Gwaith William Ambrose (Emrys)/A gwympodd y cedyrn?
| ← Dihangfa'r Aderyn Bach | Gwaith William Ambrose (Emrys) gan William Ambrose (Emrys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Ieuan Gwynedd → |

Y CEDYRN.[1]
"PA FODD Y CWYMРODD Y CEDYRN?"
I.
A GWYMPODD y cedyrn? Atebed y dagrau
Sy'n gwlychu aelwydydd ein trymllyd aneddau.
Do, cwympodd y cedyrn fu'n ysgwyd y ddaear;
Agorwyd ffynhonnau cuddiedig o alar.
Mae Cymru anwylaf fel dyffryn Megido;
Colofnau'i gogoniant a welir yn cwympo.
Mae llwythog ruddfannau drwy'r awyr yn gwibio,
Gan adrodd trist helynt y flwyddyn aeth heibio.
O flwyddyn gofiadwy ym mysg ein blynyddau,
Ei hanes a gerfiwyd ar fyrdd o galonnau!
Ei henw fydd bellach yn treiglo'n ddiareb
Am dymor o drallod, a dyfnder trychineb.
Ow gwympo y Cedyrn fu'n addurn i Gymru,
Nes swyno estroniaid i'w gweled a'i charu!
Athroniaeth a rhinwedd, gwladgarwch a chrefydd,
A welir yn wylo ar yddfau eu gilydd.
Mae iasau trydanol drwy'r Gogledd a'r Deau,
A myrdd o blant llafur yn wlybion eu gruddiau.
Nid ydyw gogoniant ein gwylltion fynyddoedd,
Ein grísial afonydd, na'n gwyrddion goedwigoedd,
Yn ddigon i symud y baich o ofidiau,
Na swyno i anghof ein trymion drallodau.
Pob amharch i'r bardd a groesawo ffug alar
Yn agos i feddau enwogion mor hawddgar.
Fy awen sy'n ysgwyd fel corsen wywedig,
O dan ysbrydoliaeth teimladau rhwygedig.
Ni raid i mi annog y cyndyn deimladau,
Na cheisio cynhorthwy y gwlith na'r cymylau;
Maddeua y nefoedd, maddeued y ddaear,
Os gwlychir f' ysgrifell mewn dagrau o alar:
Cysegrwyd gwir dristwch gan Dduw yn ein natur,
Pan wylai y Crewr wrth fedd ei greadur!
Mae rhagor rhwng seren a seren mewn mawredd,
Er hynny pob seren sy'n gwisgo gogonedd;
Ac os oedd amrywiaeth ym mysg y gwyr hyglod
Mewn oed a sefyllfa, mewn dysg a theilyngdod,
Mae calon y genedl yn llawn o ysgogiad
I wisgo eu beddau â phrofion o gariad.
Yr arwr brwdfrydig, ym mhoethder ieuenctyd—
Yr athraw parchedig, yn hwyrddydd ei fywyd—
Dau bleidiwr diysgog ein faith a'n defodau,
Yng nghanol plant estron a'u coethion ddygiadau.
Y pedwar oedd gynneu yn llawn o fywiogrwydd,
Sy heddyw yn huno ym mynwes distawrwydd;
A'r awen sy'n nesu, yn enw'r D'wysogaeth,
I dalu y deyrnged i'w pur goffadwriaeth.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Y rhai gwympodd yn 1852, sef Ieuan Gwynedd (32 oed), Morgan Howells (38), Dafydd Rhys Stephan (45), Tegid (60).[Ganwyd Evan Jones (Ieuan Gwynedd) ym Mryn Tynoriad, ar ochr Dolgellau i'r Garneddwen, yn sir Feirionnydd, yn 1820. Cafodd fam o fysg disgyblion Dr. George Lewis, ac etifeddodd ei hynni cydwybodol ac anorchfygol. O ysgol Marton aeth i Goleg Aberhonddu, ac oddiyno yn weinidog i Dredegar. Collodd ei iechyd, a throdd at yr ysgrifell. Golygodd y Principality, yr Adolygydd, a'r Gymraes. Bu'n farw yn 32 oed; huna yn y Groes Wen.Ganwyd Morgan Howells yn 1794, ym mhlwy St. Nicholas, Morgannwg. Pan yn un ar bymtheg oed daeth yn brentis saer i Gasnewydd. Daeth yn enwog fel pregethwr oherwydd ei ddawn rhyfedd, a'i athrylith droiog wyllt.Ganwyd David Rhys Stephen ym Merthyr yn 1807. Yn 1827 aeth i Goleg y Fenni, yn weinidog i Abertawe yn 1830, yn weinidog Seisnig i Gasnewydd yn 1815. Priododd ferch Gomer. Pregethai ac ysgrifennai'n rymus.Un o blant y Bala oedd John Jones (Tegid), anwyd yn 1792. Yn Rhydychen trodd ei feddwl at Gymru. Lewis Glyn Cothi, y Beibl Cymraeg, &c. Treuliodd ddiwedd ei oes yn Nanhyfer, lle'r hun.Cyhoeddwyd gan E. Williams a'i Mab, Aberystwyth, yn 1853.]