Neidio i'r cynnwys

Gweithiau Eben Fardd/Bywyd Eben Fardd

Oddi ar Wicidestun
Gweithiau Eben Fardd Gweithiau Eben Fardd

gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Rhagair

BYWYD EBEN FARDD

AWST 1802 y ganwyd Eben Fardd; bu farw Chwefror 10, 1863. Ganwyd ef mewn bwthyn, sydd erbyn hyn wedi diflannu, ar un o lethrau Llanarmon yn Eifion; mae ei fedd ger mur eglwys Clynog.

Mewn tlodi dygn, mewn afiechyd, mewn myfyrdod dwys a darllen aiddgar, y treuliodd fore ei oes. Dilynai ysgol lle bynnag y cai un,—yn Llanarmon, Llangybi, Abererch, a dysgai grefft bob yn ail. Ymgymhwysodd i fod yn athraw, ond blynyddoedd celyd oedd y blynyddoedd hyny; tra yr oedd ef yn ysgrifennu ei Awdl Dinistr Jerusalem, dywed fod y plwy yn chwilio am lety i’w dad afiach a thlawd.

Ond yr oedd cewri ar y ddaear yr adeg honno,—clywodd yr ysgolfeistr hyawdledd John Elias, eisteddai yn aml wrth draed Dewi Wyn a Robert ab Gwilym Ddu, a mynych yr ymwelai â Sion Wyn o Eifion. A phan enillodd gader Eisteddfod Powys, yn 1824, gwelwyd fod bardd arall wedi codi yn Eifion.

Bu’n athraw yn ei gartref tan 1827. Yna, pan oedd yn dywyll iawn arno, cafodd wahoddiad i gadw ysgol yn Nghlynog. Aeth, ac yno y bu hyd ddiwedd ei oes. Rhyw £25 yn y flwyddyn oedd ei gyflog, ar ei fwyd ei hun. Priododd, dysgodd rwymo llyfrau, a medrai ei wraig bobi bara. Gweithiodd yn galed, magodd ei blant yn anwyl, ymdrechodd i ddod yn ddyn da ac yn fardd da. Llwyddodd, a daeth ei fywyd yn llawnach o hyd.

Rhoddodd agwedd lenyddol iir Diwygiad; a phwy fedr fesur ei waith ynglŷn a chyfarfodydd llenyddol ac eisteddfodau ei wlad? Fel athraw ac fel beirniad, credai ei ddisgyblion nad oedd yn bosibl iddo fod yn well. Cymerodd ei le gyda chymwynaswyr Cymru,—Gwilym Hiraethog, Ellis Owen Cefn y Meusydd, Dr. Edwards, Cynddelw, Nicander, a’r llu o gewri y bendithiwyd Cymru â hwy yr adeg honno. Ac ni fu yn ol i'r un ohonynt,—er mai gŵr a'i wyleidd-dra mud yn ymylu ar ofn oedd,—yn ei wasanaeth a'i ddylanwad.

Y casgliad gore o'i waith yw casgliad Hywel Tudur a W. Jones, Bryngwydion. Y mae ei brif ddarnau wedi eu cyhoeddi lawer gwaith, ac y mae'n sicr y deuant yn fwy-fwy poblogaidd. Dengys ei hunangofiant a'i lythyrau, gadwyd trwy ofal Myrddin Fardd, mor hoffus oedd ei fywyd, ac mor ddyledus yw parch iddo.

Nodiadau

[golygu]