Gweith Argoet Llwyfain

Oddi ar Wicidestun

gan Taliesin

E Bore duw sadwrn kat uawr a uu.
or pan dwyre heul hyt pan gynnu.
dygrysswys flamdwyn yn petwar llu.
godeu a reget y ymdullu.
dyuwy o argoet hyt arvynyd.
ny cheffynt eiryos hyt yr vn dyd.
Atorelwis flamdwyn vawr trebystawt.
A dodynt yg gwystlon a ynt parawt.
Ys attebwys. Owein dwyrein ffossawt.
nyt dodynt nyt ydynt nyt parawt.
A cheneu vab coel bydei kymwyawc
lew. kyn as talei o wystyl nebawt.
Atorelwis vryen vd yr echwyd.
o byd ymgyfaruot am gerenhyd.
dyrchafwn eidoed oduch mynyd.
Ac am porthwn wyneb oduch emyl.
A dyrchafwn peleidyr oduch pen gwyr.
A chyrchwn fflamdwyn yn y luyd.
A lladwn ac ef ae gyweithyd.
A rac gweith argoet llwyfein
by llawer kelein.
Rudei vrein rac ryfel gwyr.
A gwerin a grysswys gan einewyd.
Armafy blwydyn nat wy kynnyd.


Ac yny vallwyfy hen
ym dygyn agheu aghen.
ny bydif ymdyrwen
na molwyf vryen.


Ffynhonnell: Llyfr Taliesin