Neidio i'r cynnwys

Gwaith yr Hen Ficer/Rhybudd i Gymru

Oddi ar Wicidestun
Ewyllys Rydd Gwaith yr Hen Ficer

gan Rhys Prichard


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Gweddi'r Eglwyswr

UNIGRWYDD.
CARTREF WEDI EI ANRHEITHIO GAN Y PLA.

"Ni ddaw meddyg, ni ddaw ffeiriad,
Ni ddaw ffrynd yn agos atad."


CANEUON Y PLA.

1.-Rhybudd i Gymru i edifarhau ar yr amser yr
oedd y chwarren fawr yn Llundain.

CYMRU, Cymru, mwrna, mwrna,
Gad dy bechod, gwella, gwella,
Rhag i'th bechod dynnu dial
A digofaint Duw i'th ardal.

Mae dy bechod wedi dringad
Cuwch a'r nef, yn crio'n irad,
Am ddiale ar dy gopa,
Megis Sodom a Gomorah.

Mae e'n gwaeddi nos a bore,
Fel gwaed Abel, am ddiale,
Nid oes dim a stopa ei safan,
Ond plag Duw, neu wella'n fuan.

Mae e gwedi 'nurddo'r ddaiar,
Fel pechodau'r cowri cynnar;
Ac yn gofyn dy ddygibo
Oddi arni, neu repento.

Nid oes cornel mwy na Ninif,
Na bo llawn o feie aneirif;
Na chrach bentre na bo pechod,
Yn swrddanu clustiau'r Drindod.

Nid oes unrhyw radd na galwad,
Na bo gwedi ymlygru'n irad,
Ac yn tynnu, fel wrth reffyn,
Blag a dial ar dy gobyn.

Mae'r penaethiaid bob yr un,
Yn ceisio'u mawl a'u lles eu hun;
Ac heb ymgais am wir grefydd,
Moliant Duw, na lles y gwledydd.


Mae dy 'ffeiriaid hwyntau'n cysgu,
Ac yn gado'r bobol bechu;
Ac i fyw y modd y mynnon,
Heb na cherydd na chynghorion.

Mae dy farnwyr, a'th wyr mawrion,
Yn cyd-ddwyn â mwrddwyr, meddwon;
Ac yn goddef treiswyr diriaid
Speilio'r gweddwon a'r ymddifaid.

Mae'r swyddogion hwyntau'n godde
Cablu Duw a meddwi'r Sulie,
Troedo'r 'fengyl, casau'r cymun,
Heb na chosp na cherydd arnyn.

Mae'r sheriffaid, a'u debidion,
Yn anrheithio'r bobl wirion;
Ac wrth rym eu braint a'u swydde,
Yn eu speilo liw dydd gole.

Mae'r cyfoethog hwyntau'n llyncu
Faint sy'n helw'r tlawd yng Nghymru
Ac wrth rentu'n dost, ac ocra,
Yn eu gyrru hwy i gardota.

Mae'r cyffredin o bob rhyw,
Yn delo'n ffalst, yn digio Duw,
Yn ddall, yn ddwl, heb fynnu eu dysgu,
Yn mynd i'r pwll, heb odde eu nadu.

Mae pob gradd yn pechu'n rhigyl,
Ac heb wneuthur pris o'r 'fengyl,
Nac o gyfraith Duw gorucha,
Yn addoli'r byd a'r bola.

Mae pob gradd, â rhaffau pechod,
Yn dirdynnu dial hynod,
Am eu penne heb dosturi,
Oni thront oddi wrth eu bryntni.


Mae'r fath feddwdod, mae'r fath dyngu,
Mae'r fath gamwedd ynnot, Cymru,
A'r fath wangred, a gaudduwiaeth,
Na bu 'nghred ei sut, ysywaeth.

Mae Duw cyfion yntau'n canfod
Drwg ymddygiad pawb a'u pechod,
Ac yn rhwym, wrth swydd a natur,
Dial ar y fath droseddwyr.

Er ys dyddie mae'n ymhwedd,
A'th holl blant am wella eu buchedd:
Eisie gwella, mae'n bwriadu,
Weithian dial camwedd Cymru.

Duw a'th ddododd yn y taflau,
Duw a'th gafodd lai na phwysau;
Duw a fyn roi maethgen iti,
Oni throi oddiwrth dy frynti.

