Neidio i'r cynnwys

Gwaith William Ambrose (Emrys) (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Gwaith William Ambrose (Emrys)

gan William Ambrose (Emrys)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Pennod Nesaf
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Gwaith William Ambrose (Emrys) (testun cyfansawdd)
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William Ambrose (Emrys)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Owen Morgan Edwards
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cyfres y Fil
ar Wicipedia

EMRYS

(Oddiwrth wawl-arlun[1] yn yr Oriel Gymreig).

"Hoff awdwr, seraff ydyw,
A mawr ei swyn, Emrys yw."
— HWFA MON.

GWAITH

EMRYS.

———❂———

"Llaw gadarn barn wnai ffrwyno'i awen rymus
Fel nad ymgollai yn y pell Ramantus,
Yn niwlfyd gor-ddychymyg, a'r cysgodau
Sy'n duo darlunfaoedd rhai awenau;
Ymgadwai oddifewn i'r gwir a'r dilys:
Lle safai y gwirionedd, safai Emrys."
———ISLWYN.



1916.

AB OWEN, LLANUWCHLLYN.

CYHOEDDIR YN SWYDDFA "CYMRU,"
CAERNARFON.

EMRYS

TAWEL fu bywyd William Ambrose (Emrys) ar ei hyd; ond llawn. O waith. Ganwyd Emrys ym Mangor, Awst 1813: bu farw ym Mhorthmadog. Hydref -31. 1873. Cafodd addysg gan fam dyner a da; yn Ysgol y Brodyr Llwydion ym Mangor; ac mewn ysgol yng Nghaergybi. Ac o'i grud yr oedd mawredd Eryri a thynerwch Môn a Menai o'i flaen.

Yn 1828 aeth yn brentis dilledydd i Lerpwl yn 1834 aeth i Lundain am ddwy flynedd. Yn y blynyddoedd hyn. daeth yn fardd ac yn bregethwr. Yn 1836, yn lle dychwelyd i Lerpwl, aeth ar daith bregethu gyda Chaledfryn i Eifionnydd; ac ymsefydlodd fel gweinidog ym Mhorthmadog. Yn y dref fechan, fywiog, brydferth hon y bu hyd ei fedd.

Fel pregethwr, bardd, llenor, golygydd, eisteddfodwr, a dinesydd enillodd Emrys serch a pharch Cymru. Tyner, cain, a phrydferth oedd ei awen,—

"Medrai ysgwyd teimlad plentyn
A'i gydwybod bob yn ail."

Oherwydd tryloewder tlws ei feddwl, a'i wybodaeth glir o'r natur ddynol, da gennyf roi cyfrol o rai o'i weithiau o flaen yr oes hon.

OWEN M. EDWARDS.

"Yr alarch hawddgar hwyliai.
A difyr hyd y dwir ai."

CYNHWYSIAD.

AWDL Y GREADIGAETH
[Cyhoeddwyd gan Evan Jones yn Aberystwyth yn 1819.
Anfonwyd hi i Eisteddfod Aberffraw yn
1819; ni chafodd y gader, ond cafodd
edmygedd Eben Fardd.]

MARWNAD MICHAEL ROBERTS
[Cyhoeddwyd yn y Drysorfa, yn 1855.]

"FY MAB"
[Sef David Rees, mab Gwilym Hiraethog.]

Y GWEFRHYSBYSAI
CATHARINE
[Un o" Adgofion fy Ngweinidogaeth" yw hanes.
Catharine. Ymddanghosodd yn y Dysgedydd yn
1858. Dengys mor eang oedd adnabyddiaeth
Emrys o'r natur ddynol, ac mor gref oedd
ei ffydd yng ngallu gras Duw i godi,
i addysgu, ac i goethi, ac i achub.]


BEDD Y CRISTION
JOHN
WILLIAM MARC
Y MASNACHYDD GONEST
EDWARD HANDEL STEPHEN
Y BYWYD-FAD
Y BLODEUYN OLAF
[Cyhoeddwyd yn y Dysgedydd, yn 1853.]

HARRI
[Darlun symlach, o'r un Adgofion.
Ymddanghosodd yn yr un flwyddyn
Rhydd gipolwg ar brif waith bywyd Emrys.
Ail beth oedd y llenydda,—yr eisteddfod
a'r golygu.]

PA BETH A WNAF?
DIHANGFA'R ADERYN BACH

Y CEDYRN
i. A gwympodd y cedyrn?
ii. Ieuan Gwynedd
iii. Morgan Howells
iv. D. Rhys Stephen
v. Ioan Tegid ..
vi. O fedd digyfeillach

[

[Marwnad yw hon am y pedwar gŵr grymus gwympodd yn 1852. Yr oedd dau ohonynt o Feirion, a dau o Forgannwg. Ond perthynent i bedwar enwad gwahanol. Anibynwyr, Methodistiaid, Bedyddwyr, ac Eglwyswyr. Testun Eisteddfod Aberystwyth oedd. Caledfryn oedd y beirniad, a thraddododd feirmadaeth gofiwyd yn hir. Gwel ei Waith, yn y gyfres hon. Wedi hynny rhoddwyd Caledfryn yntau i huno yn yr un fynwent ag Ieuan Gwynedd, sef yn y Groes Wen.]

Y DARLUNIAU.

EMRYS
(O wawl-arlun gan y diweddar J. Thomas.)

Y PAUN
"Gan ddangos ei dlos wisg dlysog."

YR ALARCH
"Addolai'i hardd ddelw'i hun,
A'i llun mewn dwr a'i llonnai."

Y RHAEADR
(Darlun gan S. Maurice Jones.)
"Gan ruo a neidio'n wyllt
O'r bryn i'r llyn digllonwyllt;
Adsain stwr y dyfuddwr du
Barodd ateb o'r ddeutu."


Y CAWRFIL
"Gan estyn y dwnyn du
At ei borthiant i'w barthu."

Y MARCH
"A'i gyflym draed grymus-yn cloddio'r llawr;
Esgymai'i erfawr lais cynhyrfus."

TAWELWCH Y WAWR
(Darlun gan S. Maurice Jones.)

NYTH YR EOS
"Mwynber yn nyfnder y nos-mal dwsmel
Yn llys yr awel oedd llais yr eos."

BOD AWEN
Cartref y bardd ym Mhorthmadog.
(Darlun gan S. Maurice Jones.)
Emrys.

CARTREF CYMREIG

CAPEL BACH Y CEUNANT
(Darlun gan S. Maurice Jones.)
"At y tân eto tynnaf, rhag anwyd."

COED YR HAF.
(Gwawl-arlnn gan I. ab O. Edwards).

BEDD EMRYS..
Wyneba tud. 49
(Darlun gan S. Maurice Jones.)

"Fel hyn, o do i do,
Yr awn i'r bodd i gyd."


Y GREADIGAETH.

"Gwnaethost hwynt oll mewn doethineb; llawn yw y
ddaear o'th gyfoeth."

CYN creu cylchoedd bydoedd ban,
ION a eisteddai'i hunan;
Nid oedd nac angel na dyn,
Na byd na gwan abwydyn;
Duw oedd yn un, nid oedd neb
I weld ei anfeidroldeb,
Ond uthr ddiddymdra ar daen,
O flaen ei Ddwyfol wyneb.

Dedwydd breswyliai y DUWDOD—yn holl
Fwynhad ei fawr hanfod;
Anibynnol, fythol FOD—ei fawredd
A'i hyfrydoledd yn för diwaelod—

Heb eisiau doniau dynawl
I fwyn gyhoeddi ei fawl,

Na chyngan un archangel,
Na diliau mwyn odlau mêl,
Na threiddgraff seraff na sant
I gynnal ei ogoniant.

Gorchmynnai, galwai ar goedd.
I fod aneirif fydoedd.
Gair ein IOR esgor a wnaeth
Ar degwch CREADIGAETH.
Drwy ei rym o'r diddym daeth
Ser y nê' a'u saernïaeth.

Ac ar ei air neidiai'r nen—i'w chylchoedd.
A chwarddai bydoedd yn lluoedd llawen.
A chwblhawyd hyd at drwch y blewyn,
Y pebyll uchel a lle pob llwchyn,
Anian gydbwyswyd, rhannwyd pob gronyn,
Wrth arfaeth yr Hwn fu'n murio'i therfyn,
Goleuadau gloew eu hedyn—welwyd,
Trwy rym nodwyd eu tro i'r munudyn.
Mawredd o olud! mil myrdd o heuliau,
Yn llywio edyn eu holl leuadau,
Enaid anian oedd yn llawn o donau,
A charolodd y gloewych orielau;
Clodfori DUW y duwiau—yn ei iaith,
Wnai uthr beirianwaith hoew'r wybrennau.

Ymuno'n gôr mewn hoen gainc,
I DDUW wnai'r bydoedd ieuainc.

Di rif gomedau ar hynt,
Heibio'r ser a brysurynt,
Cenhadon gloewon drwy heulog leoedd,
A wibiadau'n ymweled â'r bydoedd,
Gan gyfarch ser fil miloedd—ymwibiant,
Teithiant, a chwalant drwy'r holl ucheloedd.

A throant oll wrth y rheol—a roed
Gan yr AWDWR dwyfol,
Heb lygad d'rawiad ar ol—nac ymlaen,
Oll yn adwaen eu llinell hynodol.

Ni welodd neb fanylion
Di rif ryfeddodau'r ION;
Ni chai'r Aifft er ei chraffder,
Tra'n ceisio mesuro'r ser,
Hyd i yrfa neu derfyn
Erioed i'r bydoedd mawr hyn.

Palestina, Abyssinia,
A Chaldea, uchel deuwch,
Syria, Persia, Groeg, Ethiopia,
Ac Italia nac ateliwch.

Pa un o'ch meibion pennaf—o raddau
Seryddwyr perffeithiaf,
A welodd derfyn olaf
Ar weithredoedd nerthoedd NAF?

O Frydain glodforedig
Atat trof, ynnot y trig
Amrywiaeth gwybodaeth bur,
Un wyt sy'n darllen natur.

Chwilio i natur oedd gorchwyl Newton,
Rosse, a Herschel drwy uchel ymdrechion,
Er chwilio i'r uchelion,—addefent
Hwy, mai a welent oedd prin yr ymylon.

Ond awn yn uwch na dynion,
I lys yr anfeidrol ION;
Pa angel uchel ei âch,
Pa ryw gerub rhagorach,

Fu'n olrhain i fanylrwydd
Ddiben pob seren a'i swydd?
Pa ryw seraff prysuraf
O holl ffyddlon weision NAF.

A dd'wed am ryfeddodau—holl anian,
A'i llawn amrywiaethau,
A hynodion planedau
Fil myrdd sydd yn cyflym wau?

Ai rhyddid gwyllt breuddwyd gwan?
Ai gwag ddychymyg egwan?
Fod yr holl gyrff harddgyrff hyn.
Yn llawn bob lle o honyn',

O drigolion yn gwau drwy eu gilydd,
O amryw luniau mewn mawr lawenydd?
Pynciant folawd eu CREAWDYDD—medrus,
Yn lluoedd nwyfus oll iddo'n ufydd.

Rhai'n brydyddion, craff lenorion,
Athronyddion, doeth rhinweddol;
Peroriaethwyr, celfyddydwyr,
A rhifyddwyr tra rhyfeddol.
Pawb yn ei res, pob un rydd—warogaeth
I'r Hwn sy' BENNAETH y deyrnas beunydd.

Trown i lawr, yn awr, yn nes,
O'r nen i olrhain hanes
Perffaith gywreinwaith yr ION,
Yn taenu lle plant dynion;
Yn trefnu ein cartref ni
Mor odiaeth mewn mawrhydi;


Yn rhoi i'r llawr a'r wawr eu lle,—arwain
Y môr i'w orweddle;
Ei Ddwyfol air daenai'r de,
A'r gogledd ar y gwagle.

Rhyw ddyfnfwll bwll oedd ein byd
A noddía pob anhawddfyd;
Difendith dryblith di drefn,
A phenrhydd gorff o anhrefn,
Yn llawn trwst serthdrwst fal swn
Drygionus dreigiau annwn;
Neu fyrdd o ddaeargrynfâu
A dinistr y gwefrdanau,
Ymgau'n dew wnai mwg yn dyrch.

Ar amrantau'r mawr entyrch.
Pwy byth a wed pa beth oedd?
Ai nôd o lid ION ydoedd,
Ar ryw gelyd drigolion.
Fu ar y ddaear hardd hon?
Dial ION mewn dylanwad,
Yn ysu'r holl ddwfn sarhad;
Sef ôl rhyw oesau a fu,
Filoedd yn gwrthryfelu,
I'w phuro'n gorff o ran gwedd
Yn gain ym mhob gogonedd.
Dyddiau y cread oeddynt,
Chwe diwrnod hynod eu hynt.

Y dydd cyntaf NAF a wnaeth,
Y llinell o wahaniaeth.
Rhwng yr erchyll wyll di wên
A llewyrch goleu llawen.
Llenni y goleuni glân
O'r gwyll a rwygai allan,

Nes y daeth yn nos a dydd.
O law'r anfeidrol LYWYDD.

I'r hyll wyll ai'r ellyllon.
Yn haid ar amnaid yr ION;


Ysbrydion duon a ymadawent,
O flaen y goleu'n filiwn hwy gilient;
Bronnau hen ddreigiau ymgynddeiriogent,
I'w bythol ffau'n anobeithiol ffoent,
Yn arw, a thwrw y bytheirient
Eu du gableddau-llidiog y bloeddient,
I ganol gwyll disgynnent—yn ddigllon,
Angylion doethion a Duw felldithient.


Yr ail ddydd rheolodd ION
Yr awyr a'i hamrywion;
Mantolodd, rhodd i bob rhan
Ei fanwl ddeddf ei hunan:


Y DUW mawr a'i cymysgai'n dymherus,
O wahanol ansoddau ennynus,
Yr ulai afreolus—a'r blawrai
Gydbwysai á'r ufelai'n ofalus.


Rhwng dyfroedd a dyfroedd daeth
Yn gaer o fawr ragoriaeth.


Cadwai ef ddyfroedd y moroedd mawrion
Rhag i drachwant eu cynddeiriog drochion
Ruthro'n llidiog o'u gludiog waelodion,
Yn boen a dinistr i feibion dynion,
I wneud drych ein daear hon-fel du fedd;
Neu ail i annedd lawn o elynion.


Yna daeth y trydydd dydd,
A ION roes ei leferydd,

"Prysured, torred tiroedd—yn llwyr oll
Ar wahân o'r dyfroedd;
Ymadewch ac ewch ar g'oedd
Yn llawen tua'ch lleoedd.".

Ar hyn clybuwyd gerwin ddryghinoedd,
A rhwygo'r entrych wnai rhyw gorwyntoedd;
Yn ddiymaros rhuthrodd y moroedd,
Tua'r gwaelodion, eu trigle ydoedd,
A deilliai pistylloedd—chwyrn, tryloewaf,
Am yr ufyddaf i NAF y nefoedd.
Oesol fynyddau a sylfein iddynt,
Dan ryw ysgydwad yn rhes a godynt;
Ynysoedd at eu gilydd a nesynt,
Bryniau cribog ardderchog a ddyrchynt;
Ymhell ac agos yr ymddanghosynt,
Gwledydd addien o'r cymysglaid ddeddynt,
A'r dolydd hyfryd elynt—i'w lleoedd,
Gwaith eu Hawdwr oedd yn goeth goeth drwyddynt.

Rhedai y gloewon afonydd—mawrion
Tua'r môr yn ufydd:
Gwrid y wawr hawddgar derydd—ar eu lli..
Nes bywiol lonni y drych ysblenydd.

Yr hyfion reieidr hefyd,
Ruent yn uwch, uwch o hyd;

Mynnent eu ffordd drwy'r meini—cauedig.
Codent hwy fel gwegi:
Agenent y clogwyni
I'r llawr i wneud llwybr i'w lli.


Eu chwyrn lifeiriant ffyrnig—i'r eithrin
A ruthrai'n ferwedig;
Chwalai fron, dymchwelai frig,
Y graig gadarn grogedig.

Gan ruo a neidio'n wyllt.
O'r bryn i'r llyn digllonwyllt,
Adsain stwr y dyfnddwr du
Barodd ateb o'r ddeutu.

Ar ol i'r ddaear helaeth,
Ei thir oll, ei môr a'i thraeth,
I'w rhyfedd ddull a'i ffurf ddod,
Ail dd'wedai'r uchel DDUWDOD,

Cynhyrched, dyged egin
Llysiau er rhoi lles a rhin,
Yn dwyn had annewidiol,
Mewn trefn heb un maint ar ol;
Llysiau a phreniau'n dwyn ffrwyth,
Tyfant er mwyniant a maeth;
Oll yn eu lle yn llawn llwyth,
Yn elw a chynhaliaeth."

Ar hyn mewn munudyn ymnewidiai
Y ddaearen, hi lawen ymliwiai,
Hen lwydaidd wisg mewn eiliad ddiosgai,
Mewn gogoniant mwy enwog y gwenai;
Hardd wyrddlesni darddai—ar fryn a dôl,
Bywyd mawliadol drwy'r byd ymledai.
Blodau amryliw eu ffriw ddeffrowyd,
Y rhos a'r lili mor siriol welwyd.
A llygad y dydd pob ffrith a frithwyd,
A pheraidd feillion ddigon a ddygwyd;
Y ilon friallu anwyd—ar bob llaw;
I aml flaguraw milfil agorwyd.

Chweg aroglau, oedd yn chwarau
O rinweddau llysiau llesol;
Dail iachus sawrus siriol yn filoedd,
A lledu yr oedd glaswellt ireiddiol.

Y nardus yn ei irdwf,
Y cassia tala'n llawn twf,
Arogl myrr drwy y gwlaw mân,
A ddeilliai'n beraidd allan.

Codai tewfrig goedwigoedd, a chuddient
Lechweddau'r mynyddoedd;
Hardd ddrych ar y ddaear oedd, a gwelwyd
Chwaon yn ysgwyd ei cheinion wisgoedd.
Y cedrwydd hardd caeadwrysg,
Yn eu maint oedd yn eu mysg,
Ar bob tu yn lledu'n llawn,
Y caeadlu cysgodlawn.
A ban oedd y binwydden,
Anturiai'n hyf tua'r nen,
Union aeth a'i phen yn nes
I'r nen fel tal frenhines:
Ffynidwydd gorffenedig,
Mwya' byw geid ym mhob gwig;
Y dderwen, onnen, a'r yw,
Llu mawr o gyll a meryw;
Y ffawydd hirbreiff hoewon,
Y gwern a'r bocs lliwgar llon;
Y palmwydd a'r myrtwydd mân
Oll, oll yn eu dull allan;
Coed ffrwythlon breision eu brig
I gyd mewn ffurf blygedig.
Ac yn llawnion, o addfedion
Aeron iraidd
Y ffigysbren, a'r winwydden
A'i grawn noddaidd.

Y mwynbryd almonbren—a'i ddail sawrus,
A'r fawleddus dirf olewydden.
Mandragorau, promgranadau,
Eur afalau, uwch rhif welwyd;
A'r ddaear a ryddhawyd—ar bob rhyw,
A ION a'i gwneddyw a ogoneddwyd.

Y pedwerydd ddydd a ddaeth,
Ar y deg GREADIGAETH;
Y Pen, sef perchen pob hawl,
Ddywedodd yn dreiddiadawl,—

"Boed i loewdeg danbaid oleuadau.
Lenwi'r entrych â'u hydrwych belydrau,
Haul, a lleuad, y ser a'u trefniadau,
Yn ddynodiad, mesuriad amserau,
Nos a dydd, misoedd a blynyddau,
A'r môr helaeth yng ngrym eu rheolau,
Arwyddion ffyddlon i goffhau—fy nerth,
I osod mawrwerth barhaus dymhorau."

Ac wele'r nen yn disglair enynnu,
A llewyrch eirian tân yn tywynnu,
Cysgodion llwydion yn llu—a chwalodd,
Mwyfwy lledaenodd gan ymfelltenu.
Cyn i'r haul roi'i araul wrid,
Y wylaidd wawr a welid,
Fel lliwdeg ragredegydd,
Ar daith yn cyhoeddi'r dydd.

I'r nen daeth brenin y dydd!
Llawenhai oll o newydd.
Fel priodfab i'w 'nabod
Yn hawdd wrth ei wylaidd nôd,


Yn dyfod o'i ystafell
Fore mwyn, fry fry ymhell:
Neu fel mawr gawr rhagorwych.
A chalon hoen uwchlaw nych,
Gyrchai at enwog orchwyl
Mewn llawn nerth, mewn llawen hwyl.
Aeth yn llawen trwy'r entrych,
Yn ei danllyd gerbyd gwych;
Gwisg o dân, ei gysgod oedd
Ar ddwyfron y clir ddyfroedd.

Y byd dros funud a fu
Fel un f'ai ar ddiflannu,
Gan syndod, wrth ganfod gwedd.
Lwys yr haul a'i sirioledd;
A phob ryw syw lysieuyn
Fud syllai, safai yn syn.
Ond ar lygad d'rawiad rhwydd.
Y torrwyd y distawrwydd,
Bore awel isel wan
Ledaenai deimlad anian,
Coed gwyrddion, llon ar bob llaw,
A'r dail yn curo'u dwylaw:
Dylanwad haul a'i wenau
Ym mhob cwm i'w bywiocâu.

