Neidio i'r cynnwys

Gwaith William Ambrose (Emrys)/John

Oddi ar Wicidestun
Bedd Y Cristion Gwaith William Ambrose (Emrys)

gan William Ambrose (Emrys)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
William Marc

JOHN.

NI ddaw John eto'n ol atom,—ei Dduw
Fynnai'i ddwyn oddiarnom;
Tewi raid dan y loes drom,
A ffrwynaw'r cyffro ynnom.

Bu ef i ni'n fab ufudd—a'i addfed
Gynheddfau'n ysblenydd;
Mawr oedd ef ym morau'i ddydd,
A'i ddawn fel hen ddiwinydd


Nodiadau

[golygu]