Gweithiau Eben Fardd/II. Haf. Tes, gloyn byw, gwenyn, eog, trin gwair, taranau, llawenydd
| ← I. Gwanwyn Wyn, gwyntoedd, adar, blodau | Gweithiau Eben Fardd gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
III. Hydref. Cynhaeaf, cwymp y dail, gwlaw, niwl, prudd-der, adar → |
II. YR HAF.
Rhaid symud, Awen huda
Fi yn rhwydd i fewn i'r Ha;
Nid oes fferf linell-derfyn
Im rhwng y tymhorau hyn;
Ha mwyn trwy Wanwyn wena,
A rhed y Gwanwyn i'r Ha;
Felly Flwyddyn dynn yn deg
I'w chynnydd yn ychwaneg.
Y'r haul yn Alban Hefin yn arwydd y Cranc.
Nwyfus yw Phoebus ar ffin
Hafod yr Alban Hefin;
Fe bair des o wres yr hin
Yn Nhy Haf Alban Hefin;
A'r gwres yn lles i'r llysiau,
Ceir ei fudd at eu cryfhau.
Y cynhesneydd tymharaidd.
Cawn dywydd i'r cnwd ieuanc
Trwy fwa crwm Tref y Cranc;
Gan ei wres fe gynhesir
Amrywiaeth hardd môr a thir;
Cynnes gan des yw'r gain donn,
A rhywiogaidd yw'r eigion.
Cynesir y tir; a'r toraeth
Gwlaw ar y twf, glaiared daeth!
Awel oer a glaiarodd,
Yr ias drwg yn wres a drodd.
Y man bryfaid yn heidio allan.
Daw'r pryfaid o'u llaid a'u llwch,
Hen nawdd eu hun a'u heddwch,
I'w Haf hynt, i ail fywhau,
O'u lleoedd, yn bob lliwiau;
Haid o arliw diweir-lan,
Beryl glwys neu berlau glân,
Milonos fel melynaur,
Dymchwel y dom chwilod aur.
Y gloyn byw
Y gloyn byw, glân ei bais,
Oddi amgylch ddaw i ymgais
Yn ei awyr wen, newydd,
Neu, a'i draed ar flodau'r dydd.
Cacwn
Cacwn â'i swn unseiniol,
Lunia gylch ymlaen ac ol;
Ei bwysig gainc mewn bys coch[1],
Chwery, pan y'i carcharoch;
Ond gwyliwch nod ei golyn,
Gwna wayw tost trwy gnawd dyn.
Y gwenyn.
Y gwenyn o'n ceginau—a heidiant
Hyd y newydd flodau,
Ar eu mêl hynt, er amlhau
Hardd olud eu pêr ddiliau.
Yr eog, y genweirio.
Nwyfus eog yn afon—yn araf
Enweiria rhyw Walton;
Genweirir i dir o donn
Llawer brithyll i'r Brython.
Y cnwd toreithiog.
O'r gorifyny ar gwrr y faenol
I fasw dwynen y llinell feisdonol,
Wele'r ydau a'r gweiriau rhagorol
Yn gnydau cyforiog, tonnog, taenol;
O dan awyriad awel dynerol:—
Porfaoedd breision, meithion, a maethol,
Yo taflu drwyddynt flodau ireiddiol;
Pob rhyw ddanteithion meillion cymhellol
Yn lithio dannedd y llwyth eidionol,
Oran pêr fywyn eu rhin porfaol;
Ac i'w dawn gwig a dôl,—a'r lleddf wynt,
A byncia erddynt alaw bencerddiol.
Y tes mawr.
Chwysu a dyddfu mae dyn,
Ai gadach sych ei gudyn;
Cais gysgodfan dan ryw do,
Rhyw dwyn i wyraw dano;
Ai iad frwd, ynghyd a'i fron
Yn furum o ddyferion.
Da yn wisg denen, ysgawn,
Fyddai gwe edafedd gwawn,
Oni bai twym danbaid dês
A wna'r gwawn yn rhy gynnes.
Mae'n dyheu,—'n myned a'i hwyl
Ac archwaeth at bob gorchwyl;
Diosga hyd ei wasgod,—
Hyd ei grys,—bai'n felys fod
Hab un cerpyn, bretyn brau,
Ond rhyw lain ddeutu'r lwynau.
Y cynhaeaf gwair.
Ond siarad am y bladur
Finia bwynt ei elfen bur,
At amod fawr y tymor,
Awchus fydd, pe chwysai for!
"Diau, rhaid lladd gwair," dywed
"Rhaid add y gwair, myn crair cred."
Y pladurwyr.
Pladurwyr, gwŷr miniog wedd.