Wele'r hwyr a'r haul a'i rin
Yn lliwio y gorllewin;
Y nen mewn gwrid enynnawl,
A'r môr yn darnguddio'r gwawl;
Y donn lariaidd dan loew-wrid,
Awel leddf heb chwa o lid,
Yn hebrwng teyrn y wybren
I wely'r lli' islaw'r llen.
Y lloer a'i mantell eirian,
A'i gemwisg, ddisgleirwisg lân,


Diwres frenhines y nef
Arweiniai gôr y wiwnef;
A'r ser yn rhesi arian,
I gyd yn disgleirio'n gann:
Holl len y ffurfafen faith
Oedd lawen hardd oleuwaith.

Gwedyn daeth tymp ac adeg
Y pumed dydd, twfddydd teg:
Duw Ddofydd ddwedodd hefyd,—
"Boed dyfroedd aberoedd byd,
Y mór a'r holl ffrydiau mân,
Yn llawn oll, o hyn allan,
O bob pysg yn cymysg wau
O fewn dŵr y dyfnderau;
Boed eigion llwydion y llaid
Yn esgor ar ymlusgiaid;
A'r ehediaid ar aden,
Chwiwio wnant yn entrych nen;
A lliwdeg yn wyllt a gwâr
Bo heidiau o bob adar.

Yna'r eigion erfawr a gynhyrfent,
Miliynau o rywiau pysg chwareuent,
Mwyfwy o heigiau a ymfywiogent,
Yn ddiflin nwyfus hwy ddyfal nofient,
Rhai hyd wyneb y dŵr a daenent
Eu cenn arian, drwy'r aig cyniweirient,
Eraill a ymdyrrent—at eu gilydd
Yn heigiau llonydd, heb goll hwy unent.

Rhai yn anniben mewn tai cragenog
Rhai osodwyd mewn llwyd waddod lleidiog,
Rhai o dan hwyliau ar y donn heulog,
Eraill a'u llwybrau mewn mannau gwmonog,

A phob rhyw yn fywiog,—yn arwyddaw
Amryw allu llaw'r MAWR hollalluog.

Y dwyfol anfeidrol FOD,
Er ei fawl, wnaeth forfilod;

Rhyw ynysoedd byw oeddynt—a'r môr mawr
Murmurawl a rwygynt;
Aent fel dwl gwmwl o flaen gwynt—ar ffrwst,
A rhuadfawr drwst cauai'r dwfr drostynt.

Yna'r adar yn heidiau—ddeorwyd,
Awyr a lanwyd o amryw luniau;

Rhai dofion oedd yno'n hel
Eu dewis fwyd yn dawel,
Yn eu greddf yn chwalu'r gro,
Adwaenent eu bwyd yno.
Y ceiliog glân a'i gan gu,
A'r ddof iar i'w ddifyrru.

Ymloewai'r paen amliwiog—a moesgar
Yn eu mysg yn serchog,
Gan ddangos ei dlos wisg dlysog—a'i ben;
Ysgydwai'i aden mewn rhwysg godidog.

Y droedweog wydd a'r twrci chwyddog,
A'r golomen lawen symudliwiog,
Yr hwyaden ferr-droediog—a phob llin
O'i diofn fyddin yn cydfyw'n foddog.

Rhai ar gopâu creigiau crog
Yn byw'n y gwynt chwibanog,
Chwifio'n rhydd uwch ofn yr aig,
Uwch aelgref uthr uchelgraig;

Neu'n eistedd ar ddannedd hon,
Ar nawn yn llu bronwynion,
A'u trydar toredig—yn adseiniaw
I gellau didaw y graig holltiedig.
Neu'n disgyn ar edyn rhydd
Yn awyr y byd newydd,
I nofio'r môr fawr a mân
Yn hoenus yn eu hanian;
Neu suddo i geisio'n gyson
Eu pryd a ddarparai ION,
Ddosbarthai'r gweddus BORTH WR
Ym mwydgell dywell y dŵr.

I'r awyr yr eryr aeth,
Gwelai ef ei ysglyfaeth;
I'w nyth, yn syth y saethai,
Trwy'r nen, hollti'r awyr wnai;
Ar bob perchen aden aeth
Fry i nen y frenhiniaeth.

Yn y rhestr y tal estrys
Drwy y fro rodiai ar frys:
Balch oedd o'i blu chwyddog—syth y rhodiai,
Fry y gorddyrchai ei frig ardderchog.

Ar y llyn, mewn dŵr llonydd,
O dan frig crogedig wydd,
Yr alarch hawddgar hwyliai,
A difyr hyd y dwfr ai;
Addolai'i hardd ddelw ei hun,
A'i llun mewn dŵr a'i llonnai.

Chwyrndeithio, troellwibio'n haid,
Mewn hwyl, wnai'r chwim wenoliaid,
Trwy'r awyr mewn difyr daith,
Yn ol ac ymlaen eilwaith


Ar dro chwyrn, a'r drych arnynt
Fel arf dur yn gwanu'r gwynt.

Erail oedd yn ymdyrru
Yn ddiflin i'r llwyni'n llu;

Ai'r ednog gör à dawn gwell
I fysg y gwrysg ar asgell,
Wrth ddeddf, neu reddf awen rydd,
I frig cauedig goedydd:
A syml leisiau melysion—aneiri
Oedd yn codi o'r llwyni llawnion.

Yno y falch fwyalchen
Roddai brawf ar iraidd bren
O'i newydd gywrain awen,
A'r perffaith fronfraith ar frig
Ddyfeisiai beraidd fiwsig.
Y dryw, gerllaw, yn llawen,
Heb och, a'r brongoch ar bren,
Ag eofndra ysgafndroed
Yn chwarau rhwng cangau'r coed:
Mwynber yn nyfnder y nos—mal dwsmel
Yn llys yr awel oedd llais yr eos.

Aneirif oedd y fawr fyddin.
O bob ffriw, a lliw, a llin,
A'r ION yn foddlon a fu
Ar ddydd oedd ar ddiweddu;
Ei ddi—rith fendith o'i fodd
A ddododd, gan ddywedyd,—

"Ffrwythwch, epiliwch ym mhob pau—llennwch
Yn llon eich elfennau:
Tra byd o hyd heb wanhau,
Parhaed trefn pob rhywiau."


Daeth y chwechfed dydd—a'i weithredoedd,
A difyr oedd yr hyfryd foreuddydd.

O forau anarferol!—dihunai
Pob dawn peroriaethol,
Yn gytun heb un yn ol,
O gân i Dduw'n blygeiniol.

Parai'r Duw mawr ddistawrwydd,—ataliwyd
Pob telyn yn ebrwydd,
Pawb yn uno i wrando'n rhwydd.
Ar hirglod air yr ARGLWYDD ;—

Dyrodded daear heddyw,
O bob creaduriaid byw,
Oll yn eu rhyw, llanwer hon.
A'r hiliawg amrywiolion—
Yr ymlusgiaid, anifeiliaid,
Yn fywiolion;
A bwystfilod, lluon hynod
Oll yn union."

Ar hyn y ddaear hynod
Wisgai newydd newydd nôd,
Ger bron, agorai ei bru
Yn ddiatal o'r ddeutu;
A'r prysur greaduriaid
Yn codi o honi'n haid.

Rhai oedd yn chwarau'n rhyddion iach yrroedd;
Ac ai degau i rodio'r coedwigoedd;
Rhai ar eu torrau yn mynd drwy'r tiroedd ;
Ac eres lywiai rhai tua'r corsleoedd;
Ai rhyw lu i'r pawrleoedd,—a heidiau
Am eu haneddau, tua'r mynyddoedd.


Y llew melynddu blewog,
Newydd a glân oedd ei glog;

Ysgydwai'i fwng cysgodol—a rhodiai'n
Greadur brenhinol;
Dros bob bryn, dyffryn a dôl,
Chwareuai'i lais crochruol.

Y cawrfil uthrwanc erfawr
Oedd yno yn llwybro'r llawr,
Gan estyn y dwnyn du
At ei borthiant i'w barthu.

Torrai flys ei felus fant
Ar lysiau, er ei lesiant;
A'r rhai a f'ai wrth ei fodd
A ddoeth hwylus ddetholodd.

A'r march anhafarch nwyfus—a neidiai
Mewn nodwedd tra champus;
Ffroenio gan brancio heb rus,
Yr oedd yn dra mawreddus.

A'i gyflym draed grymus—yn cloddio'r llawr;
Esgynnai'i erfawr lais cynhyrfus.

Dan nawdd glyd ei newydd glôg,
At ael bryn hyfryd heulog,
Y ddof garuaidd ddafad
Ddeuai mewn hedd a mwynhad,
Heb berygl yno'n pori
Yn eorth o'i hymborth hi.

Hithau'r afr ar lethr hyfryd,
Oedd lawen uwch ben y byd;

Daliai ei thraed, dilithr oedd,
Yn yfed gwynt y nefoedd:
A choron hardd ei chyrn hi
Yn nawdd ac addurn iddi.

A'r fuwch mewn llawnder o fwyd,
Ar y ddôl iraidd welwyd,
Yn y gwair hir yn gorwedd,
Yn mwynhau ei rhan mewn hedd;
Cilgnoi heb gyffroi ei phryd,
Yn dawel iawn a diwyd.

Llyfnion iyrchod ac ewigod,
Tirfion hyddod mewn trefn weddus,
Oedd yn pori'n mysg y lili,
Oll mewn ynni'n llamu'n hoenus.

Trychfilod hynod eu hanian—luoedd.
Amlhaent ym mhobman;
Rhif llwch y llawr y mawr a'r mân—darddai,
A'r isaf lanwai'i orsafle'i hunan.

Ai ei haden, yn ei helfen,
wenynen oedd yn enwog;
Llawnion gellau, oedd ei chrwybrau,
Ni fu diliau'n fwy dihalog.
Pa awen addien, heddyw,
All enwi'r oll yn eu rhyw,
Y gwâr a'r anwar heinif,
Yn eu trefn, eu maint, a'u rhif,
O'r trychfil i'r cawrfil certh,
A'u mynedfa mewn adferth?

Er hyn oll o waith cadarn allu—DUW,
Nid oedd bôd i'w garu;
Nid oedd yn llengoedd y llu
Berchen deall i'w barchu.


Holl natur oedd fel telyn,—llawenydd.
Yn llanw pob llinyn;
Ond heb law hylaw er hyn—i wau clod
I'r DUWDOD ar ei pharod offeryn.

Duw hael ddywedai eilwaith,
Fel hyn yn ei ddwyfol iaith,—

"Gwnawn ddyn yn ddernyn addurnawl—yn bent
Pob bod iswybrenawl,
Dyn a medr i ledu'n mawl—mewn meddiant
O raglawyddiant a dawn arglwyddawl.

"Ar ein llun a'n delw ein hunain—yn ben.
Ar bob perchen adain;
Ar holl heidiau'r deifr llydain—ymlusgiaid,
A'r anifeiliaid hygar neu filain."

Yna'r dyn a rodiai yno—yn dal,
A delw DUW arno;
Heb baid o'i lygaid siriol o—y daeth.
Tân o wybodaeth yn tanbeidio.

Y dyn y dyn dianaf,
Oedd lawn urdd ar ddelw ei NAF,
Onid oedd gelynion DUW,
Adeiniog ddiafliaid annuw,
Dan gynhyrfiad teimlad dig,
Gan bryder gwyn berwedig,

Wrth ganfod llawn berth Gwynfa—a'r addurn
A roddwyd ar Adda?
Llunient pan heidient yn ol,
Idd ei fythol ddyfetha.

Angylion gwynion a gyd-ddisgynnent,
Yn yr awyr o'i gylch y chwareuent,

Yn iaith ysbrydion noeth y sibrydent;
Arno'n addoli a moli ymwilient,
Ac yna esgynnent—fry i'w helfen,—
Am Eden lawen o hyd chwedleuent.

Dyn wnaed yn fod eneidiol,—yn gadarn
Gydiad priodasol;
Rhwng dwy anian wahanol,
Ef a ddaeth yn rhyfedd ddol.

Rhwng naturiaeth yr angel—puredig
Sy'n ysbryd aruchel,
A rhes y natur isel—ddistadlaf,
A ddyrai y NAF idd yr anifel.

Dyn a wnaed o anian i
Ddilyth a syml addoli,
I lawn dreulio ei einioes,
I foli y RHI a'i rhoes.
Yr holl greaduriaid di ri—ddaethan'
Yn dyrfa allan i'w gydarfolli;

Tueddent oll at Adda—yn lluoedd
O'r llew i'r distadla,
Eu henwi wnaeth yn eitha—priodol,
Wrth reol ddwyfol a rodd IEHOFA.

Yno'n chwannog y rhoddent warogaeth.
Hwylus i'w banawg ddynol isbennaeth;
Addunent yn ddiwahaniaeth—i'w llyw
A'i wir, ddiledryw urddol lywodraeth.
Amnaid ei lygaid a'i law
Oedd yn eu cyfarwyddaw.

Ebai DUW, Nid da bod dyn,
Greadur hawddgar hydyn,
Yng Nghwynfa ei hunan heb—ymgeledd
I loewi'i annedd â'i siriol wyneb.


ION a roes yno'n rasol.
Gymhares i'w gynnes gol;
Efa lwys yng Ngwynfa lân
Roed i Adda'i gŵr diddan.
I rodio drwy Baradwys.
Ei bro glyd a'i llwybrau glwys,
A chydlawen chwedleua,
Gan ddilyn rhyw destyn da,
Heb un clwyf, nefolbwnc glân,
Am DDUW oedd eu hymddiddan;
Gwibiai'r ddau drwy demlau dail,
Blodeuog goediog adail;
Ara' ddwr oedd eu hardd ddrych,
I'w fin yr aent yn fynych
I weld eu llun eu hunain,
A chanfod pob cysgod cain,
Wrth fwynhau yr oriau hyn,
A'u mwynhad fel munudyn;
Y dydd glwys dedwydd a glân,
Ddiangai yn ddiyngan;
Mynd yn ddistaw, llithraw'n llon
Fel niwl o flaen awelon.

Gwelodd NAF, ARGLWYDD nefoedd,
Ei waith i gyd, a theg oedd,
Gwnaeth yr harddbryd fyd heb fai,
A dwedai mai "Da ydoedd."

Rhyw sain enynnai'n y nef,
Melysleis mewn aml oslef;

Meibion IOR ar eu goreu—gyweirient
Ragorol ganiadau,
Rhes hir o bur ser y borau
Yno heb rif yn hir barhau.


Cywir roent i'r Hwn fu'n creu—yn gyson,
Eu mawl o galon ar gwmwl goleu.

Parhau y mae deddfau'r dydd,
Ein lluniaeth a'n llawenydd,
Yr haul sydd yn rheoli
Pob dydd o newydd i ni;
Hithau'r lloer lathr a'i llu
Ar y nos sy'n teyrnasu.

Parhau o hyd y mae darpariadau
Y DUW mawr yn y cyson dymhorau;
Fe nodir eu trefniadau—yn gywraint,
Diaflerw beiriant fel hwyr a borau.

Y GWANWYN a wisg wenau,
Mewn llawn nwyf mae'n llawenhau;
Yn y gwanwyn y genir
Prydferthwch tegwch ein tir;

Yr amrywiog, flodau bywiog,
Eu goludog frig a ledant,
A'u sawrau a brysurant,—drwy y nen,
Yn chwai ar aden y chwa'r ehedant:
A charuaidd chwareuant,—mewn purdeb,
Bywhad hyd wyneb y byd a daenant.

Yna'r mwyn wanwyn mewn hedd,
I'r HAF a dawdd yn rhyfedd,
Siglo'n dawel dan yr awel
Dyner, rywiog,
Mae meusydd meith toreithiog—gwair ac ŷd,
Heblaw y diwyd goedydd blodeuog.

Dilyna'r HYDREF hefyd
A defnydd da bara'r byd,


Yn cario ei enwog goron—a roed
Gan Greawdwr ffyddlon;
Y coronau cywreinion
Diwerth ynt i gyd wrth hon.

Pa ryw deyrn, neu gampwr da,
Fyth garia y fath goron?

Minir y crymanau—allan yr a
Llawn res o bladuriau;
Gwylio'r adeg, casglu'r ydau,
O forau i hwyr heb lwfrhau.

Yna daw y du AEAF—ei oerni,
A'i hirnos yn araf;
At y tân eto tynnaf—rhag anwyd,
Mynwes yr aelwyd yw'r man siriolaf.

Daw'r ia oer, y llwydrew arian—a'r od
Puredig dros anian;
Rhy drwm yw i'r adar mân
Daro sill fedrus allan.

Daeth stormydd yn dywydd du,
Swn brochus i'n brawychu.

Trymha eu dinistr, ymdaenant,—coedydd
Cedyrn a ddadwreiddiant;
Y digllon eigion rwygant,
Ewynu ei donnau wnant.

Du echrys ofn a dychryn
A ddaw o'r tymhestloedd hyn.


Fel hyn rhedant eu diflin rodau—deall
Eu DUW mae'r tymhorau;
Yn eu pryd maent yn parhau
Yn ddilynol ddolennau.

Weithiau crasder, sychder sydd
Ar y maes yn ormesydd:
(Da oll, er nas deallwn,
Ydyw'r holl gyfyngder hwn)
Dihoeni mae pryd anian,
Och'neidio, gan wywo'n wan,
A'i thylwyth hi a welir
Ar fríg rhostiedig y tir,
Yn eu dychryn yn dechreu
Am ddwr i gyd ymddyheu,
Nes ochain gan eu syched,
Ar lawr, a'u genau ar led.
O'i diriondeb DUW wrendy
Lef y rhain o'i breswyl fry;
A gair y trugarog Ion
Duedda'r sugniedyddion
At ddwfn drysor y môr maith,
Yn gyson ar negeswaith;
Dwfr, yn awr, gwyd â'i fawr nerth,
Drwy offer llyfn didrafferth;
Y CREWR mawr a'i croewa,
A'i fwrw'n ol yn groewddwfr wna;
Amlhau wna cymylau nen
Hyd lwybrau'r dawel wybren.

Am wlawon inae'n ymliwiaw!—mor ebrwydd
Mae'r wybren yn duaw;
Hyfryd ddwfr o hyd a ddaw—heb balldod
Yn fuan gawod ar fyd f'ai'n gwywaw.


Ac wedi y cawodydd,
Y enfys wiw seithliw sydd,
A roddwyd yn arwydd da,
A'r iach entyrch rychwanta;
Gwenau yr haul digynnwr
Yn chwarau rhwng dafnau dŵr;
Lliwiau anian seirian sydd
Yn y gwawl gyda'u gilydd;
Hysbys y dengys ei DUW,
A dialedd y diluw.

Hyfryd iawn ar foreu dydd,
Ar adeg yr ehedydd,
Yw rhoddi tro drwy'r fro fras
A chwardd mewn gorwych urddas,
I weld deddf esgoreddfa
Y wawr hoen ar foreu ha,
A gweld y gwlith gloewdeg glán
Ar wyneb hawddgar anian;
Y blodau a'r llysiau llon
A geir dan ddisglair goron;
Maethol iawn yw'r esmwyth wlith,
A'i fwynder sydd yn fendith:

Dyry nodd i'n daear ni,—yna 'mad
Wedi'i mwydo drwyddi,
Wyla'i hunan allan i
Gôl hynaws y goleuni.

Ef geir yn brawf, ger ein bron,—o Dduwdod
Y Rhwyf fu'n gosod ei rif yn gyson.

Y nifwl ysgafn hefyd,
Ei len ar y ddaear ddyd;
Taen ei lwydion dewion dyrch
Hyd y llennyrch dillynaf;

A'i welwon ddafnau hylif
Yn parhau uwchlaw pob rhif.

Mae weithiau'n gorwedd yn y dyffrynnoedd,
Yn dawel lenni, ar hyfryd lynnoedd;
Mae weithiau'n farw hyd y meithion foroedd,
Yn cuddio hwyliau y llongau'n llengoedd;
Fe ail nesa fel nofiawl ynysoedd,
Ac ymaith tawdd am nawdd i'r mynyddoedd;
Gan wres, o'r achles lle'r oedd, ymddyrcha,
Wedi hyn nofia fry hyd y nefoedd.

Y fellten sydd yn folltiawg,—hon lywir
Gan law Hollalluawg;
Troi allan ar hynt droellawg—wna'r gwefrdan,
A gwywa anian dan glwyf gewynawg.

Yr adeiniog drydaniaeth—a ysgwyd
Esgyrn Creadigaeth;
Oni welwa dynoliaeth
Gan ofn y DUW mawr a'i gwnaeth!

A thrwst y rhuthr aruthrol—drwy y dŵr
Ydyw'r daran nerthol;
Rhydd dafod, arwydd Dwyfol—i bob glyn,
Clogwyn, a dyffryn, a bryn wybrenol.

Y fellten wyllt a'r daran,—y peiriant
Sy'n puro'r nef lydan,
Yw uchenaid groch anian,
Nen lef Duw drwy lif o dân.

