Gwaith yr Hen Ficer/Y Sabboth
← Duw sy'n trefnu | Gwaith yr Hen Ficer gan Rhys Prichard golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Y Rhyfel Mawr → |
EGLWYS LLANDINGAD-LLE CLADDWYD Y FICER PRICHARD.
"Glawia arni yn gafode
Dy tendithion nes a bore."
Y SABBOTH.
DEFFRO'N fore gyda'r ceiliog,
Ffyst d' adanedd, cân yn serchog
Psalm i'r Arglwydd yn blygeiniol,
Ar bob Sabboth, yn dra siriol.
Gwisg dy ddillad gore am danad,
Ymsancteiddia cyn dy ddwad
O flaen Duw i'r demel sanctaidd;
Hoff gan Dduw ei addoli'n g'ruaidd.
Gwedyn dos a'th dylwyth gennyd
I dŷ Dduw â chalon hyfryd,
I addoli'n Duw'n y dyrfa,
Megis Joseph, Mair, a Josua.
Fe fynn Duw ei addoli'n barchus,
Ar bob Sabboth yn gyhoeddus,
Gyda'r dyrfa yn y demel,
Nid yn ddirgel yn y cornel.
Duw ddibennodd ei holl weithred,
Ar y dydd o flaen y seithfed;
Gorffen dithe bob gorchwylion,
Cyn y Sabboth, od wyt Gristion.
Ymsancteiddia cyn y Sabboth,
Cadw'n lân dy lester boenoth;
Golch dy hun mewn edifeirwch,
Ofna Dduw, a chais ei heddwch.
Cyn y Sabboth rhaid ymgweirio,
A throi pob bydol-waith heibio,
I gael gweithio gwaith yr Arglwydd,
Tra fo'r dydd, mewn gwir sancteiddrwydd.
Gorffwys di, a'th dda, a'th ddynion,
Oddiwrth bob rhyw o orchwylion;
Ac na weithia, ddydd yr Arglwydd,
Waith o bleser na bydolrwydd.
Gwerthu liflod, cario beichie,
Gweithio'n galwad, mynd i siwrne,
Pob ofer-waith pleseredig
Ar y Sabboth sydd warddedig.
Cadw'r Sabboth oll yn brudd,
Fore, a hwyr, a chanol dydd,
Yn dy dŷ fel yn yr eglwys,
Yn gwasnaethu Duw heb orffwys.
Cymer fwy o gare, trech byw,
Weithio'r Sabboth waith dy Dduw,
Nag y gymrech un dydd amgen,
Ynghylch gweithio bydol bresen.
Ar y Sul, mae mor anghenraid
Geisio manna i borthi'r enaid,
Ag yw ceisio, ar ddydd marchnad,
Fwyd i borthi'r corffyn anllad.
Cod y bore ar y wawrddydd,
Am y cyntaf a'r uchedydd,
I gael treulio dydd yr Arglwydd,
Mewn duwioldeb a sancteiddrwydd.
Nid diwrnod ini gysgu,
Nac i dordaen yn y gwely;
Ond diwrnod i'w sancteiddio,
Yw'r dydd Sabboth oll tro gantho.
Nid diwrnod iti loetran,
Nac i feddwi, nac i fowlian,
Ond diwrnod iti weithio
Gwaith dy Dduw, yw'r Sul tra dalo.
Dydd i'w dreulio mewn sancteiddrwydd,
Dydd i weithio gwaith yr Arglwydd,
Dydd i ddarllen a gweddio,
Dydd i addoli Duw a'i gofio,
Dydd i orphwys rhag gwaith bydol,
Dydd i weithio gwaith sancteiddiol;
Ac nid dydd i fod yn segur,
Yw dydd Duw, medd geiriau'r 'Sgrythyr.
Er bod Duw yn erchi coffa
Cadw'r Sabboth yn ddisigla';
Nid ym ninnau'n ceisio cadw
Un gorchymyn mwy na hwnnw.
O'r holl ddyddie nid oes un-dydd
Ym ni'n dreulio mor ddigrefydd,
Mor anneddfol, mor esgymun,
A'r dydd Sabboth tra fo'r flwyddyn.
Dydd i feddwi, dydd i fowlian,
Dydd i ddawnsio, dydd i loetran,
Dydd i hwrian, a gwylhersu,
Yw'r dydd Sabboth gan y Cymry.
Dydd i eiste a dyfalu,
Dydd i ymladd, ac ymdaeru,
Dydd i weithio gwaith y cythrel,
Yw dydd Duw mewn llawer cornel.
Y dydd ddylem ei sancteiddio,
Ym ni fwyaf yn ei 'nurddo,
I amherchu ein Prynwr tirion
A dolurio'i gywir weision.
Treulia'r Sabboth oll yn llwyr
Mewn sancteiddrwydd fore a hwyr;
Ac na ddyro bart na chyfran
O ddydd Dduw i addoli Satan.
Cofia gadw'r Sabboth sanctaidd,
Duw fynn gadw hyn yn berffaith;
'R hwn a dreulio'r Sul yn ofer,
Ni wna bris o ddim orchmynner.
Cadw'r Sabbath, ti a'th gene'l,
Yn dy dŷ fel yn y demel;
Gwna i'th dylwyth fyw mor gymwys,
Yn dy dŷ fel yn yr eglwys.
Tri rhyw waith all dyn arferu,
Ar y Sabboth heb droseddu,
Gwaith duwioldeb yn ddiembaid,
Gwaith cariadol, gwaith anghenrhaid.
Gweithred dduwiol yw trafaelu
I dŷ Dduw i'w anrhydeddu,
Ac i wrando'r 'fengyl hyfryd,
Pet fae 'mhell o ffordd oddiwrthyd.
Gwaith cariadawl ydyw cadw,
Dyn a 'nifel rhag eu marw,
A rhoi ymborth iddynt ddigon,
Ac ymgleddu'r bobol weinion.
Gwaith anghenrhaid, 'r hwn nis galli,
Gynt na chwedi'n ei gyflawni,
Megis cadw tŷ heb losgi,
Gwraig wrth esgor, buwch rhag boddi.
Gwachel ddilyn drwg gyfeillach,
Cyfaill drwg sydd wybren afiach,
Plag yn llygru, pyg yn 'nurddo,
'Y dyn duwiolaf a'i dilyno.