Gwaith yr Hen Ficer/Y Flwyddyn 1629
| ← Pechod Gwreiddiol | Gwaith yr Hen Ficer gan Rhys Prichard golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Yn erbyn Consurwyr → |
1629.
Can ar y flwyddyn MDCXXIX, pan oedd yr
yd yn afiachus, trwy lawer o wlaw.
Duw Frenhin trugarog, Duw Dad Hollalluog,
Duw Porthwr newynog, na newyna ni;
Sy'n canlyn dy ffafar a chalon edifar,
Ar ol dy hir watwar a'th siomi.
Er mwyn dy drugaredd anfeidrol a'th fawredd,
Er mwyn dy wir 'Tifedd, O dofa dy lid;
Gwrando di'n gweddi, gan faddeu'n drwgnwydi,
A chymorth ein tlodi a'n hadfyd.
Ni a bechasom yn d'erbyn yn daran ysgymun,
Nes tynnu hir newyn a niwed i'n plith;
Ac amryw ddiale sy'n gryddfu'n calonne,
Heb allel hir odde dy felldith.
Ni a dorsom dy gyfraith, sydd gyfion a pherffaith,
Do, lawer canwaith cyn cwnnu o'r man;
Fel rhai a f'ae'n tybiaid na fae gennyt lygaid,
I ganfod fileiniaid mor aflan.
Dy enw gablasom, Dy air y gasausom,
Dy fengyl a droedsom yn ddibris tan drad;
Dy Sabbath halogwyd, Dy demel adawyd,
Dy grefydd a lygrwyd yn irad.
Ni dorsom dy ddeddfau, fel pobol a dybiai
Na ddeuai ddialau am ddilyn ffordd ddrwg
Neu rai a f'ae'n credu na fae gennyt allu,
I'n plago am bechu yn gynddrwg.
Pan heliaist genhadon i faneg ein beion,
A'n troi i'r ffyrdd union yn dirion, yn daer;
Ni gausom ein clustie rhag clywed eu geirie,
Fel neidr a fydde yn fyddar.
Pan yrraist dy weision i'n gwadd ni, rai deillion,
I'th swper yn dirion, i dario'n dy lŷs.
Ni ballsom o'r dwad, ni droesom i'r farchnad,
A'n fferem, yn anllad anhapus.
Ni fynnwn mo'r manna, ni thrig e'n ein cylla,
Ni charwn ni y bara a bery byth;
Ond garlleg ac winwyn, a phanas a phompiwn,
Fel twrchod a garwn ni'n aruth.
Ni fynnwn ni o'r fengyl, sy'n ein cnoi ni mor rhugil,
Ni a drown ein gwegil at hyn lawer gwaith,
Ni chaiff hi'n ceryddu, na'n dangos na'n dysgu,
Mae'n draws yn gwrthnebu ein drygwaith.
Ni adwn ni'r Ysgrythyr reoli'n drwg natur,
Na'th gyfraith gymhesur gymhwyso mo'r traws;
Ond byw wrth ein ffansi, a'n trachwant a'n gwegi,
Heb fynnu rheoli ein drygnaws.
Gan hynny waith troedio Dy gyfraith a'i gado,
Ni aethom ar ddidro yn didranc, gwae ni;
Fel defaid a rede o'r llafur i'r ffalde,
Ar ol llanw eu bolie, i boeni.
Mae'n gloddest a'n traha, fel mawrddrwg Gomorah,
Yn llefain am wasgfa, i wasgu ar ein cest;
Ni thaw byth o'n poene, nes delo diale,
I wasgu ar ein crilie â dirwest.

CASTELL LLANYMDDYFRI,
"Cenais iti'r udgorn aethlyd
O farn Duw, a'i lid anhyfryd."
Mae pob gradd o ddynion, o fychain i fawrion,
Yn pechu yn greulon yn erbyn dy Grist,
Fel pobol wrth raffe, a dynne ddiale,
O'r nef am ein penne, yn athrist.
Mae'r offeiriad yn gadu dy bobol i bechu,
Heb geisio eu nadu i uffern ar naid;
A'r un ag a geisio â'r Efengyl eu rhwstro,
Fe gaiff ei anfrio yn ddiriaid.
Mae'n parchus reolwyr, Och Dduw, yn rhy segur,
Yn godde troseddwyr i drist soddi'r wlad,
Heb gosbi â'r cledde, na'r bobol na'r beie,
Sy'n damsing dy ddeddfe mor irad.