A rhan o waith ein HIOR ni
Yw'r mynor oll a'r meini;
Smaragdus, a sardius sydd
Waith ei law, y doeth Lywydd;

Y grut bras, a'r topas teg,
Y cwrel, a phob carreg,
Yr onix tlws, eirianwawr,
Y jaspis, gabis, deg wawr,
Lugur a'r beryl hygain,
A rhyw fyrdd o bob rhyw fain,
Yr aur, y plwm, a'r arian,
Creig y môr, a'r cerrig mân.

Llaw fy Ion wnae'r holl fwnau,—ef a wnaeth
Drefn ar eu gwelyau;
Gyrr wedyn agoriadau
I ddyn gael iddo'u rhyddhau.

Ni cha unoes, er chwennych,
Gloddio i gell pob mwnglawdd gwych;
Yn araf daw'r mwn eirioes
I'r lan i oes ar ol oes.
Mawl! mawl! i'r anfeidrawl FOD,
Prif addurn pob rhyfeddod;
Deued, dihuned anian
Ei thonau, a'i doniau'n dân.

De'wch fydoedd filoedd, cydfolwch,—chwithau
Yn eich iaith dadgenwch,
Y fywiol fflam o fawl fflwch
Drwy y nen draw enynnwch.

Côr hoewber y cerubiaid.—anadlwch
Mewn odlau bendigaid;
Cydunwn, pynciwn oll heb baid—yn bêr,
A seinier offer tanllyd seraffiaid.

Y dwyfol ION, tydi a foliannwn,
Dy fawredd a glodforwn—O ARGLWYDD,
Yn union it' rwydd ogoniant a roddwn.


Can's teilwng, teilwng wyt ti,
Ti a luniaist oleuni:
Agoriad un gair o dy enau-dwyfol,
Lefarai nerthol fawrion wyrthiau.

Y DUW ddylid addoli,
Onid Tad pob peth wyt ti?
Gwelir dy waith disglair di
Drwy fydoedd dirifedi;
Adrodd nerth dy roddion wnant,
A'th glod cyfoethog ledant :
Mawl! mawl: tragwyddawl ar goedd,
I'r BOD sy'n llywio'r bydoedd!


MARWNAD MICHAEL ROBERTS.

AWEN Cymru cywilyddia;
Pa le buost yn ymdroi?
Er pan hunodd MICHAEL ROBERTS
Mae blynyddau wedi ffoi:
Cenaist alarebau llyfnion
I rai dinod yn eu dydd;
Gwelaist gladdu seraff Cymru
Heb un deigryn ar dy rudd!

MICHAEL ROBERTS: mae ei enwi
Yn agor beddau'r fynwes hon,
Ac yn codi hen adgofion
I ymrithio ger fy mron:
Wyf fel gwr mewn gweledigaeth
Y:n ail dreulio bore f'oes
Ymysg dylanwadau nerthol
Yr ymadrodd am y groes."

Llawer wyneb welaf yma
Yn siriol wenu arna i'n awr,
Roddwyd ers blynyddau bellach
Ym mhridd wely oer y llawr:
Teimlo 'rwyf yr hen oedfaon—
Teimlo'r awel yn yr hwyl—
Clywed adsain can y moliant,
"Fel llais tyrfa yn cadw gwyl."

Taener clodydd John Elias—
Sonier am ei ryfedd ddawn—
Casgler holl engreifftiau Cymru.
O hyawdledd nerthol, llawn:
Gwell i mi oedd dawn trydanol
Gwrthddrych yr alargerdd hon;
Medrai ef y ffordd i gelloedd
Dyfnaf, t'w'llaf, dan fy mron.


Nid oedd neb yn nyddiau'm hie'nctyd
Garwn glywed fel efe;
Pan agorai ei wefusau
Teimlwn Dduw yn llenwi'r lle;
Drychfeddyliau yn disgleirio
Drwy'r ymadrodd treiddiol mwyn,
Nes oedd creigiau hen galonnau
Yn ymollwng dan y swyn.

Nid drwy floedd, a geiriau gweigion,
Y cyrhaeddodd y fath radd;
Nid oes niwed mewn taranau,
Y mellt distaw sydd yn lladd:
Yr oedd swn ei ddoniau esmwyth
Fel awelon rhwng y dail;
Medrai ysgwyd teimlad plentyn
A'i gydwybod bob yn ail.

Mae dychymyg eto'n clywed
Yng nghlogwyni Ebal draw,
Adsain hir y llais effeithiol,
Fu'n cydrwymo myrdd mewn braw:
Pan gyhoeddai'r addewidion.
Ar bob gair gosodai swyn;
Y mae heulog fryn Gerazim
Byth yn anwyl er ei fwyn.

Cofir rhai oedfaon rhyfedd
Yn yr hen Gymdeithasfau,
Gan ryw luoedd yn y nefoedd
Gawsant ynddynt eu bywhâu,
Pan y torrai'r cwmwl tanllyd
Uwch ben y gynulleidfa lawn,
Myrdd mewn gwasgfa am eu bywyd
Yn cydwaeddi "Beth a wnawn?"


Cofir byth yr oedfa hynod
Yng Nghymanfa Dinbych gynt,
Pan y plygai'r gynulleidfa
Fel y goedwig dan y gwynt:
Gwelai'r dorf y farn yn eistedd—
Bydoedd yn llesmeirio 'nghyd—
Ond y dyn trwy ras yn sefyll
Ger bron Barnwr mawr y byd.

Bu yn wasanaethwr ffyddlawn.
I'ŕ Trefnyddion lawer blwydd;
Tynnodd atynt gorff y werin
Drwy ei anghymharol lwydd;
Cyn bod adeiladau mawrion,
Cyn i'r miloedd amlhau:
Eraill sydd yn awr yn medi
Lle bu ef yn diwyd hau.

Ni chyfodid un disgwyliad.
Drwy ei olwg wledig iawn,
Oni buasai'r llygaid tanllyd
Yn bradychu trigle'r dawn:
Dan y symledd gwledig isel
Ceid addfedrwydd barn a dysg.
Wnaeth i lawer coeg ymhonnwr
Deimlo'i bwysau yn ein mysg.

Myfyrdodau dwfn, diorffwys,
Pryder meddwl, llafur mawr,
Oeddynt ormod baich i natur—
Suddai dan y pwys i lawr,
Chwarddai uffern, wylai Sion,
Synnai'r byd at drefn y Nef,
Pan y d'ryswyd y cylymau,
Rhwng ei gorff a'i feddwl ef.


Bu y cysegr sancteiddiolaf
O dan len dros lawer blwydd,
Tad yng Nghrist i lawer enaid,
Fel yn blentyn yn ein gwydd;
Mor aneglur yw bwriadau
Dirgel droion trefn y Nef!
Arbed doniau gwŷr cyffredin,
A charcharu'i ddoniau ef!

Bum mewn tristwch pan yn edrych
Ar adfeilion palas gwych;
Gweld colofnau wedi cwympo
A'r cerfiadau'n wael eu drych:
Felly gwelwyd Michael Roberts,
Teimlwyd ger ei fron yn brudd,
Chwyddai'r fynwes gan ei thristwch,
Gwelwyd deigryn ar bob grudd.

Ond datodwyd ei gadwynau,
Cyn ei farw daeth yn rhydd;
Gwelwyd ef uwch ben y dyrfa
Cyn machludo haul ei ddydd:
Yr hen ddawn ganmolai'r tadau
Glybu'r meibion wrth eu bodd,
Daeth fel comed drwy'r wybrennau
Dros ychydig—yna ffodd.

Darfu'r llafur, darfu'r lludded,
Darfu profiad oriau prudd;
Mae y deigr-ddafnau olaf
Wedi rhedeg dros ei rudd;
Mud yw'r genau fu'n cyhoeddi
Addewidion fel y mél,
Mae cyfryngau'r pur hywadledd
Hyd y farn i fod dan sel.


Dymunasem weld ei ysbryd
Yn cyrhaeddyd y nef draw,
Mil o olygfeydd newyddion
Yn ymagor ar bob llaw:
Hen gyfeillion yn ymgasglu
I'w groesawu ef ynghyd,
Gan adgoffa hen oedfaon
Gafwyd yma yn y byd.

Ond er cystal oedd cyfeillach
Plant yr anial yn y nef,
Sylwedd mawr ei weinidogaeth
Aeth a'i holl feddylfryd ef;
Syllai, synnai, plygai, molai
Heb yn wybod iddo'i hun,
Pan y cafodd gyflawn olwg
Ar Fab Duw, Gwaredwr dyn.

Gorffwys, gorffwys, hen bererin,
Cwsg i ben dy felus hun,
Nes daw Crist i'th alw i godi
Ar ei ddelw hardd ei hun;
Ni bydd ol y bedd na phechod,
Nac un nychdod ar dy wedd,
Ti gei ganu buddugoliaeth
Ar adfeilion oer y bedd.

Mae ei enw'n perarogli
Eto yn eglwysi'n gwlad,
Fe gyfeirir ato heddyw
Gan ryw luoedd fel eu tad:
Carant adrodd ei bregethau,
Carant son am lawer gwledd,
Carant swn llyth'rennau'i enw,
Carant edrych ar ei fedd.


"FY MAB."

Bu farw do, bu farw!
Gadawodd ninnau'n syn:
Bu farw do, bu farw!
Pwy all esbonio hyn?
Onid oedd modd i'n dysgu ni
I deimle gwagedd byd a'i fri,
Heb ddwyn y bachgen hwn o'n plith—
Heb lethu'r fron dan deimlad chwith?
Ai rhaid oedd in' ei golli ef
Er dwyn ein bryd yn fwy i'r nef?
Maddeu, O Dduw! maddeu i un
Sy'n methu maddeu iddo'i hun,
Am feiddio barnu llwybrau'r Ior,
A phlymio amhlymiadwy fôr.
Distawed cnawd a rheswm
O flaen ewyllys Duw;)
Rhy ddoeth i gyfeiliorni,
Rhy dda i'n drygu yw.

Mae gwagle ar yr aelwyd,
Mae gwagle wrth y bwrdd;
Y mae rhyw amddifadrwydd
Ym mhobman yn ein cwrdd.
Pa le mae Dewi brwd ei fryd,
Oedd ganwyll llygad in' i gyd?
Pa le mae oracl y ty,
A'i lygad craff, a'i feddwl cry'?
Pa le mae'r bachgen mawr ei ddysg,
Oedd fel henafgwr yn ein mysg?
O gellwair prudd! ai bychan yw
Archollion dwfn y galon friw?
Mae'r bedd yn gwawdio'n dagrau ni,
Gan ddweyd, "Mae'r bachgen ynnof fi."

O fedd! nac ymfalchia,
Ei wisg sydd ynnot ti;
Mi glywa'r nef yn ateb,
"Mae Dafydd gennyf fi."

Os trymllyd yw adgofion
Mae ynddynt ryw foddhad;
Mae ynddynt hyfryd dristwch,
A phoenus esmwythâd!
Mae Dafydd bach, a'i wyneb llon,
Mewn adgo beunydd ger ein bron;
O ddydd i ddydd, i'r olwg daw
Rhyw ddernyn tlws o waith ei law:
Peth gadwai gwylder mawr yn gudd,
Sy'n awr yn dod i oleu dydd,
Nes treiddia ias trwy'r ysig fron,
Wrth gotio am y llygaid llon
Fu'n edrych ar y pethau hyn,
Yng nghanol myfyrdodau syn.
Ai rhyfedd yw fod hiraeth
A phoen yn gwywo'n gwedd.
Wrth geisio a methu peidio
Myfyrio am y bedd?

Addurnwyd ei athrylith
A holl brydferthion gras,
Fel ser yn derbyn tlysni
Oliw yr awyr las:
Pan gilio'r haul o wydd y byd,
Mae'n euro'r gorwel maith i gyd;
Adlewyrch o'i ogoniant ef
Sy'n taenu gloewder dros y nef:
Felly pan aeth yr enaid pur
O'r corff fu'n nychu dan ei gur,
Gadawodd rywbeth ar y wedd
I adlewyrchu nefol hedd:—

Y siriol wên ni chiliodd draw
Ym mhresenoldeb brenin braw.
O fewn yr arch a'r amdo
Arosodd heb gyffroi—
Bydd yno pan bo'r meirw
O'u hirgwsg yn deffroi.

'Roedd lle ein brawd yn barod
Yn oriel fawr y nef;
Anfonodd Iesu'r cerbyd
I'w gyrchu tua thref:
Ar derfyn ei ddaearol daith,
Ca'dd newid lle, heb newid gwaith;
Yn awr mae'r enaid mawr ei rym—
Yr holl alluoedd treidd graff llym—
Yn ymddigoni mewn mwynhad
Uwchben rhyw nefol eglurhad;
Rhyw newydd bwnc sy'n dod o hyd
I borthi ei awyddus fryd;
Gwel ryfeddodau'r fythol oes
Yn canolbwyntio yn y groes.
Un olwg arno heddyw
Dawelai frwydr y fron,
Ac am y llanc anwylaf
Y soniem ni yn llon.

O grefydd nef-anedig!
Mor werthfawr ydyw hi!
Heb ei chysuron dwyfol,
Pa beth a wnaethem ni?
Mae hon yn gwneuthur angeu ei hun
Yn gymwynaswr mawr i ddyn;
Os ymlid mae y saint o'r byd,
Eu casglu mae i'r nef ynghyd,
Rhydd gysur cryf i'r enaid gwan,
Egyr ddrws gobaith ym mhob man:

Rhydd oleu yn y farwol gell—
Sef gobaith adgyfodiad gwell:
Dengys ein cyfaill yn y nef
Os na ddaw'n ol, awn ato ef:
Pan ddele'r cerbyd breiniol
I'n cyrchu ninnau ffwrdd,
Wrth borth y ddinas nefol
Daw yno UN i'n cwrdd.


Y GWEFRHYSBYSAI.

AM fawr—waith dyn myfyriaf,—ei faidd hyf,
A'i ddyfais ryfeddaf;
Pwy noda'i nerth? Pwy ond Naf
A wêl ei derfyn olaf?

E fynn yr holl elfennau—i weini
I'w wahanol reidiau;
Deil y mellt, gwibfellt sy'n gwau,
I'w gosod ar negesau.

Brenin pob rhyw beirianwaith—ys yw bys.
Gwefrhysbysai perffaith;
Fe ddwed yn ei ryfedd iaith
Hanes y byd ar unwaith.

Ba eisiau hen hysbysydd—a'i hwylbren.
Talbraff ar y mynydd?
Y fwyn golomen ni fydd
I'n gwlad yn neges-gludydd.

Rhed y gwefr hyd y gwifrau,—chwai noda
Farchnadoedd a'n ffeiriau;
Drwy'r wlad mewn eiliad mae'n hau
Newyddion o'n seneddau.


Trwy y môr hallt a'r mawr elltydd—digol:
Y dyga bob newydd;
Diflin red fel awen rydd,
Heibio'r awel drwy'r broydd.

Trwy y gwefr, y gwefr digyfryw, nesir
Teyrnasoedd i gydfyw;
Newyddion a gawn heddyw
Ar aden y fellten fyw.

Dyd hwn ei didau tynion—am ein byd,
Mynn bawb yn gymdogion;
Nid all tir na llid hallt donn
Luddias ein cynhadleddion.

Y gwefr rydd gyfarwyddyd—i lywio
Porthleoedd yr hollfyd,
Ehed mewn rhaniad munud
O begwn i begwn byd.

A'i law yn ddistaw fe ddyd—ei nod ar
Y dyn—lofrudd gwaedlyd;
A daw a'r hyf leidr hefyd
I ingoedd barn yng ngwydd byd.

I'w bwyll y daw'r byd bellach—i fyw'n well
Drwy fwynhau cyfeillach;
Heb wall ceir pob lliw ac ách
I feithrin pur gyfathrach.

Celfyddyd o hyd mewn hedd—aed yn uwch,
O dan nawdd tangnefedd;
Segurdod yw clod y cledd,
A rhwd yw ei anrhydedd.


CATHARINE.

YR oedd teulu yn byw yng nghwr uchaf y Ceunant, tua thair milldir a hanner oddiwrth ein capel ni. Nid oedd un brifffordd y dyddiau hynny yn myned yn agos i'r lle; o ganlyniad, yr oedd y preswylyddion yn neillduedig oddiwrth y byd o'u cwmpas. Ar amser ffeiriau Llan—— yn unig y gwelid y gwr yn ymgymysgu a'r byd. Yr oedd man-borthmyn neu jackmyn y dyddiau hynny yn meddu cystal llygaid a'u holynwyr yn y dyddiau hyn. Arferent fyned i gyfarfod, neu yn hytrach i rith—oddiweddyd gwr y Ceunant ar ei ffordd i'r ffair. Cymerent arnynt mai amaethwyr fel yntau oeddynt, a chwynent yn dorcalonnus iawn oherwydd iselder y prisiau, &c. Gofalent bob amser fod un o'r giwed yn cyfarfod y fintai cyn cyrraedd y Llan. Cynhygient ar eiddo yr amaethydd dwl, a phrynnent ei anifeiliaid am lawer llai na'u gwerth; yna gofal. ent am ei feddwi tu hwnt i derfynau ymwybod aeth, rhag i neb ddynoethi eu castiau iddo. Ond agorwyd ei lygad o'r diwedd i weled dichellion jackmoniaeth—y pethau nesaf at ddichellion Satan ei hun; a byth ar ol hynny byddai yn cario pastwn aruthrol gydag ef i'r ffair, a bygythiai derfynu gyrfa pob jackmon a gynhygiai ddyfod yn agos ato.

Yr oedd teulu y Ceunant yn ddiarhebol am eu hanwybodaeth, a garwedd eu harferion. Dywedid nad oedd llyfr o un math yn y tŷ; yn wir, ni fuasai ond cost ofer iddynt geisio un, gan nad oedd yno neb yn alluog i ddarllen. Nid oedd nemawr wahaniaeth yno rhwng Sul, gwyl, a gwaith. Byddai y gŵr yn myned i eglwys y plwyf ar Sul y Pasg ambell flwyddyn, ac ystyriai ei fod yn cyflawni pob peth wrth wneud hynny. Nid oedd wedi bod mewn addoldy ymneillduol erioed, ac nid oes un o Buseyaid y dyddiau hyn yn edrych gyda mwy o ddirmyg ar Ymneillduaeth nag yr edrychai gŵr y Ceunant; a'r unig wahaniaeth rhwng Siôn y Ceunant a hiliogaeth lwyd-wynebog Dr. Pusey yw, fod un yn barod i groeshoelio Anghydffurfwyr, "heb wybod beth oedd yn ei wneuthur;" a'r lleill, "a hwy yn gwybod eu drygioni." Buasai Siôn mor selog a Pusey i losgi pob Dissenter; ond nid o'r un ffynnon y buasai sel y naill a'r llall yn tarddu.

Mi a gymerais yn fy mhen, fel y dywedir, i roddi tro i gyffiniau y Ceunant, yn fuan wedi fy sefydliad yma. Yr oedd fy nghyfeillion yn fy mherswadio i ymgroesi (maddeued y darllenydd i mi am arfer y gair; y mae llawer o olion Pabyddiaeth ar ein hiaith, yn gystal ag ar enwau lleoedd, &c.). Ond yr oeddwn yn teimlo fy hun yn lled wrol, ac felly cychwynais ar fore teg yn y Gwanwyn tuag yno, gan dybied nad oedd neb yno yn fy adnabod. Wedi cerdded am awr a hanner, daethum o'r diwedd i olwg yr hyn a elwid yn dŷ. Gwelais haid o blant yn rhedeg i'r tŷ ar fy ymddanghosiad, fel cwningod yn rhedeg i'w tyllau. Teimlwn erbyn hynny fod awr y brofedigaeth yn ymyl. Cyn pen dau funud, daeth y gŵr a dau o'r meibion ataf, ac ar eu hol y wraig a gweddill y plant. Yr oedd golwg anneniadol dros ben arnynt. Ofer ceisio darlunio eu gwisgoedd, oblegid nid oeddynt o fewn cylch un ffasiwn a gydnabyddid gan y byd gwareiddiedig. Nid oedd crib, na brws, nac olew, wedi halogi pennau neb o honynt erioed. Yr oeddynt yn llygadrythu arnaf, gan sylwi yn fanwl ar fy ymddanghosiad o wadn fy esgid hyd goryn fy het. Ym mhlith y pethau hynod yr oedd cadwyn fy watch. Yr oedd y gwr wedi gweled oriadur unwaith neu ddwy, a gofynnodd i mi ddangos yr eiddof fi i'r teulu. Tynnais hi allan yn siriol, ac ni fu mwy o synnu yn y Great Exhibition, nag oedd yn y Ceunant y bore hwnnw. Yr oeddynt ymron a gwallgofi mewn syndod pan welsant y peirianwaith mewnol. Ymdrechais egluro iddynt pa fodd yr oedd yn gweithio, nes oedd eu hwynebau yn cyfnewid yn wir, yr wyf yn meddwl eu bod yn ymylu ar sirioldeb cyn i mi roddi yr oriadur yn fy llogell yn ol. Yna gofynnodd Siôn i mi yn llym,—"Ai chi di'r dyn sy'n camu pennau pobol yn y capel isa?" Wel, gwelais fod yn rhaid barfu'r llew; dywedais nad oeddwn yn disgwyl fod yno neb yn fy adnabod; ond gan ei fod wedi gofyn y cwestiwn i mi, nad oeddwn an wadu fy swydd, ond nad oeddwn yn arfer camu pennau pobl—fod fy mhen i mor wastad a'i ben yntau, ac y dymunwn i bennau fy mhobl fod felly. "Na wiw i chi wadu," ebe Siôn, "mi glywais eich bod yn camu eu pennau, ac yn gwneud i'r bobl eich cadw am hynny; ydi hynny ddim yn wir?" "Ni wiw i chwi na minnau," ebe fi, "gredu pob peth a glywn yn y byd yma. Yr oeddwn wedi clywed cyn dyfod yma heddyw mai rhyw anifail direswm o ddyn oeddych chwi, ac na fedrech siarad nac ymddwyn fel dyn; ac mi a ddaethum yma heddyw er mwyn eich gweled a barnu drosof fy hun. Yr wyf fi yn eich gweled yn ddyn clyfar iawn." Gwelais mewn eiliad fod y bluen yn ateb i'r dwr, a mentrais ychwanegu,— "Beth pe baech chwithau yn dyfod i'r capel y Sul nesaf i gael gweled beth ydym yn wneuthur yno?" Gyda rhagymadrodd o lw ofnadwy, dy. wedodd, pe buasai yn myned i ryw gapel, y daethai ataf fi. "Beth yw pris y triog yn y pentre rwan?" eb efe. Ofer oedd i mi addef fy anwybodaeth, a dweyd mai duwinyddiaeth, ac nid grocery, oedd fy nghangen i o wybodaeth. Heblaw hynny, buasai dangos anwybodaeth ar bwnc y triagl yn codi rhagfarn yn fy erbyn, ac yn andwyo y cwbl ar unwaith. "Rhywbeth yn debyg," ebe fi, gan ymddangos yn bur ddoeth. "Be di pris y menyn bach?" ebe y wraig. Yr oeddwn yn digwydd gwybod hynny dipyn yn well, oblegid pris pwys o fenyn fyddai gwraig Tygwyn yn roddi at yr achos bob wythnos.