Gwŷr y maes a'r grymusedd,
Gwisgi o glun ac esgair,
Di lûdd eu gwynt at ladd gwair,
Ant oll yn fintai allan,
Yn arfog, miniog, i'w man;
Abl a dewr o bladurwr,
A bywiog iawn yw pob gŵr;
A'i fraich ef, gref a di gryn,
Dery arfod â'r erfyn;
Egyr wanaf gywreiniol,
Rhed ei ddur ar hyd y ddôl;
A'i bladur gaboledig,
Glaer wawr, yn goleuo'r wig.
Adgan ar fechgyn yn ymdrochi.
Edrychwn ar ymdrochi,
Gan fechgyn yn llynn y lli;
Suddant, nofiant yn nwyfus,
Yn ddewr oll ac yn ddi rus;
Ac ar ddwr, y corro ddyn
Ysgydwa fel pysgodyn.
Diwrnod trin gwair.
Dwthwn gwair daeth i'n gwydd—yn hyn o le,
Gwnawn ei lun yn ebrwydd;
Caf weirwyr da, cyfarwydd,
I'w drin, ac mae'r hin yn rhwydd.

PLADURWYR YR HAF
"Egyr wanat gywreiniol,
Rhed ei ddur ar hyd y ddol.
Bloeddiadau y bobl ddodant—wynt amlwg
I'w teimlad o foddiant;
Gau ddadwrdd a chwrdd chwarddant,
Dadsain llen y nen a wnant.
Un a gân, tra yn gweini,—un rŷ ffrwd
O eiriau ffraeth, digri;
A'i ddiflin gribin grwbi,
Wrth ei hoen, ar waith â hi.
Daw rhyw herlod ar hirlam,—ymyrra
A morwyn mewn cylgam,
I dynnu chwaren dinam
Heb fryd drwg, na gwg, neu gam.
Hwy feglir ymhlith carfaglan—y gwair,
I gwymp a bydd gawriau
Meibion y ddôl am ben y ddau,
Yn grych iawn o grechwennau,
Bras-dyrrir mewn brys diriaid,—a rhencir
Ar winciad y llygaid,
Gan lwytho, beichio'n ddibaid,
Er cludo llawer clwydaid.
Ym mhen y llwyth mae un llanc,—ar y llawr
Wele'r llall, gryf hoywlanc,
Nerth ei gefn yn porthi gwanc
A thro y llwythwr ieuanc.
Mae un dyn ym mhen y dâs,—a chwaneg
Yn gwych weini'r gadlas;
Mae 'stwr a gwib meistr a gwas
At ardeb twt y weir-dâs.
Taranan!
Ond och! Dacw ryw fann du—draw yn awr
Drwy y nen yn lledu,
A lliw tân yn mellteanu,
A thwrw gwan, froch;—rhoch a rhu,
Y tawch sydd yn tewychu,—y mae'r 'storm
A'r 'stwr yn dynesu;
A dilyn ar fwdylu.
Yw rheol y ddol,—mae'n ddu!
Dyna hi, 'n torri! taran—a dreigl hwnt,
A'r gwlaw sy'n pistyllian;
Bellach ni erys neb allan,
Pawb wna i'w fwth, pob un i'w fan.
Y buaid yn ymloddesta ar yr adladd, yn
gorwedd ac yn cnoi eu cil, yn fystodi.
Eto, pan glirio, bydd glân
Orielau awyr wiwlan,
A'u gloyw asur yn glysach
Nag erioed, mor liwgar iach;
Nesha'r haul yn siriolach,
Nag un pryd, at ein byd bach:
Yn naear, ceir gwedd newydd,
Gwyrddlas faes, gardd-lysiau fydd;
Adladd o radd ireiddiol,
A masw dŵf, mewn maes a dôl;
Ei nodd a adnewyddir,
Efe a a yn fwy ir.
A buaid teg a'i bwytânt,
Hwy ddistaw ymloddestant
Ar ei frasder per puraidd
A newydd rin nodd ei wraidd;
Iraidd fydd eu gorweddfau
Ar laswellt a pherlysiau,
Yn cnoi cil, ac yn coledd
Ymarhôus dymer o hedd;
Nes daw adeg pysdodi,—ac wedyn
Codam i'w dirieidi,
Dros ffos a rhos yn rhesi
I'w hynt i'r llaid tua'r lli;
Neu at dwyn, am wynt dano,—a chysgod
Iach asgell y deildo,
Gan faint y gwres sy 'n tesio
Drwy awyr frwd ar y fro.
Adgan ar regen yr yd.
Y rhegen yn hwyr hogi
Trwy'r nos yw ein heos ui;
Mae ei thrwst yma a thraw,
Chwysem ped aem i'w cheisiaw:
Ei chug swn ar gilio sydd
I gel o fan bwygilydd;
Diane oddiar y gwrandawydd,
Ac yn ei ben canu bydd.
Y cynhaeaf yd, yr arlwy a'r paratoi ato.
Ar warthaf yr Haf, yr ŷd—addfeda
Yn wyddfodol buryd;—
Crymanau ceir am ennyd
Yn ben ymddiddan y byd.