Mae'r bobol gyffredin, fel Israel, heb frenin,
Na 'ffeiriad i'w meithrin, na phroffwyd i'w maeth,
Yn byw yn anhywaith, fel pobol heb gyfraith.
Heb grefydd, heb obaith, ysywaeth.
Mae rheibus swyddogion yn speilio rhai gwirion,
Yn hyfach na'r lladron, llwyr edrych ar hyn;
A'r carliaid yn bwyta y tlodion fel bara,
Neu'r morfil a lynca'r sgadenyn.
Mae'r gweision cyfloge a'r hurwyr yn chware,
Mae'r gweithwyr yn eiste, heb ostwng eu pen,
Yn tordaen, yn blino, heb fynnu o'r gweithio,
Nes delych i'w pricio âg angen.
Mae'r tanner a'r pannwr, a'r barcer a'r bwtsiwr,
Gweydd, gôf, a thaeiliwr, a thiler, a chrydd,
A'r hwsmyn, a'r crefftwyr, a'r diffrwyth uchelwyr,
Yn mynd yn dafarnwyr digrefydd.
Mae'r gwragedd yn gado eu nyddiad a'u cribo,
Eu gwauad, a'u gwnio, i dwymo dwr,
Gwerthasont eu rhode, a'u cyffion, a'u cribe,
I brynu costrele tafarnwr.
Mae'r mwrddwyr, a'r gwibiad, a'r bawdy cnaf anllad,
A'r lleidr, y gwilliad a'r offeiriad ffol,
A Shini a Shanco, a lisens i wtro,
Bir, cwrw, tobacco, heb reol.
Pe ceisie na'r cythrel neu'i fam godi capel,
Wrth ochor dy demel, er dime'n y dydd,
I gadw tafarndy cyhoeddus yng Nghymru,
Fe gae ei genhadu yn ufudd.
Duw, dere o'th arfer, a chyngor ar fyrder,
Torr lawer o'r nifer, sy'n 'nafu'r byd,
Cyn bwytont eu gilydd, cyn 'nafont y gwledydd,
Cyn llygront dy lan grefydd hyfryd.
Mae'r gweision mor ddainti na fynnant hwygorffi
Ond gwyn fara'u meistri, neu fustro a wnant,
A'r merched ar gyflog ond odid yn feichiog,
Am fod yn rhy wresog meddant.
Mae pob rhyw o alwad yn ddibris am danad,
Yn ceisio eu codiad a'u cadw eu hun;
Heb geisio d'ogoniant Di, Arglwydd ein llwyddiant,
Na'th fawr-glod, na'th foliant, na'i 'mofyn.
O achos, gan hynny, fod pawb yn troseddu,
A phob rhai yn pechu, a'u buchedd ar draws,
Ti geisiaist trwy fwyndra, ac ennyd o wasgfa,"
I'n cyffro i wella ein drwgnaws.
Yn fwyn ac yn serchog, fel Arglwydd trugarog,
A fai yn dra chwannog i'n hennill trwy deg,
Ti geisiaist yn dirion, trwy amryw fendithion,
Ein tynnu i'r ffordd union, yn loew-deg.
Pan ffaeliodd dy fwynder i wella'n drwg arfer,
Bygythiaist a chryfder a llymder i'n lladd:
Hogaist dy gledde, golymaist dy saethe,
Partoaist dy arfe i ymladd.
Ond gwedi it ymgweirio, rhoist rybudd cyn clwyfo,
Bygythiaist cyn taro, a'n torri ni i lawr:
Offrymaist i'n ffafar, o byddem ni edifar,
A ninne'n dy watwar yn ddirfawr.
Pan welaist, Dduw cyfion, na thycie fygythion,
Ti yrraist yn llymion dy saethau i'n lladd,
A'n curo, a'n corddi, a llawer o 'fidi,
Na allem na'u dofi na'u gwrthladd.
Gelwaist dy weision, mwstraist d'angylion,
A'th dri meirch mawrion, coch, glas, a du;
A gyrraist hwy'n ddiriaid, a'r holl greaduriaid,
I'n plagio, fileiniaid, a'n gryddfu.
Rhoist ddu-rew digasog, haf poethlyd anffodiog,
Gwynt stormus 'sgethrog, yn scathru yr ŷd,
Llifeiriant i'n soddi, a moroedd i'n boddi,
A chan rhyw ofidi i'n herlid.