Wedi ateb eu cwestiynau, dywedais mai fy mhrif bwnc i oedd Iesu Grist. Crybwyllais ychydig am ei waed, ei ing, &c. Er nad oeddynt yn cymeryd nemawr ddyddordeb yn y pethau hynny, sylwais ar un eneth tua deuddeg oed yn gwrando yn astud ar yr hyn a ddywedais. Gofynnais iddi ddyfod i lawr i'r pentref bore Sul, a dywedais y cai aros hyd yr hwyr gyda ni. Edrychodd i fyny i wyneb ei thad, er mwyn cael rhyw arwydd ym mha gyfeiriad yr oedd y gwynt yn chwythu yn ei ysbryd ef. "Welwch chi'r graig acw?" eb efe. "Gwelaf," meddwn innau. "Welwch chi'r afon acw?" "Gwelaf." "Pan fo'r graig acw'n fenyn, a'r afon acw'n llaeth, gellwch ddisgwyl gweled rhywun o'r tŷ yma yn eich capel. Glwyswr ydw i, ac nid oes dim a wnelwyf â'r grefydd yma." Gwelais ei bod yn bryd i mi droi ymaith erbyn hynny. Ni dderbyniais sarhad oddiar eu llaw, ac ni theimlais ddim yn peri i mi edifarhau am gymeryd yr hynt foreuol. Yn wir, yr oedd golwg yr eneth a nodais yn. peri i mi obeithio y gallai rhywbeth ddyfod o hyn. Bore drannoeth daeth yr eneth i'n tŷ, ac ymddanghosai yn llawen dros ben. "Mi gaf fi ddwad y Sul," ebe hi. "Purion ngeneth i, pa sut y cawsoch gennad?" "Mam ddaru berswadio nhad, a dywedodd y gwnai hi gyfleth. iddo os cawn; ac yr wyf wedi bod yn ceisio triog i'w wneud," ebe'r eneth druan, a'i hanadl yn ei gwddf gan bryder, yswildod, a brys. Bore Sul a ddaeth, ac yr oedd Catherine wrth ein drws erbyn wyth o'r gloch. Helynt fawr a gafwyd i'w pherswadio i fwyta ac i siarad. Edrych yr oedd ar bob peth. Byddaf yn meddwl am dani yn wastad pan ddarllenwyf am Topsi yn "Uncle Tom's Cabin." Wedi iddi ymgynnefino tipyn, aeth yn ddigon hyf i neshau at y dresser, a dechreuodd deimlo pob peth Yr hyn a'i tarawodd â syndod neillduol oedd yr addoliad teuluawl. Nid oedd ganddi un amgyffred am benlinio. mewn gweddi. Aeth fy ngwraig â hi i'r capel; gosododd hi wrth ei hochr yn y set. Siaradai fel y bydd plant tair blwydd oed yn siarad yn y capel, yn enwedig pan ddelai rhyw un a adwaenai i mewn. Yr oeddwn yn pregethu y bore hwnnw ynghylch y wraig weddw a'r olew. Fel yr oeddwn yn myned ymlaen, gwelais ei sylw wedi ei ennill. Yr oeddwn yn awyddus i gael gwybod pa effaith oedd hanes gwyrth yn gael ar feddwl anoleuedig. Gofynnais iddi pa fodd yr oedd yn leicio y capel, &c. Atebai ei bod yn ei weled yn lle braf iawn; a gofynnodd i mi y cwestiynau rhyfeddaf a ofynwyd erioed ynghylch y bregeth. Deallais fod ganddi ryw syniadau am grefydd, yn parotoi ei meddwl i gredu mewn gwyrthiau. Aeth i'r Ysgol yn y prydnawn, a bu gyda ni yn yr oedfa hwyrol. Cymerodd fy ngwraig ddyddordeb neillduol yn yr eneth; a phenderfynodd, os cai gydsyniad ei rhieni, i'w chymeryd yn wasanaethyddes, a'i dwyn ymlaen mewn gwybodaeth. Bu ei thad yn agos i flwyddyn cyn rhoddi ei gydsyniad; ond pan oedd efe groesaf, llwyddai Catherine i fedru dod i'r moddion yn ddigoll. Dysgodd ddarllen yn fuan. Yna rhoddwyd iddi fenthyg Beibl a Thaith y Pererin i fyned gyda hi adref. Darllennai y rhai hynny i'w brodyr a'i chwiorydd. Dysgodd iddynt hwythau sillebu a darllen, a denodd hwynt gyda hi i'r capel. Wedi iddi ddyfod atom i fyw, daeth yn aelod cyflawn o'r eglwys, ac yn athrawes ffyddlawn yn yr Ysgol Sul. Nid oedd. arnom ni fel teulu lawer o angen am wasanaeth geneth o'i hoed hi; ond yr oeddym yn cael yr hyfrydwch o weled un wedi cael ei chipio fel pentewyn o'r tân, ac yn cael ei pharotoi i ogoniant y nef. Wedi iddi fod gyda ni dair blynedd, cawsom le iddi gyda Mrs. Ll—— Bryn——. Er bod y feistres yn dra gelynol at Ymneillduaeth ac Ymneillduwyr, deuai Catherine dair gwaith bob Sabbath i'r capel, ac ni thaflodd ei meistres un rhwystr ar ei ffordd. Dywedai Mrs. Ll——, "Y mae Catherine yn gofalu na byddo dim gwaith yn colli drwy ei bod hi yn myned i'r capel; felly yr wyf yn cyfrif mai nid fy amser i, ond ei hamser ei hun, y mae yn gymeryd. Nid oes yn y wlad ei gwell fel morwyn, ac nis gwn beth a wnawn hebddi." Yr oedd ein chwaer ieuanc yn cynhyddu cymaint yn ei rhinweddau, nes y tybiodd Mrs. Ll—— ei bod yn haeddu mwy o gyflog nag a allai hi roddi iddi; ac ysgrifennodd at foneddiges gyfoethog yn Llundain yn ei chylch. Daeth llythyr yn ol yn hysbysu fod yn dda gan y foneddigés gael ei hanes—y rhoddai £20 o gyflog y flwyddyn gyntaf iddi; ac yr ychwanegai ryw faint bob blwyddyn os byddai yn ei boddhau.

Yr ydym wedi dilyn hynt y chwaer ieuanc ragorol hon, nes yr ydym yn ei chael yn gwasanaethu yn nheulu un o brif areithwyr y Senedd. Yr oedd y boneddwr hwn yn cadw tri o dai—un yn Llundain, un yn Bath, ac un yn Norfolk. Gwelwn hi ynghanol profedigaethau newyddion a pheryglus y servants' hall— profedigaethau a fuont yn angeuol i grefydd a moesoldeb miloedd o bobl ieuainc. Ceisiwyd ar y cyntaf wawdio ei chrefydd allan o honi; wedi hynny ceisiwyd ei denu allan o honi drwy rith—garedigrwydd, a hudoliaethau poblogaidd; ond daliodd fel aur pur yn y ffwrn. Gwelodd, gyda galar, y gwastraff a'r anonestrwydd oedd yn myned ymlaen. Bu mor onest a rhybuddio ei chydweinidogion yn garedig, ac awgrymodd y dylai eu meistr gael gwybod yr hyn oedd yn myned ymlaen. Tynnodd hynny ystorm ofnadwy am ei phen. Gofynnai iddi ei hun yn fynych, Beth yw fy nyledswydd?" Yr oedd ei chydwybod yn dweyd mai achwyn ar ei chydweinidogion a ddylasai; ond yr oedd moesreolau y servants hall yn gosod allan achwyniad yn waeth na lladrad na llofruddiaeth. Bu yn gyfyng arni dros dymor; ond wrth weled datguddiadau newyddion o anonestrwydd o ddydd i ddydd, penderfynodd amlygu y cwbl i'w meistres. A rhag iddi ymddangos yn gweithredu yn fradwrus, gofynnodd un bore i un o'r waiters, yng ngwydd yr holl weinidogion, i ofyn i'w meistres a gai hi siarad â hi. Cyn pen awr daeth galwad iddi ymddangos ger bron ei meistres. Dywedai wrthi fod yn ddrwg iawn ganddi ei blino; ond na fedrai aros yn hwy yn ei lle yng ngolwg y pethau oedd yn myned ymlaen yn y tŷ. Dywedai ei bod wedi cael ei dwyn i fyny yn grefyddol, ac mai gair Duw oedd ei rheol. O ganlyniad, nas gallai gydymffurfio ag arferion y gweinidogion, y rhai oeddynt i'w thyb hi yn anonest. Ymddangosai ei meistres yn ffroenuchel, a dywedodd ei bod hi yn deall pa fodd i gadw establishment cyn iddi hi ddyfod yno, a bod croesaw iddi fyned ymaith os oedd yn anfoddloni ar ei lle; ar yr un pryd dywedai, "Mi a roddaf y character goreu i chwi." Wedi iddi ddyfod i blith y gweision a'r morwynion, ymddanghosent oll yn bryderus a llidiog, nes iddi hi ddweyd wrthynt ei bod yn ymadael, yr hyn a barodd sirioldeb mawr.

Ymhen deuddydd daeth galwad drachefn i'r Gymraes ymddangos ger bron ei meistres. "Y mae eich meistr a minnau wedi ystyried yr hyn a ddywedasoch y dydd o'r blaen," ebe Mrs. B——, "ac yr ydym yn barnu y dylem fod yn ddiolchgar i chwi am eich datguddiadau; byddwch gystal ag adrodd yr hyn sydd yn ymddangos i chwi yn anonestrwydd yn y tŷ." Adroddodd ein chwaer ieuanc ddigon i beri ymchwiliad manwl, a chafwyd allan fod

masnachwyr anonest mewn cynghrair â'r gweinidogion yn yspeilio eu meistr, a bod y servants' hall yn costio mwy na'r drawing room iddo. Diweddodd yr ymchwiliad mewn chwyldroad cyffredinol; trowyd yr holl weinidogion ymaith ond y Gymraes, yr hon a dderbyniodd anrheg o £10 gan ei meistr am ei ffyddlondeb. Codwyd hi i sefyllfa o ymddiriedaeth yn y ty, a bu yno bymtheg mlynedd. Drwy gynhildeb a gofal, casglodd swm mawr o arian, er ei bod yn cynhorthwyo llawer ar ei rhieni a'i brodyr a'i chwiorydd. Tair gwaith yr ymwelodd â'i chartref yn ystod yr amser, ac ar un o'r adegau hynny y daeth a'r dodrefn newydd ar y pulpud. Yr oedd ei dull diymffrost a'i gwisgiad plaen yn destyn siarad cyffredinol. Gwelsom lawer o enethod yn dyfod adref i Gymru " wedi gwario eu holl lafur am wisgiadau gwych, i dorri ffugyr ymysg eu hen gymydogion, heb ganddynt hanner coron i'w roddi i fam dlawd: ond yr oedd gan Catherine wisgiad syml, da,—digon o Gymraeg, a digon o arian yn ei phwrs i rannu dros ugain punt i'w hen gymydogion tlodion bob tro y talai ymweliad â'r hen ardal. A'r tro diweddaf y bu gartref cafodd yr hyfrydwch anrhaethol o weled ei thad a'i mam, ei brodyr a'i chwiorydd, yn eistedd gyda hi wrth fwrdd y cymundeb mewn capel bychan a adeiladwyd yn y Ceunant, at yr hwn y rhoddodd ac y casglodd hanner cant o bunnau.

Pan fu farw ei mam, ysgrifennais i gyflwyno y newydd galarus iddi, a derbyniais yr atebiad canlynol oddiwrth ei meistres:—

BARCH. SYR,—

Danghosodd Catherine Hughes i mi eich llythyr caredig a chydymdeimladol yn hysbysa iddi am farwolaeth ei mam. Y mae hanes oriau diweddaf yr hon a'i magodd —y cysuron nefol a brofodd yn y glyn, wedi profi braidd yn ormod i'w chyfansoddiad ddal. Y mae yn ddrwg iawn gennyf fy mod dan yr angenrheidrwydd i'ch hysbysu, fod sefyllfa ei hiechyd y fath, nad yw yn rhesymol iddi gymeryd taith nor bell ag yna ar y tymor hwn o'r flwyddyn. Yr ydym ni ar gychwyn i Rufain, ac yn penderfynu ei chymeryd gyda ni, er rhoddi iddi fantais hinsawdd tyner Itali. Yr wyf yn deall mai i chwi a'ch priod werthfawr y mae yn ddyledus am ei haddysg boreuol; ac nis gallaf ganiatau i'r cyfleusdra hwn fyned heibio heb roddi i chwi yr hysbysiad boddhaol na bu eich llafur hunanymwadol yn ofer. Y mae yn un o'r gweinidogion ffyddlonaf a gwerthfawrocaf a fu mewn teulu erioed, ac yr wyf yn credu fod ei ffyddlondeb fel gwasanaethyddes yn tardiu oddiar ei chydwybodolrwydd fel Cristion. Y mae yn cario ei chrefydd i'w holl gyflawniadau heb drwst na rhodres. Yr wyf yn cyflwyno i chwi y £10 mewnol fel diolch-offrwm i chwi ain y cysur a gefais yn eich disgybl.

Yr oedd llythyr Catherine druan yn un o'r pethau mwyaf effeithiol a ddarllennais erioed. Dywedai,—

Y mae fy meistr a'm meistres yn mawrhau eu caredigrwydd, am fy nghludo i Itali er mwyn i mi wella. Ond buasai yn well gennyf farw gartref. Mae'n debyg mai fy nyledswydd yw ymostwng i drefniadau meddygon. Ond! &c.

Yr oedd ei llythyr yn cynnwys £10 i'w thad at gostau claddedigaeth ei mam.—O Rufain y daeth y llythyr nesaf. Dyma gopi o hono,—

BARCH. SYR,—

Pan ysgrifenais atoch ddiweddaf, ychydig a dybiwn y byddai raid i mi mor fuan gymeryd fy ysgrifell i gyflwyno i chwi y newydd gwir alarus fod ein rhagorol Catherine. Hughes wedi ymadael a holl drafferthion y byd hwn. Bu farw wythnos i heddyw mewn gwir ddiogel obaith. Yr oedd ei meistr a minnau a'n plant wrth ochr ei gwely pan oedd yn tynu ei hanadliadau olaf; a byth, byth, ni anghofiwn yr olygfa. Os gwelais y nefoedd ar y ddaear erioed, yno y gwelais hi. Y mae ei marwolaeth orfoledd. us wedi effeithio yn rhyfeddol ar ddwy o'm merched, y rhai a ddygwyd mor ragluniaethol i weled y prawf hwn o wirionedd crefydd. Claddwyd hi yn ddisoremoni: oherwydd ni oddefa yr awdurdodau i ni gael gweinyddiad Protestanaidd wrth gladdu ein meirw, ac ni wnant hwythau weinyddu uwchben heretic! Ni chaniateir i ni godi beddadail iddi. Y cwbl a ganiateir yw gosod carreg ar ei phen a dwy lythyren arni, "C. H." Bu adeg ar fy oes pan y buaswn yn cyfrif seremoni gwag yn help i sicrhau iachawdwriaeth, ond yr wyf heddyw yn teimlo yn wahanol. Darfu i ni fel teulu dynghedu ein gilydd uwchben gweddillion marwol Catherine, na ddywedem air byth o ddiystyrrwch ar grefydd yr Anghydffurfwyr. Y mae Bank-book Catherine a'i hewyllys ym meddiant ei meistr, yr hwn a gyflwyna i'w theulu, drwy eich llaw chwi, tuag wyth cant o bunnau, &c.

Y mae adgofio bywyd a marwolaeth y chwaer ffyddlawn hon yn fy arwain i annerch dau ddosbarth.

Wasanaethyddion! byddwch ffyddlawn a gonest. Cyfrifwch yn ddyledswydd arnoch hysbysu pob anonestrwydd a thwyll a weloch yn eich cydwasanaethwyr. Plygwch i lais eich cydwybodau, a glynwch wrth eich crefydd ym mhob amgylchiad. "Dyrchafa di hi, a hi a'th ddyrchafa di."

Foneddigion! (ond ffolineb yw i mi ddis- gwyl y gwelant hwy hyn o sylw; ond pe cawn eu clust, dywedwn wrthynt), Edrychwch yn fanwl ar ol eich sefydliadau. Ymaith â'r wag dybiaeth na oddef urddas i foneddiges edrych i'r gegin, y servants' hall, y pantry, a'r seler. Y mae eich diofalwch chwi wedi temtio miloedd o ieuenctid i lwybrau anonestrwydd a thwyll. Yn wir, prin y gellwch feio eich gwasanaethyddion am eich twyllo, yr ydych yn gosod y brofedigaeth ger eu bron, ac nid yw yn rhyfedd fod cynifer o honoch yn myned yn fethdalwyr, oblegid y servants' hall, ac nid y drawing room, sydd yn dinistrio llawer o honoch.

BEDD Y CRISTION.

BEDDARGRAFF MR. JOHN JONES, TYNEWYDD, GANLLWYD.

CRISTION o galon ddigel—oedd Ioan
Trwy'i Dduw daeth yn uchel:
Ffodd y sant, llawn ffydd a sel,
Fry o'r ing i fro'r angel.



JOHN.

NI ddaw John eto'n ol atom,—ei Dduw
Fynnai'i ddwyn oddiarnom;
Tewi raid dan y loes drom,
A ffrwynaw'r cyffro ynnom.

Bu ef i ni'n fab ufudd—a'i addfed
Gynheddfau'n ysblenydd;
Mawr oedd ef ym morau'i ddydd,
A'i ddawn fel hen ddiwinydd



WILLIAM MARC.

UN fu'n gryf yn ei grefydd—addolwr
Oedd William Marc beunydd;
Rhodiodd ef, ar hyd ei ddydd,
Yn llaw Duw drwy'i holl dywydd.


Y MASNACHYDD GONEST.
CYWYDD COFFADWRIAETHOL AM MR. DAVID LLOYD, MASNACHYDD, TREMADOC.

DAFYDD LLWYD fwriwyd i'w fedd,
Mor chwai y deuai'r diwedd!
Tremadog! lle trwm ydyw—
Y mae'r bedd yn trymhau'r byw.

Cofio Llwyd, y cyfaill llon,
Ddigela aml brudd galon.
Rhydd, geirwir, hawdd ei garu,
O'i gryd drwy fywyd a fu;
Llanc gonest, dillyn, cynnil,
A'i lan foes fel un o fil.
Cymydog serchog, a sant
Oedd a phwy mor ddiffuant?

I fyny heb dyrfu daeth—
Heb ddilyn rhaib cribddeiliaeth—
Heb dwyllo dan gysgod gwên—
Heb bluo'n wyneb lawen—
Heb air cras, na thwyll fasnach—
Heb eisieu byw ar bwys bach—
Heb ddeubris na buddwobrau—
Heb ddichell i gymell gau—
Yn ein plith heb rith na brol,
Enillai'r wlad yn hollol.
Yn ei lyfr bu'n lân ei law,
Nid oedd raid iddo wridaw.
Y llanc ieuanc a wywodd—
fyd drwg i'r nef y trodd.
Ei lafur a'i sylw hefyd
Roddai efe i'r ddau fyd.

