a mynwes daeog
I'r gynlleidfa mewn gwŷn llidiog,
Yr wyt ti yngolwg Duw fel gelyn,
A'th lawn fyrbwyll lu 'n ei erbyn.
Bydd mor ofalus rhag lefelu
I ddrwg osgedd nag i gysgu,
A phe bait ger bron y Barnwr
Am dy bardwn yn ymbiliwr.
Rwyt ti o flaen y gwir Jehofa,
Barnwr mawr y barnwyr mwya,
Sydd a gallu i'th daflu 'n deilwng
I blith y gafrod byth heb gyfrwng,
Lle nid oes mo'r tân yn diffod,
Byth na diben pry cydwybod,
Dyna stori ond ei ystyrio
O'th hoen diffrwyth a'th wna 'n effro.
At Dduw os doi yn ddi-ystauo,
Mewn tymer grasol, mae iti groeso
Am fwy, os ceisi yn ei amser,
Na holl olud byd a'i bywer.
Duw un a Thri, da iawn athrawiaeth,
Ai fyr alwad, o farwolaeth
A'n dyco 'n bur i'w eglur eglwys
Sy a'i mawrhydi yn Mharadwys.
WEDI DERBYN Y CYMUN.
POB Cristion cyfrannol o'r cymun santeiddiol,
Ysbrydol lwydd oesol, wledd Iesu,
Yn rhigl anrhegwch drwy ffydd, ag offrymwch
Bêr arogl, danfonwch i fyny.
O ddiolchgarwch i Dduw 'r heddwch,
Difir radau, dy hyfrydwch,
Am roi ei gynnes fab o'i fonwes
I'r byd i'n prynnu, pur iawn hanes;
Clodforwn y gwir lesu, gu freiniol, am gyfrannu
Ei gnawd a'i waed i'n porthi, mae'n perthyn ei fawi hau;
Eiliwn foliant yn ddiffuant i ben Brenin y gogoniant,
Am ei berffaith nefol luniaeth, uchel darian iechydwriaeth;
O Arglwydd Dduw tragwyddol, pa beth yw dyn anianol
Ith fawredd mor rhyfeddol gynffyrddiol i'w goffhau?
Rhoi d'einioes, rhad union, drâs ddoniol, dros ddynion,
A wnaethost, Ior cyfion, air cofus;
A diodde dihenydd, awch erwin, a cherydd,
Drwy gystudd di-lowrydd dolurus,
A hynny o'th gyfan waith dy hunan,
Oen Duw 'n hollawl i'm dwyn allan
O gaethiwed cwlwm caled
Draig aniddan drwg i nodded;
O gariad mawr rhyfeddol, tu hwnt i natur ddynol,
A'i degwch caredigol pur heddol yn parhau;
Pwy mor ffyddlon gywir galon a wna felly dros gyfeillion,
A thithe 'n hyrwydd dan bwys gradwydd digus awydd dy gaseion?
O Arglwydd Dduw tragwyddol, pa beth yw dyn anianol
I'th fawredd mor rasusol gynffyrddiol i'w goffhau?
Dydi a fu 'n dioedde, Oen enwog, a ninne
Oedd achos o'th boene maith benyd;
Di fuost, Benadur, gynefin à dolur
Heb ystyr, dig lafur dy glefyd;
Ond cael dy watwor yn eu cyngor,
O Dduw, drwy ogan yn ddi-dragor,
A'th gernodio, heb gonsidro
Braint dy bywer, ond dy bwyo;
A'th fwrw i farw 'n wirion, wych Iesu, heb achosion,
Dy boenau oedd dibenion gall union i'n gwellhau;
Drwy dy archollion friwiau dyfnion rhoist heb ddannod help i ddynion,
A gredo'n ffyddlon d' addewidion, a byw i rinwedd bywer union;
O Arglwydd Dduw tragwyddol, pa beth yw dyn anianol
I'th fawredd mor rasusol gynffyrddiol i'w goffhau?
Di a roddaist yn drefnus dy swper dwys hapus
I'w dderbyn drwy ddilys addoliad,
I gofio 'n wastadol dy aberth heddychol,
Ffrwythlonol wir radol warediad;
Dy ddioddefaint a fu enaint,
I ddwyn o'u gofid blant digofaint,
I fod yn feibion i Dduw cyfion
Hoffaidd ddoniau drwy ffydd union,
Cu fwyndeg haul cyfiawnder a meddyginiaeth dyner
I'th esgyll yn ddi-brinder, wŷch hyder i'n hiachau;
Cadwn berffaith goffadwriaeth, da fawr elw dy farwolaeth,
Sel cyfamod i ddwyn dyndod o'i holl ingder i ollyngdod;
O Arglwydd Dduw tragwyddol, pa beth yw dyn anianol
I'th fawredd mor rasusol gynffyrddiol i'w goffhau?
Y manna dymunol, pur addas pereiddiol,
Sydd ffrwythol ddigonol dda gynnydd
I lonni ein calonnau a nerthu ein heneidiau
Yn ddiau mewn doniau mwy deunydd;
Gwledd anghenrhaid i bob enaid
Hoffaidd luniaeth y ffyddloniaid
Yw cyd gysylltu a Christ Iesu,
Fwyn hap rinwedd, a fu i'n prynnu;
Pur aberth hedd boddlonol a'i Dad a'n gwnae'n gymodol,
Pan oeddem yn ddigwyddol i'r ffwrn uffernol ffau;
Angel undod y cyfamod o'i ras am gamwedd a roes gymmod
Drwy weithrediad a thaenelliad ei waed santeiddiol rediad ;
O Arglwydd Dduw tragwyddol, pa beth yw dyn anianol
I'th fawredd mor rasusol gynffyrddiol i'w goffhau?
Cyfrannwn ar unwaith fawl cynnes fil canwaith
Yn gydiaith dôn araith dynerus,
I Grist ein Gwaredwr, pur enwog, a'n Prynnwr
Eiriolwr, diddanwr, da ddeunydd;
Parch a mawrglod mewn ufudd-dod
Rhown i'r fendigedig Drindod
Am bob bywiol radau ysbrydol,
Wych hoff araith, a chorfforol,
Ag am y Cymun santedd i adnewyddu ein buchedd,
Drwy gariad o'i drugaredd, mwy rhinwedd i'w mawrhau;
Gwiwlan gyflwr gwir gymunwr i fyw yn Iesu hyfwyn oesau,
A Christ a'i radau ynnom ninnau drwy gu raddol drugareddau;
O Arglwydd Dduw tragwyddol, pa beth yw dyn anianol
I'th fawredd mor rasusol gynffyrddiol i'w goffhau?
BYWYD DYN.
GENWCH, dilynwch da linyn—mesur,
A moeswch yn gytun
Ddosbarthu a ddwys berthyn,
Fwya tasg, i fywyd dyn.
Bywyd dyn dichlyn ei daith—yw rhodio,
Ar hediad ei ymdaith
Gyda'i Dduw, gydwedd iaith,
A'i wrando hyd yr undaith.
GWAITH YR WYL.
GWRANDA a archo, wiw orchwyl—difai,
A dyfod i'w breswyl,
Yn buraidd o un berwyl,
Sy beth gwych, Saboth a gwyl.
Gwaith yr wyl anwyl yno,—a'i defod,
Yw dyfal weddio;
Darllen dysg brig addysg bro,
Gywir undeb, a gwrando.
Gwrando'r gair, perair pura,—iawn dasgwaith,
I'n dysgu'n ein gyrfa;
A gwneuthur egni eitha,
Yn ol y gair diwair da.
Da ydyw gair Duw, gore dysg—i ddyn
Er ei ddwyn yn hyddysg,
Rhag ei flaen yn blaen heb lysg
Am wir roddiad mawr addysg.
Mawr addysg i'n mysg o'i maeth—a gawsom
I geisio bywioliaeth;
Rhag rhoi ein cred, weithred waeth,
I amhur elw marwolaeth.
Marwolaeth a ddaeth i ddyn—i'w daro
Am dorri 'r gorchymyn;
A gwendid, ddynol gyndyn,
Dwl ing loes, i'w ddal ynglyn.
CAN Y PREN ALMON.
PREG. XII. 1., &c.
Tôn,—"GWEL YR ADEILAD."
RWY'N gweled, er ei gwylio,
Fy adeilad yn adfeilio,
Nid diofal imi
Hyderu ar dŷ daearol,
Mewn agwedd mor ddiffygiol
I'm curiol oeri:
Gan fod llifeiriant, gwynt, ac ôd,
Fel cawri yn curo, i'w lwyr ddifurio,
A'i ddydd i basio a bwysodd at y nôd,
Mewn annedd gwell, o hono,
'Rwy'n dwys ddymuno 'mod;
Duw, dod, o'th lŷs ryglyddus glod,
Drwy faddeu 'nghamwedd, dy drugaredd,
Yn nydd fy niwedd, mwy rhinwedd dan y rhod,
Na miliwn o aur melynion,
Mewn eigion cyrion côd.
Fy mhabell hon o'i mebyd,
Oedd drefnus, hwylus olud,
Dda sylwedd wychder;
Cawg aur a llinyn arian,
A'i merched cerdd fel organ,
Fawl eurgoeth bleser;
Nid oes dim hoffder, mwynder moes,
Y mae'r ffenestri yn dallaidd d'w'llu,
A'u holl haelioni yn llwyr drueni a droes,
Fe bylodd swn y malu,
Fy meini i ymrannu a ymroes:
Trwm loes, du ffrewyll a'm deffroes,
Gan fod fy anedd-dŷ a'i ben yn crynnu,
Y'mron gwasgaru, a chwedi ymgrymu'n groes,
A'i furiau a'i gaerau yn gwyro,
I lwyr ddifuddio foes.
Rwy'n gweled y pren almon,
A'i gynnydd flodau gwynion
Yn gynnar addfed,
Mae'r fywall, ddiball ddychryn,
Yn barod ar ei wreiddyn,
Arwyddol dynged
Y daw trag'wyddol lwyddol law
Ar fyr i'w dorri, o'i lawn haelioni,
Ac yno ei gyrchu i garchar pridd a braw,
Lle'r erys yn llwyr oeraidd,
I anrhydedd dan y rhaw:
Ni ddaw, er bendith gwlith na glaw,
I ail flaguro, dan flodeno,
A'i frig i ddeilio, yn ddilys uwch ei law;
Yn swrth, yn fan lle y syrthio,
Rhaid iddo drigo draw."
Ac yno o'i wag annedd
Ni chyfyd yn wych hafedd,
Och ofid feddwl!
Hyd ddiwrnod fawrglod f'Arglwydd,
Pan ddel mewn gallu hylwydd
I holi'n fanwl,
Lle bydd pob gweithred yn ddigudd,
O flaen yr Ustus cyfiawn, cofus,
Ni thycia esgus drygionus ffawtus ffydd;
Gwae'r wyneb a geir yno
Yn duo graen y grudd:
Llwyr brudd, alarus, ddigus ddydd,
Pan fyddo'r hollfyd, a'i fawredd hyfryd,
Yn dán dychrynllyd, a'i lendid yn ddiludd,
Gan wres yn diddim doddi,
Er maint i'w serchu y sydd.
Wrth hyn o araith hynod,
Mae'n amser iawn ymosod
Am oesol ddinas;
I ffoi rhag llid a phywer
Y gelyn, frad ysgeler,
Dwys gilwg atgas;
Mae'n bryd, am ras i roi fy mryd,
I lawn adnabod fy anheilyngdod,
O gysgu gormod i bechod yn y byd,
Trwy goledd y tri gelyn
Y bum i'w canlyn cyd:
O'm cryd, 'rwy'n glynu byth mewn glud,
Am bur ymwared o'm caethiwed,
At graig fy nodded, fwyn addas, af o hyd,
Gwir Feddyg a går faddau
Fy holl gamweddau i gyd.
Trag'wyddol oesol Iesu,
Fab breiniol, a fu i'n prynnu,
Pur union gariad;
Cyfryngwr, rhannwr rhinwedd,
A ffynnon y drugaredd,
Dra gwrol Geidwad.
Clyw fi, mewn agwedd groewaidd gri,
Yn sad ddeisyfu am nawdd i aneddu
Y'mysg dy deulu da, dilys, freiniol fri,
Lle 'ngolwg llu angylaidd,
Mewn rhinwedd mwy na rhi;
Dwg di, wrth raid, fy enaid i.
O wlad y cystudd, i lawn lawenydd
Caersalem newydd, hoff winwydd, ffrwythydd ffri,
Da diddan yw dedwyddwch
Ei thegwch, harddwch hi.
Mae'r ddinas hon mor santaidd,
Na chaiff ond golwg puraidd
Ympirio iddi;
A minnau'n ddi wahaniaeth.
Mewn tomen llygredigaeth
Yn dygyn soddi.
Gwellhau, mewn buchedd glirwedd glau,
Nid ydwyf, eto, yn medru arno,
Ond llawn 'wyllysio, yn llesol, ufuddhau,
Fy 'nwydau sydd anhydyn,
Gnawd cyndyn yn nacau.
Cwblhau, ni ddichon priddyn brau,
Un ddyled ddiwyd, heb gyfarwyddyd
Dy rasol Ysbryd, Dduw hyfryd, i ddyfrhau
Y galon galed anial,
Anhawdd ei meddalhau.
O Dduw trag'wyddol allu,
Dal fi a'th ras i fynu,
Yn f'einioes egwan;
A dyro iechydwriaeth,
I'm rhan yn nydd marwolaeth,
Mawr elw gwiwlan:
Fy llen, i garchar daear den,
Ar fyrr a fwrir,—O Iesu Feistr!