Eisie Cymru gymryd rhybudd,
Oddiwrth Loeger yn ei holl gystudd
Mae gwialen gwedi'i gwlychu,
Yn y sicc ar feder Cymru.

Y mae plag, yn ol dy bechod,
Gwedi'i lunio gan y Drindod;
Ac yn barod ddwad atat,
O waith cynddrwg yw'th ymddygiad.

Y mae'n crogi uwch dy gobyn,
Ddydd a nos, fel wrth edefyn,
Ac yn barod iawn i syrthio,
Oni throi di a repento.

Yr wyt tithe yn pentyrru
Plag ar blag, heb edifaru,
Ac yn cam-arferu'n rhyfedd
Ffafar Duw a'i hir amynedd.


'Rwyt ti beunydd yn mynd waeth-waeth
Ac yn pechu fwy-fwy sywaeth;
'Rwyt ti'n tybied fod Duw'n cysgu,
Tra'n dy gathrain i ddifaru.

'Rwyt ti'n hwrnu yn dy bechod,
Heb ystyried na chydnabod,
Fod Duw'n hogi'n llym ei gledde,
Tr'ech ti'n hepian ar dy feie.

Edifara'n brudd gan hynny,
Cyn del plag i'th ardal, Cymru.
Cyn y tynno Duw ei gledde,
Cais ei ffafar ar dy linie.

Os digofaint Duw a 'nynna,
Pwy o'r holl fyd a'i diffodda?
Os y chwarren wyllt a ddenfyn,
Pwy a'i tynn i maes o'th derfyn?

Os yr Arglwydd dig a ddechre
Ladd dy blant, a'i follt a'i gledde;
Pwy all gadw rhag ei ddyrnod,
Un o'th blant, os tery'r Drindod?

Gwel y lladdfa y wnaeth e'n Llundain,
Er maint oedd eu cri a'u llefain:
Eisie gwneuthur hyn mewn amser,
Fe ddifethodd fwy na'u hanner.

Cwyn gan hynny, gwachel oedi,
Llwyr ymwrthod a'th holl frynti;
Llef am ras cyn del dy faethgen,
Fory, ysgatfydd, y daw'r chwarren.

Mae dy blag mewn cydau lliain,
Eto'n siopau marchants Llundain;
Fe ddaw'r plag oddi yno i Gymru,
Os ar fyrder ni ddifari.


Os i Gymru y daw cornwyd,
Och! mor amharodol ydwyd
Fynd i'r barr i wneuthur cyfri
Heb na gwisg na dim goleuni.

Os i Gymru y daw'r clefyd,
Ofer ceisio un cyfrwyddyd:
Nid yw'r byd yn abal stopi
Haint, pan ddelo Duw i'n cospi.

Ofer ceisio saeds a ryw,
I wrthnebu clefyd Duw;
Oni throi oddiwrth dy bechod,
Ni thal metswn un o'r chwilod.

Ofer cadw pyrth dy drefydd,
Fe ddaw'r plag dros ben y gwelydd,
Ni all peics na dwbwl canon,
Atal plag, os Duw a'i danfon.

Ofer rhedeg hwnt ag yma,
I geisio cilio rhag dy ddifa;
Dos lle mynnech, fe fyn dyrnod
Duw a'i farn orddiwes pechod.

Goreu cyngor rhag y plag,
I ddyn gadw ei hun yn wag;
Nid rhag bwyd, ac nid rhag diod,
Ond rhag pob rhyw fath o bechod.

Os daw plag i gospi Cymru,
Fe ddaw newyn i'th gastellu,
Tristwch, cerydd, câs, ac ofan;
Ni ddaeth plag erioed ei hunan.

Fe fydd drygfyd yn dy drefydd,
Fe fydd ochain rhwng dy welydd;
Fe fydd cwynfan ym mhob heol,
Fe fydd braw ar bawb o'th bobol.


Cariad brawdol a ddiffoddodd,
Pob cardigrwydd a ddiflannodd,
A naturiaeth a charennydd
A lwyr gollant eu cydnebydd.

Ni ddaw'r fam i drin y ferch,
Na'r wraig ei gwr, er maint ei serch,
Na'r chwaer ei brawd, na'r tad ei blentyn;
Cas, a thrist, a thrwm yw'r cowyn.

Y mab a ladd ei dad â'i ana'l,
A'r fam ei plant, er maint ei gofal;
A'r wraig ei gwr wrth roi ochenaid,
A'r brawd ei chwaer a'i holl gyfnesiaid.