Drwy ei sel bu'n glod i'r saint,
A chreai barch i'w riaint
Ei grefydd oedd grefydd gron,
Gwyliai ei foes a'i galon.
Y cn'w'llyn, nid plisgyn plaid,
Oedd rhan ei ddiwair enaid.
Hyd ei fedd dihoced fu,
Ba orchest oedd ei barchu?


I EDWARD HANDEL STEPHEN.
MAB Y PARCH. E. STEPHEN, TANYMARIAN.

O'R bychan hoewlon—pwy yw?
Edward Handel Stephen ydyw;
O'r tlws! pa le ceir tlysach
Perchen dawn na'r bochllawn bach?
Mi welaf y fam wiwlon
Yn nhroad y llygad llon;
Gwên ei dad sydd gan y del—
Mae'i lond o ddawn, mal Handel.

Dedwydd fo—doed y ddau fyd
Yn elw i'r anwylyd:
Doed i holl fraint didwyll fri,
Yn llawn dawn a daioni;
Parhaed cerdd ac ysbryd cân
Yn hir yn Nhanymarian.


Y BYWYD-FAD.

TROWCH allan y BAD! Ewch, heriwch yr aig!
Mae llong yn prysuro i ddannedd y graig!
Rhwygwyd yr hwyliau, dyrysodd y llyw,
O, brysiwch! O, dygwch y morwyr yn fyw!

Cychwynnodd y BAD! Mae'n marchog y lli:
Tarawodd y llong! A glywsoch y cri!
Mae'n suddo! mae'n suddo! pob gobaith a ffodd.
Hi suddodd hi suddodd! y dyfnder a'i todd.

Duw lwyddo y BAD! Mae'r dynion bob un
Wrth raffau yr hwylbren crynedig ynglŷn;
Mae gobaith diangfa yn chwyddo eu bron,
Ac angeu'n eu gwylio yng nghysgod pob tonn!

O! brysied y BAD! Mae'r perygl yn fawr!
Pob tonn sydd yn fynydd. pob munud yn awr:
Mae'n nesu, mae'n nesu, drwy'r tonnau ynhyf,
Mae angeu'n siomedig, a gobaith yn gryf.

Cyrhaeddodd y BAD, Wi! gwelaf bob gŵr
O'i fewn yn ddiogel uwch dinistr y dŵr:
Mae'n dyfod mae'n dyfod! o'r enbyd fawr hynt,
Gan chwerthin yn wyneb y tonnau a'r gwynt.

Dychwelodd y BAD. Cyrhaeddodd y lan!
Prysured tosturi i weini i'r gwan;
Dyrchafwn, dyrchafwn, ein mawlgerdd yn llon
I Geidwad ein bywyd, ac Arglwydd y donn.


Y BLODEUYN OLAF.
Y rosemary, a welai yr awdwr yn ei flodau ar ddydd Nadolig, pan oedd y ddaear wedi ei gorchuddio â llwydrew

I BLE, flodeuyn hardd,
Yr aeth holl flodau'r ardd?
Nid oes yr un a chwardd
Ger bron;
Mae anian oll yn brudd,
A'r llwydrew ar ei grudd,
A thithau'n unig sydd
Yn llon.

Mi welaf yn dy wawr
Ryw ddrych o olaf awr
Y sant ar ado'r llawr
I'r nef;
Bydd pawb yı adeg hon
Yn wylo ger ei fron,
Ni bydd yr un yn llon
Ond ef.

Mae gweld dy wenau di
Yn dwyn ar gof i mi
Y Gŵr fu ai Galfari,
Fy Nuw;
Pan gilio pawb mewn braw,
Caf help ei gadarn law
I'm dwyn i'r nefoedd draw
I fyw.


HARRI.
"Onid pentewyn ydyw hwn wedi ei achub o'r tân?"

WRTH adgofio" yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd fi drwy'r anialwch," nis gallaf anghofio rhai dychweliadau hynod y bum yn dyst o honynt. Y mae agwedd grefyddol cynulleidfa, ar rai adegau, yn llenwi mynwes y gweinidog â digalondid—y crefyddwyr goreu yn afrywiog eu tymherau—y gweddiau yn oerion a diafael—aelodau yr eglwys yn syrthio i bechodau a'r cenhedloedd yn gofyn, Pa le y mae eu Duw hwy?" Yn y fath dymor, y mae llawer gweinidog wedi amheu ei godiad i'w swydd. Gofyn yn fynych iddo ei hunan beth fyddai oreu iddo wneuthur. A fyddai yn well iddo ymadael a rhoddi ei le i arall? Y mae sawyr y digalondid yn sicr o fod yn ei bregethau, er ceisio milwrio yn ei erbyn. Nid oes un testyn yn cydio yn ei feddwl ond profiadau isel saint yr Ysgrythyrau. Duw yn unig a wyr mor werthfawr ar adeg o'r fath yw gweled pentewyn yn cael ei gipio o'r tân.

Ers llawer blwyddyn yn ol yr oedd ein cynulleidfa wedi ymollwng—rhai o blant y diwygiad yn troi allan yn groes i'n gobeithion—anghydfod wedi codi rhwng teuluoedd â'u gilydd—a'r eglwys heb ychwanegiad dros fisoedd lawer; ond, drwy drugaredd, fe ddygwyd yn yr adeg isel honno dystiolaeth i nerth yr efengyl drwy achubiaeth hynod un o'r cymeriadau gwaethaf yn y wlad.

Ym mhentret bychan Cefn——, yr oedd dyn cryf o'r enw Harri yn byw, yr hwn oedd yn ddiareb yng ngenau y wlad fel "y pennaf o bechaduriaid." Nid oedd nemawr bechod nad oedd yn euog o hono. Yr oedd yn herw-heliwr, yn feddwyn, ac yn ymladdwr. Yr oedd ei iaith yn ddychrynllyd, a chiliai pawb o'i ffordd. Yr oedd o dymherau creulawn; a chan nad oedd wedi cymeryd trafferth i ddisgyblu ei deimladau, cyfrifid ef yn fflangell ar yr ardal. Gwae oedd i'r hwn a wrthodai fwyd na diod na dim arall iddo ar goel, a dwbl wae oedd i'r hwn a feiddiai ofyn tâl iddo am ddim a gai. Yr oedd wedi priodi pan ddaethum yma i fyw, ac wedi hanner torri calon ei wraig, druan, yr hon oedd yn un o'r merched mwyaf diwyd, glanwedd, a medrus yn y wlad. Y mae yn syndod fel y mae dyhirod o ddynion yn gallu hudo merched o'r fath oreu i'w priodi. Y mae gan bob cymydogaeth engreifftiau galarus o hyn; pan y gwelir dynion da, diwyd, yn fynych yn cael eu rhwymo hyd angeu wrth greaduriaid afrywiog, diles, a diog. Barnem ni y buasai yn llawer gwell pe rhwymesid yr afrywiogion gyda'u gilydd, i ymladd allan eu brwydrau, tra y caffai pobl ddiwyd a rhinweddol fwynhau cymdeithas eu gilydd mewn tawelwch—hiliogaeth Cain, a hiliogaeth Seth, ar wahan; ond, fel arall yn fynych y gwelir pethau yn y byd annhrefnus hwn. Byddai gwraig Harri, druan, yn fynych o dan ei chlwyfau, er ei bod yn llafurio yn galed i gadw ei thy, a bwydo y diogyn meddw a ddylasai ei chynnal. Hi a ymollyngodd o'r diwedd dan bwys tlodi, erledigaeth, a digalondid, nes ymddieithrio o bob addoldy. Ni roddai efe gymaint o barch i'r Sabbath a newid ei wisg, pan fyddai ganddo ail wisg i'w rhoddi am dano. Efe oedd y banerwr ym myddin uffern. Aeth rhai o'i gymydogion mor bell a dymuno iddo ddyfod i'r ddalfa, a chael ei alltudio i rywle.

Bu farw plentyn i Harri, a daeth ataf i ofyn a allasai gael lle ym mynwent y capel i'w gladdu. Yr oedd hynny o dynerwch ag oedd yn ei natur yn canolbwyntio yn y plentyn hwnnw, a danghosai gymaint o deimlad fel y parhaodd er syndod i bawb yn sobr o ddydd marwolaeth hyd ddydd claddedigaeth ei fachgen. Pan oeddwn yn annerch y gynulleidfa cyn cau y bedd, dywedais fod Duw wedi taro y parod er rhybudd i'r amharod. Ceisiais ddangos tynerwch Duw yn ei oruchwyliaethau, ac mor anhawdd oedd ganddo roddi pechadur i fyny. Yr oedd y pethau hyn yn bethau newydd iddo ef, druan. Yr oedd wedi clywed am Dduw yn gwahardd yr hyn yr oedd efe yn ei garu, ac yn cosbi troseddwyr ei gyfraith; o ganlyniad, yr oedd yn gas ganddo yr Arglwydd, ac yr oedd yn credu fod Duw yn elyn iddo yntau. Ond ar adeg y claddedigaeth, daeth yr efengyl i gyffyrddiad a'i feddwl y tro cyntaf, a gwelwyd arwyddion amlwg ei fod dan ddylanwad ei deimlad, neu ei deimlad dan ddylanwad rhywbeth i raddau pell. Yr oedd y claddedigaeth ar ddydd Sadwrn, a daeth y teulu i'r capel bore y dydd canlynol; ac, er syndod i bawb, daethant yno yn yr hwyr. Sylwodd amryw o'n cyfeillion fod ffrwd o ddagrau ar bob grudd i Harri; ond ni ddychymygasant fod yno ddim mwy na dagrau natur, yn tarddu o hiraeth am y marw. Yr oedd gennym gyfarfod gweddi misol nos Lun, a daeth Harri yno yn berffaith sobr! Yr oedd tipyn o sibrwd yn ei gylch erbyn hyn. Gobeithiai rhai y gallai fod rhyw ddifrifoldeb ynddo, ac y gallai droi allan yn rhywbeth. Nos Iau yr oedd un, sydd heddyw yn hen frawd doniol, yn dyfod heibio i ni yn wr ieuanc penddu. Pregethodd yn dda dros ben. Yr oedd ei lais mor nerthol ac ystwyth ag y gall pregethwr ddymuno i'w lais fod. Ond yr oedd y gynull eidfa yn galed. Gofynnai y pregethwr pa le yr oedd yr hen "fynd" oedd yn yr oedfaon? Holai am "amenau" cynnes y dyddiau gynt. Ond ychydig o fywyd oedd yn y lle. Ond, pan yn arwain y gynulleidfa yn y diwedd at "waed y taenelliad," gwaeddodd Harri allan,—Diolch byth! mae gobaith i minnau!" syrthiodd ar y llawr yn gelain farw, a gwefreiddiwyd y gynulleidfa drwyddi, a rhoes ail gychwyniad yn y gwersyll. Daeth Harri i'r gyfeillach. Yr oedd llawer o broffwydo ei dynged, ac o ragfynegu ei gwymp. Ond, er syndod i bawb, dal a wnaeth; ac yn fuan iawn symudodd ymaith bob amheuaeth oddiar feddwl yr ardal gyda golwg ar wirioneddolrwydd ei ddychweliad. Bu yn galed iawn arno wrth fyned drwodd; ond cafodd angorfa dawel, ddiogel i'w enaid. Efe a ddysgodd ddarllen yn lled fuan, ac yr oedd blas neillduol ar bob peth a ddywedai yn y gyfeillach. Daeth yn wr da, yn gymydog da, yn dad da, yn weithiwr da; mewn gair, daeth yn grefyddwr da, ac y mae hynny yn cynnwys pob peth. Magodd dyaid o blant iachus, diwyd a llwyddiannus, y rhai a fuont yn gynhorthwy iddo pan ballodd ei nerth. Ymwared oddiwrth yr Arglwydd oedd ei ddyfodiad i'n plith ar yr amser y trodd atom. Adgyweiriwyd telyn llawer hen Gristion, a chwanegwyd amryw at rif yr eglwys.

Yr oedd tipyn o'r hen ddyn i'w ganfod ynddo ar brydiau pan gynhyrfid ei dymer. Digwyddodd un tro pan oedd Mr.—— wedi dyfod i'r capel yn feddw. Yr oedd Mr.—— yn un o'r rhai hynny na ddeuai byth i gapel pan fyddai yn sobr. Yr oedd ganddo biano yn y ty, a meirch teg i'w marchogaeth. Yr oedd crefydd yn rhy gaeth at ei chwaeth ef, ac nid oedd efe am ddarostwng ei hun drwy ymddangos mewn addoldy Ymneillduol. Ond pan y digwyddai ddychwelyd o'r dref o dan effeithiau diod, gwelais ef yn troi i mewn gyda'r dyrfa. Ymddygai weithiau yn lled dda, bryd arall ymddangosai fel un yn teimlo y gallai wneud fel y mynasai mewn capel. Yr wyf yn cofio un tro, pan oedd dau wr dieithr yn pregethu gyda ni, i'r gŵr hwnnw droi i mewn i'r oedfa ar ei ffordd o'r farchnad. Yr oedd wedi yfed dipyn yn drymach nag arferol, a dechreuodd siarad yn lled uchel nes aflonyddu y pregethwr. Erfyniai y rhai agosaf ato ar iddo dewi, ond waeth-waeth yr oedd yn myned. Anfonais Harri ato i erfyn arno naill ai i fod yn llonydd, neu i fyned allan. Wedi derbyn y genadwri, dechreuodd lefaru fel gŵr mawr. Codai ei lais yn uchel, a siaradai yn arddull crach-yswain yn dri chwarter meddw. "Os ydych yn myned i siarad yn y dull yna, Mr.—— rhaid i chwi fyned allan," ebai Harri. "Ple mae'r gŵr fedr fy nhroi i allan?" ebe yntau. Yr oedd hynny yn ormod i natur ein gwron ddal. Gafaelodd yn dynn yn ei ysgwydd—gwthiodd ef drwy ganol y bobl— drwy y drws—i'r awyr agored. Wedi ei gael O swn y gynulleidfa, ysgydwodd ef yn lled haelionus, a rhoddes iddo brawf fod yr un nerth yng ngewynau y dyn ag oedd pan y crynai ymladdwyr y wlad gan ei ofn. Un o'r dodrefn a yspeiliwyd oddiar y cryf arfog, ar ol ei rwymo, oedd y nerth hwnnw.

Yr oedd un linell brydferth iawn yng nghymeriad y dyn hwnnw, yn yr hyn yr oedd yn. rhagori ar lawer o'r pentewynion. Y mae rhai o'r dosbarth hwnnw yn caru gwneud arddanghosiad o honynt eu hunain—mynnant fod yn llewod pob cymdeithas. Ceir y rhai hyn yn son am eu hen orchestion gynteu hymladdfeydd, eu meddwdod, a'u campaugyda mwy o hyfrydwch na gweddeidddra. Ar y lleiaf o swn calon ddrylliog "ac"ysbryd cystuddiedig." Ond ymddangosai Harri, druan, yn gwbl wahanol. Yr oedd son am yr hen bethau " yn taenu cwmwl dros ei wynepryd. Dywed traddodiad y byddai Pedr yn torri i wylo bob tro y clywai geiliog yn canu, ar ol iddo gwympo. Pa faint bynnag o wir sydd yn hynny, yr ydym yn sicr y byddai y brawd duw iol sydd yn awr dan ein sylw yn tristâu pan glywai son am feddwdod ac ymladdau, yn neill duol pan glywai am benteulu yn greulon at ei wraig a'i blant. Y mae yn hyfrydwch i enaid fod yn dyst o'r fath waith effeithiol ar gyflwr un pechadur. Y mae gweled un pentewyn wedi ei achub o'r tân yn llawnach o ddyddordeb i gyfeillion y Gwaredwr na holl exhibitions y ddaear.

PA BETH A WNAF?

PA beth yw'r ofnau hyn.
Sy'n llenwi'm henaid syn
A gwg fy Naf?
Euogrwydd sy'n crynhoi,
Mae'm cyfiawnderau'n ffoi,
Ni welaf fan i droi,
Pa beth a wnaf?

Mae'm beiau rif y gwlith
Yn codi ym mhob rhith
Drwy'm henaid claf,
Dyrchafant oll eu llef,
Fel ergyd taran gref,
Am ddialeddau'r nef,
Pa beth a wnaf?

Yn wyneb cyfraith Duw,
'Rwy'n gweld na haeddwn fyw,
Pa gymorth gaf?
Ymrithio ger fy mron,
Mae holl fendithion hon,
Mae uffern dan fy mron,
Pa beth a wnaf?

'Rwy'n gweld mai trengu raid,
Os na chaf Iesu'n blaid
I'm henaid claf;
Yn rhinwedd aberth hwn,
Cawn ysgafnhau fy mhwn,
Yn awr, yn awr, mi wn
Pa beth a wnaf.


DIHANGFA'R ADERYN BACH.
Er cof am Thomas Henry Thomas.

AR doriad dydd yn Ebrill iach
Y gwelais dlws aderyn bach,
Mewn gwifrdy glân;
Ar gyfer eang goedwig werdd,
Lle clywid pob rhyw berchen cerdd
Yn seinio cân.

Llwyr giliai pob rhyw deimlad llon,
O'r galon fechan dan ei fron,
Gan hiraeth mawr
Am fynd i blith yr adar mwyn
I chwyddo cerdd y deiliog lwyn
I'r newydd wawr.

Pan oedd ei galon yn trymhau
Yn swn anthemau'n amlhau
Ar gangau'r gwydd,
Rhyw law garedig heibio ddaeth—
Agorai ddrws y gwifrdy caeth—
Aeth yntau'n rhydd.

Ysgydwai'i esgyll yn y gwawl,
A seiniai gerdd o felus fawl,
Yn llawen iawn;
Prysurai myrdd o adar mân
I'w gydgroesawu ef mewn cân,
I'w ryddid llawn.

Y gwifrdy bychan, anwyl yw,
Er mwyn yr un fu ynddo'n byw,
Sy heddyw'n rhydd;
Mewn parch y cedwir ef yn hir,
Dan wyliadwriaeth gofal gwir,
Mewn cell yn gudd.


Y CEDYRN.[2]
"PA FODD Y CWYMРODD Y CEDYRN?"

I.
A GWYMPODD y cedyrn? Atebed y dagrau
Sy'n gwlychu aelwydydd ein trymllyd aneddau.
Do, cwympodd y cedyrn fu'n ysgwyd y ddaear;
Agorwyd ffynhonnau cuddiedig o alar.
Mae Cymru anwylaf fel dyffryn Megido;
Colofnau'i gogoniant a welir yn cwympo.


Mae llwythog ruddfannau drwy'r awyr yn gwibio,
Gan adrodd trist helynt y flwyddyn aeth heibio.
O flwyddyn gofiadwy ym mysg ein blynyddau,
Ei hanes a gerfiwyd ar fyrdd o galonnau!
Ei henw fydd bellach yn treiglo'n ddiareb
Am dymor o drallod, a dyfnder trychineb.
Ow gwympo y Cedyrn fu'n addurn i Gymru,
Nes swyno estroniaid i'w gweled a'i charu!
Athroniaeth a rhinwedd, gwladgarwch a chrefydd,
A welir yn wylo ar yddfau eu gilydd.
Mae iasau trydanol drwy'r Gogledd a'r Deau,
A myrdd o blant llafur yn wlybion eu gruddiau.
Nid ydyw gogoniant ein gwylltion fynyddoedd,
Ein grísial afonydd, na'n gwyrddion goedwigoedd,
Yn ddigon i symud y baich o ofidiau,
Na swyno i anghof ein trymion drallodau.
Pob amharch i'r bardd a groesawo ffug alar
Yn agos i feddau enwogion mor hawddgar.
Fy awen sy'n ysgwyd fel corsen wywedig,
O dan ysbrydoliaeth teimladau rhwygedig.
Ni raid i mi annog y cyndyn deimladau,
Na cheisio cynhorthwy y gwlith na'r cymylau;
Maddeua y nefoedd, maddeued y ddaear,
Os gwlychir f' ysgrifell mewn dagrau o alar:
Cysegrwyd gwir dristwch gan Dduw yn ein natur,
Pan wylai y Crewr wrth fedd ei greadur!

Mae rhagor rhwng seren a seren mewn mawredd,
Er hynny pob seren sy'n gwisgo gogonedd;

Ac os oedd amrywiaeth ym mysg y gwyr hyglod
Mewn oed a sefyllfa, mewn dysg a theilyngdod,
Mae calon y genedl yn llawn o ysgogiad
I wisgo eu beddau â phrofion o gariad.
Yr arwr brwdfrydig, ym mhoethder ieuenctyd—
Yr athraw parchedig, yn hwyrddydd ei fywyd—
Dau bleidiwr diysgog ein faith a'n defodau,
Yng nghanol plant estron a'u coethion ddygiadau.
Y pedwar oedd gynneu yn llawn o fywiogrwydd,
Sy heddyw yn huno ym mynwes distawrwydd;
A'r awen sy'n nesu, yn enw'r D'wysogaeth,
I dalu y deyrnged i'w pur goffadwriaeth.