Yn nydd y frwydr ddifrodus, cudd fy mhen;
Dydi yn ddrud, o'th wirfodd,
A'm prynnodd i ar y pren:
I Nen, Paradwys wiwlwys wen,
O derbyn fysbryd, i rwydd gyrhaeddyd
Ail fywiol fywyd, dwys wynfyd a di-sen;
Boed sail fy adeilad yno,
'Rwy'n dwys ddymuno, Amen.
BODLONRWYDD.
Mesur Triban.
GARO rodio'n ddedwydd,
Mewn hwylus fywyd hylwydd,
Bob ennyd awr yn benna dawn
Dilyned lawn fodlonrwydd.
Bywioliaeth helaeth hwylus,
Yw calon bur fodlonus,
A chalon anfodlongar brudd,
I fydio sydd ofidus.
Mae calon mewn bodlondeb,
Yn sirio graen y wyneb,
A chalon drist yn magu clwy,
Gresynol, drwy groesineb.
Mae llawn fodlonrwydd meddwl
Yn pylu blaen y swmbwl,
I fyw'n ddioddefgar ymhob man,
Drwy obaith dan ei drwbwl.
Mae'r anfodlonus, ynta,
Yn hogi blaen yr arfa,
I friwio ei fron drwy boenion byd,
Draw waeth-waeth hyd yr eitha.
Fe wna bodlonrwydd parod,
Y dŵr yn win ar dafod,
Ag anfodlonrwydd yn ddi-gel,
A dry y mêl yn wermod.
Ni bydd na blas na phleser,
Gan ddyn o'i barch a'i bywer,
Heb galon fodlon lon ddi-lid,
Bydd gofid ar ei gyfer.
Mae'n well y gwaela o ddynion,
A fyddo i'w fyd yn fodlon,
Na'r mwya ei fraint o fewn ei fro,
A meddwl tro 'n ei galon.
Bodlonrwydd sydd beth difyr,
Da beunydd fle'i derbynnir,
Fe wna y llwybr garw'n llyfn,
A'r canol dyfn yn fasdir.
Nid oes un groes a ddigwydd
Mor flin ag anfodlonrwydd,
Fe brofwyd gynt fod helynt hon,
Yn gas gar bron yr Arglwydd.
Mae hyn i'w brofi yn ddibaid,
Yn hanes yr Israeliaid,
Eu hanfodlonrwydd lawer gwaith,
A wnaeth eu taith mor danbaid.
Ni ddylai neb wrthnebu,
A fytho Duw 'n ei drefnu,
Fe roes fodlonrwydd dan gymond,
Pob achos ond i bechu.
Er hyn nid oes wrth ystyr,
Un dyn mor deg ei natur,
A lawn fodlondeb clirdeb clos,
Fe aeth Moses dros y mesur.
Nid ydyw hynny hefyd
Yn rhoddi i neb mo'r rhyddid,
Mewn anfodlonrwydd rhwydd barhau,
Heb lwyr wellhau o'i blegyd.
Ystyriwn hyn yn helaeth,
Pa un orau o'r ddau fywoliaeth,
Ai dyn a ymroddo i ewyllys Duw,
Ai bwbi'n byw heb obaith.
Mae'r bydol anfodlonus,
Yn croesi Duw a'i ewyllys,
Ac yn tyrru i boeni ei ben,
Bob drwg gynfigen ddigus.
A'r dyn a lawn hydero,
Ar Dduw i wylied drosto,
Ni thrig o'i fewn, bid llawn bid llwm,
Un meddwl trwm a'i trwblio.
Gochelwn yn ofalus,
Na byddom byw'n gybyddus,
Ni bu bodlonrwydd dedwydd dôn,
Erioed mewn calon chwantus.
A gwyliwn drwy gamsyniaeth,
Esgeuluso'n galwedigaeth,
Ni ddaw bodlonrwydd rhwydd i'n rhan,
Os mynnwn anhwsmonaeth.
Ni a ddylem ymfodloni,
Mewn blinder a thylodi,
Drwy gredu'n llawen ym mhob ile,
Fod hynny 'n ore' inni.
Fe ŵyr y Pen Creawdwr,
Y peth sydd oreu i'n cyflwr,
Yn well na ni a'n hegni gwael,
Efe ydyw'r hael brofeidiwr.
Ni a welwn yn ddilynol
Mai rhinwedd fawr ddedwyddol
Yw pur fodlonrwydd ymhob modd,
Dda 'mynedd, rodd ddymunol.
Cyd geisiwn hon mewn gweddi,
Gan reddwr pob daioni;
Os ceisio a wnawn drwy uniawn dro,
Nid awn ni heibio hebddi.
Duw ro ini râs i geisio,
Er budd yr hyn a'i boddio,
Ag na cheisiom wrth ein chwant,
O'i fwyniant ond a fynno.
Bodlonrwydd
Boddlonrwydd ddedwydd a ddwg—i'w pherchen
Hoff archwaeth ddi—gilwg;
Ni ymlyn hon, mae'n amlwg,
Wrth anghydfod drallod drwg.
Grasol gu radol garedig—yw hon
Yn ei hynt barchedig;
Duwies arail di—sarrig,
Fuddiol daith heb feddwl dig.
Puraidd a mwynaidd ei moes—i gynnal,
Ag enaint rhag duloes,
Mewn hedd deg rinwedd di groes,
Wych ei dawn, iechyd einioes.
BRAINT HENAINT.
MAE braint i henaint er hynny—gin Grist,
A gras, ond ei garu;
Ni lysa anwyl Iesu
Mo'r main wr crwn, mwy na'r cry.
RHEGU.
RHEGU a thyngu waith anghall—fwriad,
Arferir yn ddiball;
Dyna erwin dôn oerwall,
Gras iawn fodd, gweision y fall.

"Yn nheml Duw Iago, dyrchefwch eich dwylo,
Tua'r nefoedd tan seinio dwys uniawn gerdd bêr." Tud. 83.
CYWYDD Y MARCH.
Cywydd i Ofyn March gan ddau ŵr bonheddig i Ddic y
Clôs Gwyn.
Y DDAU lywydd dda lawen,
Fawrion weilch o Feirion wen,
Dau yw'r rhain diwair henwaed,
Dau baen gwŷch, dau o ben gwaed;
Dau lew aur diwael les,
Deg winwydd, a dau gynnes;
Dau bren teg, dau eu braint oll,
Dau o ddygiad da ddigoll;
Dau rychor nid eiriechen
Dynnu cŵys o bwys i ben;
Dau wr pur diwair eu pwyll,
Dau ddedwydd a dau ddidwyll;
Dau o hadyd pur-ŷd per,
Dwys gwiw, a dau esgwier;
Dau fawr glod, difyr a glân,
Dau ddoethwych i'w dydd weithian;
Dau o geirw, deg araith;
Dau-ddyn wych, a diddan iaith;
Dau benadur pur eu parch,
Dau hefyd ryw di-hafarch;
Dau gefnder, hoff lownder flwch,
Dau frodyr da hyfrydwch;
Dau gariadus hapus hedd,
Dau wr anwyl dirionwedd;
O'i iawn enwi Hugh Nannau,
Onor ddwys, yw un o'r ddau;
Cwrnel sad, coronol swydd.
Ydyw'r alarch dewr hylwydd,
Ag ar swydd marchog o'r sir
Yn ddi os a ddewisir.
Richard Fychan gyfan gall,
Raen iraidd, yw'r oen arall;
Gŵr pywerus rymus rôl
Sydd geidwad Cors y Gedol;
A'i wych lwyrdeg uchel lowrdir
Di sâl yn llenwi dwy sir.
Dyna ddeuwr swewr sad
Da dilys o dy dwy-wlad,
Dau o ddeunydd da ddinam,
Diogan gêd rhag dygyn gam;
Gwyr difeilch, gora defod,
Heddyw yn glir a heuddan glod,
A'u bir a'u gwin heb awr gudd
I'w yfed bawb yn ufudd;
A'u cŵn, gwelir, cawn galyn
Llawn wir glod, yn llenwi'r glyn;
A'u porthiannus foddus feirch,
Pur braisg, yn pori'r brasgeirch;
Gwyr yw'r rhain geirwir hynod
Bur wych lawn bywer, a chlod;
Treuthu eu mawl breiniawl bryd,
Wych fonedd, ni chaf ennyd,
Gan ryw hyll-ddyn sydyn sydd
Ofnadwy, a fy nwydydd,
I'm brathu, trwy gethru tro,
A min cas i mae'n ceisio
Gan y gwyr gu enwog wedd,
Rwydd amod, rodd ddi-omedd.
Cyn ei gofyn cawn gofio
Y gŵr a'i cais â llais llo.
Lluman o grydd llwm iawn grwth,
Ceg-fain, yn byw mewn coeg-fwth;
Hors gwrser, herwas gwarsyth,
Tygasa na fetha fyth;
Fei gwelwyd, fywiog helynt,
Dic Glos Gwyn, yn daclus gynt,
Ar ei farch yn wr i fod
Chwerw iawn ddwrn, chwyrn ei ddyrnod;
A hyll tan i wylltineb,
Pwyo wna heb pauo i neb;
Gwario tro, ffeirio ffôl,
Hynt gwrthun o chwant gwarthol;
Yn hwyr dyfod i'r dafarn,
Coledd bai, cwilydd, a barn;
Gwario ar gais fantais ferr
Ei gatel yn y gwter;
A'i geg yma, goeg amarch,
Llwnc oedd fawr, llyncodd ei farch;
Heddyw cawn heb un dawn da,
A'i big oer yn begera;
A mawr ystrin mae'r ystrŷl
Yma a'i gyffes am geffyl;
Ystyriwch, wŷr difyr don,
Hyfrydlais mab afradlon;
Draw i'ch cofio drwy'ch cyfarch
Ar fin môr yn erfyn march;
A hwnnw o'i oed i hunan
Diwyd rodd deuad i'w ran;
Heb un bai ar ei ben bwch,
Ond a ddwytwy, na ddotiwch,—
Camel a dannedd ceimion,
Hyll, ar frys i eillio'r fronn;
Mewn un dydd deunydd dinerth
Bâr o wanc a bawr ei werth;
Llwdwn swrth a llydan siad,
An-lliwgar, ag un llygad;
Di-dlws drem, dwy glust drymion,
Garw yw 'r bai yn gwyro i'r bôn;
Gwiw dda i gael, a gwddw gwydd,
Draw a'r esgyrn drwy 'r ysgwydd;
Cafn di-hoen, cefn dau hanner,
Gwedi blingo yn cario cêr;
Crwper llaes ar faes, na fo
Ei wrthunach warth yno;
Garrau greyr ar gwrr y gro,
Câs dirym, yn coes daro;
A'i hir egwyd ar ogwydd,
Drwper hen, yn dripiwr rhwydd;
A main wich front mewn awch fry,
Dôn diflas i din-daflu;
Taflu, anafu'n ol,
Brathu o'i flaen wmbrethol.
Ond dyma i Ddic Thomas
Ysgraff siwr yn nyfndwr nos;
Pan feddwo i'w lusgo yn lew
Draw heb oedi, drwy bydew;
A'i ergydio ar godwm
I erfyd drain, oerfyd trwm.
Dyna yn niwedd buchedd bâr
Yn gymwys iddo ei gymar;
Y ceffyl, Dic a'i caffo,
Ag ar i gefn y gyrr o'i go;
Nas troedio neb ystrydoedd
Rhawg o'i flaen rhag ei floedd;
Gwelwn fael o'i gael yn fawr
Y pwt tinfain potenfawr;
O ran ei groen i'r hen grydd
O'i dda hanes ddihenydd,
Os gwydyn fo geiff esgidie
I draed gwrachiod y dre;
Pe tale yn ffri, hobi hen,
Ddwy bunt, dyna ei ddiben.
Einioes hen drwy lawenydd
Ddiwair hynt, i'r ddau a'i rhydd.
GALARNAD JOHN OWENS.
Tôn,—"CONSYMSIWN."
OCH alar di ocheliad, daer fanwl am derfyniad
Oen gwrol yn ei gariad dan law ei Geidwad aeth;
John Owens, rosyn tirion, baen enwog, impyn union,
O feddwl am ei foddion mae'n aml galon gaeth.
O ran ei dyner fwynder fo, sain arail drwy synwyr dro,
Oer iawn gri o'i roi 'n y gro, am dano cwyno cawn
Oes cur i ni nas ceir yn ol ei dirion daith ar darren dôl,
Oedd fwyn gariadus radus rôl naturiol ddwysol ddawn.
Tra fanwl trwy Eifionnydd fawr niwed a fu'r newydd,
Ddaiaru ei dirion ddeurydd, hil gwinwydd, hylaw ged.
Gwir fynych ceir ei fonedd o hil arglwyddi haeledd,
Ag enwog beniaeth Gwynedd, dda rinwedd, groewedd gred,
Ond ofer yw, nid difyr waith, cofio ei burwedd fonedd faith,
Wedi ei roi, wiw dair iaith, fwyn araith yn ei fedd,
Ei radol gorff a roed tan gwys estronol feddrod pennod pwys
Yn llawr Rhydychen diben dwys mae'n gorffwys, wiwlwys wedd.
