Gweithiau Eben Fardd/Gwanwyn
Gwedd
| ← Molawd Clynog | Gweithiau Eben Fardd gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Ymweliad a Llangybi → |
Y GWANWYN.
MAE ael Anian yn ymlonni—mae'n brain
Mewn brys am ddeori,
Mae ein hadar yn mwyn nodi
Miwsig y nef, yn ein mysg ni.
Mae ein gwanwyn yn min geni—y myrdd
Myrddiwn math o dlysni;
Mor wyrdd, lân, mor hardd eleni,
Mae tir a môr i'm trem i.
Main laswellt mynn ail oesi—man lle bu
Mewn lliw balch yn codi;
Mae allan drefn meillion di ri'
Mae ail olwg am y lili.
Mae'r eigion yn ymrywiogi—mae'r donn
Mor deneu'n ymlenwi;
Moddion tyner meddant ini,—
"Mae yn y Nef Un mwy na ni."