Y marw ladd y byw a'i claddo,
A'r gwan y gwych a ddel i'w drinio,
A'r claf yr iach a fo'n ei faethu,
Mor gas, mor flin yw'r plag wrth hynny.

Dyn â'r plag sy'n lladd â'i ddillad,
Fel y basilisc a'i lygad,
Ac a'i ana'l sy'n gwenwyno,
Fel y coccatris y granffo.

Y plag a bair i bob cymydog
Gashau'r llall fel ci cynddeiriog;
A chyfathrach, ffryns, a chenel
Gashau câr fel blaidd neu gythrel.

Hyn a bair garcharu'r cleifion
Yn eu tai fel traitwyrs ffeilstion,
A'u dehoryd i fynd allan,
I gael bwyd dros aur ac arian.

Yr aur a ladd y rhai'i derbyniant,
Y stwff a ddifa'r maint a'i medlant;
Pan ddel plag, er maint o'r diffyg,
Ni thal arian fwy na cherrig.


Hyn a bair i'th bobl, Cymru,
Pan ddel chwarren, hir newynu;
Pan na chaffer bwyd dros arian,
Na dim cymorth er ei fegian.

Dy blag a ddaw yn ymwnc hefyd,
Fel y diluw ar y cynfyd;
Neu'r tân gwyllt y ddoeth ar Sodom,
Yn ddirybudd fel ystorom.

Pan fych brysur yn ymdwymo,
Neu'n y tafarn yn carowso,
Neu'n cynhennu yn y farchnad,
Y daw'r plag yn ymwnc arnad.

Os mewn tafarn neu y stewdy,
Os mewn marchnad neu ddadleu-dy,
Os mewn maes y'th dery'r cowyn,
Dyna'r man y bydd dy derfyn.

Yno cei di, megis 'nifel,
Farw'n ymwnc trwy fawr drafel;
Heb un dyn i weini iti,
Na'th areilio, na'th gomfforddi.

Ni ddaw meddyg, ni ddaw 'ffeiriad,
Ni ddaw ffryns yn agos atad;
Nac un carwr, un o'th holl gene'l,
Mwy nag at ryw anfad rebel.

Ni chei neb a ddel i'th drinio,
Nac i'th ystyn, na'th amwisgo,
Nac i'th arwyl, nac i'th gladdu,
Ond â chladdiad buwch o'r beudy.

O! pwy angau, O! bwy bennyd.
O! pa blag a diwedd aethlyd,
O! pa felldith a throm fforten,
Ydyw marw'n llyn o'r chwarren!


Hyn i gyd a welodd Lloeger,
Yn nhref Llundain yn hwyr amser;
Hyn a weli dithau, Cymru,
Os â'th bechod ni 'madawi.

O! gan hynny, Cymru, ystyr,
Mor anhygar, mor ddigysur,
Mor ddigariad, mor aflawen,
Ydyw marw'n llyn o'r chwarren.

Dyma'r angau wyt yn haeddu,
Am dy bechod, Cymru, Cymru;
Dyma'r angau sy ar dy feder,
Oni throi at Dduw ar fyrder.

Mae Duw'n disgwyl, er ys dyddie,
Am it droi a gado'th feie;
Eisie troi, mae Duw yn barod,
A phlag ddial dy holl bechod.

O gan hynny, Gymru, mwrna,
Gad dy bechod, edifara:
Dysg gan Ninif geisio heddwch,
Cyn del dial a diffaethwch.

Cyn y tynno Duw ei gledde,
Cais ei heddwch ar dy linie:
Rhy ddiweddar it ymbilian,
Gwedi tynno ei gledde allan.

Cwymp i lawr wrth draed dy Brynwr,
Megis Magdlen wyla'r hallt-ddwr;
Sych a'th wallt ei ddeu-droed rasol;
Fe ddiddana'r edifeiriol.

Cyfod allor megis Dafydd,
Offrwm iddo yspryd cystudd:
Deisyf arno stopio'r angel
Sydd ar feder lladd dy gene'l.


MASNACH A DINAS DAN Y PLA.

"Yr aur a ladd y rhai derbyniant,
Y stwff a ddifa'r maint a'i medlant."


Mwrn mewn sach fel pobol Ninif,
Tro oddiwrth dy feie aneirif;
Duw newidia'th farn a'th ferdid,
Os tydi newidi'th fywyd.