Pen hedyn pur anrhydedd o beniaeth gwreiddyn bonedd,
Mawr enwog am wir rinwedd, oen mwynedd yn ein mysg,
Glain doniol galon dyner, mwyn eurfawl am iawn arfer,
Cyfundeb pob cu fwynder, a dyfnder doethder dysg;
Di rochus oedd ar gyhoedd, gwn, am hydraidd hwyl ymadrodd hwn,
Heb air afrywiog taeog twn, neu gwestiwn a wnae gâs,
Gwir hynaws oedd ei hoenus wedd, mewn cywir hynt yn caru hedd,
A diwair fu hyd awr ei fedd, ei rinwedd a'i fawr ras.
John Owens wyneb siriol, un henw a'i dad dedwyddol,
Yn ifanc aeth i nefol dragwyddol lwyddol lu,
Mewn golwg y mae galar, mawr gwyno roi mor gynnar
Eglurwch araith glaiar i lawr y ddaiar ddu;
Di-anair oedd ei dyner wên a phur ddi-blyg i'r llŷg a'r llên,
A mwyn wrth ifanc ag wrth hen a fydde ei lawen lais,
O herwydd hyn am haelwyn hydd drwy alar du gresynu sydd,
O gyfan barch i'w gofio bydd llwyr awydd llawer ais.
Ei rinwedd a'i wedd raenus ddi-annoeth oedd ddaionus,
Wych radol, a chariadus, iawn barchus yn y byd;
Cwyn sadrwydd yw cynsidro mor hawddgar oedd ddigyffro,
Oer gafod i rai gofio am dano ei dyner bryd;
I'w di-bruddhau Duw Abraham amserol fodd a sirio ei fam,
Tra feddal yw trwy feddwl am ei ddinam ddownus wedd,
Sian Owens sydd yn brudd ei bron, trwm yw dyrnod hynod hon,
Ar ôl ei ddichwen lawen lon, cain foddion, cyn ei fedd.
Cwyn anial cawn yn unig un brawd a chwaer buredig,
Am anwyl frawd caredig, iawn ddiddig yn ei ddydd,
Yn Nhrefan mae oen rhywiog ddiballiant araith bwyllog
Fryd union am frawd enwog, di-wredog yw ei rudd,—
Y Meistr Owen Owens yw, bid hir i'n bro y byddo byw
I garu ei wraig ag aer o'i ryw drwy rinwedd Duw a'i râd,
Ag Elsbeth Hughes mae'n hysbys iawn, am briddo ei brawd yn cwyno cawn,
Ynghyd a'i phriod ddwysglod ddawn, Duw iddi'n llawn wellhad.
Pob ewythr sydd mewn prudd-der, pob modryb, pob cefnither,
Pob car, pob cares dyner, oes dwned yn eu mysg;
Ag felly pob cyfeillion, wych degwch, a chymdogion;
A doethaidd bur gymdeithion ysgolion ddyfnion ddysg
Yn cwyno sydd, nid cynnes iaith, o alar chwyrn, na welir chwaith
Anwyla dyn yn ol o'i daith a'i siwrne faith i'w fedd;
Er bod y corff is pennod pwys, mawr anfad glo, mae'r enaid glwys
Ynghôr llawenydd deunydd dwys Paradwys hyddwys hedd.
Rhown isod oedran Iesu, gu orchwyl, yn ei gyrchu
O ffynnon dysg i fyny yn un o deulu Duw,
Mil saithgant sydd i'w cyfri ag unarddeg o flwyddi,
Un dolur byth i'w boeni, na chledi, mwy ni chlyw,
Yr unfed dydd ar bymtheg du, a thrwm i rai, o Fai a fu
Roi pridd ar fynwes gynnes gu a garai lu'n ei wlad,
Er hyn cysurwn fod ei swydd yn dilyn doniau rhadau rhwydd
Yr Oen a'i lu wir union lwydd, ddull hylwydd, dda wellhad.
Am hynny mewn amynedd ymrown a rhown anrhydedd,
Dda hwylus, i Dduw haeledd, ordeiniwr diwedd dyn,
Pen awdwr, milwr moliant, ni wyra neb mo'i warant,
lawn foddion, yn ei feddiant mawr i mae'r ffun;
Deffrown yn gyfion, na phruddhawn, mynegu sydd, mae'n agos iawn
Y siwrne i ninne, ag yno i cawn drwy uniawn gyflawn glôd
Ymlawenhau mewn nefol wledd, gar bron ein Prynnwr, rhoddwr hedd,
A'n holl gyfeillion wiwlon wedd, yn gyd gyflawnedd fod.
CAN FFARWEL I ESGOB BANGOR.
[Ganwyd Humphrey Humphreys yn yr Hendre. Penrhyn Deudraeth, Tachwedd 24ain, 1648. Ei fam oedd Margaret, merch Robert Wynn o'r Gesail Gyfarch. O Goleg yr Iesu daeth yn gaplani Humphrey Lloyd, esgob Bangor, ac yn berson Llanfrothen. Cymerodd ddyddordeb nawr mewn hynafiaethau a llenyddiaeth Gymreig. ac yr oedd yn selog ynglŷn a hanes ei wlad. Yn 1689 gwnaeth y brenin newydd, William III ef yn esgob Bangor, gan fawr foddhau'r Cymry. Yn Nhachwedd 1701, gwnawd Humphreys yn esgob Henffordd; ac yno y bu farw Tachwedd 20fed, 1712. Canodd Owen Gruffydd farwnad iddo.]
Tôn,—"CONSYMSIWN."
Ow Bangor fawr y'Ngwynedd,
Gadeiriol gôr anrhydedd,
Pa fodd yr aeth dy rinwedd
Mor oeredd yn ein mysg,
Oedd echdoe 'n llawn dda wychder,
A bywiol yn dy bower,
A heddyw dan orthrymder,
Am biler dyfnder dysg;
A'th blant o'th ol anhunol haint,
A'u moes yn brudd yn is eu braint,
Dan gwmwl du, Och feddwl faint,
O geraint sydd un gwyn,
Am dad ysprydol grasol gred,
Hoff rywiog oedd a phur ei ged,
Ond trwm y troes, oer loes, ar led,
Gan ddwned gwae ni ei ddwyn!
Dwyn rhwydda dawn a rhoddiad,
Da arglwydd oedd ar dairgwlad,
Dwyn maethydd cynnydd cariad,
Yw'r anfad drawiad trwm,
Dwyn gwisg y noeth anwydog,
Dwyn lluniaeth dyn newynog,
Dwyn traed y cloff efryddiog,
Dwyn braich un llawiog llwm;
Dwyn lles a llewyrch llawer dall,
A dawn y weddw, dyna wall,
Dwyn cefn a chysur pur heb pall,
Ymddifad angall daith,
Dwyn trugarog enwog wr,
I'w wlad oedd sad wyliedydd siwr,
Dwyn ein tarian pur a'n twr,
Ymylwr aml ei iaith.
Dwyn bronnau maeth bur rinwedd
Bob enaid gwan babanedd;
A bwyd i'r cryf gwroledd,
Gwir eilwaith oedd yn hwn;
Oes gwybod drwy 'r esgobaeth,
Y bydd o herwydd hiraeth,
Am gadarn bur ddysgeidiaeth,
Dda doraeth wir ddi dwn;
Pob swydd a gradd, pawb sydd un gri,
Yn wylo 'n ol na welwn ni,
Mo'i fath hyd fedd, hoff unwedd ffri,
Yn harddu eglwysi gwlad,
Ei ddwyn sydd gas o'i blas a'i blwy,
Pa beth a wna Penmorfa mwy,
Ných oes i hon na chawsai 'n hwy
Ei llywydd drwy wellhad.
Llanfrothen llwyr anrheithiwyd
I'w dyddiau lle i bedyddiwyd,
Oen gwiwlan yno ei galwyd,
Ni sorrwyd ar ei swydd,
I fod yn berson gynta
Was ufudd i Jehofah,
A gwynfyd ei ddisgynfa,
Yn 'r Hendre llawna llwydd,
Ei dadol aeriaeth ddiaeth yw,
O hil drugarog rywiog ryw,
Am ddawn a chlod pa ddyn na chlyw,
Tra buon byw'n y byd,
Mewn dirmyg trist mae drwm y tro,
Ddigellwair fyth ei golli fo,
A byd rhy brudd y bod tair bro
Am dano'n cwyno cyd.
Wrth gwyno am araith gynnes,
Barchedig Esgob Wmphres,
Pur fanwl pa ryw fynwes,
Na thywallt gyffes gaeth?
Am gariad a hawddgarwch,
Da ddoniol a diddanwch,
A fu am Baul, dybygwch,
Trwy'r tristwch ar y traeth?
Un ail Sant Awstin ddibrin ddysg,
Oedd yn ei swydd dda lwydd ddi-lysg,
Dan enw mawr yn dwyn i'n mysg,
Iach addysg hyddysg hedd,
Am dangnefeddwr cordiwr cu,
I lawer dyn mae 'n alar du,
At les oedd bur i'w lysoedd bu,
Cai yno lu 'n ei wledd.
Canwyllbren canwyll Iesu,
Oedd ddwysgall i'n haddysgu,
Hyfforddiwr, carwr Cymry,
I'w denu 'n deulu Duw,
Gwae Wynedd sadwedd syniad,
Funudyn ei fynediad,
A'i synwyr at Sacsoniad,
Estroniad raniad ryw,
I ni mae alaeth helaeth hir,
A chynffwrdd sydd uwch Henffordd sir,
I'w maethu er clod am athro clir,
Ddysg eirwir ddifyr ddawn,
Och ddwyn o'n plith ei fendith fo,
Dda 'wyllys drwy ddiwallus dro,
Mor rhwydd pwy a'i rhydd, mae 'n brudd ein bro,
Am honno cwyno cawn.
Oer ganiad er a gwynom,
Am buraidd siwraidd Sierom,
Call oeswr ni a'i collasom,
Mae arnom ormod briw,
Croesafwn yn ddioddefus,
Ragluniaeth Duw haelionus,
Gwrthnebu ei allu a'i ewyllys,
Nid gweddus ag nid gwiw;
I fyrr ddi-bennu hyn o bwys,
Mi ro fy ngweddi 'n ddifri ddwys,
Fod fwy fwy ei glôd a'i gariad glwys,
Yn 'r eglwys wiwlwys wedd,
Dan lawn fendithion dwysion Duw,
Obeithiol barch y bytho byw,
A gras i'w ferch naturiol ryw,
At hyrwydd lwyddiant hedd.
I'r parthau hyn mae 'n perthyn,
Gan ludded gofio 'r flwyddyn,
O ran y digwydd dygyn,
A droes i'n herbyn draw,
Mil saith gant oedran Iesu,
Dwy flynedd yn diflannu,
Trigolion cyrion Cymru,
Yn brudd o ran eu braw,
Pan ddygwyd bri goleuni gwlad,
A'i iachus dôn i uwch ystad,
Oedd ddifyr hynt ai dda fawrhad,
Yn rhoi gwellhad a lles,
Gwae lawen feirdd am gael iawn faeth,
Mae'r llys yn oer a'r lles yn waeth,
Gadawn y gerdd a'i dawn yn gaeth,
Yr Awen aeth heb wres.
Ffarwel drwy uchel achwyn,
Dan benyd ergyd oergwyn,
Ffarwel mewn gwinllys gwynllwyn,
Gwr addfwyn hyfwyn hael,
Ffarwel i bur syberwyd,
Y'Nghastell Cyfarch cafwyd,
Ffarwel yn oleu un aelwyd
Lle gwelwyd gwych a gwael,
Ffarwel fendithion rwyddion rhad,
Gan barchus anrhydeddus dad,
Ffarwel o draw i'n llaw wellhad,
Drwy gariad gwreiddiad gras,
Ffarwel hyfforddiad wastad waith,
O ran ein dwyn i'r union daith,
Ffarwel arafaidd weddaidd waith,
Deg araith a di gâs.
DYRIAU FFARWEL
I Mrs. Margaret Humphreys, unig Etifeddes Esgob Humphreys.
Tôn,—"Y GALON DROM"
DYMA ffarwel oerfel hirfaith,
O lawn gwynion wylwn ganwaith,
Ar ol ewig araul lawen,
Fun dda gannaid, fwyn ddi-gynnen,
Sy'n ein gadael, synnwn gwedi,
Na bae'n agos ddiwael linos dda haelioni,
Mae ing alar am angyles.
Gwae ni golli mawrged iawnffri Marged Wmphres.
Mae ini ddwned am un ddawnus,
Deg wawr oleu di-gwerylus,
A hawddgared oedd i'n caru,
Hon a'i thalent yn ei theulu;
Trist yw cofio Castell Cyfarch,
Pan el ymaith, lles gwir obaith llys goreubarch,
Gwae ni gofio ymado a mwynder,
Gwawr bryd Siriol wedd anhudol ddawn a hyder.
Cwyno 'n fanwl cawn Eifionnydd,
Yma ar unwaith a Meirionnydd,
A Llŷn a Môn ac Arfon hefyd,
Aeron bonedd o'r un benyd;
Am wawr deg-ryw mawr yw dagrau,
Oedd bresennol gu fyw llesol gyfeillesau,
Yn cael difyrrwch harddwch urddas,
Y lloer dirion, iawn gu foddion, yn gyfaddas.
Rhy gaeth agwedd i'w gwaethygu
Iechyd hwylus ei chyd teulu,
O ran galar oer iawn gweled,
Fyd tyn gwallus fod tan golled,
Am fwyn feistres gynnes gannaid,
Ni wnai dwrw i sorri 'n arw seren euraid,
Na dig na cherydd, dygwch hiraeth,
Bawb am dani, o'i deoli y daw alaeth.
