Neidio i'r cynnwys

Gweithiau Eben Fardd/Marwnad John Elias

Oddi ar Wicidestun
Eifionnydd Gweithiau Eben Fardd

gan Ebenezer Thomas (Eben Fardd)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
Annerch John Jones, Talysarn

MARWNAD JOHN ELIAS.

GWYLWYR Sion! Beth yw'r cynnwrf?
Beth yw'r rhedeg yma a thraw
O dŵr i dŵr ar fur y Ddinas?
Pa ryw berygl sydd gerllaw?
Pam yr ydych yn amneidio,
Yn edrych mor gyffrous i gyd;
A oes ymgyrch o byrth uffern,
Neu ryw newydd boen o'r byd?

Nac oes, Sion! Na frawychia,
Ddinas deg y Brenin mawr-
Amlyga'r gwylwyr iti'r gofid,
Yr hwn a'u gwnaeth mor brudd yn awr;
Nid pyrth uffern gymaint ofnwn,
Gwyddom na orchfygant hwy,
Ein Dinas sydd ar Graig yr Oesoedd,
Pwy a chwal ei meini mwy?

Un o'r gwylwyr heddyw gwympodd,
Hyn a'n gwnaeth ni oll mor drist,
Un o'r tywysogion syrthiodd,
Hen filwr da i Iesu Grist;
Angau gafodd le manteisiol
I ergydio at ei fron,
Mae'r tŵr heb neb yn sefyll arno,
Fel cysgod angau yr awr hon.

Sion! gwel ei gawell saethau,
Edrych ar ei fwa dur;
A'i darian hefyd wedi ei gosod
Yn esgeulus ar y mur;
Pwy o honom sydd ddigonal
I drin ei arfau yn ei le?
Pwy mor ffraeth i gynnyg cymod
I'r gelynion âg efe?


Ar hyn Sion a edrychodd
Yn ofidus ar y mûr;
A chraff sylwodd ar y gwylwyr
Gyda chalon lawn o gur;
Troes ei golwg yn naturiol,
I'r lle safai ei phrif gawr,
Sef Elias fywiog, nerthol,—
Canfu yno'r rhwygiad mawr.

Ar amrantiad gwaeddai'r Ddinas,
Ar lewygu gan y braw,
Nes i adsain ei hochenaid
Dreiddio trwy y byd gerllaw,―
"O Elias efengylaidd,
A fachludodd haul dy oes?
Pwy mor hyawdl bellach draetha
Yr ymadrodd am y groes?"

Ciliais draw i un o'r tyrau
Pellaf oll o boenau'r byd;
Tŵr sancteiddrwydd a gwir gariad,
Lle mae nefol hedd o hyd:
Yno gwyliwr sobr, unigol,
A eisteddai ar y mur,
Gan ddwys ddatgan wrtho i hunan,
Rinwedd ein Elias bur.

Minnau'n ddirgel er mwyn clywed
Ymsefydlais ar y tŵr;
Ysgrifennais ei gofnodau—
Ynna canlyn geiriau'r gwr,—
"O fy mrawd, fy mrawd Elias!
Ei fwa ef arhodd yn gryf
Nes ei alw gan ei Frenin
O'i ymdrechfa lew a hyf.


Llawer brwydyr boeth ymladdodd
Oddiar furiau'r ddinas hon,
Bu byddinoedd halogedig
Y byd yn crynnu ger ei fron;
Pwy o'i fath am drin y cleddyf,
Sydd yn clwyfo ac iachau?
Calon llawer gelyn lesu,
Wrth ei lef fu'n meddalhau.

"O na allwn ei ddarlunio
I feddyliau'r oes a ddel;
A dysgrifio'i araithyddiaeth,
A ddiferai fel dil mêl;
Ni effeithiai presenoldeb
Torf o ddysgedigion byw
Un gwanhad ar ei ewynau,
Ei nerth a wyddai yn llaw Duw.

Pan esgynnai ir areithfa.
Tawai myrddiwn ger ei fron;
Ei ddistaw wên wnai greu teimladau,
Nad hawdd eu traethu y waith hon;
Edrychai, dro—yn fud, o amgylch
Ar y lliaws fai gerllaw,
Ei lygad saethai'r fath ddylanwad
Nes rhoddi'r dyrfa yn ei law.

Dywedai'r gair—tynerai Anian!
Gostyngai'i law—ac wylai myrdd;
Pan wgai'n wrol,—beilchion grynnent,
Arswydai'r coegddyn ffol ei ffyrdd:
Ei law dyrchafai—bloedd gorfoledd
A ddadseiniai drwy y llu,
Roedd hyd yn oed ei atal-dwedyd,
Yn gyfwng o hyawdledd cu.