Twymyne cynddeiriog, drudaniaeth digasog,
Marwolaeth llym oriog mewn llawer man,
A yrraist i'n cyffro, i brysur repentio,
A'n cathrain i'th geisio yn gyfan.
Pan welaist na alle hyn oll o ddiale,
Ein datroi o'n beie, i wella ein byd,
Ti yrraist drachefen hir newyn a chwarren,
A rhyfel aflawen i'n herlid.
Y chwarren a laddodd ddiarhebrwydd o filoedd,
Mewn amryw o leoedd a gormod llid,
Nes llenwi'r monwentydd, a thlodi'r holl drefydd,
Lle gyrraist dy gerydd i'w hymlid.
A'r rhyfel anffodiog, y ddaeth yn ddigasog,
Cledde yn llidiog, i'n tlodi a'n lladd;
Nes difa'n rhyfelwyr, a'n trysor a'n llafur,
A'n gyrru'n ddi-gysur i ymladd.
Soddaist ein llonge, diddymaist ein plotie,
Troist fin ein cledde, teflaist ni i'r clawdd;
Dallaist ein doethion, dychrynaist ein dewrion,
Gwerthaist ni i'r casion a'n ceisiawdd.
Y cornwyd a'r cleddy y wnaeth i ni grynu,
A dechreu difaru, dau fore neu dri,
A chanlyn a chrio am dynnu'r plag heibio.
Nes iti lwyr wrando ein gweddi.
Pan tynnaist y chwarren a'r rhyfel aflawen,
Ni droesem drachefen dri chufydd i'n hol;
Fel cwn at eu chwdfa, i'th ddigio, a'th hela
I'n dofi a'n difa'n anffafriol.
Gan hynny di yrrest y 'storom a thempest,
Ynghanol y gloddest, i'n plagio â glaw,
Nes nafu'n cynhaua', a defnydd ein bara,
A chospi'n hir draha â churlaw.
Tywalltaist dy felldith mor drwm ac nor dryfrith,
Ar farlis a gwenith, a phob ymborth gwr,
Fel y gwrthneba 'nifeiliaid ei fwyta;
Ni phraw'r cwn mo fara'r llafurwr.
Mae'r march yn ffieiddio, a'r mochyn yn gado
Y llafur sy'n llwydo, a'r egin yn llawn,
Gan gynddrwg aflasus yw'r pilcorn a'r barlis,
A gaed o'r annilys ysgawn.
O Arglwydd, ni haeddson dy felldith yn gyfion,
Ar lafur o'r fisgon, a'r fasged a stor,
A newyn a nychdod, am hir anufudd-dod,
O ddiffyg it ragod ein goror.
Ein dirmyg a'n traha ar ddiod a bara,
A bair i ni fwyta, oni atal Duw,
Y ffacpys a'r callod, ac ymborth 'nifeilod,
A'r crwst ym ni'n wrthod heddyw.
Ni fuom yn poeri y blawd oedd a rhydi,
A'r bara a'r pinni ni bwriem o'n pen;
A'r begers mor foethus yn taeru ar farlis
Ni phrofent ond canis haeachen.
Ni fuom yn bwyta gorfoddion o fara,
Fel pobol Gomorah 'ir camarfer eu byd,
Heb ddiolch am dano, na swper na chinio,
Nes i ni dy ddigio yn danllyd.
Ni fuom yn yfed, nes myned cyn dynned,
Na allem ni gerdded, na myned o'r man,
Nes arllwys ein ceudod, lle'r yfsom y ddiod,
Yn waeth na'r 'nifeilod aflan.
Bu deie'n tafarne yn llawnach y Sulie,
O addolwyr eu bolie, yn addoli diawl,
Nag oedd ein heglwysydd, o ddynion o grefydd,
I'th 'ddoli di'n ufudd, Duw nefawl.
Tair-gwaith o leia, y llanwn ni'r bola,
Bob dydd pan bo byrra, gan bori ein bwyd,
Prin mewn saith die, y cofiwn ni dithe,
Sy'n llanw ein bolie â bras-fwyd.
Ni flinwn yn ebrwydd yn d' eglwys, O Arglwydd,
Er maint yw ein haflwydd, a'n hoflyd tra:
Ni flinwn ni'n aros, mewn tafarn am wythnos,
Er oered o'r hirnos aea.