Tramwy i'r demel nos a dydd,
Megis Aron mwrna yn brudd,
Llef am ras ar Grist dy Geidwad,
Cyn y delo'r cowyn arnad.

Cur dy ddwyfron yn gystuddiol,
Fel y Publican edifeiriol:
Cais gan Dduw dosturio wrthyd,
Cyn y'th dorrer ffwrdd â'r clefyd.

Bwyta beunydd fara dagrau,
Megis Dafydd am dy feiau;
A gwna'th wely'r nos yn foddfa,
Cyn i'r chwarren wyllt dy ddifa.

Saf fel Moesen yn yr adwy,
Lle mae'r plag ar fedr tramwy:
Cais gan d'Arglwydd droi'i ddigllonedd,
Felly dengys it drugaredd.

Megis Phinees cymer siaflyn,
Lladd y rhai sy'n peri'r cowyn,
Cospa â'r gyfraith afreolaeth,
Duw a'th geidw rhag marwolaeth.

Gado Sodom, tynn i Zoar,
Gochel ddistryw, bydd edifar:
Gwrando'r angel sy'n rhoi rhybudd,
Cyn y del y plag i'th drefydd.

Gado'r moch a'r bobol feddwon,
Fel y gade'r mab afradlon;
Tynn i dŷ dy dad rhag newyn,
Cyn dy dorri lawr â'r cowyn.


Tynn fel Peder i ryw gornel,
Wyla'n chwerw dros dy gene'l;
Y mae'r ceiliog yn dy gofio,
Cais drugaredd cyn dy blagio.

Gwna dy gownt a'th gyfri'n barod,
Cyn dy fynd o flaen y Drindod;
Nynn dy lamp, a gwisg dy drwsiad,
Cyn y delo'r chwarren arnad.

Chwyrn yw'r chwarren pan ei delo,
Ni ry amser it ymgweirio;
Bydd barodol yn ei gwiliad,
Bob yr awr cyn delo atad.

Os ymgweiria Cymru farw,
Ac i fynd at Dduw yn hoew,
Hawsa i gyd i Dduw dy spario,
A rhoi iechyd hir it eto.

Duw fo grasol wrthyd, Cymru,
Duw ro ras it edifaru,
Duw'th achubo rhag y chwarren,
Duw ro iti flwyddyn lawen.

Cymru, Cymru, mwrna, mwrna,
Cwyn fel Ninif, edifara;
Gwisg dy sach, cyhoedda ympryd,
Llef am ras, a gwella'th fywyd.

Y mae Lloeger, dy chwaer hyna,
Yn dwyn blinder tost a gwasgfa,
Dan drom wialen y Duw cyfion,
Sy'n ei maeddu yn dra chreulon.

Y mae'r plag yn difa ei phobloedd,
Fel tan gwyllt y ddoi o'r nefoedd,
Ac fel gwaddaeth ar sych fynydd,
Yn goresgyn ei holl drefydd.


Maent hwy'n meirw yn ddi—aros,
Wrth y miloedd yn yr wythnos,
Ac yn cwympo ar eu gilydd,
Yn gelanedd mewn heolydd.

Nid oes eli, nid oes metswn,
Nid oes dwr, na deigre miliwn,
All ei ddiffodd, och ! na'i laesu,
Ond trugaredd Duw a'i allu.

Y mae Llundain fawr yn mwrno,
Fel Caersalem gwedi'i hanrheithio;
Nid oes dim ond ochain ynddi,
Cwynfan tost, a llef annigri.

Mae'r fath alar, mae'r fath dristwch,
Mae'r fath gwynfan a thrafferthwch,
Mae'r fath wewyr a'r fath ochain,
Ni bu'r fath erioed yn Llundain.

Mae pob gradd yn gweld yr Ange
Ger eu bron yn cwnnu ei gledde,
Ac yn disgwyl heno, heddy,
Am y cart i'w dwyn i'w claddu.

Y mae'r gwyr yn gweld eu gwragedd
A'u plant anwyl yn gelanedd;
Yn y tai yn dechreu sowso,
Heb gael undyn a'u hamwisgo.

Y mae'r gwragedd hwynte'n ochain,
Weld eu gwyr a'u plant yn gelain;
Ac heb feiddio myned allan,
Yn gwallbwyllo'n flin gan ofan.