Nid yw ryfedd fod yn bruddaidd.
Am hardd fwyalchen mor ddi-falchaidd,
Ac mor dirion, foddion fyddau,
Ei duwiol araith dawel eiriau,
Mewn pur naturiaeth odiaeth ydyw,
Megis cydradd i'r iselradd aeres haelryw,
Mae briw dwysaidd am bryd Esyllt,
Fwyn gariadus wedd hoff rymus oedd ddi ffromwyllt.
Di gel ofid daw i gleifion,
Mag ing hiraeth am gynghorion,
Lle cai rheidus llai anrhydedd,
Er Duw 'n ddilys wrando ei ddialedd,
Iesu i degwch oes a'i dygo,
Oll lle gwelom drwy glod atom i'w gwlad eto,
Nas gallo gweniaith dewrfaith dyrfa,
O'i chydnabod yma ei gorfod am ei gyrfa.
Englyn.
Boed hefyd wiw bryd i'w bri—ddi gamrai
Dda Gymro'n ddyweddi;
Nag ymwasgo gem wisgi
Un suraidd Sais a'i hais hi.
YMRYSON AM SWYDDAU UCHEL.
LECSIWNAU yn glau i'n gwlad—heb eiriach
A berist anghariad;
O boddio rhai ni bydd rhad
Llid eraill, a'u lled wyriad.
Ymryson creulon cri alaeth—a bair
I bywer lai toraeth;
A throi cariad, gwyriad gwaeth,
Anwyl iawn, yn elyniaeth.
Fe wnaeth gelyniaeth gelanedd, gwelwyd,
A galar o'r diwedd;
A heuo gas, euog wedd,
Fyd ddiles, a fed ddialedd.
Atcas i deyrnas neu dŷ—o gilwg
I'w gilydd ymrannu;
Ni sai rhain, mae 'n siwr hynny,
I ofwy lles efo llu.
Ond gwell dda gymell ddigas—i'm gyrraedd
Am gariad cyweithas;
A gwell harddwch, gall urddas,
Dynion ymryson am râs.
Dyna 'r swydd ucha sydd iachus—gyflwr
Rhag aflwydd peryglus,—
Swydd dan Ner o'i lawnder lŷs
Piau bonedd pob ynys.
I'n bro da rhodio Duw 'r hedd,——hir amod,
Ar rwymyn tangnefedd;
Drwy fod cariad, wastad wedd,
Llawn i'n rhan, llinyn rhinwedd.

"Fe'm henwir i Henaint, dwys salfryd iselfraint,
Ti adwaenost fy ngheraint yn gywraint i gyd." Tud. 89.
MARWNAD MARI'R AIL.
[Merch Iago II., brenin Pabyddol Lloegr o 1685 i 1688, a gwraig i Dywysog Orange, arweinydd y Protestaniaid, oedd Mari. Yn nhy ei thad, oedd wedi bradychu Eglwys Loegr, "ty Rimmon torr amod," yr oedd yn Brotestant selog yn blentyn. Aeth i Holand wedi priodi, ac enillodd serch yr Isellmyn trwy ddysgu eu hiaith, ac ymddangos iddynt fel yr oedd yn syml, garuaidd, galon lân. Pan ddiorseddwyd ei thad yn 1688, etholwyd ei gŵr yn frenin Lloegr a Chymru yn ei le, dan yr enw William III. Daeth hithau'n frenhines ei gwlad, a glwys lygad Eglwys Loegr." Ymbriododd ei hunig chwaer Ann a George, tywysog Denmark, a'u mab bychan hwy oedd Duc Caerloew. Er dioddef llawer,—llid rhwng ei thad a'i gŵr, anffyddlondeb ei gŵr, oeraidd gariad ei chwaer, cadwodd serch y bobl oherwydd ei chymeriad gloew a hoffus. Ond ei marw apeliodd fwyaf at galon gwlad. Ar ddydd Nadolig 1694. gwelid fod y frech wen wedi cydio ynddi, ac nad oedd obaith am ei bywyd. Wedi dyddiau o weddi daer a chlefyd trwm, ehedodd ei hysbryd addfwyn ffyddlawn ymaith Rhagfyr 28ain, 1694-]
PEDAIR Mair mewn purder mawl,
Priod addas, pryd weddawl,
A fu i'w hoes ddigroes ddawn,
Hoffaidd, enweg, ffydd uniawn;
At iraidd ddawn tair oedd dda,
I'w dewis yn Judea;
Tair chwioredd, burwedd bwyll,
Oedd odiaeth fuchedd ddidwyll;
Mam ein Prynnwr, rhoddwr hedd,
Oedd yr hynaf, dda ei rhinwedd;
A'r ail oedd wraig reiol wych
Alffeus, rhad rhoddiad rhwyddwych;
A'r drydedd oedd wraig dradoeth
Zebedeus, i'w hoes bu doeth;
A'r bedwaredd glirwedd glau,
Eneiniog i'n hoes ninnau,
Oedd frenhines gynnes gain,
Downus bryd, Ynys Brydain.
Gwae Frydain, o gu frodyr,
Am aur ben balmwydden bur;
I'w ei therfyn daeth oerfel
Ag oer gwyn, Lloegr a'i gwel;
A Chymru o nŷch amryw
Mae'n oer hon am un o'i rhyw;
Huno a wnaeth llin aeriaeth llon,
Cur oerddwys, Ffrainc a'r Werddon;
A gwynwydd dawn gynnydd da
Glod bonedd gwlad Albania;
Gwae Holand, gwaew helaeth,
A Fflanders sydd mewn cystudd caeth;
Trist oeredd trwy ystyried
Beunydd yw cri bonedd cred;
Oer yw gloes yr eglwysydd,
Ddwyn canwyll a phwyll y ffydd;
Dwyn Mari, doniau mawredd,
Galon bur, i geulan bedd.
Llenad oedd dan nefoedd Ner,
A'i llewyrch wrth fodd llawer;
Boddiodd hon bob dynion da,
Dawn bonedd, a Duw'n benna;
Seren gras y teyrnasoedd,
Dirion iawn, o'r dwyrain oedd,
Fal seren wâr liwgar lon
Gywir daith y gwyr doethion;
Y seren hon, cofion cu,
A'u twysodd nhw at Iesu;
Yr un wedd, hoff rinwedd ffri,
Da fwriad, y doe Fari
I'n troi ni at yr iawn nod
O dŷ Rimmon dorr amod;
Hon tan Dduw, a'i hynt yn dda
Gu fawredd, a gyfeiria
I safio rhag plagio plaid
Oes downus Protestaniaid.
Trwm i'r rhain trwy amur hin
Du rew llawn hyd orllewin;
Gwall i'n plith golli o'n plaid
Aeres y goron euraid;
Am lin aeriaeth lân euroes
Siarl iawn hil, siwrlyw ein hoes;
Aeres oedd o Harri Saith,
Bur waed downus Brytaniaeth;
Aur ddawn parch o wreiddyn pur,
Hynt dedwydd, Owen Tudur;
A siwr had seren hedd
Wen gannaid Owen Gwynedd;
Gwae hiloedd pob gwehelyth,
A gwae ni bawb gwyno byth
Roi llin Cadwalad i'r llwch,
Fendigaid, a'i fwyn degwch;
Brenhines hil brenhinoedd,
Bryd da sail, o Brutus oedd;
Gwae ni os aeth, gynnes wedd,
Lloer Europ i'r llawr oeredd;
A'i haul i'w hôl, gwrol gyrch,
O'i dda liw yn ddu ei lewyrch.
Dan glips gloes oer dduloes ddydd
Y mae'n llew a'n pen llywydd; "
Oer i William yw'r alar,
A briw dwys am briod wår;
Da dan Ner i'n hamser ni
A fo rhad ei fawrhydi;
Mewn dedwyddol heuddol hedd
Gywir fawl, a gorfoledd;
Yn 'r un ffydd, cu lywydd clod,
A'i frenhines fron hynod;
Glwys lygad Eglwys Loeger,
A'i gwinwydden burwen bêr,
Ydoedd Mari, dydd marwol
Fyd oer hin fod ar ei hôl;
Oerder maith ar dir a môr
A bery drwy bob oror;
Hyd ing mawr clywch Denmark lân,
Nych anfad, yn ei chwynfan;
Gwir Ann loer ddi-egwan les,
Dowys hygar Dywysoges,
Am un chwaer mae hon a'i chwyn,
Heb pall och yn pwyll achwyn;
Duw a sirio, dwys eirian,
Ei phryd glwys a'i phriod glân;
I dwf a hawdd da fo hynt
Y Duwc William deg helynt,
O Gaerloew, gywir lain,
Hoewder bryd hyder Brydain.
Och goffa, afiach gyffes,
Oerodd yn llwyr wreiddyn lles;
Oer yw llwyddiant ieirll heddyw,
Oer eu cri am Fari yn fyw;
Oer yw gwleddoedd arglwyddi,
Oerodd cred o'i herwydd hi;
Gwae esgobion sadfron sydd,
A diaconiaid da eu cynnydd;
Tro oedd ormod trwy ddirmyg,
Torri pen y llên a llŷg;
Trawiad trwm, godwm gwedi,
Torri nerth ein tarian ni;
Torri teyrn y tair ternas,
Tre Gaerludd, trwy gur a las.
Powls[5] wiw sêl, pa loes a sai,
A briw 'n undeb brenhindai,
Ni bu ar y ddaiaren
Newydd waeth i'r Neuadd Wenref[6];
Ail cystudd Job trwy bob tras
Yw'r dyrnod ar y deyrnas;
O awch hiraith, och oered
Calonnau ffydd crefydd Cred;
Mari oedd ei myrwydden,
A'u tarian ddur pur, a'u pen;
Ail heb gêl oedd ei helynt,
Oes byth gof, i Elsbeth gynt;
Ag ail Ester gu lwysdeg
Ydoedd hon, fron ddi freg.
Och hunodd Yn iach ini
Am gywir sail ei hail hi;
Iesu o'n plith is yw ein plaid,
Ac ai ran ddydd Gwirioniaid;
Oed Tywysog y tywysogion,
lawn goel, i hedd yn galw hon,—
Mil saith gant, di-heuddiant hedd,
Nod awch blin, ond chwech blynedd,
Ag oedran gwawr freulan frest
Y Frenhines fron onest
Tri deg a dwy, canmwy cŵyn,
Trwm yw'r och tra mawr achwyn;
Ifanc oedran, wiwlan wedd,
Hen er hynny mewn rhinwedd.
Gwae lawer bro gofio gwyl
Diwedd oer ei dydd arwyl;
Bu, amod dwys, bumed dydd[7]
O Fawrth du anferth dywydd;
Ochain clau a chanu clych
Trwy'r deyrnas, troiad oernych,
Pan aeth rhan peniaeth rhinwedd,
Rasol fwyn, i'r isel fedd;
Dydd gorthrymder llawer llys,
Dwyn enaid y Wen Ynys;
Dydd a roes diweddar wisg
Laweroedd dan alarwisg;
A than loes, trwm einioes trig,
Y Frudain yn friwedig
Am frenhines gynnes gu,
Hoff ddewisol ffydd Iesu.
A Duw Iesu, da oesawl,
I ddinas hedd, ddownus hawl,
Aeth a'n pen gwinwydden ni,
Wych rinwedd, i'w choroni
Yn frenhines, mantes mwy
Na llydain aur colladwy;
Lle i bydd bri Mari a'i mawl,
Heb dro gwedd, yn dragwyddawl;
Dan iawn nodded dawn addas
Duw a'r Oen, mewn diwair râs.
MARWNAD MARI WENN.
Tôn,—"Cymsymsiwn."
OCH weled mynych wylo, awch adwyth, ag ochneidio
Am hoffaidd wraig ddi-gyffro, trwm gofio briddo ei bron;
Cwyn hynod, cawn i'n hynys laweroedd yn alarus
Wrth gofio gwedd gariadus haelionus hoenus hon;
Am Fari Wenn ni fwriwn ni
Er wylo hir mo'i halar hi,
Trwm echryslawn greulawn gri
Oedd roddi gro ar ei grudd;
Mae duloes gaeth mewn dilys gŵyn
Am bur gymdoges fonwes fwyn,
Bob munud awr o ran ei dwyn
Mawr achwyn sydyn sudd.
Gwraig union bur ddi gynnen a gerid yn y Gaerwen,
Hael lesol, ei helusen yn llawen ceid o'i llaw,
A'i hymddygiad ni bu ddigus nag anfwyn genfigenus,
Na chreulawn na chwerylus, anhwylus frochus fraw;
Ond mwyn a llariaidd ymhob lle
Erioed lle'i rhodiodd lan a thre,
A di-niwed dan y ne
A fydde ei geirie heb gas,
Yn ol ei huno cofio cawn
Ei di somgarwch degwch dawn,
A'i siriol wedd gysurol iawn,
Arwyddion llawn o râs.
Di suraidd oedd ei siarad, iaith union a'i chwerthiniad,
Yn hawddgar ei hymddygiad mewn cariad rhoddiad rhwydd;
Dur galed ydyw 'r galar, rhoi clo ar ei hwyneb claiar,
Rhinweddau hon i'r ddaiar yn gynnar aeth o'n gwydd;
Am ferch ag aeres William Wynn
Ag ŵyr i Sion mae gwewyr synn;
Ag oeredd gwyn o herwydd hyn,
Bob awr i'n dilyn daw.