II. IEUAN GWYNEDD.

Pwy draetha fy hiraeth am Ieuan anwylaf?
Mae adsain ei enw yn chwyddo fy mron;
Rhyw hafaidd belydryn yng nghanol y gaeaf
Yw'r funud 'rwy'n ceisio ymddangos yn llon:
Mi wn beth yw wylo wrth feddau cyfeillion.
Nid dieithr i'm mynwes yw trymion bangfeydd;
Ond archoll sydd heddyw yn gwaedu fy nghalon,
Sy'n archoll i'm cenedl drwy'i holl breswylfeydd.

Os codir cofebau i feibion gwroldeb,
Os plethir mawl—gerddi i ddynion di-nod,
Mae plentyn athrylith yn haeddu galareb,
Mae didwyll wladgarwr yn deilwng o glod:
O Dduw! ti a ddysgaist i'r blodau gydwylo.
Pan gleddir mewn t'w'llwch yr huan eu tad;

Dod gymorth i minnau roi teyrnged i'r Cymro
Fu'n addurn i'w genedl-fu'n fendith i'w wlad

Y ddaiar sy'n falch o brydferthwch y rhosyn,
Sy'n swyno ein llygad heb wybod paham;
Goddeter i Feirion ymffrostio o'i phlentyn,
Roes fythol enwogrwydd i Feirion ei fam:
Bu'n magu rhyfelwyr i noddi ei hawliau,
A'u dwylaw cyhyrog mewn bwa a chledd;
Ond ysgrif un IEUAN oedd well na chleddyfau,
I bleidio gwir ryddid, ac ennill gwir hedd.

Yn adsain rhaeadrau yr Iddon a'r Wnion,
Sy'n golchi clogwyni daneddog a serth,
Mae ardal y Brithdir sy'n hawlio y goron
Am roddi i Gymru'r fath drysor o werth:
Yn swn y ceunentydd deffrowyd talentau,
Na roed eu rhagorach ar allor ein Duw;
Ychydig fel Ieuan a gwympodd gan angau,
A llai o'i gyffelyb adawodd yn fyw.

Mân wersi yr aelwyd fu'n ffurfio'i alluoedd,
Yng nghanol gweddiau dechreuodd ei oes;
Ei fam batriarchaidd, ar drothwy y nefoedd,
Fu'n gwisgo ei phlentyn i ryfel y groes:
Os tyngwyd Hannibal wrth allor Paganiaeth,
I fythol elyniaeth at Rufain a'i chledd;
Tyngedwyd ein Ieuan wrth allor Crist'nogaeth,
I ymladd â phechod o'i febyd i'w fedd.

Cychwynnodd ei yrfa heb noddwr na chyfaill,
Y rhwystrau bygythiol a chwalodd bob un;
Y dydd y cyfrannai wybodaeth i eraill,
Y nos y diwylliai ei feddwl ei hun:

Darllennem yn llygad y bachgen awyddus
Arwyddion o fawredd dilynol ei oes;
Addawem hir ddyddiau i'w ysbryd llafurus,
Ond gobaith ar edyn marwolaeth a ffoes!

Ym Marton, Llanuwchllyn, a thref Aberhonddu,
Bu'n yfed o ffynnon gwybodaeth a dysg;
Ei gydysgoleigion talentog o'i ddeutu
A'i llawen gyfrifent y mwya'n eu mysg:
O bob gwir fyfyriwr gwnaeth gyfaill diffuant,
Gwnaeth hanner gelynion o'r diog a'r ffol;
Rhai, gydag ef heddyw, sy'n nheyrnas gogoniant,
A mwy a adawodd mewn hiraeth ar ol.

Prysurodd i'r cysegr drwy lysoedd dysgeidiaeth,
Ymaflodd yn santaidd wasanaeth ei swydd;
Dysgeidiaeth a natur oedd gwraidd ei athroniaeth.
A gras a'i cymhwysodd i'w lafur a'i lwydd:
Yn Saron, Tredegar, y diwyd lafuriai,
Heb lethu un rhinwedd, nac arbed un bai;
Y llyfrgell a'r nefoedd oedd yn ei bregethau,
A'i gylchoedd mor gyson a llanw a thrai.

Ei ddiball ymroddiad a fagodd y gelyn
A'i lladdai yn araf, dan wenu yn llon;
Y bluen a dyfodd yn aden yr eryr,
Roes asgell i'r saeth a drywanodd ei fron:
Rhy wan oedd ei babell i'r enaid mawreddog,
A grym ei athrylith a wywai ei wedd;
Bu raid i'w gorff deimlo ei feddwl gorfiniog,
Fel wain yn ymagor gan lymder y cledd.


Fe dorrwyd llinynau tyneraf ei galon,
Dilynodd ei briod a'i baban i'r bedd;
Ond collwyd y dyn yng ngwroldeb y Cristion,
A'r hyn a bregethai a wiriai ei wedd:
Nid stoicaidd athroniaeth fu'n sychu ei ddagrau,
Nid calon ddideimlad oedd calon ein brawd;
Ond ysbryd plygedig i'r Dwyfol drefniadau
Gysgodai wendidau cynhennid y cnawd.

Ei nychdod cynhyddol a groesai'i gynlluniau,
Ei fwriad a ddryswyd, er cymaint ei aidd;
A gwelwyd, er galar, fod mynych wendidau
I dorri'r cysylltiad rhwng bugail a phraidd :
Os lluddiwyd i'n gwron gael sefyll yn gyhoedd,
I synnu tyrfaoedd â ffrydlif ei ddawn,
Darparwyd cylch arall i'w fawrion alluoedd,
I weini'i genedlaeth yn oriau'i brydnawn.

Y Crewr anfeidrol fu'n dweyd "Ysgrifenna "
Wrth Ioan yn Patmos, am air Duw yn gaeth,
Anadlodd ar ysbryd ein Ieuan hawddgara',
Gan ddweyd Ysgrifenna,"—ac felly y gwnaeth:
Ei ufydd ysgrifell dderbyniai'r genhadaeth,
Ymroddodd i'r gorchwyl hyd derfyn y daith;
A chlywai'm dychymyg, ar awr ei farwolaeth,
Ei Dduw yn dywedyd, "Gorffennaist y gwaith."

Bu'n ymladd ein brwydrau ar faes "Y D'wysogaeth,"
Ail fywyd yn rhinwedd a rhyddid a roes;
A phrofwyd eiddigedd ffug-fawrion y dalaeth,
Wrth weled bachgenлyn yn arwain yr oes!

Ei nerth a'i wroldeb a'i nodent yn addas
I ddal Baner Rhyddid," a'i chwifio'n ein mysg;
Gwrth'nebai'r gormeswyr sy'n bwyta y deyrnas,
Sef diffyg cynhildeb, a sobrwydd, a dysg.

Pan wibiai'r Ysbiwyr drwy Gymru heddychlon,
I guddio rhinweddau cyfoethog a thlawd,
Enynnwyd gwladgarwch angerddol ein gwron,
A'u ffug Adroddiadau "a fwriodd i wawd:
Os collodd ei olwg ar rai o'n mân frychau,
Ym mawredd ei gariad a phoethder ei sel,
Mae calon dyngarwch yn maddeu'i wendidau,
A llygad y genedl yn rhinwedd a'u gwel.

Ei nerth a'i gadawodd a'r "Faner" fuddugol
I ddwylaw gwyr ereill ollyngodd yn brudd;
Disgynnodd o'i law yr ysgrifell drydanol,-
Dychwelodd i'w henwlad o ferw Caerludd:
Cyfeiriodd i Gymru o fangre estroniaeth,
Fel Tad y ffyddloniaid," heb wybod i b'le;
Ei unig arweinydd oedd Dwyfol Ragluniaeth,
A theimlai ei gartref yn nodded y ne'.

Y Duw sy'n gofalu am rilyn awr-hoedlog,
Ddarparodd i Ieuan gynorthwy yn hawdd;
Agorodd dosturi'n "Gwenynen" oludog,[3]
A'r llenor adfydus gadd gysgod ei nawdd:
Adfywiodd ei ysbryd-ymroes i'r anturiaeth
Roes iddo orseddfainc yn serch Y Gymraes;
Tra perchir cymeriad rhwng bryniau'n T'wysogaeth,
Bydd arogl ei enw fel arogl y maes.


Ymroddai'n ddiorffwys mewn llafur anha fal,
Cyflawnodd orchestion-bwriadodd fil mwy;
Pa Gymro gyflawnodd orchestion cyfartal,
Cyn croesi terfyngylch tri dengmlwydd a dwy?
Ei enw a bery mewn parch dan bob cronglwyd,
Tafodau babanod a'i bloesgant yn llon;
Ei deg ddarllenyddion siriolant bob aelwyd,
A mamau'r oes nesaf fydd plant yr ces hon.

Y coegddyn a ddywed,-"Rhy lem oedd ei 'sgrifell,
Rhy finiog, ysgatfydd, ei ddoniau trahaus:"
Bradychwyr fu'n gwaedu dan bwysau ei fflangell,
Ymyrwyr peryglus a boenai'n barhaus;
At bob rhyw ymhoniad, a gwelw fursendod,
Ei enaid o berffaith gasineb cedd lawn;
Tosturiai wrth wendid, a pharchai deilyngdod,―
Nid nychlyd genfigen fu'n minio ei ddawn.

Chwi ufydd wenieithwyr-chwi ysgrifenyddion,
Sy'n barod i bopeth am elw a bri,
Ystyriwch y perffaith, a chofiwch yr union,
Fu'n meddu tawelwch sy'n ddieithr i chwi :
Na wrided ei geraint, ni fedrai fradychu,-
Ei goron ddihalog sy'n deilwng bob darn;
Trengasai o newyn ar drothwy tosturi,
Cyn gwerthu ei dalent i erlid ei farn.

Cenfigen a feia y llenor sy'n poeni,
Gan dreulio'i holl gyfoeth, i weini ei wlad;
Pob gwarth i'r genedlaeth was'naetha hyd dlodi.
Pob clod i'r athrylith sy'n ceisio'i lleshad:

Na feier ein Ieuan am uchel anturiaeth,
Os methodd a gweithio pob cynllun ymlaen;
Ond gwrided pob Cymro fu'n atal cefnogaeth,—
Ni ddichon bedd golofn byth guddio y staen.
Pa le y canfuwyd y fath ragoriaethau,
O dan yr un gronglwyd yn trigo'n gytun?
Ni segur ymyrrai â phob amrywiaethau,
Heb gyrraedd enwogrwydd hynodol mewn un:
Oedd lenor a bardd ym mysg beirdd a llenorion,
Duwinydd ym mysg duwinyddion ei oes,
Ysgolhaig, a hanesydd, a gwladgarwr ffyddlon,
Diwygiwr ei genedl mewn meddwl a moes.

Yr awen a garai, a hi a'i cofleidiai,
Eneinio ein Ieuan yn fore a wnaeth;
Creawdwr y seraff roes ynddo'r elfennau,
Dysgeidiaeth a phrofiad a goethent ei chwaeth:
O na chawsai'i arbed i gyrraedd addfedrwydd,
I'w restru yn brif-fardd mewn urddas a gradd!
Cyrhaeddodd yn uchel ar binacl enwogrwydd,
A chyfiawn deilyngai'r gogoniant a gadd.

I'r Ymgyrch Normanaidd "tywalltai ei enaid,
"Doethineb y Crewr" fu'n ennyn ei ddawn;
Yn ei "Awdl i Heddwch," a'r ddau "Adgyfodiad,"
Llinellau anfarwol yn fynych a gawn:
Ei awen fu'n wylo ar feddau enwogion,
Eneiniodd eu henwau mewn bythol goffhad;
A medodd gynhaeaf o uchel wobrwyon,—
Anadlodd ail fywyd yn awen ei wlad.


Ei adwaen yn unig oedd eisieu i'w hoffi,
Caethiwai bob tafod i addef ei werth;
Ymdeimlem yn ddiogel heb arf yn ei gwmni,—
Rhyfeddem ei symledd, a theimlem ei nerth:
Nid chwareu gonestrwydd cyhoeddus wnai Ieuan,
Ac agor ei fynwes yn ddirgel i fråd;
Nid ennill cyfeillion fu iddo'n brif amcan,
Ond codi cymeriad ei genedl a'i wlad.

O'i bur gyfeillgarwch rhoes filoedd o brofion,
Fel puraur dihalog y daliai bob pair;
Tywalitwn i'w fynwes ddirgeloedd fy nghalon,
Gwystlaswn fy mywyd ar wiredd ei air:
Wrth gofio'i gyfeillach 'rwy'n teimlo rhyw awydd
Cael diosg marwoldeb i uno ag ef,
I yfed o ffynnon anfarwol lawenydd,
A dechreu cyfeillach yng ngwynfyd y nef.

Bu'n hir yn dihoeni rhwng einioes ac angau,
A thrymion ofalon yn curio ei wedd;
Ond grym ei athrylith a'i fawrion dalentau
Fu'n taenu sirioldeb ar drothwy y bedd;
Fel Etna losgfalus yn nyfnder y gaeaf,
A'i odre mewn llwydrew ac eira dan glo,
A'i gopa yn arllwys y fflamau disgleiriaf,
Gan daenu goleuni dros wyneb y fro.

Nid "misoedd oferedd" oedd misoedd ei gystudd,
Llafuriodd tra daliodd y peiriant i droi;
Tywalltai gynhyrchion ei feddwl ysplenydd,
Pan wisgai y bywyd ei edyn i ffoi!
Fy nhrywyllt ddychymyg sy'n gweld yr ystafell
Lle bu yn mantoli rhwng nefoedd a llawr,

Fy nghalon sy'n twymno wrth deimlo'r ysgrifell
Fu'n tywallt melldithion ar Babilon Fawr.

Ond nid ei athrylith yn unig lewyrchai
Drwy'r cwmwl a welid am dano'n ymgau;
Profiadau y Cristion o'i wefus ddyferai,
Ac enaint y nefoedd oedd arno'n parhau :
Meithrinai ufudd—dod i'r Dwyfol Reolwr,
Heb rwgnach na chwyno dan lymder ei loes;
Amheuaeth a foddai yng ngwaed y Cyfryngwr,
A'i enaid orweddai ar haeddiant y groes.

Ei weled oedd gryfach na mil o draethodau
I droi yr anffyddiwr, heb deimlad o drais;
Ymadrodd yn gruddfan dan faich o feddyliau,
A'r llygaid yn llenwi diffygion y llais:
Yng nghanol gwendidau ymlonnai ei enaid,
Fel hafddydd mewn blodau sychedig a llwfr;
'Roedd delw y nefoedd yng ngloewder ei lygaid,
Fel delw yr haul mewn dyferyn o ddwfr.

Fe welir diweddiad ar bob rhyw berffeithrwydd!
A dydd Ieuan Gwynedd ddirwynodd i ben;
Anadlodd ei ysbryd i ofal ei Arglwydd,
Gorch'mynodd ei babell i gladdfa'r Groes Wen:
Crechwenai ellyllon creulondeb a gormes,
Pan welwyd marwolaeth yn rhwymo y llaw
Fu'n saethu y bolltau dychrynllyd i'w mynwes,
Fu'n cloi eu cynddaredd mewn gwewyr a braw.

Gorffennodd ei lafur—darfyddodd ei drallod—
Diflannodd o'n golwg—disgynnodd y llen!

Ym mysg yr enwogion mae dinas ei feddrod,
Marwolion anfarwol sy'n mynwent Groes Wen:
Bydd camrau crynedig galarus ymwelwyr
Yn torri'r distawrwydd o amgylch ei fedd,
Bydd distaw gawodydd o ddagrau ei frodyr
Yn cadw'r dywarchen yn wyrddlas ei gwedd.
Y dydd y dilynem ei babell i'r ddaear—
Y gwelem roi Ieuan hawddgaraf dan glo,
Y gwanwyn a ruthrai dan chwerthin o'i garchar,
Gan yrru byddinoedd y "aeaf ar ffo:
Derbyniem yr awgrym adfywiodd ein gobaith—
Dychlamai y galon, newidiai y wedd;
Daw Gwanwyn i ddilyn hir aeaf marwolaeth,
Daw dydd prynedigaeth i agor y bedd.


III. MORGAN HOWELLS.

TYRD, awen drist, o dan dy finiog loes,
At fedd un arall o brif wyr ein hoes:
Nid llenor gwych yn trin ysgrifell gref,
Nid ieithydd dwfn, na medrus fardd oedd ef;
Ond cennad hedd, a neges fawr ei oes
Oedd dwyn yr euog at rinweddau'r groes.

O MORGAN HOWEL, y parchedig dad,
Sy heddyw'n destyn prudd i feirdd fy ngwlad,
Y gwr a wnaeth i fyrdd ei serchu ef,
Fel dyn a chyfaill, ac fel gwas y nef.
Pa ryfedd yw os oes rhyw brudd—der syn
Yng ngwersyll Israel yn y dyddiau hyn?
Ai rhyfedd yw os yw Philistia'n llon,
Ac adsain cân yn Gath ac Ascelon?

Fe gollwyd Morgan fawr o'r uchelfeydd;
Ei enw gynt fu'n llonni'n preswylfeydd,"
Er dysgu dweyd "Ein Tad sydd wrth y llyw,"
Mae'r cnawd yn wan, a'r teimlad oll yn fyw.

Mewn teulu tlawd yng ngwlad Morgannwg glyd,
Heb urdd gwaedoliaeth na gwychderau'r byd,
Y llonwyd mam, pan wasgai at ei bron
Ryfeddaf wrthddrych yr alareb hon.
Ni fagwyd Morgan i segurdod gwan,
Ond llafur caled oedd ei ddyddiol ran:
Ei ddognau mân a draethai'n fanwl iawn,
I brynnu dysg, a chasglu llyfrgell lawn.
Yng nghwmni'r llif a'r fwyell gweithiai'n llon,
Heb ofal bydol i derfysgu'i fron;
I blith ei lyfrau ymollyngai'n rhydd,
I gasglu addysg, wedi gwaith y dydd.

Pan rodiai'n Harglwydd ar drugarog hynt.
Ym mysg pysgotwyr Galilea gynt,
Canfyddai frodyr wrth eu dyddiol waith,
Yn trin eu rhwydau ger y morlyn maith;
"Dewch ar fy ol," medd Crist, ac ufuddhaent,
Gan adael popeth, ar ei ol yr aent.
Daeth heibio i Morgan, galw arno wnaeth,
"Tyrd ar fy ol," ac ar ei ol yr aeth;
A'i hyfryd orchwyl dros flynyddau maith
Oedd moli'r gras a'i cododd at ei waith.

Ym mlodau'i oes bu'n gorfod dwyn ei bwn,
Ymdd'rysu'm mysg negesau'r bywyd hwn;
Er bod ym myddin Crist yn enwog un,
Bu'n gorfod ymladd ar ei draul ei hun!
O Seion Duw, ple mae dy santaidd lid?
O anghyfiawnder, pa le mae dy wrid?

Ond ni roes heibio ei ymdrechion maith,
I aros nes cyflawnai pawb eu gwaith.
Os etyl rhai sy'n gwisgo enw Crist
Eu pethau cnawdol" rhag ei weision trist,
Ni saif y gwaith! mae gair eu Harglwydd glân
Drwy'u hesgyrn oll yn llosgi megis tân;
Er gorfod ymbriodi hyd y bedd.
A chyfyngderau a thrallodus wedd,
Eu teimlad yw," Ymrodded plant y byd.
I gasglu cyfoeth a gwneud nythau clyd,
Ein hawydd ni yw cael cydwybod bur,
I fyw a marw heb gondemniol gur;
Heb gennym ddim i'w adael rhwng y byw,
Ond enw da, ac addewidion Duw.
Nid aur nac arian, na llygredig fri,
Sy'n ffurfio'r goron a ddisgwyliwn ni;
Y dydd sy'n dod a hollol wastadha
Bob amryfusedd, a'i esbonio wna:
Ein gwobr a'n barn sy'n llaw y Duw a ddwed,
A hauo'n brin, yn brin, yn brin y mêd.'"

O Morgan Howel! Pwy o dan y nef
Rydd arlun cywir o'i hynodion ef?
Rhyw eithriad oedd i bawb o'n dynol ryw;
Os bu ei fath, ni cheir ei fath yn fyw.
Eithafion pell a gwrddent ynddo'n nghyd,
Cymysgedd rhyfedd, yn gorsynnu'r byd,
O fawredd bychan a bychander mawr,
O symledd plentyn a gwroldeb cawr.
Pe buasai pawb ym mhob peth fel efe.
Pa ryfedd ddrych a welsid is y ne'!
Pwy garai fyw mewn gwlad lle bo pob un
Yn Forgan Howel ond efe ei hun?
Dychmygem weithiau'i weld fel angel glân,
A'i eiriau'n wreichion byw o'r nefol dân;

Ac yn y fan caem holl wendidau dyn
Yn cydgyfarfod ynddo ef ei hun.