Mae'r ymddifaid bach yn gweiddi
Yn y tai heb neb i'w porthi;
Ac yn sugno brest eu mame,
Gwedi marw er ys tridie.


Nid oes cymorth, nid oes cysur,
O'r nef, o'r ddae'r, o'r môr, na'r awyr,
O'r dre', na'r wlad, o'r maes, na'r winllan,
O'r llan, na'r llys, o'r gaer, na'r gorlan.

Y mae'r iach yn gweld y trwcle,
Y fai gynt yn dwyn tomene,
Heb ddwyn dim, o'r gole i'w gilydd,
Ond y meirw i'r monwentydd.

Mae rhai byw yn hanner marw,
Cyn del arnynt wŷn na gwaew,
Wrth weld cymaint yw'r diale,
Sy'n digwyddo am eu penne.

Ni cheir rhydd-did i fynd allan,
Ni cheir bwyd i mewn dros arian;
Ni cheir tramwy at un Cristion,
Ni cheir madel â'r rhai meirwon.

Yn y tai mae'r plag a'r cowyn,
Yn yr hewl mae'r cri a'r newyn;
Yn y maes mae'r cigfrain duon,
Hwyntau'n pigo llygaid cleifion.

Y mae sowaeth, Duw a dynion,
Wedi gado'r rhain yn dlodion;
Heb roi help na swcwr iddyn,
Yn eu nychdod tost a'u newyn.

Mae Duw'n chwerthin am eu penne,
Ac â'i fys yn stopio'i glustie;
Ac heb wrando gweddi canmil,
Eisie gwrando llais ei 'fengyl.

Y mae dynion anrhugarog
Yn eu ffoi fel cwn cynddeiriog;
Gwell yw ganddynt weled gwiber
Yn y wlad na gweled Lyndner,


Waith bod dyn a'r plag yn 'nurddo
Pob rhyw un a ddelo ato;
Ac yn lladd â gwynt ei ddillad,
Fel y basilisc â'i lygad.

Ni faidd tad fynd at ei blentyn,
Na gwraig drin ei gwr â'r cowyn,
Na ffrynd weld ei ffrynd â'r clefyd,
Heb fawr berig am ei fywyd.

Y mae'r fam yn lladd a'i chusan
Ei hanwylyd blentyn bychan;
Ac heb wybod yn andwyo
Hwn a'r plag tra fytho'n sugno.

Y mae'r tad yn lladd a'i ana'l,
Ei blant anwyl yn ddiatal
Ac fel cocatris gwenwynllyd,
Yn ddi-son yn dwyn eu bywyd.

Y mae'r plentyn a glafychodd
Ynte'n lladd y fam a'i magodd;
Ac o'i anfodd yn inffecto
Yr holl dylwyth lle bo'n trigo.

Maent hwy'n meirw yn ddisymwyth,
Gwyr a gwragedd, plant a thylwyth:
Wrth y pumcant yn y noswaith,
Nes mynd Llundain megis anrhaith.

Mae'r fath wylo, mae'r fath ochain,
Ym mhob cornel yn dref Llundain;
Ni bu 'rioed o'i fath yn Rama,
Gynt gan Rachel a'i chyfnesa.

Mae'r offeiriaid a'r pregethwyr,
Yn galaru maes o fesur,
Weld eglwysydd, lle'r oedd miloedd,
Fel lluestai heb ddim pobloedd.


Y mae'r marchants mawr a'u siope
Llawn o frethyn aur, a lasie,
Heb gael gwerthu dim o'r llathaid,
I roi bara i'r prentisiaid.

Y mae'r crefftwyr hwynte'n ochain,
Gwedi gweithio pethau cywrain,
Heb gael undyn yno i'w prynu,
Ac yn barod i newynu.

Mae lleteuwyr y gwyr mawrion,
A'r arglwyddi, a'r marchogion;
A'u hostrie mawr yn wag,
Heb neb ynddynt ond y plag.

Y mae'r water-men a'r porters,
A'r caraniswyr oll, a'r haliers,
Heb gael lle i ennill dime
I roi bara yn eu bolie.

Mae'r farchnadfa, lle'r oedd llafur,
Cig a physgod tu hwnt i fesur;
A phob moethe o'r danteithia,
Heb na chig, na blawd, na bara.

Y mae llawer oedd yn ceisio
Quails a pheasants erbyn cinio,
Nawr yn chwennych torri'u newyn,
Ar Bŵr Jon a hen ymenyn.

