Gwaith William Ambrose (Emrys)/Edward Handel Stephen
Gwedd
| ← Y Masnachydd Gonest | Gwaith William Ambrose (Emrys) gan William Ambrose (Emrys) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Y Bywyd-Fad → |
I EDWARD HANDEL STEPHEN.
MAB Y PARCH. E. STEPHEN, TANYMARIAN.
O'R bychan hoewlon—pwy yw?
Edward Handel Stephen ydyw;
O'r tlws! pa le ceir tlysach
Perchen dawn na'r bochllawn bach?
Mi welaf y fam wiwlon
Yn nhroad y llygad llon;
Gwên ei dad sydd gan y del—
Mae'i lond o ddawn, mal Handel.
Dedwydd fo—doed y ddau fyd
Yn elw i'r anwylyd:
Doed i holl fraint didwyll fri,
Yn llawn dawn a daioni;
Parhaed cerdd ac ysbryd cân
Yn hir yn Nhanymarian.