Neidio i'r cynnwys

Gweithiau Eben Fardd/At yr Eifionwyson

Oddi ar Wicidestun
Tanio'r Deml, cwymp Caersalem Gweithiau Eben Fardd

gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Awdl y Flwyddyn. Annerch yr Awen

At yr Eifionwyson

PAN oeddwn gynt yn laslanc llwyd,
Fe'm magwyd yn eich mysg;
Yn ŵyl a syn wrth draed Sion Wyn
Y bum yn derbyn dysg.

Cydgan,—
Ond er na chân eich llais di lyth
Dôn mwyach byth i mi,
Bydd cof hyd fedd o'ch pryd a'ch gwedd
Yn wledd i nghynnal i.

Gwyr Eifion deg! Rhyw funud awr
O oes neu dymawr dyn
Y ces y rhad o ganiatad
I fod â 'ngwlad ynglŷn.

Yn hir caiff eraill eich mwynhau,
A minnau draw ymhell;
I dŷ nid af, a chwrr ni chaf,
Lle gallaf weld eich gwell.

Gynt eich cerddorion llon eu llais,
Eu sain a glywais i;
Pa le mae Sal, a ganai 'i gwal,
Hoff oedd ei hardal hi.

Ond er na chân eu llais di lyth
Dôn mwyach byth i mi,
Bydd cof hyd fedd o'u pryd a'u gwedd,
Yn wledd i nghynnal i.


Nodiadau

[golygu]