Aeres meddiant Sychnant sydd,
A'i diwair gorff mewn daiar gudd,
Och rhoi graian uwch ei grudd,
A wnaeth mor brudd y braw.
Hil Saethon winwydd enwog oedd Mari Wynn ddi-oriog,
A llawen waed galluog Rys Dwysog rywiog ryw,
Er bod ei chlod a'i rhinwedd mewn cariad draw yn cyrredd,
Di fylchwaed, nid oedd falchedd o'i bonedd tra fu byw;
Ond cyd ystyriol, fuddiol fodd,
A'r isel radd, bun rasol rodd,
Yr hin yn drom i'r rhain a drodd
Y dydd yr hunodd hon;
Pob ffrind a châr uwch daiar den
A'i carai sydd yn brudd dan nen,
O fore i hwyr am Mari Wenn,
Winwydden lawen lon.
Mae'n brudd i'w hanwyl briod am uchder i lonychdod,
Trist oeredd oedd y diwrnod pan aeth i bennod bedd,
Och weithian fod cyn chwithed i Edward Williams weled
Y Gaerwen fyth cyn oered, a gwaeled, am ei gwedd;
A'i hunig eneth hon a gawn,
I'n rhoi mewn cysur ddifir ddawn,
Beti Williams, deuliw 'r gwawn,
Hoff uniawn i choffhau,
Bendithion grasol nefol nen
Ddi alar byth a ddêl ar ben
Merch ag aeres Mari Wenn,
Yn llawen i'n gwellhau.
Cwrs natur oedd fod eto ei mam a'i chwaer i'w chofio
A'i theulu yn cyd wylo o'i phriddo, teg ei phryd,
Cyfathrach sydd hiraethlon o'i dygiad, a'i chymdogion,
Dwl adwyth i dylodion dan bwys helbulon byd;
Y rheini sydd yn brudd heb wres
Am bur elusen lawen les,
A'i chwerthiniad twmniad tes
Mor gynnes yn eu gwydd,
Gwraig bur ei moddion ymhob man,
Gwir rowiog iaith i gry a gwann,
A doniau rhinwedd da 'n ei rhann,
Di sarrug dan ei swydd.
Ni chariodd ddig na cherydd un diwrnod yn ei deurudd,
Nag athrod a wnai gythrudd, ond pur lawenydd parch,
Yn llariaidd fwyn gellweirus, wych radol a chariadus,
Fel Sara fawl gysurus, da hwylus, hyd ei harch;
Ag aili Rahel dawel daith
Ei heinus wedd a'i hynaws iaith,
A'i gorchwyl trefnus weddus waith,
Da lanwaith a di-lusg,
Am hynaws gariad hon nis gwaeth
Heb hir ochneidio cwyno caeth,
Ei phryd naturiol fuddiol faeth
A'i mwynder aeth o'm mysg.
Mil chwechant pedwar igian ag un ar bymtheg weithian,
I'w edrych, dyna oedran hoff rwyddlan Brynnwr ffri,
Pan roddwyd corff bun raddol i'r gweryd dŷ daiarol,
A'i henaid, mae'n obeithiol, i'r nefol freiniol fri;
Yn Rhagfyr fis o'r dewis doed,
Y seithfed dydd ar higien rhoed
Yn Llanystumdwy yno i cloed,
Yn ifanc oed ei gwedd.
Ffarwel i'w hwyneb hynaws bryd,
Da ddiwael barch, hyd ddiwedd byd,
Yr unig Ior a ro i ni i gyd
Ail fywyd hyfryd hedd.
CAROL NADOLIG CRIST.
Tôn,—"Gadael Tir" y ffordd hwyaf.
BOB doethaidd gymdeithion, naturiol gantorion,
Sy'n caru Duw cyfion o'r galon yn gu,
Cyfrennwch ar unwaith mewn eiliad manylwaith,
Yn gydwaith felyswaith fawl Iesu.
Yn nheml Duw Iago, dyrchefwch eich dwylo,
Tua'r nefoedd, tan seinio dwys union gerdd bêr,
A hynny o lawenydd, am eni gwaredydd,
Pur ufudd dda lywydd i lawer.
Wel dyma Nadolig Mab Duw bendigedig,
A fu 'n ostyngedig oen diddig i'n dwyn
O benyd tragwyddol i fywyd anfarwol,
Gwnawn iddo gyneddfol gân addfwyn.
Ordeiniwn ar dannau soniarus fesurau,
Per arogl pur eiriau, mwyn hymnau mewn hedd,
Ac odlau ysprydol i'n Prynnwr, Fab breiniol,
Wiw lesol, dra gwiriol drugaredd.
Danghosodd Duw cyfion, a'i anwyl Fab union,
Fawr gariad i ddynion oedd gaethion i gyd,
Yn siti'r hên satan, nes dyfod oen diddan,
I'n gwared ni'n gyfan o'n gofid.
Bu lawen gyfarfod rhwng merched y drindod,
I rwymo 'r ail amod, Hedd hynod oedd un,
Cyfiawnder, Gwirionedd, a hefyd Drugaredd,
Oedd fwynedd i'n coledd yn canlyn.
Ac yna doi 'r angel i gyfarch Mair dawel,
I wrando ar ei gwnsel, rwydd chwedl, 'roedd chwant,
A'r rhybudd a gredodd yn glaiar pan glywodd,
O'i gwirfodd hi a ganodd ogoniant."
A Mair o lwyth Juda ar fyrr a feichioga,
Drwy rad y Gorucha' gair iachus a fu,
Y genid ar gynnydd, wiw radol Waredydd,
O winwydd hâd Dafydd yn tyfu.
Mair gynnes mor gannaid, o degwch bendigaid,
Llin Aaron, wisg euraid, a esgorodd yn bur
Ar Grist y Winwydden, pen cynnydd pob cangen,
Y pumed ar hugien o'r Rhagfyr.
Nid oedd i'r Mab duwiol, a'i anwyl fam ddoniol,
Un neuadd aneddol, wych raddol, na chryd,
I osod yr lIesu ym Methlem i'w faethu,
Ond preseb yn wely, wan olud.
Oen Duw a'i Fab diddig, cu radol caredig,
A fu ostyngedig enwedig yn wir,
Ei ddilyn heb osgo mae 'r sawl a 'mostyngo,
Gwers ydyw (dda i'w chofio) a ddyrchefir.
Angylion sancteiddiol, lân nifer lu nefol,
A ganai 'n blygeiniol fawl duwiol y dydd;
Pan anwyd paun union, danfonai 'r gwŷr doethion,
LAnrhegion fawr roddion foreu-ddydd.
A Simeon ddi-siomiant, yn felus ei foliant,
A ganodd ogoniant, ac Anna 'n ddi-gel,
I Dwysog tangnefedd, air union wirionedd,
Ynghyntedd di-omedd y demel.
Yn unwedd rhown ninnau o eigion calonnau,
A lloi ein gwefusau 'n aberthau di ball,
I'n Prynnwr gwaredol, rhag penyd tragwyddol,
Nid oes ini ymorol am arall.
Cyd-unwn yn dyner, fawl ysbys felysber,
Ar gyfer i'r amser mewn llawnder gwellhad,
Y ganwyd blaguryn i wared holl werin
O uffern ddig erwin ddi gariad.
Pan oeddym fal dreigiau ynghysgod tir angau,
Heb neb a'n gwaredai, gwir ydoedd, ar gyrch,
Haul undeb cyfiawnder a dwynnodd yn dyner,
Bu syber i lawer o'i lewyrch.
Llewyrchiad cynhyrfiol pur broffwyd brenhinol,
Offeiriad tragwyddol gorseddol yw 'r Sant,
I dwyso 'r cenhedloedd, a'u ceisio 'n oes oesoedd,
I'r Nefoedd aur wleddoedd, wir lwyddiant.
Goddefodd farwolaeth i ladd y gelyniaeth,
A chael iachawdwriaeth tra helaeth trwy hedd,
Bendithiwn y diwrnod y ganwyd ei fawrglod,
I'n rhoddi mewn cymod o'n camwedd.
Nid gwledda gormodedd, neu farus oferedd,
Yw union anrhydedd dda rinwedd yr wyl,"
Ond dilys ofalu, bob dydd anrhydeddu,
A chanu heb groes-dynnu Grist anwyl.
Mil saith gant a deugien, tri daunaw drachefen,
I'w adrodd yr oedran Oen diddan Fab Duw,
Pan luniwyd y carol, rhy egwan ddiffygiol,
I wyliau gwir raddol goreu-Dduw.
Gogoniant byth bythol i'r Tad a'r Mab nefol,
A'r Ysbryd sancteiddol, tri 'n unol trwy nerth,
A'n dygo i lawenyd, tragwyddol ail fywyd,
O gaethglud drwg ynfyd draig anferth.
Y SEREN WYL.
Ton."—Gadael Tir" y ffordd hwyaf.
GYDLAIS genhedloedd, da lawen deuluoedd,
Cyd unwch ar gyhoedd dan Nefoedd yn awr,
I gofio'n gyfannedd y seren gysurwedd,
A'i llewyrch da rinwedd dirionwawr.
Angyles nefoledd mewn rhediad anrhydedd,
Wych olwg ucheledd perl lwysedd pur lamp,
Llawforwyn gyfarwydd, yngorchwyl ei Harglwydd,
Daith hylwydd wir ogwydd oreu-gamp.
Yr hon a fu 'n twyso y doethion i deithio,
O'r Dwyrain heb dario i'w sirio ymro Sem,
A'u harwain yn hwylus nes dyfod yn daclus,
I ddawnus dra faethlys dre Fethlem.
I'r gannaid wir ganwyll, ar osteg mae 'r Ystwyll,
I'w gadw 'n wyl ddidwyll dda adeg i ni,
Er mwyn ei gwaith cyhoedd, yn twyso'r cenhedloedd,
At Lywydd gwiw linoedd goleuni,
Lle rhoeson i'r Iesu anrhegion dan grymu,
Ar liniau, a'i foliannu heb gelu mo'r glod,
Aur, myrr, a thus hefyd, a roen i'r Anwylyd,
Oedd hyfryd a gwynfyd ei ganfod.
Fe roes y gwyr doethion wir addas arwyddion,
Er addysg i ddynion na ddelon at Dduw,
Yn waglaw i'w eglwys heb aberth perffeithlwys,
I Frenin wych haelddwys, uchel-Dduw.
Nid bustych na hyrddod a geisir eu gosod
Wrth allor i'w trallod, hedd gysgod oedd gynt;
Ond caru Duw'n ddilys, a'i foli 'n ofalus,
Yn ol ei air hwylus wir helynt.
Barn union wirionedd, ffydd, gobaith, a rhinwedd,
A hoffi trugaredd mewn buchedd ddi ball,
A hyder ddi-hudol, yn nodded Duw nefol,
Heb ddidol i ymorol am arall.
Ein tadau gynt ydoedd o had y cenhedloedd,
A ninnau tan Nefoedd yn hiloedd un hawl,
'Rhown foliant heb orffwys i Dduw am ein cynnwys,
I'w eglwys, baradwys bur radawl.
Crist Frenin gwrolaeth a dorrodd gadwraeth
Canolfur gwahaniaeth yn odiaeth i ni,
I fod yn un bobol ag Israel ddewisol,
Cyfrannol hawl unol oleuni.
Lle'r oeddym mewn twyllwch, gwaith rhwystr a thristwch,
Yn fyrr o ddifyrrwch hynt heddwch i'n taith,
Heb Dduw i'w adnabod, ond mudion eilunod,
Yn wasgod di-wybod o obaith.
Clodforwn wasanaeth disegur dwysogaeth,
Y seren drwy syniaeth dawn odiaeth Duw Ne',
A'n galwad yn gyfan, drwy allu draw allan,
O dwyllwch oer geulan i'r gole.
Rhown glod i'r Penadur, air cyson er cysur,
O'i fodd a fu bybyr o'n dolur i'n dwyn,
Pan ddaeth i'r byd yma, o nefoedd Jehofah,
I roddi ini noddfa, Oen addfwyn.
Ond taeraidd naturiaeth-sydd drech na dysgeidiaeth,
Ni ddichon gwybodaeth holl bennaeth y byd
Mo'n cynnal i fyny, heb ras y pur Iesu,
Rhaid ydy ei ddeisyfu 'n ddwys hefyd.
Duw Tad y goleuni, Duw Fab y daioni,
Duw Ysbryd Glân inni sy'n peri sain pwyll,
A dwyso 'n mynediad, mewn diddan sancteiddiad,
A chariad rwydd ddodiad rodd ddidwyll.
Crist Frenin gwirionedd, aer coron trugaredd,
Dod inni'n ddi omedd da rinwedd dy ras,
I ganu dy blygen moes awen Mesias.
GLYNU WRTH BECHU.
GLYNU wrth bechu, warth buchedd—radol,
Yr ydym heb omedd;
Nid oes yr un, dwys yw'r wedd,
Yn dda gymwys ddi—gamwedd.
Camwedd a thrawsedd, waith resyn—rodiad,
Yr ydym i'w ddilyn;
Croesi ced dda ged Dduw gwyn
Draw, a chamu d' orchymyn.
Gorchymyn ag arch imi—yn f' einioes
A fynnych, Dduw Celi;
A dod nerth drwy d' aberth di,
Gu flaenor, i gyflawni.
Cyflownder llownder wellhad—y gyfraith
Rhag afrwydd yw cariad;
Planna i'm bron, dirion Dad,
Y tlws hun, ddidwn ddodiad.