Lle'r oedd beunydd fil o fade,
Yn dwyn ymborth, heblaw llonge,
Nid oes heddyw bwnn yn dwad
O flawd cawl, dros aur i'r farchnad.

Lle'r oedd llewndid o bob ffrwythi,
Ag oedd dae'r a dŵr yn roddi;
Nid oes heddyw ond y newyn,
A'r drudaniaeth, waith y cowyn.


Hyn a barodd ein hen draha,
A'n glothineb, a'n puteindra,
A'n gau-dduwiaeth, a'n cas feddwdod,
A dirmygu'r Gair yn wastod.

Dyma wabar, dyma ffrwythe,
Dyma gyflog ein pechode;
Dyma'r faethgen dost haeddasom,
Am y bryntni gynt a wnaethom.

Dyma fel y gall Duw cyfion
Dynnu lawr y trefydd mawrion;
Mewn byrr ennyd am anwiredd,
A'u darostwng am eu balchedd.

Dyma fel y gall Duw blygu
Pobol drawsion y fo'n pechu;
Ac heb wneuthur pris o'i ddeddfe,
A'u comito dan law'r Ange.

Hyn haeddasom er ys dyddie,
Hyn a ddylem bawb ei adde:
Cyfiawn yw Duw a diargoedd,
Yn ei ffyrdd a'i holl weithredoedd.

Ni hauasom bob diffeithder,
Gynt rhwng cwyse anghyfiawnder,
'Ry'm ni'n medi, 'ry'm ni'n casglu
Y crop y ddygodd pechod ini.

Dyma'r dial gynt addawodd
Duw ei ddanfon ar y bobloedd
Nas gwasnaethant a'u holl galon,
Ac na chadwent ei orchmynion.

Dyma'r faethgen y gaiff Cymru,
Eisie gwella a 'difaru,
A chymeryd rhybudd dyner
Oddiwrth blag a dial Lloeger.


Pan yr helodd Duw'r fath wialen
Ar y bobl dda o Lunden,
Ma' rnai ofn y daw y cleddy',
Ar y bobol ddrwg o Gymru.

Pan na chymre pobl Juda
Rybudd prudd oddiwrth Samaria;
Duw roes Juda i gaethiwed,
Fel Samaria dan law'r Syried.

Oni chymer Cymru warning
Oddiwrth Loeger yn ddi-daring;
Ma 'rnai ofan y daw dial,
Ar y Cymry, a phlag anial.

Pan y glawiodd Duw gorucha',
Dân ar Sodom a Gomorah,
Ni ddiffoddodd o'i lid tanllyd,
Nes difethu Zeboim hefyd.

Pan yr helodd Duw y chwarren,
I dir Lloeger ac i Lunden,
Ma 'rnai'i ofan tost na laesa
'R plag, nes del i 'mweld â Chambria.

Os pan helodd Duw a chledde,
I Germania a'i chyffinie,
Eisie'r Ffrancod gymryd rhybudd,
F'aeth y cleddyf trwy'u holl drefydd.

Eisie i Loeger gymryd warning
Oddiwrth Bohem, Ffrainc, a Flushing,
Y mae Duw yn cospi Lloeger,
Yn saith gwaeth nag un o'r nifer.

Oni chymer Cymru rybudd
Oddiwrth Loeger drist a'i chystudd;
Ma 'rna'i ofan gweld ar fyrder
Blag yng Nghymru'n waeth na Lloeger.


O, gan hynny, Cymru, mwrna,
Gåd dy bechod, edifara;
Dysg gan Ninif geisio heddwch,
Cyn del dial a diffeithwch.

Cur dy ddwyfron, wyla'r hallt-ddwr,
Golch dy wisg yng ngwaed dy Brynwr;
Llef am ras, a gâd dy fryntni,
Cyn dialer dy ddrygioni.

Cyn y tynco Duw ei gledde,
Cwymp yn isel ar dy linie;
A chais ras a ffafar gantho.
Cyn i'r Ange dig dy daro.

Ofer crio gwedi'th glwyfer,
Ofer ymbil gwedi'th farner,
Ofer ceisio torri'r wialen,
Gwedi rhodder iti'r faethgen.

Cwyn, gan hynny, gwachel oedi,
Brysia'n esgud, gad dy fryntni:
Gwel y farn sydd uwch dy gobyn,
Tro, cyn caffo arnat ddisgyn.


Nodiadau

[golygu]