Neidio i'r cynnwys

Gweithiau Eben Fardd/Buddugoliaeth i Gymru

Oddi ar Wicidestun
Syr Rhys ap Tomos, pryder Stanley Gweithiau Eben Fardd

gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards

Canlyniadau dedwydd buddugoliaethau Harri Tudur.

O gael y fudddugoliaeth,
Nid oedd Cymru'n Gymru gaeth;
Brydain nid oedd wobr heidwyr,
Drawsiai i mewn dros y mur;

Neu gau deyrn euog a du,
O honi i hunan yn hannu;
Ond dedwydd iawn dreftadaeth
Unben mwyn o'i meibion maeth,
Cain etifedd cyntefig.
Yn nhwf ein bro—fon a brig;
Pa wr, uwch pawb, mewn parch pur?
Pwy y tad, ond Ap Tudur?

Bu llawer wyneb llewaidd—o Rufain,
Ar ofwy milwraidd
Llym, i godi'n grym a'n gwraidd,
O'r tyner dir Brutanaidd,
A phlannu cyff o linach—yr Eryr
Ar âr ein hen deyrn-âch;
Ond erioed Prydeinwyr iach
A fethrynt y gyfathrach.

Yn aml donn, Saeson nesasant—ar chŵydd
I orchuddio'n meddiant;
Ond essill Hu gadwasant
Yn loyw i'n plith hawl ein plant.

Daniaid, Normaniaid, o'r minion—treisient
Hir oesoedd ein coron;
Ond heb rith, meddiant Brython
Eto o hyd ytyw hon.

Rhyfedd ogonedd gwiwnef!—O gwelwn,
Yn galw pawb adref,
I hoenus droi 'n hynys dref
O'i du ing i dangnef.

Er holl alar, arwyl Llywelyn,—trais
Trwm arglwyddi'r terfyn,
Aer o waed Cymry wedyn
Rannai Naf yn frenin in'.


Os prid galondid Glyndwr a ballodd
Heb wella ein cyflwr.
Harri gaed a deulu'r gwr,
Ac Harri fu'n gonewerwr;
Enillodd ef hen allu
A llonwych hawl llinach Hu,
I'n dwylo 'n ol, a dal wnaeth
Ein hanwyl hen frenhiniaeth.

Llain Bosworth! Llyna i bwysi,—
Elwa'n ol ein hawl i ni;
Aeth prid Unbennaeth Prydain,
I'r iawn le, ar hyn o lain;
O Fosworth, ti wnei fiwsig,
Hoen di drai ynnod a drig.

Prydain Fawr, o dan wawr well,
O hyn allan â'i 'n well-well
Gwrthodai'r gorthoadol
Wedd trais, oedd eto ar ol,
A dygai wawr diwygiad
I lanw ei le yn y wlad.
Y wawr dorrai 'n wrid arab,
Ar wersyll pebyll y Pab;
Ac wele! y cywilydd
I'w wyneb ddaeth pan bu ddydd ;
Mwy, ofer goel myfyr gau
Pobl dan enw y Pabau,
I faglu ein prif eglwys.
Gaffai 'i ddal a dial dwys;
Y fin-ddu, rwym, drefn ddi ras,
Byth daflwyd fel peth diflas.

Bri ar seremoni mwys,
Coeglyd, mewn gwlad ac eglwys,

O ystryw nwyf estron aidd
Rhith-ddenol an-Frythonaidd,—
Hyn, weithion, a ddynoethwyd,
Tynnwyd Ffydd yn rhydd o'r rhwyd.
Rhith i gyd oedd ymborth gau
O fwydion hen ddefodau;
Eithr o lith Ysgrythyr Lân,
Seigiau moethus gaem weithian.

A derwen hen y deyrn hawl,
Ymgodai'n wrysg mygedawl,
I fawr agwedd tewfrigog.
Yn dwng grair uwch byd yn grog;
Derwen yr hen Duduriaid,
Ei bon ffyrhai yn ddibaid,
A'i cheinc aent mewn chwaon coedd
Yn bleth am bobl a ieithoedd;
Pleth llywodraeth plith lladron,
Cerddai'r gwrysg i'r ddaear gron,
Ac erbyn hyn o'i hanes,
Hi blan ym mhob man ei mes;
I'r wybr gyrr ei brig araul,
Hi saif rhwng gorsalau 'r haul,
O'r Eilir hyd orielau
Haulfod glwys yr Elfed glau;
Epil llwythau pell weithion
Wasg ynghyd is cangau hon;
I'w bro hwynt tardd ei braint hi,
Gwynt Rhyddid a gant drwyddi;
Oi thwf ir, byth ddyferyd
Wna gwlith ei bendith i'r byd.

Ym Mosworth planwyd mesen
Wnelai brif frenhinol bren;
A mesen oedd o'n maes ni,
O iawn ddar ein hen dderi.


Terfyn yr awdl, gyda "Byw fo'r Frenhines."

Felly o Gymru mae'r gwaed.

Rhin eu hanwyl frenhinwaed
A gerdd i sirioli 'n gain
Wyneb wrid Banon Brydain.

O Gymro teg, mae'r gwaed da
Yn naturiaeth Victoria.

Gan hyny, ni gauwn hanes—Bosworth,
A'n bys ar dant cynnes,
Eiddunwn i'n prif ddynes—mewn trwyadl
Ferw o un anadl, —
"Byw for Frenhines,"
Eiddunwn in prif ddynes,
Mewn trwyadl ferw o un anad!,—
"Byw fo'r Frenhines."


Nodiadau

[golygu]