Ceir i'w min y crymanau,—a dwylo
Medelwyr i'w stumiau;-
Y fedel a'i defodau
Hidla i mewn dâi am hau.
Llawenydd yr amaethon,
golwg ffrwythlon y cuydau.
Hauwr yn awr ŵyr ei nerth,
Try i hoffi pob trafferth;
Canys o amidra'r cynnyrch,
Ei hawl, o gae, a'i elw gyrch;
Mwyniant ddaeth o'i amynedd,
Yd faes, am ei had, a fedd:—
Dytech ddwyn diolch i Dduw,
O! ddynion, yn ddiannuw.
Ar fin y faenol, o'r fan a fynnir,
Yn syn ar drwchus heiniar edrychir;
"O! feusydd gwynion!" a fawsaidd genir
Acw o'i minion, gan lanc a meinir;
Ei wawr felen orfolir, yn ddi hall
Heddyw, un ddiwall Flwyddyn addewir.
Cyfrifiadau hyderus yr yd-fasnachwyr.
Amaethwyr, maelwyr, ymwelant—a'r maes,
Er mwyn gwneyd cyfrifant;
Ac yno y damcanant
Y gwerth a'r farchnad a gânt.
Wyneb holl dir ein pellderan—meithion
Mewn amaethol barthau,
Orchuddir gan geirch a beiddiau—llawn, glan,
A digon weithian o deg wenithau.
Duwiesaidd yw'r dywysen;
Grym ei phwys a grymai phen.
Medi.
Bellach ati, i'w dorri'n hyderus;—
Mor dda, eilchwyl, fa'i tymer ddiolchus
Yn ein dylenwi i'n Duw baelionus,
Am rad y cynnydd fu mor dyciannus;
Am y grawn, ac nid mwg o'r us-gorwag,
Ie, grawn dinag o rin daionus.
Adgan ar oeriad tymheredd.
Ymoeri mae y tymheredd;—nid yw
Yn dês mor gyfannedd;
- Awyr glir yn awr yw gwledd
- Mireinwyr y maranedd.
Yma, deufwy mwy difyr—i fynwes,
- Yw'r elfennau pybyr;
- O denenad yr awyr
- Ymburo mae wybyr a mŷr.
- Y lleuad nawnos oleu.
- Try y lloer fel troell arian,
- Uwch byd, yn yr entrych ban;
- Yn ei chlir liw a'i chlaer led
- A llun llon ei llawn lluned;
- Wyneb ei rhod wna barhau
- Nes el yn naw-nos olau,
- I roi i drinwyr yr yd
- Loew ffafr ei gwawl hoff hyfryd;
- Ac a'n hwy, ddydd cynhaeaf,
- Na goleuddydd hirddydd haf,
- Y cynnull.
Diderfyn erlyn ac arlwy, —lledu
- Pob Llidiart ac adwy,
- A menni trymion at dramwy
- I lawr maes a welir mwy.
Prysurir, heb hir siarad,—i hylwyr.
- Hela pob seldremiad,
- Er ydlannu'r adlenwad
- Yn 'stor dlos at raid y wlad.
- Y lloffa.
Namyn tywys y minteioedd—tlodion,
- A'n taliadau cyhoedd
- Dan of Duw y nefoedd;
- Eiddynt yw, a'u heiddynt oedd.
Dyledus i dylodion,—wrth ddwyfol
- Raith-ddefod, yw'r lloffion;
Addef rhaid y ddeddf fawr hon
Ym mhethau yr amaethon.
Hoen-dyrrant i'r rhandiroedd,—a synnanl
Ar dwysennau filoedd;
I'w rhan dyrneidiau gannoedd
A leinw’u blys, a lonna'u bloedd.
Mae y plant yn mhob helyntion—yn swp
O sypiau y lloffion;
Mae cefn dan faich,—braich a bron
Sy' haenfa tywys anfon.
Ar eu hol hwy, yr ail haid—ydyw’r gwyllt
A’r gwâr anifeiliaid,
A'r gwâr adar,—ehediaid
Sy’ aml eu rhif, syml eu rhaid.
Adgan ar y gwenoliaid yn parotoi i ymfudo.
Ust! tewch! mae acw ryw 'stwr,
Ho! gwennol a wna gynnwr;—
Beth yw’r gyfrinach ddi baid
Gynalia y gwenoliaid
Ar bennau tai, ar bwynt tŵr,
Adein-dorf fawr ei dwndwr?—
Paratoi y maenty pryd hyn
I fudo a chwifio edyn
Trwy'r ne, o un lle i'r llall,
I diroedd rhyw wlad arall;
O Walia gain i fol gwig,
I siffrwd trwy gyrs Affrig;
Neu i fargod pagoda—i wrando
Gwiriondeb y Bramah;
Yn ol eu hynt, ni leiha
Rhin eu hoender yn India.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Bys coch, bysedd cochion, digitalis.