Gweithiau Eben Fardd/Annerch yr Awen
| ← At yr Eifionwyson | Gweithiau Eben Fardd gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
I. Gwanwyn Wyn, gwyntoedd, adar, blodau → |

Gwyntoedd y Gwanwyn
"Dacw'r hutyn dyn Ar daith,
A'i amwisg ar fynd ymaith.'
Y Flwyddyn
Gair at yr Awen
"Y FLWYDDYN," mawr fawl iddi,
"Y Flwyddyn" yw 'nhestyn i;
"Y Flwyddyn" sy' destyn da
I'r awen a'i hamrywia;—
Gan hynny rhag un anaf
I gof nôd Gaeaf a Haf,
Tyrd, Awen, tro dy hewyd
At amcan y gân i gyd.
Deffiniad anianyddol y Flwyddyn
Blwyddyn, mesuryn amserol—ydyw,
O'i adeg dymhorol,
Y dyry'r glôb daearol,
Drwy emau ser, dro am Sol.
Hyd eu blwyddyn tynn plant dynion—yn ddoeth
Oddi ar yr un safon;
Er nad yw eu diwrnodion
O'r un rhi a ni yn hon.
Y Ddaear i bawb ddywed
Eu blwyddyn,—sef yr hyn 'red
O dreigl i dreigl, un llawn dro,
Gwmpas Palas Apolo;
Dyna flwyddyn dyn, â'i deg
Bentymor, heb wneud dameg.
Annerch Pellach at yr Awen, ar iddi
ymddyrchafu i Alban Eilir yn arwydd yr Hwrdd
ac ymsefydlu yno at waith y gân. Deisyfiad
am ei hysbrydoliaeth.
Hed, Awen, i ben y byd,
Hed ar enfys dwyreinfyd;
Yna'n uwch, o nen i nen,
Hofia trwy y ffurfafen;
Esgyn, disgyn, ar d' esgyll,
Trwy dragwyddawl wawl neu wyll;
Yna sefydla'n fodlon
Ar ryw hirbell linell lon,
Yn nhalaeth Alban Eilir,
Lle mae'r Hwrdd, y llamwr hir,
Yn troedio crib trideg gradd,
Yn ehud iawn, i wahadd
Ato yr haul, yn hynt ei rod,
I westa am ryw ystod:
Dyna lle cei weld anian,
O'i thirion gylch, i'w throi'n gân,—
Y ddaear yn ymddeawl
Yn bêl bach, o bawl i bawl,
A'i threiglad trwy uthr wagle
I uchel nôd, gylch haul ne;
Gan wneyd, fel hyn, y testyn tau,
"Y FLWYDDYN," yn fil o weddau.
O'th le balch, wrth haul y byd,
Llanw fi, yr holl ennyd,
A'th nefol anian ganu,
At wedd gas, neu at wedd gu,
I'w troi yn wir bortreiad
Hardd o fodd, yn y gerdd fad,
Fel anian ei hunan,—hyn
Deifl addysg da y flwyddyn.
Dan dy sel, mewn haul belydr,
Gyrr i mi y geiriau mydr,
A'th ysprydiaeth sibrydol,
I'm rhaid, na bo dim ar ol.