Yr oedd hynodrwydd ei feddyliau llawn
Yn ffurfio dullwedd ei ddieithriol ddawn.
Ni ddynwaredai ddyn o dan y nef,
A gwae y dyn a'i dynwaredo ef.
Oferedd oedd ei roi dan ddeddf yr iaith,
Na ffurfiau rheitheg na rhesymeg chwaith.
Pwy feiddia ffrwyno'r fellten ar ei hynt,
Neu dorri ffordd i symudiadau'r gwynt?
Nid oedd ei ddawn fel dcf ddestlusrwydd gardd,
Ond megis coedwig mewn gwylltineb hardd.
Ni feddai dlysni yr afonig lefn,
Ond ardderchawgrwydd rhaeadr gwyllt di-drefn.
Nid oedd ei lewyrch yn oleuni oer,
Heb wres na bywyd, fel goleuni'r lloer;
Ond fel yr haul, yn rhoddi gwawl a gwres,
Yn rhoi boddhad, ac yn cynhyrchu lles;
Wrth synnu'r byd, a gwneud y saint yn llon,
Goleuai'r deall a chynhesai'r fron.
Cyfrifem un o'i ddrychfeddyliau glwys.
Yn werth myfyrdod maith a llafur dwys.

Anwastad oedd mewn tymer, hwyl, a dawn,
Fe'i caed ar brydiau yn amrywiol iawn;
Prin y disgwyliem weled y fath un,
Heb fod yn uwch neu'n is nag ef ei hun.
Pe daethai rhyw ddieithryn ar ei dro
I ambell odfa gofir yn ein bro,
A gweled Morgan Howel mawr ei fri
Yn rhwyfo'n drwm yn erbyn gwynt a lli,
Tybiasai fod yr holl dorfeydd yn ffol
Yn duo'r wlad wrth gyrchu ar ei ol;

A gofynasai," Pa gyfaredd sy'n
Cyfodi'r wlad i wrando ar y dyn?"
Pe daethai eilwaith ar ffodusach hynt,
A'i weld a'i hwyl yn llawn o nefol wynt,
Tybiasai'i fod yn angel yn y cnawd,
Yn dwyn trysorau'r nef i fyd tylawd.

Nid dyno! farnau a'i harweiniodd ef,
Bu'n ffurfio'i farn yn wyneb gair y nef.
Yr hyn a gredai, a gyhoeddai'n hyf;
Yr hyn na chredai, a gondemniai'n gryf.
Dychmygai weld ei ffordd ei hun yn glir,
Drwy dybiau'r byd, i deml y Dwyfol wir;
A theimlai fod angenrhaid arno ef
I gadw'n iach hen athrawiaethau'r nef.

Rhyw brudd ddifyrrwch yw adgofio'i ddull,
A'i law yng ngwddf rhyw gyfeiliornad hyll:
Puseyaeth, Princeaeth, a phob heintus "aeth,'
Fu'n nod gwastadol i'w bwyntiedig saeth;
Ar lawer wyneb y bu'n gosod gwên,
Ar draul rhyw wyllt-dyb newydd grai neu hen;
Dychmygion Plymouth, a holl wyrthiau'r Saint,"
Fineyaeth hefyd, driniai megis haint.
Nid ysbryd plaid a roddai iddo rym
I drin yr oes" mewn ymadroddion llym;
Ni fynnwn daflu dirmyg ar ei fedd,
Drwy ddweyd mai rhagfarn a fu'n minio'i gledd.
Cyfodai lifddor ei ryfeddol ddawn,
A rhedai allan ffrydiau nerthol iawn;
Mynd, mynd a wnai, heb wybod i ba le,
Fel pluen wan o flaen yr awel gre.
Ai rhyfedd yw os llithrodd y fath un,
Yn ddiarwybod iddo ef ei hun,

Ar draws y ddeddf roes Duw ym mysg ei biant,
Nes oeri serch a chlwyfo ambell sant,
A gwneud ei hun i lawer saeth yn nod,
Nes temtio enllib i yspeilio'i glod?
Bu'n talu'n ddrud mewn edifeirwch blin,
Am ambell air a lithrodd dros ei fin.
Maddeuodd Duw; ai gormod yw i ni
Anghofio'r brychau oedd ar haul ei fri?

Ar edyn cof rhof dro i'r "uchel wyl,"
Lle gwelid Morgan yn ei oreu hwyl,
Ym mysg yr enwog wyr gaed yno 'nghyd,
O'r De a'r Gogledd—doniau goreu'r byd.
Cyfodai Morgan! Llawenhai pob gwedd,—
Clust feiniai'r dorf, yn ddistaw fel y bedd;
Prin meiddiai'r galon guro dan y fron,
Dan swyn distawrwydd yr olygfa hon!
Ymdeimlai fod y dyrfa yn ei law;
Ymdeimlai hefyd fod ei Dduw gerllaw.
Anghofiem bawb yn swn ei eiriau per;
Fel codiad haul yn cuddio myrdd o ser.
Meddyliau ar feddyliau, bron heb rif,
Dywalltai allan yn ufelawg lif;
Dyrchafai'i lais! Dych'mygem deimlo'r llawr
Yn anesmwytho dan y dyrfa fawr!
Y fenyw lan anghofiai'i thegwch glwys—
Anghofio'i olud wnai'r bydolddyn dwys;
Ymwasgai'r dorf mewn cryndod at ei draed,
Fel yn dyheu am glywed am y gwaed.
Cyfodai'i law! a bu distawrwydd syn,—
Symudai'i safle i Galfaria fryn;
Agorai goffrau hen drugaredd rad,
I blant afradlon pell o dŷ eu Tad:
Cyffroai'r dorf, a sain gorfoledd mwyn,
A synnai'r adar yng nghanghennau'r llwyn.


Ym mysg y dorf a wleddai ar ei ddawn
Y safai bardd, a'i fynwes frwd yn llawn;
Ar ol yr odfa ymneillduai'n syn,
A'i galon lawn waghai ei hun fel hyn:—


"Morgan Howel, Morgan Howel,
Mawl i Dduw am danat ti!
Y parchedig dad yn Israel,
Na fachluded haul dy fri!
Dymuniadau goreu'r ddaear,
A bendithion goreu'r ne,
Sy'n dy ddilyn, athraw hawddgar,
Sy'n dy ddisgwyl ym mhob lle.

"Mae rhyw lu o ragoriaethau
Yn dy ddoniau di yn cwrdd ;
Caiff y plentyn a'r athronydd
Eu diwallu wrth dy fwrdd :
Drychfeddyliau yn melltennu,
Yn aneirif ger ein bron;
Gallai angel genfigennu
Wrth y wir athrylith hon.

"Herr i Gabriel, herr i Uriel,
Herr i'r angel ucha'i sain,
Ddweyd yn well na Morgan Howel
Am y groes a'r goron ddrain!
I Galfaria mae'n cyfeirio,
Yno traetha gyda blas;
Gwnaed ei enaid mawr i nofio.
Yn nyfnderoedd moroedd gras.

"Gwelir rhai o'n duwinyddion
Yn ymboeni drwy eu hoes,
Dringo bryn yr egwyddorion
Sydd yn cwrdd yn angau'r groes;

Tra y byddont hwy'n anniben
Yn ymlwybro tua'r nen,
Disgyn wna athrylith Morgan
Fel yr eryr ar ei ben.

"Hanner gair o'i swynol enau
Daflodd oleu lawer gwaith,
Gwell na mil o esboniadau,
A chyfrolau meirwon maith:
Dyma elyn anghymodol
Pob rhyw gyfeiliornad cas,
Dyma angel gwarcheidwadol
Hen athrawiaeth Dwyfol ras.

"Chwi galonnau archolledig,
Sydd yn gruddfan am iachad,
Dewch dan swyn ei ddawn nodedig.
Chwi gewch yma esmwythad;
Gŵyr am holl glefydau'r galon,
A'r costrelau balm a gwin,—
Nid oes un o'r addewidion
Na fu ganwaith ar ei fin.

"Chwi amheuwyr, sy'n petruso
Ar hudolus enbyd dir,
Ofni credu—ofni peidio—
Ofni'r gau, ac ofni'r gwir;
Deuwch dan ei weinidogaeth,
Dwyfol drydan drwyddi red,—
Gwywa rheswm ac anffyddiaeth
Pan esbonia seiliau'n cred.

"Doed y rhai sy'n min anobaith,
Dan euogrwydd trwm eu bai,
Mae cysuron ei athrawiaeth
Fel adfywiol gawod Mai;

Deuwch chwithau blant afradlon,
Sydd a'ch cefn ar dŷ eich Tad,
Chwi gewch glywed addewidion.
O faddeuol gariad rhad.

"Nid oes tant o'r ddynol galon
Na fu'n ysgwyd dan ei law,
O uchelder profiad Cristion
Hyd ddyfnderoedd euog fraw:
Cyn ei symud ef i'r nefoedd.
Coder ereill yn ei le,
Llanwed Duw ein hareithfaoedd.
A gwir fawrion fel efe.

Morgan Howel, athraw tirion,
Mawl i Dduw am danat ti!
Cefais trwot ti fendithion,
A chysuron fwy na rhi':
Os cawn gwrdd yng ngwlad y gwynfyd,
Hyfryd adrodd yno fydd.
Am y tro y ces fy mywyd,
Am yr odfa gwnaed fi'n rhydd:"


Yng nghanol swyn y gân deimladol hon,
Pan dybíwyf weled Morgan ger fy mron,
Mae dirgel loes o dan fy mron yn fyw,
Nid all y gân byth dwyllo'r galon wyw!
O marw wnaeth! a dyma'r aeth a rydd.
Y dirgel frath o dan fy mynwes brudd.
Ow marw wnaeth y gwir barchedig dad,
"Ow marw wnaeth," yw'r adsain drwy y wlad!
Prin y disgwyliem am ei angau ef,
Gan gynefindra a'i wylofus lef;
Edrychem arno ganwaith megis gwyrth,
Fel un yn dod yn ol o'r marwol byrth.


Gorffwyso mae, ar ol llafurus ddydd,
Priddellau'r glyn yn felus iddo fydd;
Trwy daith y byd trallodion oedd ei ran,
Ei enaid blin yn byw mewn pabell wan.
Nid hyfryd yw adgofio pob rhyw donn
Fu'n llifo dros ei drallodedig fron;
Ond hyfryd iawn yw cofio'i ysbryd ef,
Yn plygu dan bob profedigaeth gref:
Mae rhai o'i eiriau mewn tymhestloedd maith,
Fel perlau disglair yn addurno'r iaith.
Heb rybudd daeth y cyfnewidiad hwn,
Gadawodd ninnau dan drallodus bwn.
Disgwyliem gystudd trwm, o faith barhad,
I'w gadw'n hir ar drothwy tŷ ei Dad;
Addawem gael o'i enau felus wledd,
O'i brofiad llawn wrth ddisgyn at y bedd,
Rhyw ryfedd air, i chwalu'n hofnau draw,
A'n gwneud yn hyf yn wyneb brenin braw.
Ond er mor ddirgel y daeth angau i'w nol,
Gadawodd dystiad eglur ar ei ol,
Fod pwys ei obaith ar yr unig fan
A drefnodd Duw i gynnal enaid gwan.
Disgynnodd ef yn esmwyth at y bedd,
Yn nod i angau a'i fuddugol gledd;
Bu farw'r athraw a'r duwinydd mawr,
A'i wedd yn dawel fel Mehefin wawr.
Ar ei grynedig wefus wan, yn wir,
Bu'r gair "Gogoniant" yn ymdroi yn hir;
Ac olaf eiriau ei ddaearol hynt.
Oedd olaf eiriau'r merthyr Stephan gynt:
Agorai'r nefoedd! daeth cerbydau Duw!
Ac ni adawyd ond tywarchen wyw!

Fe'i claddwyd ef fel gwr o uchel radd,
Cynhebrwng teilwng o dywysog gadd:
Er gwaeled oedd y corff fu'n cario cwyn,
Mae mynwent Cendl yn anwyl er ei fwyn.


IV. D. RHYS STEPHEN.

Ni welir pan gollir planigyn o'r goedwig,
Neu un o'r mân flodau sy'n gwisgo y ddôl;
Ond teimlir pan gollir brenhinbren llydanfrig,
Mae'n gadael y gwagle'n amddifad ar ol:
Ac felly pan gollir llenorion uchelddysg,
A'r prif arweinyddion mewn dawn ac athronddysg.
Mae'n gosod cenedloedd mewn trallod a therfysg;
Galara y doeth, a rhyfedda y ffol.

Yr hynaws RHYS STEPHAN! Ychydig a dybiodd
Fod angau mor agos yn minio ei gledd;
A llai a ddisgwyliodd yr awen a noddodd,
Y deuai mor fuan i wlychu ei fedd:
O blentyn athrylith, yn llawn cyfeillgarwch!
O Gymro diffuant, yn llawn o wladgarwch!
Cyfarfu delweddau pob math o hawddgarwch
Yn llewyrch ei lygaid, a harddwch ei wedd.

Ni fynnwn lychwino y fath ragoriaethau,
Drwy lunio'i alareb a'm teimlad yn llon;
'Rwy'n diolch am gymorth ochenaid a dagrau,
I garo y baich sydd yn llethu fy mron:
Mae'm calon glwyfedig yn engraifft o filoedd
Sy heddyw'n cydwaedu ar hyd ein hardaloedd;
Mae dagrau plant Gomer yn heilltion aberoedd,
Yn brawf o wir deimlad ein hanwyl wlad hon.

O ddyfnder dinodedd, drwy bob anhawsderau,
Y codai Rhys Stephan i fawredd ei fri;
Mae uchel athrylith yn herio pob rhwystrau,
A myn ei therfynau fel awyr a lli:

I deml gwybodaeth y mynnodd ymlwybro,
A hyn oedd ei eiriau ar drothwy'r deml honno,
"Aed golud y ddaear i'r sawl a'i chwenycho,
Ond rhodder agoriad gwybodaeth i mi."

Bu'n eistedd wrth draed y prif athraw yn Israel,
Sef Davies Tredegar, duwinydd di-ail;
Rhoes gysur ac ymffrost i'r hybarch Gamaliel,
Ac i'w fawr boblogrwydd gosododd y sail:
Y Duw a fu'n dangos ei llwybr i'r wawrddydd,
A ddirgel arweiniodd ei feddwl ysplenydd;
Gogwyddwyd ein cyfaill at rinwedd a chrefydd,
Mor esmwyth a'r rhosyn yn agor ei ddail.

Fe'i galwyd yn fore i gylchoedd cyhoeddus,
Cyfodai obeithion o fawredd i ddod,
A diball ymroddiad ei feddwl awyddus
Yn casglu defnyddiau disgleirdeb ei glod;
Hynododd ei hunan yng ngholeg y Fenni,
Ei gydysgoleigion a rwynwyd i'w hoffi,—
Ni threuliai ei amser ar lythau diogi,
Ond fel un mewn egni am gyrraedd y nod.

Dysgeidiaeth a natur sy'n rhannu'r anrhydedd,
Am godi'r fath wron nodedig o'n plith;
Athrylith a myfyr a'i hurddent â mawredd,
Cofleidiodd bob sylwedd—gochelodd bob rhith:
Ymroddodd i chwilio elfennau gwirionedd,
Sychedai am ddeall pob achos a thuedd,
Fel blodau sychedig dan wres y cyhydedd
Yn agor eu genau i yfed y gwlith.

Cyn'lleidfa Bryn Hyfryd, yn nhref Abertawy,
Fu'n gwledda yn llawen ar flaenffrwyth ei ddawn;

Tyrfaoedd awyddus Casnewydd, ym Mynwy
Fu'n profi grawnsypiau yn addfed a llawn:
Ffarweliodd â Chymru, hen gartre'i hapusrwydd;
Ac aeth i Fanceinion, dan ddeddf angenrheidrwydd;
Dychwelodd yn ol i hen wlad ei boblogrwydd,
Lle treuliodd gymylog anesmwyth brydnawn.

Llewyrchodd fel seren ym mysg y Bedyddwyr,
Addurnai'r Mai wyliau ar loriau Caerludd;
Bu'n angau i ragfarn chwyddedig ymhonwyr,
Na welant mewn Cymro ond gwagnod difudd:
Sefydlodd ei hunan mewn myrdd o galonnau,
Enillodd serchawgrwydd at feibion ein bryniau,―
A'r newydd galarus fu'n rhwygo'n teimladau,
A wnaeth lawer estron dyngarol yn brudd.

Yn nydd ei ogoniant pwy gyfuwch a'n gwron?
Y doniol Rhys Stephan ystyriwn fel tad;
Ei enw a welid yn britho'r misolion,
A thaenai pob awel ei glodydd drwy'n gwlad:
Bu'n casglu gwobrwyon ar faesydd llenyddiaeth,
Bu'n eistedd mewn urddas ar feinciau beirniadaeth,
Bu'n llenwi gobeithion prif ddynion ein talaeth,
Wrth weld ei fedrusrwydd yn arwain y gâd.

Er bwrw ei goelbren yng nghylchoedd estroniaid,
Ni chollodd ei hoffder at heniaith ei wlad;


Nid ydoedd un galon ym mysg y Gomeriaid
Weddiai'r fwy rhwydd am ei llwydd a'i pharhad:
Gwladgarwyr yn wir oedd ei unig gyfeillion,
Ei fynwes agorai i'w derbyn yn union;
Gomeres ddiffuant a swynodd ei galon,
Cadd wyrion ein Gomer i'w alw yn dad.

Carnhuanawc a Stephan, y ddau frawd uchelfri,
I gadw'n defodau gydweithient mewn hedd;
Dwy seren ddisgleiriaf Eisteddfod y Fenni,
Ddiffoddwyd, ddiffoddwyd yn nh'w'llwch y bedd!
Llithrigrwydd ymadrodd, a chraffder beirniadaeth,
Meddyliau newyddion yn llawn o drydaniaeth,
Ac ysbryd llafurus tuhwnt i ddirnadaeth,
Roes iddynt ddylanwad ar ysbryd y wledd.

Hyawdledd y Cymry a hoffai yn ddirfawr,
Gwresogrwydd y dull, a phereidd-der y llais;
Rhoes engraifft o hono ar lawer esgynlawr,
Wrth fesur cadwynau gorthrymder a thrais;
Eisteddai sirioldeb ar bob cynulleidfa,
Pan welid e'n esgyn hyd risiau'r areithfa.
Lle bwriai ei lawryf wrth groes y Messia,
Yn ysbryd y Cymro a choethder y Sais.

Yr oedd yn dduwinydd galluog a golau,
Ni fynnai ymwystlo i Rabbi na Thad;
O'i ffrwythlawn ysgrifell caem werthfawr draethodau,
Bu'n profi pob ysbryd a hudai y wlad:

Ei farn anibynnol oedd lawn o wreiddioldeb,
Ni fynnai un safon ond safon Dwyfoldeb,
Ni fynnai ei rwymo wrth bynciau ystrydeb,—
Mewn pob rhyw newydd—deb ni theimlai foddhad.

Ei feddwl cyfoethog oedd fel amgaueddfa,
A phob rhyw wybodaeth yn barod ger bron,
Troelliadau'r ffurfafen—symudiad y ddaear—
Dylanwad y lleuad ar derfyn y donn;
Os ceisiem oleuni ar gelloedd hynafiaeth,
Ar droellau rhesymeg, a rheol beirniadaeth,
Ar ddeddfan daeareg, a cheinion barddoniaeth,
Ein holl ymofynion ddiwallai yn llon.

Rhy uniawn oedd Stephan i drafod gelynion,
Agorai i estron ei galon i gyd;
Hyderai'n blentynaidd fod pawb yn gyfeillion,
Nes teimlo fod dynion yn fradwyr o fryd:
Nid hynod yw canfod y fath ddiniweidrwydd;
Yn llewyrchu dan gysgod y fath fawreddogrwydd ;
Ni ddisgyn y doethawr o binacl enwogrwydd,
I ddarllen cyfrwysdra cyffredin y byd."

'Roedd ganddo alluoedd i'n gwneuthur yn llawen,
A moroedd o chwedlau, heb waelod na thrai;
Ei dymer ddigriflon fu'n nod i genfigen,
A rhai o'i fân frychau'n fynyddoedd a wnai:
Os bwriwyd ef weithiau i derfyn cellweiriaeth,
Gan berffaith gasineb at bob Phariseaeth,
Bu'n curo'n grynedig wrth borth Iechydwriaeth,
Bu'n moli'r drugaredd faddeuodd y bai.


Ni fynnai ymwerthu i fydol gyfrwysdra,
A lledu ei babell dan gysgod yr yw;
Ni fynnai ymgladdu mewn bydol orffwysdra,
Drwy symud i frasach corlannau i fyw:
Ni fynnai aberthu ei gred na'i wladgarwch,
Na heddwch cydwybod, i fydol lonyddwch;
Dewisai ymdagu â phob annedwyddwch,
Yn hytrach na digio'i gydwybod a'i Dduw.

Bu'n araf ddihoeni yng ngolwg marwolaeth,
A chymysg deimladau yn llenwi ei wedd;
Bu dwylaw caredig cyfeillion llenoriaeth
Yn ceisio esmwytho'i ddisgyniad i'r bedd:
Ond cennad marwolaeth ni fynnai ei siomi,
Ymdduriodd fel llofrudd yn erbyn tosturi,
Gan chwerthin ar ddagrau a gwawdio trueni,
Y cadarn a fynnai yn ymborth i'w gledd.

Tra bu yn dihoeni mewn angen a gwaeledd,
Cadd weled amrywiaeth cyfeillion y byd;
Y dynion a noddodd yn nydd ei ogonedd,
I'w ddagrau a'i ochain yn ddall ac yn fud!
Aeth "Offeiriad a Lefiad y tu arall heibio,
Ond Duw a ddarparodd Samariad i'w wylio:
O rith gyfeillgarwch! Os na fedri wrido,
Dod mantell cywilydd am danat, mae'n bryd!

