Gweithiau Eben Fardd/Gwyliau, blwyddyn gron
| ← IV. Gaeaf. Rhew distaw, noson loergan, ystorm eira, y teulu dedwydd | Gweithiau Eben Fardd gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
Molawd Clynog → |
Ystyriaethau difrifol ar gylchyniad y flwyddyn.
Y flwyddyn i ddyn a ddwg
Sylwedd ei oes i'w olwg;
Herwydd hi a rydd i oes
Ronynnol rannau einioes;
Hi a dry yn hyd i'r oes,
Hi, 'r unwedd, fyrha'r einioes;
A'i thro, fel mewn gwrth-reol,
Yn gwneyd, a dadwneyd yn ol.
Rhyw olwyn yw, ar lawn waith,
A yrr swm yr oes ymaith;
Seml rôd, sy mal y rhedo,
Bwynt tranc i bawb yn eu tro.
Hi dry fyth, hyd awr y farn,
Luosog ddynol wasarn
Oddiar ei chant addoer, chwyrn,
I gwsg, yn gnawd ac esgyrn;
Hidla yr holl genhedloedd
O'u hoes gylch; ddaw, sy, ac oedd;
Treigla'r byd trwy glawr ei bwrdd,
Er ei ddidor or-ddadwrdd,
I isderau distawrwydd,
A'u lle'n wag allan o wydd;
Dyna fydd;—a da in' fod
Oll yn bur a llawn barod.
dgan ar y Gwyliau.
Nid yw ddrwg diweddu'r awdl,
O rhy Awen air hyawdl,
Yn fyrr, fyrr, i gyfeirio
At Wyl, gan fod Gŵyl ar go'
Byth ar Galendar glandeg,
Cytun, pob Almanac teg.
Ym mlwyddyn Cristion, son sydd—am Wyliau
I ymhel a chrefydd;
Dwyfolaf yw'r dihefelydd
Foesolaidd Wyl, sef y Sul Ddydd.
Nadolig noda alwad—i gynnal
Dydd geni ein Ceidwad;
A'r Croglith, ceir lith a llad
Ar sylwedd y Croeshoeliad.
Ceir gwledd, pwysig hedd y Pasg hael,—a'r Oen,
A'i rinwedd pur, diwael;
A chofion fydd o'r Dyrchafael,
Yn ei gylch, a'r Sulgwyn, i'w gael.
Gwyliau eraill a eglurir—yn rhes,
Gan rai, ac fe'u cedwir;—
A farno neb o'i fron yn wir,
Bid siwr o'i garn, trwy'r farn fernir.
Gwladol, rhai Gwyliau ydynt,—at amod
Pen-tymor,—a helynt
Tir a'i Hawl;—at dwrw a hynt
Ariannol, rai ohonynt.
Ysgrif neu air, Wyl Fair fydd
Ddiogel i'r iawn ddygydd;
Gwyl Fihangel, ei sel sai;
Gwyl unmodd yw'r Galanmai;
"Canol Haf," cawn Wyl Ifan
Pur glws ar y papyr glân;
Yr Holl Saint, wyl arall sydd,
Hon yw Clangaua' newydd;
Pen-tymor, pwynt diamwys,
Tra bo dim mater o bwys;
Gwyl Nadolig lân, deilwng,
At raid byd a chred, cyd rhwng,
Hawlia gario'r ŵyl-goron,
Addien grair y Flwyddyn gron.