Pan fai rhês o feddyl-ddrychau
Yn llenwi i enaid eang, mawr;
A throellau iaith yn rhy ddiffygiol,
I gyfleu y rhain ar lawr:
Estynuai'i fraich—dyrchafai'i olwg,
Crynhoai ei wefusau per,—
A'i ddull roi fawredd ar bob meddwl
Uwchlaw un iaith o dan y ser.

Gwir mai gŵr a Gymru ydoedd,
Ni chyfrifir Cymru'n fawr;
Eto ymgystadled Athen,
Os myn, gyda ni yn awr;
Nid oedd Crist yn Araith Athen
Rhyw blisgyn ydoedd, tlws a choeg,
Elias Cymru'n traeth am Iesu,
Gwilyddia holl areithiau Groeg.

Fe allai'r eiddigedda Rhufain,
Yn y gystadleuaeth hon,
Ei hareithiwr ddyry hithau,
Yn y clorian ger ein bron;
Pwyser Araith Groeg a Rhufain,
Ni cheir ynddi unrhyw foes
Dal ei ddangos wrth Elias
Yn areithio gwaed y groes.

"Pam yr enwaf Gymru fechan?
Maes ei lafur oedd y byd!
Gwnaeth gymwynas i'r holl ddaear
Trwy ei ddawn a'i frawdol fryd:
Dweded rhyw negesydd cyflym,
Ei farw yn Americ draw,
Bydd llawer mintai fawr yn wylo,
Cwyn a galar ar bob llaw.


"Duon gynlleidfaoedd Affric
A edrychant oll yn brudd,
Am na chwery dawn Elias
Mwy i wneuthur iddynt fudd:
Hed ochenaid am brif golofn
Achos Iesu ar y llawr,
Draw hyd lethrau'r Himalaya,
Ac hyd lannau'r Ganges fawr.

Ynysoedd traffith Môr y Deau,
Mae'ch dadleuwr yn y bedd!
Hawliodd rym ei holl ffraethineb
I chwi gael cenadwri hedd:
Gwisged Cymdeithasau Prydain
Alarwisgoedd oll yn awr.
Mae eu pen areithiwr cywrain
Yn fud a llonydd yn y llawr.

"Trefnyddion Cymru ocheneidiant
Am y sant a aeth o'u plith,
Yn eu cyfarfodydd pennaf
Teimlant heb eu brawd yn chwith:
Pwy fel ef mewn Cymdeithasfa
A ddwg sylw'r dyrfa'i gyd,
Trwy rin ei bêr hyawdledd nefol
Nes cadwyno eu holl fryd?

"Nid trwy swyn doethineb ddynol
Ond hyawdledd pêr y groes,
A thafod wedi ei ysbrydoli,
Y rhagorodd yn ei oes;
Corff ac enaid efengylwr
A dderbyniodd gan ei Dduw;
Meddwl eang, gwreiddiol, eglur;
Genau ffraeth i'w ddwyn i'n clyw.


Porthai'r praidd â phob danteithion,
Seigiau breision o fwyd cryf
Barotoai'n iach a maethlon,
Heb un cyfeiliornad hyf;
A llaeth y gair meithrinai'r gweiniaid
At fesur oed cyflawnder Crist,
Gan gyfaddasu'r bwyd ysbrydol
At archwaeth gwael y baban trist.

Ei ddawn cyrhaeddgar a ymaflai
Yn holl gyngor rhyfedd Duw,
Eglurai y ddarpariaeth ddwyfol
Wnaed at achub dynol ryw;
O'r cyfamod cryf trag'wyddol
Hyd ogoneddiad Crist a'i had,
Hysbysodd bob gor'chwyliaeth rasol
Yn nhrefn iachawdwriaeth rad.

Pan fai'r Eglwys mewn rhyw syrthni
Yn nghysgodau'r hwyr yn brudd;
Elias godai'i law i'r Nefoedd,
Yn y fan fe wawriai'r dydd:
Ar ben Carmel yr amheuon
Ymresymai'r tan i lawr;
Baal na Jezebel ni ddalient
Y tanbaid bresenoldeb mawr.

Pan gyffyrddai o'r areithle
A llinynau calon dyn,
Teimlid rywfodd fyw neu farw
Fel wrth air ei enau 'nglŷn;
Pelydrai lewyrch pur, angylaidd,
Fel cylch a choron am ei ben,
'R oedd ol y marwor ar ei wefus,
O'r allor bur tu draw i'r llen.


Ffarwel Elias! hyd y bore,
Pan yr adgyfodi'n fyw;
Os gadewaist di y gwersyll
Cawn eto'r golofn dân a Duw;
Fel hyn gobeithiwn dy gyfarfod
Yn y nefol Ganan gu;
Ac adnewyddu'n fil anwylach
Yr hen gyfeillach yma fu.


Nodiadau

[golygu]