Gwaith William Ambrose (Emrys)/Dihangfa'r Aderyn Bach
| ← Pa beth a wnaf? | Gwaith William Ambrose (Emrys) gan William Ambrose (Emrys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
A gwympodd y cedyrn? → |
DIHANGFA'R ADERYN BACH.
Er cof am Thomas Henry Thomas.
AR doriad dydd yn Ebrill iach
Y gwelais dlws aderyn bach,
Mewn gwifrdy glân;
Ar gyfer eang goedwig werdd,
Lle clywid pob rhyw berchen cerdd
Yn seinio cân.
Llwyr giliai pob rhyw deimlad llon,
O'r galon fechan dan ei fron,
Gan hiraeth mawr
Am fynd i blith yr adar mwyn
I chwyddo cerdd y deiliog lwyn
I'r newydd wawr.
Pan oedd ei galon yn trymhau
Yn swn anthemau'n amlhau
Ar gangau'r gwydd,
Rhyw law garedig heibio ddaeth—
Agorai ddrws y gwifrdy caeth—
Aeth yntau'n rhydd.
Ysgydwai'i esgyll yn y gwawl,
A seiniai gerdd o felus fawl,
Yn llawen iawn;
Prysurai myrdd o adar mân
I'w gydgroesawu ef mewn cân,
I'w ryddid llawn.
Y gwifrdy bychan, anwyl yw,
Er mwyn yr un fu ynddo'n byw,
Sy heddyw'n rhydd;
Mewn parch y cedwir ef yn hir,
Dan wyliadwriaeth gofal gwir,
Mewn cell yn gudd.