Lle i gwelir Iesu yn gwasgaru
Yn ddiatal bawb o'i ddeutu." Tud. 102.
HENAINT AC IEUENCTID.
Tôn,—"Gadael Tir" y ffordd hwyaf.
"Dydd da fo iti 'r glanddyn, was gwagaidd ysgogyn,
O'th ledol rwy 'n canlyn, tro i 'mofyn à mi,
Moes imi o'th gyweithas ddeheulaw cymdeithas,
I fod yn dda addas ddyweddi."
"Dydd da fo iti, hefyd, grap bochlas crebychlyd,
Nid adwaen pwy ydwyd pe llithid fi â llw,
Os oes iti neges, cyrwydryn y rhodres,
Mynega di hanes dy henw."
"Fe'm henwir i Henaint, dwys salfryd iselfraint,
Ti adwaenost fy ngheraint yn gywraint i gyd,
Am iti fy lowtio a'm prysur ddibrisio,
Mi a'i gyrra nhw i'th rwydo di o'th rydid."
"Ai dyna, wradwyddus, dy henw di-hoenus?
Nid ydyw gariadus na melus i mi
Dy fostio di 'n feistir, na'th geraint ni'th gerir,
Pa foddion yr henwir y rheini?"
"Llechweddlwyd a Moelni, Crebychrwydd a Chulni,
Gargryndod, Croen-grychni, Cringrachlyd, a Chrest,
Dall, Byddar, Cloff, Efrydd, Craith-grimog, Crwth-grymydd,
Yw mrodyr ar gynnydd, wyr gonest."
"Afrwydd-deb i'th frodyr anynad eu natur,
Cymdeithion di-gysur, di-bybyr, di barch,
A thithau'n eu cwmni, da dylid dy grogi,
O cynygi fyth imi'r fath amarch."
"Yn ara 'r cydymaith, croes eiriau crâs araith,
Tra ofer trwy afiaeth naturiaeth wyt ti,
A'th odlan ffraeth adlais, mi a fedra ar fyrr ymgais,
O'th falais du ddyfais dy ddofi."
Dy waethaf, di-wythen, dwl lewyrch di-lawen,
Wynebwr aniben, a'i ddichwen yn ddig,
Mi a 'mgadwa 'n ddiogel, baun awchus ben uchel,
O'th afel, warr isel wr ysig."
"Er uched dy wrychyn, mi a dipia dy dopyn,
O flewyn i flewyn yn sydyn dan ser,
Mi a wnaf dy laes locsiau, a'th dynion gudynau,
Yn gwtus gwyn tenau gwan tyner."
"Tra caffwyf dy weled, noeth gleiriach, na'th glywed,
Ni wnei di fawr niwed, a gwaeled dy gas,
Mi welaf fy nwylo, waith bywiog i'th bwyo,
Heb rusio dy ddulio di, ddelwas."
"Mi balla 'r clyw pwyllig, a'r golwg tra ffrolig,
O'th dymer ystyfnig, maith ryfyg, mi'th ro;
Heb egni yn dy gygnau, na's gelli di ar forau,
Gau un o'th fotymau heb eu twymo."
"Rwy'n wamal, rwy 'n chwimwth, mi 'sponcia'n ddisymwth,
O'th fagal a'th fygwth, was culgrwth, os caf
Fy 'wyllys yn rhygul, ni byddi di ar dreigyl,
Yn aros ar gyfyl y gauaf."
Mi ymwela a'th gymhala, cyn hanner Gorffenna,
Mewn gwewyr y gaua, mi a'th grymaf di i'th gryd,
Mis Mawrth os arhosi, gan drallod musgrellni,
Bydd anhawdd dy siomi di i symud."
"Ffwrdd ymaith, ffei ferthyr, beth elli di wneuthur?
Y bwbach di bybyr, trwm natur tro 'n ôl;
Pa hyd y cei di eto, drwy falais drafaelio,
I'm blino ac i'm llidio i o'm lledol?"
"Holl ddyddiau dy amod, o'th yrfa i'th orfod,
Cei blâu ymhob aelod, fil drwyddod fel drain,
O'th rym i'th orthrymu, a'th ogwydd ar fygu,
Yn porthi pesychu pwys ochain."
"Mi fynna ar fyrr amnaid dda dirion ddoctoriaid,
Os bydd yn angenrhaid i'm cyfraid eu cael;
A roddo gynghorion iachusol a chyson,
Yn erbyn dy swynion, was anhael."
"Nid oes na physygwr, na llonwych ddarllennwr,
Eill byth o'th drwm gyflwr dy gyflawn wellhau,
Nag undyn sy 'n cerdded daearen dy wared
O'm caled flin dynged, ond angau."
"Och finnau, mae hwnnw a'i chware 'n rhy chwerw,
Fo'm lladd innau 'n farw drwy salw dro sor,
A'th esgyrn mi 'mwasga, mwys amod moes yma,
Cyn dyrnod dig angau, dy gyngor."
"Cais ddilyn yn hylwydd ffordd union sancteiddrwydd,
O'th fydol ynfydrwydd gwall awydd gwellha,
Yn daeraidd hyderus, bydd hefyd fodlonus,
I 'wyllys gwir iachus Gorucha."
"Duw deilwng dadoliaeth a'm dygo i farwolaeth,
I nefol fywioliaeth da luniaeth di-lid,
Lle byth ni ddaw Henaint i'm curio a'i ddrwg ceraint,
Nag angau, digofaint, na gofid."
BREUOLDER EINIOES.
Tôn,—"IFAN GLAN TEIFI."
YR haul cannaid, ar hwyl cynnyrch,
A rydd o'r wybren lawen lewyrch,
Yr hwn pan godo i ympirio'r borau,
Sydd yn prysuro tan ei gaerau;
Ni ddichon gerwin hin nag eira,
Na dim ei orfod am ei yrfa.
Ac felly ninnau i'r siwrnai sy arnom,
Bawb i'w dilyn, onid elom
Yn llwyr o'n lle dan gaerau gweryd,
O yrfa'r einioes ar fyrr ennyd;
Ni ddichon nerth, na gwerth, nac urddas,
Er mwyn llwyddiant, awr mo'n lluddias.
Fel dail ar frig y goedwig ydym,
Dan fywoliaeth, doraeth di-rym;
Ni ddeil yn wych y ddeilen uchaf,
Mewn awr ysol, mwy na'r isaf;
Pan ddel ysbeilwynt Hydref heibio,
I'r llawr o gwmpas i'w llwyr gwympo.
Ac felly Angau saethau sydyn,
I ffoi o'i ran, ni pheya ronyn
I'r cadarnwyr, er cau dyrna,
Mewn awr gwelwch, mwy na'r gwaela:
Nid oes brynn ar einioes brenin,
Mwy na'r sala o silion melin.
Toraeth byrr-oes, tarth a barrug,
Sy' yn ymddangos tros ychydig;
Neu ewyn dwr, ni wiw hyderu
Am ddal yn fanwl ddim i fynu;
Neu dro gwenfol hafol hefyd,
Edyn buan ydyw'n bywyd.
Dyrnfedd bychan, egwan ogwydd,
Yw ein hoedran mewn gwybodrwydd;
Heddyw yn tyrru,-yfory'n farwol,
Am dda meirwon yn ddi-ymorol;
Mae'n dyst ini 'leni lawer,
Yn braw' lydan o'n breuolder.
Lle gwelsom fagad o'n cyd-frodyr
Gwedi eu taro a'u presio yn brysur,
Oedd hwyr brydnawn yn llawn 'wllysgar,
Drwy iawn ddewis drin y ddaiar;
A chyn hanner nos yn huno,
Ac o'u hamod-waith gwedi ymado.
Di-amhur wybod, dyma rybudd,
O union bwyll i ninnau beunydd,
Am fod yn barod hwyr a borau
I fanwl sarnu o flaen y siwrnai,
A'n canwyllau'n oleu i'n hwylio
Mewn trwm guddiad rhag tramgwyddo.
Wrth lewyrch dydd yn rhydd mae rhodio,
Di-wall fwriad, a llafurio;
Cyn dyfod hûn, ddi lun oleuni,
Trag'wyddol nos i ymddangos ini;
Pan ddel y ddu-nos hir-nos honno,
A'i dull oer gaeth, nid ellir gweithio.
Am hynny gwiliwn, byddwn barod,
Ac yn sobr, nid oes wybod
Pa ddydd, pa awr, pa fan, pa funyd,
Y terfynir term ein bywyd;
Rhag ofn dyfod angeu deifiog
Megis lleidr ymgais llidiog.
Ond ni ddelir plant goleuni,
Trwy wall adwyth i'w trallodi,
Sydd yn filwyr, swydd iawn felus,
Hyd y dydd yn rhodio yn weddus;
Heb ddilyn medd'dod na glythineb,
Neu gyd uno â godineb.
Dilynwn heddwch da lawn hyddoeth,
A chariad dilys gofus gyfoeth,
Hyd welediad t'wyniad tyner,
Hawl cyfundeb, Haul Cyfiawnder;
I'r breswylfod hynod honno,
Da iawn degwch, Duw a'n dygo.
MYND YN HEN.
MYND yn hen geubren gobrudd—yr ydwyf
O'r adfyd bwygilydd;
Heb wybod chwaith daith y dydd,
I huno, na pha ddihenydd."
Dirgel yw ffarwel y ffun—o'r genau
Ar gynnil funudyn;
O'i randir ni ŵyr undyn,
Dda hwyl, mo'i ddiwedd ei hun.
Bydd tranc i'r ifanc, a'i ryfyg—degwch
Yn digwydd heb ddiffyg
Fel i'r hen, oer grechwen grug,
Wan ddiblaid, yn ei ddeublyg.
Mehefin 30, 1728.
CREADIGAETH DYN, EI GWYMP, A'I YMWARED.
Tôn,—"Gadael Tir" y ffordd hwyaf.
HOLL deulu 'r gall dylwyth, cyd godwch rhag adwyth,
Rhowch osteg yn ystwyth, mae 'n esmwyth y nod;
I wrando 'n ddi wradwydd, drwy sbas ac yspysrwydd,
Fawrhydi Duw, Arglwydd da eurglod.
Pen brenin brenhinoedd a greodd y Nefoedd,
Holl diroedd a moroedd a'u lluoedd yn llon;
A chwbl sydd ynddyn yn cadw ei orchymyn,
Heb fod yn wan tanyn, ond dynion.
Fe greodd Duw 'n groew, gogoniant i'w enw,
Do, ddyn ar ei ddelw, da sylw di-sâl,
A hwnnw fe henwa Duw nefol yn Adda,
A'i briod oedd Efa ddi-ofal.
Fe roddwyd i Adda, mae 'n gofus, ag Efa,
Eu lluniaeth o'r llawna ar brenna da 'u brig,
A chymryd a fynnen, nid oedd os dymunen,
Ond un yng ngardd Eden warddedig.
Am hynny mae 'n hynod, pan dorred yr amod,
Heb ochel am bechod doi ddyrnod trwm ddwys,
Pan orfu 'n ddi atal i'r ddeuddyn anwadal
Am afal pêr adal Paradwys."
Oddiyno eu danfonwyd, dan odfa tyn adfyd,
Ond gerwin fe 'u gyrrid i'r blinfyd oer bla,
I balu 'n helbulus ddaearen wedd ddyrys,
Dan chwysu 'n llafurus am fara.
Ag eilwaith, mwy gwaeledd oedd golli'n ddi gallwedd,
Ras Duw a'i drugaredd, wiw lawnwedd, a'i lun,
A mynd yn dragwyddol yn weision anfoesol
I Satan hen hudol anhydyn.
'Roedd Adda, ar ol iddo o'i gampus ddawn gwympo,
Dan felldith Duw yno, o'i suddo 'n ei swydd,
A phawb o'i hiliogaeth, tan berygl marwolaeth,
A mawr gospedigaeth yn digwydd.
Pe b'asai'r hen Adda yn cadw'r amoda,
O'i hepil ni basa neb isel eu bri,
Na chlefyd na gofal, na dirmyg na dial,
Yn Uffern boeth anial byth inni.
Hil Adda'n gwilyddus a bechodd yn awchus,
Nes boddi'n wybyddus, hyll farus, holl fyd,
Ond Noa oedd ddi niwed, a aeth ar ei wythfed,
I'r llestr cu ymwared cymerid.
Ac yno 'n ddirmygus, ei hepil anhapus,
Aeth allan o wyllys daionus eu Duw,
Gan gynnyg ar gyhoedd ddyrchafu hyd y nefoedd,
Lle 'r ydoedd gwir raddoedd goreu-Dduw.
Nhw lunien uchel-fur, twr Babilon bybyr,
Dwy leng oedd ei fesur pan fisiodd eu gwaith,
Lle drysodd Duw grasol leferydd arferol
Y bobol resynol wasanaeth.
Fe welai 'n dda eilwaith, Dduw cyfion, roi cyfraith,
Er dysgu gwybodaeth ddi-weniaith i ddyn,
Heb neb ond gresyndod mewn gallu ac ufudd-dod,
I gadw ei arch amod orchymyn.
Ond pawb yn eu gallu traws oedd yn troseddu,
A'u hwyllys heb ballu oedd bechu'n ddi baid,
Nes haeddu eu trwm suddo hyd uffern cyn deffro,
A'u ffrio bawb yno, bob enaid.
Yn hyn o gyfyngdra y cyfion Dduw cofia
Ei rwydd drugaredda, danfona 'n y fan
Ei anwyl Fab inni, i'n troi o'n trueni,
A dofi drygioni drwg anian.
Fe sigai 'n Physygwr, wych odiaeth Iachawdwr,
Ben Satan, hen sitiwr, oedd dwyllwr pob dyn,
Ac fyth yn ddichell-ddrwg i'n hymlid yn amlwg,
Mewn dichell mawr gilwg mae'r gelyn.
Yr Iesu pur rasol, o'i fodd yn ufuddol,
A ddoi o'i lŷs nefol, er haeddol wir hedd,
I gymryd ein hanian, lle 'i ganwyd, oen gwiwlan,
O'r forwyn ddi-ogan dda agwedd.
Mab Duw bendigedig, goddefodd yn ddiddig,
Gan ddynion gwenwynig, cythreulig caeth rol,
Ei watwor o'i ddeutu'n enwedig, a'i wadu,
Heb gredu gair Iesu gwir rasol.
Yn wyneb diogan oen purwyn y poeran,
A gwiail eu curan, a'u llithian â llw,
Y llofrudd a gadwyd, a Thwysog y Bywyd
Yn llidiog a fwriwyd i farw.
Crist Iesu a groeshoelien, ag yno nhw a'u gwanen,
Ei ystlys ni rusien, a dorren â dur,
A'i waed a ddylifai, hoff radol yn ffrydiau,
Er golchiad pechodau pechadur.
A chwedi ei arteithio yn greulon a'i hoelio,
Fe drengai dan wyro 'n dynerus ei ben,
Oddi yno, Dduw anwyl, gan nesed y noswyl,
Fe'i rhoed i'r ddu arwyl ddaearen.
O'i fedd y cyfoda, i'r nefoedd dyrchafa,
Ac yno mae 'n eista ar osteg ei Dad,
Yn Frenin tragwyddol, yn Broffwyd perffeithiol,
A duwiol hoff eiriol Offeiriad.
O serch a gwir gariad, ar wael bechaduriad,
Goddefai'r caethiwad a roddad i'w ran,
Ond iawn oedd i ninnau, o eigion calonnau,
Ei garu Dduw yntau 'n ddi wantan?
Fel dyma 'r. Meseias, gwiw ddoethaidd gyweithas,
A'n tynnodd o'r ffwrnas, rŷ ffyrnig ei llid,
I'w enw diolchwn, hyd angau gostyngwn,
Ar liniau cyd-blygwn o'i blegid.
Ond eto er datod pob cadwyn anghydfod,
Nid oes mo 'r gollyngdod am bechod lle bo,
Heb wir edifaru a chwbl wrthnebu,
Rhyfygu onid hynny fynd tano.
Gan fod y peth felly, ni ddylem ofalu
Am dduwiol fucheddu, rhag llygru 'n gwellhad,
A rhedeg yr yrfa a roed ini yma,
Drwy 'mynedd hyd ddyddia 'n diweddiad.
Cyd huliwn yn helaeth am danom arfogaeth
Yr Iesu, drwy obaith hoff odiaeth a ffydd,
Gochelwn chwant amlwg y galon a'r golwg,
A charwn heb gilwg ein gilydd.
Duw Dwysog, Dad Iesu, a roddodd inni 'r gallu,
Drwy ras i'w wasnaethu, a'i garu 'n ddi-gêl,
Ag iddo 'n cyrhaeddyd, er mwyn ei anwylyd,
I'r bywyd gwir iechyd goruchel.
YR HEN WLADWYR FU GYNT.
Tôn,—"Tincian y Gloch."
HEN, hen
I fyw, a gwaelaidd yw fy ngwên,
Gwyn yw ngwallt a blew fy ngên,
Mae'r awen yn ymroi,
A'r dwylaw sål at hylaw swydd,
A'u grym i gyd yn gwyro o'm gwydd,
I drin manylwaith lanwaith lwydd,
Er maethiant rhwydd rwy 'n methu eu troi,
A'r gwaelaidd gorff o'r golwg aeth.
O'u llun a'u gwedd yn llawer gwaeth,
I'r ddaear ffaeth yr wy' ar ffoi.
Blin, blin,
Poen arw 'r hen pan oero 'r hin,
A'i druan grwth fel derwen grin,
Heb neb a'i trin un tro,
Trwm hiraeth swrth i'm mynwes sydd,
Am bendefigion fwynion fudd,
O waith Duw gwyn a aeth dan gudd,
Gwn, lawer grudd, i'r gro,
A minnau sydd a'm heinioes wael,
Mewn oerder hin am wyrda hael,"
Dan amau eu cael nid a o'm co.
Dur gur,
Oer wylo gaf ar ol y gwyr,
I'm cywir barch a'm carai 'n bur,
Drwy natur ddifyr ddawn,
O'ch dorri i lawr uwch daear lâs,
Eu haelaidd rym a'u hylwydd ras,
Oedd bur i'm plaid mewn llawer plâs,
A'u rhodd ddi-gas yn rhwydd a gawn,
A heddyw a'm grudd yn brudd heb wres,
Ni welai neb i'm galw 'n nes,
Na chwyn na lles na chinio llawn.
Oes gloes,
I'm calon fyth yn canlyn f' oes,
Oer hydyn gri, y rhod yn groes,
O'm blaen a droes yn drwm,
Ffarwel i'r dydd hoff ddedwydd ddawn,
A thwn fron haul, hi aeth yn brydnhawn,
Oer eira sydd i'r Yri os awn,
Mor llwyr y cawn yn llawr y cwm,
A'r gauaf prudd yn gerydd gwlad,
A'i fawr oer rew yn fyrr ei rad,
A'm glir wellhad i glerwr llwm.
Gwael fael,
Swydd hydda gwrs sydd heddyw i'w gael,
Gwn bwys oer hynt gan basio 'r hael,
Oedd rwydd o'i drael ddi-drais,
Yn hylaw i'm taith ni welai un ty,
I'w foli beunydd fel y bu,
A dwysion gân nid oes yn gu,
Mewn gyrfa llu a gâr fy llais,
At bur Gymraeg o'u bodd ni thron,
Dau well na chywydd dedwydd dôn,
Yw moethus sôn am iaith y Sais.
Chwith, chwith,
Am fwynwyr plaen a fu i'n plith,
At iawn wir les fel tyner wlith,
Heb ynddynt rith o roch,
Byd anian swrth byw dan y sêr,
Am haelaidd weilch a alwodd Ner,
Oedd rwydd wrth bawb a'u haraith bêr,
A'u dawn i gler yn dwyn y gloch,
A'u rhwydd iawn hynt o'u rhoddion hardd,
A'u gwin a'u bir i'w gael heb wardd,
Na llysu bardd na llaesu boch.
Dydd prudd,
Yw rhodio 'r byd ar hyder budd,
A byw tyn gas yw bod tan gudd,
Heb drin awenydd draw,
Och dorri grym uwch daear gron,
Wir union les yr awen lon,
Am dda iawn hynt i ddilyn hon,
Bob awr i'm bron a bair y braw,
Rwy 'n mynd ar fyrr i'r ddaear faith,
Ffarwel i'r gerdd hoff rywiog iaith,
Iawn felus daith, yn f ôl nis daw.
Cri, cri,
Anaele fodd ni welaf fi,
Na châr na ffrind na chares ffri,
I harddu mri 'n fy mro,
Fy hen gymdeithion union aeth,
Wir ddiwair ged, i'r ddaear gaeth,
A minnau 'n ol, mae 'n anian waeth,
Fel pawl ar draeth heb hylaw dro,
Neu greithiog farch di-finiog fant,
Hen, egwan iawn, yn eigion nant,
O bwll a phant heb allu ffo.
Duw clyw,
A gwel fel rwy mor unig ryw,
Yn ddwl a llesg i ddal y llyw,
At geisio byw 'n y byd;
Er bod i'm gwrthod dad a mam,
Ac na 'm hedwyn Abraham,
Duw maddeu lid a meddwl am
Holl rwydau cam lle 'r ydwy cyd;
Fy enaid dwg i fyny draw,
A'm corff fo'i rhoir i bridd y rhaw,
Naws gwan pwy braw nis gwn pa bryd.
DYDD Y FARN
Ar ddull ymadrodd Crist yn Matthew xxv.
Tôn,—Y Fedle Fawr."
CYD ystyriwn bawb, considriwn
Am obaith fuddiol, beth a fyddwn
Pan ddêl y dwthwn du,—
Ein galw oddiyma i'r cymyla
Ar fyrr derfyn yn fawr dyrfa
Rhyfedd llawna llu;
I roddi cyfri difri dôn ar osteg cyfion ustus
Am bob gweithred galed gudd, fodd asgen, ni fydd esgus,
Na diengid fel alltud, wr diwyd ar ei daith,
Ond gildio raid yno, ni cheir mo'r breibio chwaith.
Lle'i gwelir Iesu yn gwasgaru
Yn ddi atal bawb o'i ddeutu,
Ag felly i'w barnu bydd;
Ond ar ei ddehau law yn ddiau
Rhydd o'i gariad y rhai gorau,
Dda eu doniau oedd i'w dydd,
I dreuthu wrthynt araeth bur a difyr gysur
dwysedd;
"Dowch fendigedig blant fy Nhad, i gaerau
gwlad trugaredd;
Meddiannwch ddiddanwch, wir heddwch ar i hyd,
A ddarfu bwrpasu cyn bod sylfaenu byd."
"Bum newynol noeth anianol,
Sychedig athrist, a dieithriol,
Gystuddiol, guriol gaeth;
Mendio mhrinder, buoch syber,
Heb rochus liwied rhoesoch lawer,
O'ch pywer fwynder faeth;
Rhoi bwyd a diod, dillad da, yn glydwch cyfa i'm cefen,
A'm dwyn i dŷ am gofwy 'n glâ pan fydde fwya f'angen;
Mewn carchar a galar chwi 'm gwelech i'm gwellhau,
Yr awrhon mae'ch rhoddion cu ffyddlon i'w coffau."
Ar hyn nhw ateban, a gofynnan,-
"Pa bryd i'th welsom felly allan
Mor druan gyfan gur,
Ag y darfu i neb gyfrannu
Un rhodd a henwaist o'r rhai hynny
I'th faethu a'th borthi 'n bur?"
"Pob elusen lawen lwydd i'r rhain yn rhydd a roesoch,
Fy mrodyr lleia gyda chwi, oedd noeth, i mi ygwnaethoch;
Rhodd imi rwy'n cyfri pob eluseni sydd
Yn noddfa i'r rhai gwaela, i'w talu dýma 'r dydd."
Ond barn ry chwerw seliad, salw,
A fydd ar lyswyr i law asw'
Yn gerydd garw i'w gwydd,—
"Ewch rai ffyrnig melldigedig
I'r tân tragwyddol, oesol ysig,
Gythreulig sarrug swydd;
Bum newynog garpiog gynt, nych adwyth hyntsychedig,
A dieithrol heb gael tŷ o nodded, lu aniddig,
Lle darfu ngharcharu heb neb i'm cyrchu o'm cur,
Na helaeth gynhaliaeth at faeth bywoliaeth bur."
Y rhain un ffunud ofyn hefyd,—
"Pa bryd y buost ddyddiau ein bywyd
Mewn adfyd penyd pwys
Yn gofyn am elusen inni,
A ninnau 'n rhwyddion heb i rhoddi,
Er gweddi ddifri ddwys?"
"Am na roesoch gymorth pur yn llaw fy mrodyr lleia
Oedd oera tywydd ar eu taith, ni roesoch chwaith i minna ;
Ewch, efrau drwg ffrwythau, i'r llyn a'r tonnau tân,
Dowch chwithau, grawn pura, i noddfa nefol gân."
Am fod yn giedd faint yw 'r dialedd,
Gwelwn yma, gwiliwn omedd
Trugaredd glirwedd glod;
Gwelwn eilwaith ddiball obaith
Am daledigaeth faint rhagoriaeth
Trugaredd fyth i fod;
Elusen ddwys uwch diffwys du a'n deil i fyny 'n fanwl,
A chariad perffaith gyda ffydd trwy obaith ni bydd trwbl;
Gonestrwydd ddi gelwydd sydd arwydd hyrwydd hawl
Ein cyrchu at Iesu, Amen, i ganu mawl.
ERFYN AM YMWARED
Rhag gelynion yn amser gwrthryfel gwaedlyd Cromwel a'i ganlynwyr.
Tôn, "Anodd Ymadael" y ffordd ferraf.
O ARGLWYDD Nef a Phenllywiawdwr
Môr a thiroedd, a'u gwneuthurwr;
Er mwyn Crist a'i aberth sanctedd,
Meddyg cymwys, maddeu 'n camwedd.
Llwyr anianol gnawdol ydym,
Ac anystwyth ar bob ystum,
I wneuthur un ddyledswydd sanctedd,
A hyrwydd ogwydd i bob gwagedd.
Crinwellt ydym ac alltudion,
Llwch a lludw a bratiau budron,
A phwy a saif o flaen dy orsedd,
Os creffi 'n arw ar anwiredd?
O Arglwydd tirion cyfion, cofia,
Ynghanol barn dy drugareddfa,
Ac arbed bwys dy wialen arnom,
Yn hynaws heddyw er na's haeddom.
Er na throi o'n tir wrthryfel,
Er mwyn Job a Noa a Daniel,
Er mwyn d'anwyl Fab bodlonol,
Tro dy lid oddiwrth dy bobol.
