Gweithiau Eben Fardd/Annerch John Jones, Talysarn
| ← Marwnad John Elias | Gweithiau Eben Fardd gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Fy Mhlant → |
ANNERCH I'R PARCH. J. JONES, TALYSARN,
Ar farwolaeth ei eneth, yn 14 oed, Hydref, 1845.
FRAWD! Cofiwch, bu Dafydd a'i blentyn ar dranc,
A phrofwyd ei grefydd trwy angau ei lanc;
A Dafydd ymolchodd a chododd drachefn,
Ei Dduw a addolodd pan drodd yn ei drefn.
Beth meddwch, frawd, eilwaith am Job yn y pant,
Ac angau ar unwaith yn llyncu'r holl blant?
"Yr Arglwydd" dywedai "a roddodd am dro,
Yr Arglwydd ddug ymaith, bendigaid a fo."
Ni chollodd eich geneth wrth basio y ser,
Mae'n byw yn ei phalas yn ninas ei Ner;
Yr Hanfod wys dyner a fuoch chwi'n drin,
Rhyw seraff a'i cymer yn awr ar ei lin.
Mae'r meddwl bach cymysg, y bu arnoch boen
I roi iddo addysg am rinwedd yr Oen,
Yn awr o ryw argraff mwy disglaer na dydd
Yn taflu, braidd, Seraff nen Gerub dan gudd.
Pan gaiff ei chorff cryno heb arno ol bedd,
I undeb a'i henaid, bydd gannaid ei gwedd;
I dan ewch i'r awyr, eich geneth ni'ch gâd,
Ond geilw'n ddiwewyr,—"Fy Nhad! O! Fy Nhad!"