Gwaith Thomas Griffiths/Mae myrdd o ryfeddodau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
← Rhagymadrodd | Gwaith Thomas Griffiths gan Thomas Griffiths, Meifod |
Efengyl Crist sy'n galw |
THOMAS GRIFFITHS.
—————————————————
I.
MAE myrdd o ryfeddodau
Yn mherson Iesu Grist,
Rhodd lawer gwledd i'm henaid
Pan oeddwn fwyaf trist;
Cân, f'enaid, am ei gariad,
Ac hefyd am ei ras,
Sy'n maddeu ac yn clirio
Y beiau mwya i maes.