Bydd a'th asgell i'n cysgodi,
Bydd yn dŵr a tharian inni,
Bydd i'n cadw, Arglwydd cyfion,
Rhag holl ruthrau ein gelynion.
Dydi erioed a fu waredwr,
Rhag pob aflwydd ac anghyflwr,
Dydi oddi uchod, Duw, a ddichon,
Lwyr ddiflannu'n holl elynion.
Os dydi ni chedwi 'r ddinas,
Ofer codi caer o'i chwmpas,
Ofel gwelydd, ofer gwylio,
Lle ni bythoch di 'n bendithio.
Dydi yw awdwr pob daioni,
Duw dwys dirion, da 'i dosturi,
Ac yn dduwiol fuddiol feddiant,
Y mae trugaredd a maddeuant.
Dydi yn amser digter tanbaid,
A roddaist nawdd i'r Ninifeaid,
Dod nawdd i ninnau er mwyn Iesu,
Ar y pren a fu 'n ein prynnu.
Rhag ein gorfod gwisg ni àg arfa,
Yn gadarn filwyr i ryfela,
Yn erbyn Satan a'i holl armi,
Pen gelynion y goleuni.
Tyn o'n plith bob drwg arferion
Amryfusedd ac ymryson,
A dod in' ras i fyw 'n grist'nogol,
Mewn gwir fuchedd yn heddychol.#
Gyr ar frys o'th wenllys winllan,
I drin y bwystfil deirw Basan,
A chadw i'n plith er gwaetha eu hymgyrch,
Dy ganhwyllbren lawen lewyrch.
Dod inni ras holl ddyddiau 'n hamser,
I ddilyn purdeb ffyrdd cyfiawnder,
A dwg ni 'n ail er mwyn d' anwylyd,
I dario byth i dir y bywyd.
MYFYRDOD UN YN OL BOD YN GLAF.
DUW frenin gallogy trugarog, trwy ged,
Pen llywydd llwyddiannus llu grymus holl gred,
Gwir awdwr yr iechyd a'r clefyd, er clod
I'th enw daionus sydd barchus yn bod;
Dy dadol geryddon i ddynion sy dda,
Ynghyd a'th ymwared er blined o'r bla,
Er mwyn eu darostwng drwy dristwch di-drai
I geisio dy gymod am bechod a bai.
Duw ydwyd i'n harbed trwy 'mwared tra mawr,
Pan fych i'n ceryddu am bechu bob awr;
Dros byth ni 'mrysoni à drygioni drwy gas
Heb gofio truga edd, o'th rinwedd a'th râs.
Ynghanol anghenion, da roddion a roi,
Heb omedd dy gymod, o'n tralled i'n troi,
Er aros gwylofain gwael ofid brydnhawn,
Y bore o'th drugaredd gorfoledd a gawn.
Am hynny moliannwn, bendithiwn bob dydd,
Dy enw daionus, tra pharchus, trwy ffydd;
Wrth weled ffyddloned dy nodded i ni,
Ni feddwn am feddyg neb tebyg i ti.
Physygwr trugarog, mwyn rhywiog, yn rhoi
Pur enaint i'r unig, yn ddiddig y doi
I helpu 'r cardotyn tylota 'n y wlad,
Cyn hawsed a'r twysog, fost enwog ystad.
Yn Dad i'r ymddifad wyt ddyfal i fod,
A barnwr i'r weddw rinweddol ei chlod,
A gosod yr unig ddi-chwithig ei chwant
Yn berchen teuluoedd hoff linoedd a phlant.
Ymgeleddwr i'r clwyfus gorthrymus wrth raid,
Dan benyd dwys ofid di a sefi 'n ei blaid,
Pan lefo dan lafur ei ddolur yn ddwys,
Di a'i rhoddi mewn rhyddid o'i benyd a'i bwys.
Wrth goffa drwg gyffes fy hanes fy hun,
A 'mdeimlad o'th nodded yn aned yr un,
Yr ydwy 'n rhwymedig, fawl ystig, i fod
Mewn awydd digonol i ganu dy glod.
Pan oeddwn yn haeddu fy naflu 'n ddi-hoen
Dan glwyfau hir glefyd a phenyd a phoen,
Ynghanol barn gyfion di gofiaist yn glau
Dy haeledd drugaredd, i'm llawnedd wellhau.
Pan oeddwn fel costrel mewn methel a mwg,
Neu lestr methedig drewedig a drwg,
A phawb o'm cyfnesa heb nesu at fy mhla,
I'm gwrando dy fwynder oedd dyner a da.
Pan oedd fy mhechode 'n gymyle uwch ymhen
Yn gweiddi am ddigofaint dwys soriant dy sen,
Di a'm codaist i fyny drwy allu dy nerth
O'm blinder a'm trallod, i'm gorfod oedd gerth.
Dy ddwylo, Dy haeledd nefoledd, a fu,
A'th rinwedd yn llawnedd, i'm llunio 'n y bru;
Ac ynnot, Dduw cyfion, deg roddion di-groes,
Rwyn 'n byw ac yn symud bob munud o'm hoes.
Pan safo pob cyfell o hirbell yn hawdd,
I waitio am fy nghasgal yng nghysgod y clawdd,
A phawb o'm cydnabod i'm gwrthod yn gas,
Ti, Dduw, a dderbynni drueni dy was.
Am hynny, fy mhywer a'm cryfder o'm cryd
Fy nhŵr a'm bywioliaeth, a'm gobaith i gyd,
Fy nerth a'm holl iechyd wyt hefyd, Dduw 'r Tad,
Mewn adfyd, fy hyder, a'm llawnder wellhad.
Gogoniant a moliant di ffuant, a pharch
I'th enw, mae 'n deilwng, hyd elor ac arch,
Am roi dy fab Iesu i'n prynnu mewn pryd,
Pan oeddem golledig gwympiedig i gyd.
Er mwyn yr Iesu, drwy laesu dy lid,
O dwllwch dwg ni allan yn gyfan i gyd,
I lawne 'd oleuni daioni dy wedd.
I'th foli 'n dragywydd drwy gariad a hedd.
Am obaith gogoniant da ffyniant, a ffydd
I'th eglwys, a'th haelion fendithion bob dydd
Clodforwn yn ufudd o ifanc i hen
Dy enw daionus, moliannus, Amen.
MEWN POEN.
LLARIEDD amynedd i mi,—Duw, dyro,
Di-daring y gelli;
Ac, Dduw lon, ymfoddloni
I'th ewyllys downus Di.
—1729.
Y BEDD.
Y BEDD yw diwedd y daith—gorfforol,
Gwir Gwir ffarwel pob ymdaith;
Duw, i'm henaid, wiwblaid waith,
Drwy undeb doro iawndaith.
—1726.
CAROL UN OEDRANNUS
yn deisyf ei ddatodiad, a bod gyda'r Arglwydd, 1724.}}
DUW radol Greawdwr, a chadarn Waredwr
Drwy haeddiant f Iachawdwr, a'm Prynnwr, pa bryd
Y cyrchi i'th wlad nefol fy enaid anfarwol,
A'm corff i'r ddaiarol ddu weryd?
Mae'r babell bridd braenllyd yn wannach bob munud,
Rwy'n chwenych fy symud o'r bywyd i'r bedd,
Pob aelod sydd waelach, pob gwythen yn gaethach,
Pob synwyr yn salach ei sylwedd.
Mae 'r golwg a'r clywad, ynghyd a'r arogliad,
Yr archwaeth a'r teimlad, cyn lleiad eu lles,
Y cof yn ddiffygiol, a'r deall ystyriol
Yn farwol drem hunol, drwm hanes.
Mae breg yn y breichia, mae 'r dwylo mor dila,
Mae 'r cefn a'r cymala a'r clinia heb ddim clod,
Mae'r ddeulin, a'r ddwy-goes, a'r ddeudroed oer dduloes
Yn feirwon ddi-buroes yn barod.
Mae'r ffrins a'r carenydd a fydda dra ufudd
I'm cynnal mewn cynnydd draw beunydd drwy barch,
I gyd wedi mado, am hynny rwy'n cwyno;
Ni cheir, er eu cofio, mo'u cyfarch.
Mae henaint mwy hanes i'w ddilyn mor ddiles,
O'i goffa mae r gyffes am gaffael rhyddhâd,-
O'r babell ddaiarol mewn munud dymunol
Dod, nefol Dduw tadol, ddatodiad.
Ond yma rhaid imi o flaen dy fawrhydi
Gyfadde 'nrygioni drwy drosi 'n dra dwys,
F' adduned, wedd hynod, pan aethum drwy amod,
Yn aelod, waith wiwglod, o'th eglwys.
Yr union wir amod, undeb y Drindod,
Oedd nerthol ymwrthod hyd bennod y bedd
A'r byd a'r cnawd chwantus, a'r cythraul maleisus,
A'i wallus frad dyrus, fryd taeredd;
A chadw gorchmynion y cofus Dduw cyfion,
A'i garu â'm holl galon dra ffyddlon drwy ffydd,
A bod fy ngweithredol wasanaeth ddwys unol
Wrth reol amodol 'y medydd.
Ond dilyn hudoliaeth, tri gelyn drwg alaeth,
Yw swm y 'ngwasanaeth, naturiaeth nid da,
Ymdrochi mewn pechod, naws difyr, nes dyfod
At bennod dydd amod oddiyma.
Rhoi rhosyn fy amser mewn afiaeth yn ofer,
Ag iwsio fy mhleser ar fater di-fudd,
Ymborthi ar y ciba a gwrthod y manna
Heb goffa mewn mwytha fy Maethydd.
Y dalent a gefais i'm gofal a guddiais,
Mewn daiar mi a'i cleddais, ni phrynnais â'i ffrwyth
Nag olew na golud, hynt hylwydd, ond dilyd
Pob ynfyd wŷn, astud anystwyth.
Moliannu rhianod, hynt ofer, â'm tafod,
A rhoddi clod ormod ar draethod i draws,
Y rhwyddwych hael roddwr a farnwn yn fwynwr,
A'r tyrrwr yn annwr anhynaws.
Ag felly ymgyfeillach ag ofer gyfeddach,
A gadael gwaith purach anwylach yn ol,
Heb weini fawenydd ar ganiad wir gynnydd,
I'm Llywydd, ddawn ufudd, Dduw nefol.
Ond rhodio 'n afradlon trwy 'r tymor tra tirion,
Heb feithrin cnwd ffrwythlon wir hinon yr haf,
O eiste 'n ddiystyr ni cheir yn lle llafur
Ond prinder a gwewyr y gauaf.
Hir sefyll yn segur i borthi fy natur,
Troi heibio draws synwyr dros un awr ar ddeg;
Heb fod imi weithian i weithio 'n y winllan,
Ond awr am wir diddan o'r deuddeg.
Nid allai chwaith selio i'm heinioes mo honno,
Geill munud fy 'sgubo draw heno drwy haint;
Crist, derbyn fy nghyffes, dwg f' enaid i'th fynwes,
O loches anghynnes ing henaint.
Duw, gwna fy awr ola, i fod yn awr ora
O'm heinioes, a minna bob munud yn well
Mewn crefydd a rhinwedd, nes dyfod o'r diwedd
Dan gysgod da osgedd dy asgell.
Ac er nad oes yma mewn cyffes ond coffa
A'm henaint yn benna, cwyn tryma, cyn tranc,
Geill fod am wir pwyllig yn gyngor nodedig
I 'mwrthod a'i ryfig i'r ifanc;
Drwy gofio draw 'n gyfan am weithio 'n y winllan,
Cyn mynd dan bwys oedran, oer druan, awr drwch,
A dyfod y dyddiau heb ynddyn yn ddiau
Ddim ffrwythau da ddoniau diddanwch.
Duw Dad y drugaredd, Duw Fab y gwirionedd,
Duw Ysbryd Glân sanctedd, dda rinwedd a'i râs.
A'n gwnel yn gymhwysol i fod yn feddiannol
O'r nefol ddiddanol dda ddinas.

Nodiadau
[golygu]- ↑ Cyn 1914-18 Y Rhyfel Mawr oedd Rhyfel Gartref Lloegr (tua 1639-1652)
- ↑ Cyfaill Goronwy Owen. O'i ysgriflyfr ef y cafwyd y darlun o Owen Gruffydd roddodd i Mr. Arthur E. Elias,—un o'i ddisgynyddion,—amlinellau i wneyd wyneb—ddarlun y gyfrol hon.
- ↑ Gwel y Llenor, Llyfr II. (Ebrill, 1895). Casglwyd i'r erthygl hon bob ffaith sydd mewn ysgriflyfr neu ar dafod am Owen Gruffydd. Gweler y bedd-argraph yn "Gleanings from God's Acre tra dyddorol Myrddin Fardd, tud. 236
- ↑ Nid wyf yn sicr ym mha le y mae y llawysgrifau yn awr. Mae rhai yn eiddo i Myrddin Fardd, ac y mae wedi gwneyd casgliad cyflawn o waith Owen Gruffydd o lawysgrifau Peniarth, Madryn, a lleoedd ereill.
- ↑ St. Paul's.
- ↑ Whitehall.
- ↑ Yr oedd y Frenhines wedi marw er un o'r gloch y bore, Rhagfyr 28ain, 1694 Peraroglwyd y corff, cludwyd ef yn y nos o Kensington i Whitehall. Oedwyd y claddedigaeth hyd Mawrth 5ed, 1695. Gyda rhwysg mawr rhoddwyd corff Mari yng nghapel Harri'r Seithfed ym Mynachlog Westminster.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.