Pwy ddichon ddarlunio teimladau fy mynwes,
Pan gwrddo fy llygaid wylofus a'i lun
Y llygaid chwareuol, y dullwedd dirodres,
A'r gwallt anghudynog fel anhrefn y beddrod,
A chofio'i fod heddyw yn nyfnder y beddrod,
Na feiddiaf obeithio cael eto'i gyfarfod,
Pa ryfedd os gwibia'm dychymyg mewn trallod,
I dywallt fy nagrau ar fedd y fath un?


Mae pwyntel y cof yn darlunio ei wyneb,
A'r hen olygfeydd yr aem drwyddynt ynghyd,
A'i ddiball arabedd yn taenu sirioldeb
Ar holl amgylchiadau helbulus y byd:
Mae llu o'i gyfeillion yn dilyn eu gilydd,
I weld ei orweddfa ym mynwent Casnewydd,
Eu dagrau sy'n disgyn ar faen y bedd llonydd,
A dyma iaith gymysg y dagrau i gyd;—


"Gorffwysa, bererin lluddedig,
Aeth heibio ystormydd y daith;
Boed heddwch i'th lwch cysegredig,
Dibenwyd dy boenau a'th waith:
Dy frodyr galarus sy'n nesu,
Gan rodio yn ysgafn eu cam,
I weled y man y gorffwysi,
Yn dawel ym mynwes dy fam.

"Gadewaist dy dylwyth amddifaid,—
Yr Arglwydd a'u ceidw yn fyw;
Dy weddw sy'n bwrw'i hochenaid
I sylw trugarog ei Duw:
Mae rhinwedd a rhyddid yn ffynnu,
Mae baner cyfiawnder ar daen;
Mae arfau y nef yn gorchfygu,
A'r gwersyll yn symud ymlaen!

"Mae meddwl am orfod troi ymaith,
A'th adael yn llaith wely'r bedd.
Yn agor ffynhonnau o hiraeth,
Yn gwanu y galon fel cledd!
Ffarweliem yn fynych cyn yma,
Mewn gobaith cyfarfod yn llon;
Ond dyma y ffarwel ddiweddaf
Y ffarwel sy'n rhwygo y fron!


"Mae llu o'th gyfeillion yn barod
I blannu yr helyg a'r yw,
I dyfu ar ymyl dy feddrod
Hyd foreu d' adferiad i fyw;
Tra fyddo yr helyg yn wylo,
A'r ywen yn setyll yn wyrdd,
Tra pery yr awel i suo,
Dy enw fo'n anwyl gan fyrdd.

"Y Duw a fu'n codi Eleasar
I weini'n lle Aaron ei dad,
A godo dy feibion gorhawddgar
Yn addurn i'w crefydd a'u gwlad;
Tra byddo olwynion llyfn amser
Heb redeg eu gyrfa i ben,
Y byddo hil Stephan a Gomer
Yn ffrwytho dan fendith y nen!"


V IOAN TEGID.

Pwy yw hwn sydd eto'n dyfod,
Yn cyfeirio at y beddrod?
IOAN TEGID galon dyner,
Eneiniedig fardd Nanhyfer!

Awdwr Gwlad fy Ngenedigaeth,"
Roed dan lenni oer marwolaeth;
Collwyd heddyw o'r ffurfa fen
Oleu siriol disglair seren.

Athen Cymru ydyw'r Bala,
Magodd rai o'i phlant enwoca';
Cafwyd ynddi ambell d'wysog,
Wnaeth y Bala byth yn enwog.


Un o'i phlant oedd Ioan Tegid,
Bachgen llawn o ddawn cynhennid;
Balch yw'r Bala o'r enwogrwydd
Fu'n ei ddilyn dros ddeugeinmlwydd.

Ymddiddenir am ei ddoniau
Hyd y llennyrch lle bu'n chwarau;
Cof am dano yno bery
Tra bo'r Llyn o fewn ei wely.

Pan oedd Charles yn ei ogoniant,
Yn mwynhau awelon llwyddiant,
Wrth ei draed eisteddai'n gwron,
I gael addysg a'i gynghorion.

Bu dysgeidiaeth ei rieni
Yn ei arwain a'i hyfforddi;
Rhoent ei draed ar lwybrau rhinwedd,
Sy'n diweddu mewn gogonedd.

Syched didor am ddysgeidiaeth,
Awydd gweini ei genedlaeth,
A dueddai'r bachgen cywrain
I gyfeirio at Rydychain.

Nid oedd un o fechgyn Meirion.
Yn ei charu'n fwy na'n gwron;
Nid oedd un o'i phlant lliosog
Gerid ganddi yn fwy serchog

Bydd ei enw gan y Cymry
Fel traddodiad ym mhob teulu;
Bydd y rhai na anwyd eto
Am ein Tegid yn breuddwydio!


Tri ugeinmlwydd y bu Tegid
Yn anadlu'n myd y gofid;
Syrthio wnaeth i ddwylaw angau
Cyn i henaint rychu'i ruddiau.

Yn ei wedd yr oedd boddlonrwydd
A dymunol ddiffuantrwydd;
Ni chai unrhyw athrod afiach
Fyw yn awyr ei gyfeillach.

Un o hoffaf blant yr awen
Ydoedd Tegid galon lawen;
Bu ei thlysau a'i gwobrwyon
Yn disgleirio ar ei ddwyfron.

Er myfyrio amryw ieithoedd,
Nes eu deall i'w dyfnderoedd ;
laith ei fam, a'i seiniau tlysion,
Oedd y nesaf at ei galon.

Bu yr India a'i hangenion,
Bron a'i hudo dros y wendon;
Serch at wlad ei enedigaeth
A orchfygodd bob hudoliaeth.


O Tegid fawledig! Goddefer i fardd
Brudd ddatgan ei fawr ragoroldeb;
Fy nghalon sy'n twymno, pwy feiddiai'i gwahardd?
Wrth geisio cynllunio'i alareb.

Agorodd fwngloddiau cuddiedig ein hiaith,
Dilynodd ei llawnion wythieni;
Bydd oesau yn medi o gynnyrch ei waith
Yn dwyn y Gymraeg i oleuni.


Cynhyrchion ei awen a gedwir ynghyd,
Fel gemau o werth a thlysineb;
Gafaelant yn nheimlad y genedl i gyd,
A threiglant fel oesol ddihareb.

Nid nerthoedd Goronwy oedd nerthoedd ei ddawn,
Yn taro fel ergyd daeargryn;
Ond hyfryd arabedd, o addysg yn llawn,
Yn llonni henafgwr a phlentyn.

Bu'n olrhain dyfnderau'r oludog Hebraeg,
Dug allan drysorau ei hawdwyr;
Rhoes feddwl Esaiah mewn gwisg o Gymraeg,
Er addysg i'r uniaith Omerwyr.

Fe welwyd disgyblion o fonedd a chwaeth,
Yn dilyn y Cymrawd parchedig;
A'i uchel ddysgeidiaeth yn godiad a ddaeth
I enw ei famwlad fynyddig.

O gadair Rhydychain, ym mlodau ei lwydd,
Neillduodd i ardal Nanhyfer;
Ac yno ymroddodd i weini ei swydd,
Er addysg a chysur i lawer.

Ni feddai hyawdledd y seraff a fu
Yn tanio yr ardal freintiedig;
Ond meddai ryw deithi a'i gwnaethont yn gu,
A'i enw barha'n anwyledig.

Y gwersi a ddysgodd ar aelwyd ei fam
Oedd sylwedd ei holl weinidogaeth;
Er maint ei ddysgeidiaeth ni wyrai un cam
O symledd yr hybarch athrawiaeth.


I borthi'r newynog, a gwisgo y noeth,
Agorai ei ddwylaw haelionus;
A thrwy ei gynghorion amserol a doeth,
Tawelai galonuau cythryblus.

Cyn gweled ei wyneb caredig erioed,
Fy nghalon a ddysgwyd i'w hoffi;
Trwy gyfnewidiadau holl gylchoedd fy oed.
Ni chefais yn Tegid fy siomi.

Nis gallaf anghofio sirioldeb ei wedd,
Wrth ledu ei fyrddau croesawus;
A gweled arwyddion trefnusrwydd a hedd
Yn llenwi ei annedd gysurus.

Ceid yno gyfeillach heb ofni un brâd,
A gwledd o arabedd yn wastad;
Yr ieuanc efrydydd dderbyniai fel tad,
Nes ennill ei hyder a'i gariad.

Ni roddwyd teimladau mewn mynwes erioed
Yn llawnach o bur gyfeillgarwch;
Yng nghalon y Cymro gwrolaf ni roed
Elfennau o burach gwladgarwch.

Eisteddfod y Fenni fydd bellach heb wawr,
Heb Tegid a Stephan odidawg,
I'r rhai y trosglwyddwyd ymddiried mor fawr
A mantell yr hen Garnhuanawg.


Pa le mae iaith? Pa le
Y mae dychymyg chwim?
Ai nid oes gair o dan y ne
A rydd ollyngdod im?

Och'neidia'm mynwes lawn,
Gan geisio esmwythad;
Rhy wan yn wir yw pob rhyw ddawn
I roi i mi ryddhad.

Gofynnir i mi'n syn,
Paham yr wyf yn brudd;
Ail agor clwyfau ydyw hyn,
A deffro'r gofid cudd:
Nid oes ond profiad prudd
A edwyn glwyfau'r fron;
A Duw ei hun yn unig rydd
Y balm i wella hon.

Marwolaeth Tegid wnaeth.
Im ddeall hiraeth byw;
Y newydd trwm roes imi saeth.
A waedai'm calon wyw:
Derbyniaf rybudd dwys
O fedd yr anwyl un;
A mynnaf deimlo fod fy mhwys
Ar rywbeth gwell na dyn.

Daw Tegid ger fy mron,
Ym mysg breuddwydion nos,—
Ei wenau mwyn, ei lygaid llon,
A'i ruddiau fel y rhos;
Ond erbyn im ddeffroi,
A gweld mai breuddwyd yw,
Mae'r galon drist yn ail gyffroi—
Mae trallod eto'n fyw.

Os dwed rhesymeg sych
Mai ysgafn yw fy mhwn—
Y cyfyd Duw ryw lenor gwych.
I lenwi'r gwagle hwn;

Nid oes ond hyn i'w ddweyd,
Pe codid myrdd a mwy,
Nis gall eu mawredd byth ddadwneud
Yr hyn a wnaeth fy nghlwy.

Mor wag yw'r byd yn awr
O'm hen gyfoedion llon!
Y mae rhyw amddifadrwydd mawr
Yn wastad ger fy mron:
Fel hyn, o do i do,
Yr awn i'r bedd i gyd;B
Disgynnaf finnau yn fy nhro
Dan lenni'r bythol fyd.

'Rwy'n darfod mwy a'r byd,—
Siomedig yw ei wedd;
Mae'm hen gyfeillion bron i gyd,
Ar fin, neu yn y bedd:
Gwrthddrychau'm serch y sydd,
O un i un yn mynd;
A gorfod gweld yr wyf bob dydd,
Y lle bu ambell ffrynd!

Dymunwn weld y man
Lle'r huna'r enwog fardd,
Yn swn y donn sy'n golchi'r lan,
Ar derfyn Penfro hardd:
Yn wylaidd y nesawn,
A safwn yno'n syn;
Ac ar y beddfaen wylo wnawn,
A cherfio'r geiriau hyn;—

"Yr ieithydd dyfnddysg huno wnaeth.
Mae'n Bardd yn gaeth gan angau;
Daeth un o bleidwyr penna'n hiaith,
I ben ei daith a'i boenau;

Ni chauodd wyneb tir na dwr
Ar wyneb gwr hawddgarach;
Ei dymer lon, a'i siriol bryd
Oedd bywyd pob cyfeillach.

"Daw gwanwyn gwych dros fryn a dôl,
I siriol wisgo'r ddaear;
Ond ofer disgwyl mewn un man
Am Ioan Tegid hawddgar;
Fe glywir sain y delyn fwyn,
A theimlir swyn ei thannau;
Ond p'le mae'r un fu'n cael boddhad.
I'w deimlad dan ei thonau?

"Mae'r awen hoff yn wlyb ei grudd,
A'n beirdd mewn prudd deimladau,
Am golli Tegid, enwog un;
Fu'n harddu'n Heisteddfodau;
Fe deimlir gwagle hir ar ol
Y gwrol feirniad golau,
A theimlir chwithdod maith ym mysg
Ein gwyr o ddysg a doniau.

"Mor dywyll yw bwriadau Duw,
Mor anhawdd yw eu canfod!
Pa lygad meidrol byth a wel
Holl ddirgel ffyrdd y Duwdod?
Wrth dorri i lawr y gwinwydd ir,
Arbedir prennau crinion;
A phan y collir y rhai doeth,
Gadewir annoeth ddynion.

"Cwsg Tegid, cwsg, nes delo'r awr
I'r udgorn mawr dy ddeffro,
A boed dy gysegredig lwch
Mewn heddwch yn gorffwyso:

Ffarwel, ffarwel, y cyfaill pur-
Ffarwel, y gwir wladgarwr!
I ben dy daith cyrhaeddaist ti,
Gadewaist fi'n Alarwr."


VI. O fedd digyfeillach

O fedd digyfeillach! mae'r teimlad drylliedig
Am dywallt ei lid ar dy garchar llygredig;
Hyawdledd naturiol y galon sy'n twymno,
I erlid y beddrod sydd yn ein hysbeilio;
Pob iaith a yspeilir o'i geiriau caledion,
I fwrw pob dirmyg ar lety'r marwolion.

Yn araf, deimladau! Mae'n dda i'r gwael briddyn
Gael cartref, pan gauo pob drws yn ei erbyn;
Fel plentyn afradlon a phawb yn ei wrthod,
Nid oes ond ei fam i'w groesawu yn barod.
Mae'r dydd difrifolaf bron, bron a'n cyfarfod,
Pan fo ein cyfeillion a phawb yn ein gwrthod;
Ein mam, yr hen ddaear, a egyr ei mynwes,
Dychwelwn i'r fynwent am gysgod a lloches.

O fedd cymwynasgar! Trosglwyddwn i'th ofal
Weddillion parchedig y cedyrn anhafal;
Dod le iddynt lechu dan lenni distawrwydd,
A chadw eu llwch hyd ddyfodiad yr Arglwydd.
Diolchwn i'r nefoedd am lusern Crist'nogaeth,
I dywallt goleuni ar gelloedd marwolaeth;
Mae lampau athronddysg oll, oll yn diffoddi,
Ar lan y bedd tywyll y palla'u goleuni.
O ddynol ddoethineb! A godir y meir won,
A dreiddia bywhad i'r llygredig waelodion?

Ymgladda athroniaeth mewn bythol fudandod,
Ffarwelia â'r meirw yn nh'w'llwch y beddrod:
Yng ngoleu'r efengyl mae anllygredigaeth.
Yn taenu sirioldeb ar deyrnas marwolaeth;
Yr udgorn a seinia! y meirw gyfodant!
A llyncir marwoldeb mewn bythol ogoniant!
Gruddfanna y ddaear mewn loes esgoreddfa,
Yn adenedigaeth aneirif blant Adda!

Os dodwyd gweddillion ein brodyr a'n tadau
Yn nhŷ eu hir gartref i aros dros oesau,
Goddefer i'r awen ail ddweyd y gwirionedd,
Fod eu santaidd eneidiau mewn bythol dangnefedd.
Ust! ust! mae dychymyg yn gwrando yn llawen,
Ar sain eu caniadau tu draw i'r wahanlen;
Gwrandawed y ddaear ar adsain yr anthem,
A glywir o'u genau yn llysoedd Caersalem;—


Yn iach i ofidiau y ddaear,
Yn iach i drallodau y llawr,
Gogoniant ein Iesu gorhawddgar
Yw sylwedd ein nefoedd yn awr;
Er cystal yr hanes am dano
Wrth deithio anialwch y byd,
Mae un o'r golygon geir arno
Tu hwnt i bob hanes ynghyd.

"O na chai'n cyfeillion wylofus
Un olwg ar harddwch y nef;
Fe sychid eu dagrau galarus,
Distawai holl dristwch eu llef:
Un olwg ar wlad y gogoniant
Ddiwallodd ein gobaith i gyd,
A llynca mewn bythol anghofiant
Holl dybiau a barnau y byd.


"Cawn weled y rhyfedd ddirgelion
A roed yn ffugyrau y gair,
Y delyn, y palmwydd, a'r goron,
A'r disglair heolydd o aur;
Nid ydoedd yr holl ddychymygion
A gasglodd y ddaear ynghyd,
Ond megis mabanaidd freuddwydion
Owychder ysblenydd ein byd.

Cyfrifid ni'n fawrion y ddaear,
Ond plant ydym yma mewn maint,
Yn gwrando angylion cyfeillgar
Yn canu nes synnu y saint;
A'r saint perffeithiedig yn adrodd
Hen brofiad maddeuant a hedd,
Nes synnu'r angylion a'u gwyliodd
Drwy gylchoedd eu bywyd i'r bedd.

"Mor hyfryd yw gwlad anfarwoldeb.
A phopeth yn burdeb heb wall!
Mor hyfryd yw'r nefol gymundeb,
Heb unrhyw ddiffygion na phall!
Pob gradd o angylion sy'n brysur
O amgylch gorseddfainc yr Ion,—
Ond trefn Iechydwriaeth pechadur
Yw testyn melusaf pob tôn.

"O nefol hyfrydaf breswylfod,
Nis gallwn amgyffred ei maint;
Nid ydym ond dechreu adnabod
Wynebau ac enwau y saint:
Mae yma'r fath ddirfawr bellafoedd,
A llwybrau o wynfyd mor faith;
Nid ydyw hen saint y cynoesoedd
Ond megis yn dechreu y daith."


Cymer d'anadl bellach, f'awen,
Teithiaist lwybrau blinion iawn,
Ai hyd lannau yr Iorddonen,
Lle mae loesau'n herio dawn;
Cwyd dy olwg o'r dyfnderau,
Dros ryferthwy'r afon ddofn,
Lle mae'r Cedyrn uwchlaw angau,
Wedi claddu pob rhyw ofn.

Sych dy ddagrau, Gymru, bellach,
Diosg dy alarwisg lom;
Gwel dy feibion heddyw'n holliach,
Heb ol tristwch calon drom;
Elw iddynt, medd ein hyder,
Oedd ein dirfawr golled ni;
Claddwn bellach bob rhyw drymder,
Dan gysgodau'r nefol fri.

Llaw doethineb anffaeledig.
Sy'n rheoli'r peiriant mawr;
Gorchwyl ysbryd gostyngedig
Yw cydnabod hyn yn awr;
Fe geir golwg ar ddirgelion
Hen fwriadau'r Dwyfol Fod;
Bydd yr arfaeth a'i dibenion
Yn disgleirio er ei glod.

Wrth im' droi'r ysgrifell heibio,
Wrth derfynu'r ganiad hon,
Teimlo 'rwyf fod angau'n gwylio,
Ac yn gweithio dan fy mron:
Pan ddaw'r awr im' gau fy llygaid
Ar anialwch gwag y byd,
Boed addfedrwydd yn fy enaid
I fwynhau y Ganan glyd!


Nodiadau

[golygu]
  1. wawl-arlun=ffotograff
  2. Y rhai gwympodd yn 1852, sef Ieuan Gwynedd (32 oed), Morgan Howells (38), Dafydd Rhys Stephan (45), Tegid (60).
    [Ganwyd Evan Jones (Ieuan Gwynedd) ym Mryn Tynoriad, ar ochr Dolgellau i'r Garneddwen, yn sir Feirionnydd, yn 1820. Cafodd fam o fysg disgyblion Dr. George Lewis, ac etifeddodd ei hynni cydwybodol ac anorchfygol. O ysgol Marton aeth i Goleg Aberhonddu, ac oddiyno yn weinidog i Dredegar. Collodd ei iechyd, a throdd at yr ysgrifell. Golygodd y Principality, yr Adolygydd, a'r Gymraes. Bu'n farw yn 32 oed; huna yn y Groes Wen.
    Ganwyd Morgan Howells yn 1794, ym mhlwy St. Nicholas, Morgannwg. Pan yn un ar bymtheg oed daeth yn brentis saer i Gasnewydd. Daeth yn enwog fel pregethwr oherwydd ei ddawn rhyfedd, a'i athrylith droiog wyllt.
    Ganwyd David Rhys Stephen ym Merthyr yn 1807. Yn 1827 aeth i Goleg y Fenni, yn weinidog i Abertawe yn 1830, yn weinidog Seisnig i Gasnewydd yn 1815. Priododd ferch Gomer. Pregethai ac ysgrifennai'n rymus.
    Un o blant y Bala oedd John Jones (Tegid), anwyd yn 1792. Yn Rhydychen trodd ei feddwl at Gymru. Lewis Glyn Cothi, y Beibl Cymraeg, &c. Treuliodd ddiwedd ei oes yn Nanhyfer, lle'r hun.
    Cyhoeddwyd gan E. Williams a'i Mab, Aberystwyth, yn 1853.]
  3. Gwenynen Gwent, Lady Llanover (1802-1896).

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1926, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd.